| (Y Ddewines Gyntaf) Pa bryd y down ni eto'n tair | |
| (Y Tair) Ust! mae'r swyn yn ddigon cry'! | |
| (1, 3) 105 | Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg. |
| (Banquo) Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Fforres? | |
| (Banquo) Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddeongli mai dyna ydych. | |
| (1, 3) 113 | Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi? |
| (Y Ddewines Gyntaf) Henffych, Macbeth! | |
| (Y Ddewines Gyntaf) Banquo a Macbeth, hanffoch well! | |
| (1, 3) 133 | Arhoswch, â'ch geiriau dyrys. |
| (1, 3) 134 | Dywedwch i mi ragor. |
| (1, 3) 135 | Drwy farw Sinel, mi wn fy mod yn Arglwydd Glamis. |
| (1, 3) 136 | Ond Arglwydd Cawdor? |
| (1, 3) 137 | Y mae Pendefig Cawdor eto'n fyw, yn wrda ffyniannus; a bod yn frenin, ni saif hynny ddim y tu mewn i gylch pethau credadwy, mwy nag y saif fy nyfod i yn Arglwydd Cawdor. |
| (1, 3) 138 | Dywedwch o ba le y mae'r wybodaeth ryfedd hon i chwi, neu baham, er y rhos melltigaid hwn, yr ydych yn ein hatal ar ein hynt â'r fath air darogan? |
| (1, 3) 139 | Yr wyf yn eich tynghedu, lleferwch! |
| (Banquo) Y mae byrlymau ar dir fel ar ddŵr, a dyma rai ohonynt. | |
| (Banquo) I ba le y diflanasant? | |
| (1, 3) 143 | I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt. |
| (1, 3) 144 | Drwg na baent wedi aros! |
| (Banquo) A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn sôn amdanynt, ynteu a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n cymryd y rheswm yn garcharor? | |
| (Banquo) A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn sôn amdanynt, ynteu a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n cymryd y rheswm yn garcharor? | |
| (1, 3) 146 | Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd. |
| (Banquo) Byddwch chwithau eich hun yn frenin. | |
| (Banquo) Byddwch chwithau eich hun yn frenin. | |
| (1, 3) 148 | Ac yn Bendefig Cawdor hefyd, onidê? |
| (Banquo) Ie, dyna'r gair yn union. | |
| (Banquo) A ddichon y diawl ddywedyd y gwir? | |
| (1, 3) 159 | Y mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg? |
| (Angus) Y sawl oedd Arglwydd, yn fyw eto, ond tan farn drom y mae ganddo'r bywyd y mae'n haeddu ei golli. | |
| (1, 3) 163 | Glamis ac Arglwydd Cawdor! |
| (1, 3) 164 | Y mae'r peth mwyaf eto'n ôl. |
| (1, 3) 166 | Diolch i chwi am eich trafferth. |
| (1, 3) 168 | Onid ydych chwithau'n gobeithio y bydd eich plant yn frenhinoedd, am nad oedd y rhai a addawodd imi arglwyddiaeth Cawdor yn addo llai iddynt hwythau? |
| (Banquo) Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwithau eto hyd at y goron, heblaw Arglwyddiaeth Cawdor. | |
| (1, 3) 173 | Dyma ddywedyd y gair ddwywaith, fel rhyw rag-chwarae dymunol i chwarae mawr mater y frenhiniaeth. |
| (1, 3) 174 | (Wrth y lleill.} |
| (1, 3) 175 | Diolch i chwi, foneddigion. |
| (1, 3) 177 | Ni ddichon y gwahoddiad goruchnaturiol hwn fod yn ddrwg nac yn dda; os drwg, paham y rhoes i mi ernes o lwyddiant, yn dechrau gyda'r gwir? |
| (1, 3) 178 | Dyma fi yn Arglwydd Cawdor. |
| (1, 3) 179 | Os da, paham yr wyf yn ildio i'r awgrym y mae ei lun erchyll yn codi gwallt fy mhen, ac yn peri i'm calon guro yn erbyn f'asennau, yn groes i arfer natur? |
| (1, 3) 180 | Y mae ofnau presennol yn llai o beth na'r dychmygion arswydus y mae fy meddyliau innau, nad yw'r mwrdwr sydd ynddynt eto'n ddim ond rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint ynof fy hun fel dyn nes bod ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes onid peth nad yw. |
| (Banquo) Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo! | |
| (1, 3) 183 | Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, wela, coroned siawns fi heb i mi mo'r symud. |
| (Banquo) Nid yw ei urddas newydd, mwy na'n dilladau dieithr, yn gorwedd yn wastad ar y peth fo tanynt, onid trwy gymorth arfer. | |
| (1, 3) 186 | Doed a ddêl. |
| (1, 3) 187 | Bydd yr amser a'r awr yn rhedeg ar hyd y dydd garwaf. |
| (Banquo) Deilwng Arglwydd, yr ydym at eich galwad pan fynnoch. | |
| (Banquo) Deilwng Arglwydd, yr ydym at eich galwad pan fynnoch. | |
| (1, 3) 189 | Maddeuwch i mi, yr oedd pethau anghofiedig, yn moedro f'ymennydd dwl! |
| (1, 3) 190 | Garedig foneddigion, y mae eich poenau ar fy rhan i lawr lle bynnag y trof y ddalen beunydd i'w darllen. |
| (1, 3) 191 | Awn tuag at y Brenin. |
| (1, 3) 192 | Meddyliwch am y peth a ddigwyddodd, a phan gaffom amgen hamdden, gadawer i ni ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd. |
| (Banquo) Yn llawen iawn. | |
| (Banquo) Yn llawen iawn. | |
| (1, 3) 194 | Digoned hyn hyd hynny. |
| (1, 3) 195 | Dowch, gyfeillion. |