| (Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? | |
| (1, 0) 175 | Nhad, dowch yma am funud. |
| (Harri) {Yn codi i fynd.} | |
| (Syr Tomos) Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn. | |
| (1, 0) 234 | Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen. |
| (Harri) Dy ben di yw'r clysa o bawb. | |
| (Harri) Dy ben di yw'r clysa o bawb. | |
| (1, 0) 236 | I chi mae rhein. |
| (Harri) Wel, rwan am dani. | |
| (Harri) Wel, rwan am dani. | |
| (1, 0) 238 | Rhaid i chi fynd ar eich gliniau. |
| (Harri) Pam? | |
| (Harri) Pam? | |
| (1, 0) 240 | Ar eu gliniau y mae pawb yn derbyn coron. |
| (Harri) {Yn penlinio.} | |
| (Harri) Fel hyn? | |
| (1, 0) 243 | Ie. |
| (1, 0) 245 | Coron wen ar ei ben: ond fe ddylech gael clôg o'ch cylch. |
| (Harri) Beth am y llian sydd ar y bwrdd? | |
| (Harri) Beth am y llian sydd ar y bwrdd? | |
| (1, 0) 247 | I'r dim. |
| (1, 0) 249 | Dyna rywbeth tebyg i frenin rwan: fe ellwch eistedd. |
| (Harri) {Yn ufuddhau.} | |
| (Harri) Ydw i'n debyg i frenin? | |
| (1, 0) 252 | Neisiach na dim brenin fu erioed. |
| (Syr Tomos) Rwy'n pesychu, Mabli, i ti wybod mod i yma. | |
| (1, 0) 256 | Dim ods o gwbl; rwyf newydd goroni nhad yn frenin. |
| (Syr Tomos) Brenin ar bwy? | |
| (Syr Tomos) Brenin ar bwy? | |
| (1, 0) 258 | Ar Mabli. |
| (Syr Tomos) Beth yw ei deitl? | |
| (Syr Tomos) Beth yw ei deitl? | |
| (1, 0) 260 | Y Brenin Harri. |
| (Syr Tomos) Beth yw ei nymbar─Harri'r Nawfed? | |
| (Syr Tomos) Beth yw ei nymbar─Harri'r Nawfed? | |
| (1, 0) 262 | Nage─Harri heb ei ail. |
| (Syr Tomos) Rwyt ti'n smart o d'oed: beth yw d'oed? | |
| (Syr Tomos) Rwyt ti'n smart o d'oed: beth yw d'oed? | |
| (1, 0) 264 | Bron yn bymtheg: beth yw'ch oed chi? |
| (Syr Tomos) Pymtheg─ers plwc bellach. | |
| (Harri) Hen lanc ydi o, Mabli, ac mae o'n drigain a phump os yn ddiwrnod. | |
| (1, 0) 267 | Faint sy rhwng pymtheg a thrigain a phump? |
| (Syr Tomos) Yr un faint ag sy rhwng afal coch ar y pren ganol haf ac hen afal melyn yng ngwaelod y sach ddiwedd y flwyddyn. | |
| (Syr Tomos) Rwy'n gweld o'r balconi dy fam a dy nain yn dod. | |
| (1, 0) 270 | Tynnwch y llian yna oddiam danoch. |
| (1, 0) 321 | Wyddwn i ddim. |
| (1, 0) 322 | Rhoi coron o flodeu ar ben nhad oeddwn i. |