| (1, 0) 5 | Thâl hyn ddim o gwbwl, mistras. |
| (1, 0) 6 | 'R ydych chi'n lladd eich hun. |
| (1, 0) 7 | Mae'r forwyn a'r cwc wedi mynd i hel mefus, a phawb yn siriol, hyd yn oed y gath, mi ŵyr hi be di be; dacw hi'n rhodio yn y buarth yn dal adar, a chithe yn eiste' yn y tŷ o fore tan nos, fel taech chi mewn |confent|! |
| (1, 0) 8 | Wedi colli blas ar y byd a bywyd! |
| (1, 0) 9 | Wel, wir, pan gysidra i, fuoch chi ddim allan o'r tŷ ers blwyddyn agos iawn. |
| (Popofa) 'Ta i byth allan ohono fo, be di'r iws? | |
| (Popofa) 'R ydan ni wedi marw ein dau, y naill fel y llall. | |
| (1, 0) 14 | Rŵan, rŵan, mi fyddai'n well gin i beidio clywed geiriau fel'na. |
| (1, 0) 15 | Mae Nicolai Michaelofits wedi marw, debyg iawn, dyna ewyllys yr Arglwydd, nefoedd i'w enaid o! |
| (1, 0) 16 | 'R ydych chithau wedi galaru ar ei ôl, wrth gwrs; ond cofiwch yr hen air "Nid da rhy o ddim". |
| (1, 0) 17 | Ddylai neb grio a gwisgo du yn dragywydd. |
| (1, 0) 18 | Mi gladdais innau'r hen ddynas yn fy nydd, hefyd. |
| (1, 0) 19 | Ond beth am hynny? |
| (1, 0) 20 | Mi fuom i'n crio am fìs cyfa' a dyna ddigon iddi hi. |
| (1, 0) 21 | 'Tawn i'n dal i swnian hyd fy medd, be fyddai'r iws? |
| (1, 0) 22 | 'D oedd yr hen gryduras ddim yn werth hynny. |
| (1, 0) 24 | Dyna chi wedi anghofio'ch cymdogion i gyd. |
| (1, 0) 25 | 'Fyddwch chi byth yn mynd allan, a cheith neb ddŵad i'r tŷ. |
| (1, 0) 26 | Ac mae'r lle'n llawn dop dyn o fyddigions. |
| (1, 0) 27 | Dyna'r |regiment| yn Rublofa, a'r |officers|, rel nobs, mae'n iechyd calon edrach arnyn nhw. |
| (1, 0) 28 | A |ball| yn y camp bob dydd Gwener, a'r |bands| yn canu bob dydd dros ein pennau ni. |
| (1, 0) 29 | O mistras bach, 'r ydych chi'n ifanc ac yn glws fel pictiwr, mae'n hen bryd i chi ddechrau byw a chael tipyn o hwyl. |
| (1, 0) 30 | 'D ydi pryd a gwedd ddim yn para am byth. |
| (1, 0) 31 | Ymhen deng mlynedd mi fydd arnoch chithau isio sgwario o flaen yr |officers|, ond mi fydd yn rhy hwyr. |
| (Popofa) {Yn benderfynol} | |
| (Popofa) Er ei fod tu draw i'r bedd mi geith weld y medra i garu fel yr o'n yn ei garu cyn iddo farw. | |
| (1, 0) 39 | Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau. |
| (Popofa) Ow, ow! | |
| (Popofa) Ow, ow! | |
| (1, 0) 43 | Mistras bach, be sy'n bod? |
| (1, 0) 44 | Nefoedd fawr! |
| (Popofa) 'R oedd o mor ffond o Tobi! | |
| (Popofa) Rhowch ffiolad o geirch dros ben iddo heddiw. | |
| (1, 0) 51 | O'r gora, mym. |
| (Popofa) {Yn neidio'n gyffrous.} | |
| (Popofa) Deudwch na fedra i weld neb! | |
| (1, 0) 56 | Gna, mym. |
| (1, 0) 64 | Mistras, mae'na rywun yna isio'ch gweld chi. |
| (Popofa) Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr? | |
| (Popofa) Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr? | |
| (1, 0) 66 | Do, mi ddeudais hynny, ond chymith o mo'i apad. |
| (1, 0) 67 | Mae o'n deud fod gynno fo neges bwysig! |
| (Popofa) Cheith neb fy |ngweld i|! | |
| (Popofa) Cheith neb fy |ngweld i|! | |
| (1, 0) 69 | Dyna ddeudais i, ond mae o fel y coblyn ei hun... yn rhegi fel cath ac yn gwthio ei hun i mewn ar draws popeth, mae o yn y dining-room. |
| (Popofa) {Yn bigog.} | |
| (Smirnoff) Hei, rhywun! | |
| (1, 0) 143 | Be sy'n bod? |
| (Smirnoff) Llymad o ddŵr neu ddiod fain? | |
| (Smirnoff) Rhaid i mi ddim ond cael cip olwg yn y pellter ar ryw anwylyd barddonol fel honna, a dyma bob gefyn yn fy nghorff i'n gryndod i gyd, a minnau bron yn gweiddi "Help, help!" | |
| (1, 0) 155 | Mae mistras yn wael, fedr hi weld neb. |
| (Smirnoff) Dos i ffwrdd! | |
| (1, 0) 180 | Wel? |
| (Smirnoff) Glasiad o frandi i mi! | |
| (1, 0) 189 | Yr ydych yn mentro yn arw, syr. |
| (Smirnoff) Be? | |
| (Smirnoff) {Yn ddig ei lais.} | |
| (1, 0) 192 | Dim byd... d o'n i ddim ond yn... |
| (Smirnoff) Wrth bwy 'r wyt ti'n siarad? | |
| (1, 0) 196 | Y gŵr drwg ei hun ddoth â hwn yma i'n poeni. |
| (1, 0) 312 | Syr, byddwch cystal â mynd allan, gan eu bod nhw'n gofyn i chi. |
| (1, 0) 313 | Waeth i chi heb ag aros yma i... |
| (Smirnoff) {Yn neidio î fyny.} | |
| (1, 0) 319 | Seintiau glân wrth yr orsedd fry! |
| (1, 0) 321 | O, 'r ydw i'n sâl! |
| (1, 0) 322 | Fedra i ddim cael fy ngwynt. |
| (Popofa) Lle mae Dasia? | |
| (Popofa) {Yn canu'r gloch.} | |
| (1, 0) 327 | Och, mae nhw i gyd wedi mynd i hel mefus!... |
| (1, 0) 328 | Neb yn y tŷ!... |
| (1, 0) 329 | 'R ydw i mor sâl!... |
| (1, 0) 330 | Dŵr! |
| (Popofa) Byddwch cystal â mynd i ffwrdd. | |
| (Smirnoff) Hy! Dyma fi'n rhoi sialens i chi. | |
| (1, 0) 345 | Seintiau glân wrth yr orsedd fry! |
| (1, 0) 346 | Dŵr! |
| (Smirnoff) Ie, i saethu'n gilydd. | |
| (Smirnoff) Nid rhyw gorgi meddal ydw i; i mi 'd oes mo'r fath beth â merched gweiniaid. | |
| (1, 0) 369 | Annwyl barchedig syr! |
| (1, 0) 371 | Byddwch drugarog, byddwch dosturiol wrth hen ŵr fel fi. |
| (1, 0) 372 | Ewch i ffwrdd. |
| (1, 0) 373 | Wedi fy nychryn hyd angau, dyma chi rŵan yn mynd i saethu. |
| (Smirnoff) {Heb wrando arno} | |
| (Smirnoff) Ar fy ngwir, weles i rioed y fath wraig o'r blaen. | |
| (1, 0) 384 | Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd; cewch ran yn fy ngweddïau tra byddwyf byw. |
| (Smirnoff) Dyna chi wraig wrth fodd fy nghalon i, gwraig go iawn, dim lol o'i chwmpas hi, dim o'ch llymru merchetaidd chi. | |
| (1, 0) 390 | Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd! |
| (Smirnoff) 'R wy'n dechrau licio hon, ydw, tawn i'n marw. | |
| (Popofa) Fu 'na rioed bistol yn fy llaw i. | |
| (1, 0) 399 | Arglwydd annwyl, gwared ni a bydd drugarog! |
| (1, 0) 400 | Mi â i nôl y gardner a'r coitsman. |
| (1, 0) 401 | Beth yn y byd mawr ddaeth â'r fath bla ar ein pennau ni? |
| (1, 0) 517 | Seintiau glân! |