| (Hlin) Y RHAN GYNTAF | |
| (Garmon) Llefared fy arglwydd Lupus. | |
| (1, 0) 110 | Fy nhirion dad, |
| (1, 0) 111 | Diogel yw gennyf i mai Ceidwad y Teulu Santaidd |
| (1, 0) 112 | A ddug y cenhadon hyn tros gors ac afon a diffaith |
| (1, 0) 113 | A thrwy enbydrwydd fforestydd a'r di-feudwy fôr, |
| (1, 0) 114 | A'u glanio yma'n brydlon yng nghanol preladiaid Gâl! |
| (1, 0) 115 | Er mwyn eu gollwng hwy heddiw mewn hedd o'u duwiol ddiofryd |
| (1, 0) 116 | A pheri gogoniant i'w anwylyd, Alban sant. |
| (1, 0) 117 | Atolwg, felly, oedwn ychydig ein bwyd a'n diod, |
| (1, 0) 118 | A gwrando'n gyntaf mewn cariad ar y gwroniaid hyn. |