| (Merch Fach) Cont yn gwlitho. 'I freuddwyd e. | |
| (Mary) A tequila sunrise trw straws bobo bore, i roi hwfrad dda i realiti'r dydd cyn dechre dim. | |
| (1, 4) 407 | Ddim er y mwyn i Mami, |
| (1, 4) 408 | Gormod o ffafre wy di ga'l, gormod o help. |
| (1, 4) 409 | Hol fi o Lunden. Helpu fi gico'r arfer. |
| (1, 4) 410 | Fydden'n i'n farw nawr, onibai... |
| (1, 4) 411 | Yn freichie i'n fyw o dwlle. |
| (1, 4) 412 | Rhai diweddar, yn whysu gwa'd tene, |
| (1, 4) 413 | Rhai hen. Dan grofen frwnt o greithie. |
| (1, 4) 414 | Hôl fi wrtho fe. |
| (1, 4) 415 | Dim gwythienne glân ar ôl dan i gron e. |
| (1, 4) 416 | Erbyn chi ddod odd e'n injecto gwyn i lyged. |
| (1, 4) 417 | Rhacsan y bedsit, rhacsan i gorff, rhacsan i ben. |
| (1, 4) 418 | Se'r heroin ddim di'n lladd i, mi fydde fe. |
| (1, 4) 419 | A peth o'r amser o'n i'n edrych mlân at 'ny. |
| (1, 4) 420 | Pidwch breuddwydo Mam. Dim am y dyfodol. |
| (1, 4) 421 | Dim da fi yndo fe. Fydda i ddim ma. |
| (1, 4) 422 | Newch be chi'n neud, breuddwydwch am be chi moyn |
| (1, 4) 423 | Er mwyn rhywbeth a rhywun arall. |
| (1, 4) 424 | Mae'n rhy hwyr i fi nawr, Mami. |
| (1, 4) 425 | Rhy hwyr ers pan es i bant, yn fourteen. |
| (1, 4) 426 | Peder blynedd a bywyd cyfan yn ôl. |
| (1, 4) 427 | A rwbryd pry'ny, âth pob dyfodol ar goll. |
| (Mary) Pam... pam... dere mlân... | |
| (Mary) A tithe'r hen fwnc. | |
| (2, 1) 1047 | Sai'n meddwl wela i byth mo'r haul yn codi 'to. |
| (2, 1) 1048 | Sai'n meddwl goda i o fan hyn byth 'to. |
| (2, 1) 1049 | Dan y nghefen i'n o'r da whys. |
| (2, 1) 1050 | Trw'r nos fel clwtyn yn ca'l i wasgu'n glwme bach, |
| (2, 1) 1051 | Ma pob ffycin gwely yn ffycin bedd. |
| (2, 1) 1052 | Liverpool yn gwitho ar Hope Street, Llunden yn gwitho ar Brewer Street. |
| (2, 1) 1053 | Wastod yn gwitho ar, byth yn byw yn.... |
| (2, 1) 1054 | Tynnu'r spync mas o'u prics nhw fel ca'l puss i sithu mas o bolleth. Ca'l gwagad. |
| (2, 1) 1055 | Dim pleser. Felse dod yn boendod. Hen ysfa tu fiwn 'u penne a'u coce nhw. |
| (2, 1) 1056 | Tuchan fel ffycin anifeilied. |
| (2, 1) 1057 | Baglu miwn i ddillad, edrych yn grac, yn wyllt, ond byth i fyw yn llygad i. |
| (2, 1) 1058 | A nôl mas i deimlo'n grac wrth y byd, i simro a ffrwtian nes i'r bolleth godi 'to. |
| (2, 1) 1059 | Nes iddyn nhw yfed digon o hen gwrw brwnt i ddod a gwasgu 'u drewdod yn drwn. |
| (2, 1) 1060 | Dros rhyw ferch arall a tasgu stribedi o hen ddolur llidus miwn i gorff menyw ddiarth. |
| (2, 1) 1061 | Hope Street, Lime Street, Brewer Street, Poland Street, Eversholt Street, Berwick Street. |
| (2, 1) 1062 | A popeth wy'n gofio am bob un yn gwmws run ffycin peth. |
| (2, 1) 1063 | Pob un â pafin hir yn arwen at ffau yr anifel gwyllt. |
| (Scoot) Gyfeillion – diwedd blwyddyn ond dechre'r dyfodol. | |
| (Mary) Fel hyn Sammy... Fel hyn? | |
| (2, 2) 1975 | A ma'r farwolaeth nawr |
| (2, 2) 1976 | Tu fiwn i fi, gwitho'i ffordd trwyddo i, |
| (2, 2) 1977 | O's rhaid i fi weud Mam? |
| (2, 2) 1978 | Yn agosach, wedi gafel nawr, |
| (2, 2) 1979 | Ddim trw goce'r diawled ond trw'r nodwydde. |
| (2, 2) 1980 | Chi yn gwybod Mam, chi yn, |
| (2, 2) 1981 | Yr hunlle chi di bod yn arswydo |
| (2, 2) 1982 | Wedi dod gatre, i llofft Debs fach i glwydo... |
| (2, 2) 1983 | Ma nhw wedi'n lladd i Mami! |