| (Dai) Hei, dere mlân, Dic. | |
| (Dai) {Hawdd canfod ei fod mewn penbleth a gwylltineb.} | |
| (1, 1) 332 | Bore da, Dai. |
| (Dai) Bore da, syr. | |
| (Dai) Mae hi'n fore ffein. | |
| (1, 1) 335 | Sut mae pethau'n mynd? |
| (Dai) Gweddol. | |
| (Dai) Talcen go galed. | |
| (1, 1) 338 | Ie, fel arfer, mae'n debyg. |
| (1, 1) 340 | Pam wyt ti'n colli cymaint o amser nawr yn ddiweddar? |
| (Dai) Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr. | |
| (Dai) Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr. | |
| (1, 1) 342 | Dai bach, wyt ti wedi anghofio eich bod chwi'n byw o fewn ergyd carreg i'n tŷ ni? |
| (1, 1) 343 | Mi glywais dy fod wedi meddwi'n garn echnos. |
| (1, 1) 344 | Ym mhle wyt ti'n cael arian i dorri peth o'r syched ofnadwy 'na sy'n dy flino di? |
| (1, 1) 346 | Rwyt ti ar y bŵs bob tro daw ceffyl adre mae'n debyg. |
| (1, 1) 347 | Mae gen ti ffitach gwaith i'th geiniogau, siwr o fod. |
| (1, 1) 349 | Sut wyt ti, boi bach? |
| (1, 1) 350 | Wyt ti'n cael digon o waith... |
| (1, 1) 351 | Gofala am y lamp yna. |
| (Bob) Reit, syr. | |
| (1, 1) 361 | Arnat ti neu Dai mae'r bai am yr holl lo mân yma sy tan draed? |
| (1, 1) 362 | Rych chi braidd yn anniben gyda'ch gwaith. |
| (1, 1) 363 | Bydd yn fwy cryno, machgen i. |
| (1, 1) 366 | Dysg y crwtyn yna i fod yn fwy cryno Dai, neu fydd e dda i ddim byth; mae'r lle 'na yn ddychrynllyd. |
| (1, 1) 370 | Dere yma Dai... ar unwaith! |
| (Dai) {o'r tu mewn} | |
| (1, 1) 376 | Rwy i wedi sylwi bod lot o fwc yn cael ei dipio'r diwrnodau diwetha 'ma. |
| (Dai) {yn ansicr a ddisgwylir iddo ef ddywedyd dim} | |
| (Dai) Oes e? O...? | |
| (1, 1) 379 | Ac y mae lot o slag yn hon. |
| (1, 1) 381 | Dyw hyn ddim yn ddigon da. |
| (1, 1) 384 | Does dim rhyfedd nad ŷm ni'n gallu gwerthu glo. |
| (1, 1) 385 | Beth wyt ti'n ddisgwyl ond colli marchnadoedd â glo fel hyn! |
| (1, 1) 387 | A thi a'th short fydd y cynta i achwyn pan fydd y pyllau yma wedi eu cau. |
| (Dai) {fel llechgi} | |
| (Dai) Bob... Bob, dere ma. | |
| (1, 1) 391 | Rwy i'n dy dalu di am ddysgu'r crwtyn na'n iawn. |
| (1, 1) 392 | Sawl tram wyt ti wedi'i lanw heddi? |
| (Dai) Hon yw'r gynta bore ma... | |
| (Bob) Oet ti'n galw, Dai? | |
| (1, 1) 397 | Does dim o'th eisiau di. |
| (1, 1) 398 | Cer nôl at dy waith machan bach i... |
| (1, 1) 399 | Na, ateb... |
| (1, 1) 400 | Ti lanwodd y dram yma? |
| (Bob) Fi rasodd ei thop hi, syr. | |
| (Bob) Fi rasodd ei thop hi, syr. | |
| (1, 1) 402 | A dim ond hon sydd wedi ei llanw gyda chwi'r bore ma? |
| (1, 1) 403 | Pam hynny? |
| (Bob) Rwy i wedi bod wrthi â'm holl egni syr. | |
| (Dai) Crwtyn eiddil yw e, a dyw e ddim yn credu mewn gweithio'n rhy galed. | |
| (1, 1) 407 | Bydd ddistaw. |
| (1, 1) 408 | Paid â dweud dim rhagor o gelwyddau, da ti. |
| (1, 1) 410 | O'r gorau, machgen i... |
| (1, 1) 412 | Dowch yma am funud. |
| (1, 1) 414 | Rwy'n ofni y bydd raid iti fynd, Dai. |
| (Dic) Hylo, bore da, syr. | |
| (Dic) Hylo, bore da, syr. | |
| (1, 1) 416 | Bore da, Dic. |
| (1, 1) 417 | Mae yna le go lew fan hyn, oes e ddim? |
| (1, 1) 418 | Faint ych chwi wedi'i wneud bore ma? |
| (Dic) Newydd hela'r ail maes. | |
| (Dic) Rŷm ni'n gallu dod i ben ag e'n weddol nawr. | |
| (1, 1) 423 | Dyna oeddwn innau'n feddwl. |
| (1, 1) 424 | A dim ond hon mae Dai wedi'i llanw. |
| (1, 1) 425 | A mae hi'n ddychrynllyd. |
| (1, 1) 427 | Mae'n ddrwg gen i am Mrs. Davies, ac am Marged fach, ond dyna fe, beth sy gen i i'w wneud? |
| (1, 1) 428 | Gwisg dy got! |
| (Dic) O! Mr. Lewis! | |
| (Dic) O! Mr. Lewis! | |
| (1, 1) 430 | Beth arall alla i wneud? |
| (1, 1) 431 | Mae Dai yn colli yn agos hanner ei amser—ceffylau a chwrw; mae e'n anniben, dyw e ddim gwerth ei halen; a mae'r hyn mae e'n ei wneud yn fwy o golled na dim arall. |
| (1, 1) 432 | Glywaist ti Dai, casgla dy dŵls. |
| (Dai) O, fel na, iefe. | |
| (Dic) Rhowch un cyfle arall iddo fe, Mr. Lewis. | |
| (1, 1) 439 | Beth well fydda i. |
| (1, 1) 440 | Run peth yn union fydd e. |
| (1, 1) 441 | Na, alla i ddim rhoi cynnig arall iddo fe. |
| (Dai) Does dim eisiau i ti, Dic, fegian trosto i. | |
| (Dai) Mae gwinoedd a... | |
| (1, 1) 446 | O'r gorau, cer nawr cyn digwydd gwaeth iti. |
| (1, 1) 447 | Galw am dy gardiau yn yr offis. |
| (Dai) Gobeithio y daw'r un lwc i chwithau bob enaid! | |
| (Dai) Mi fydd y cwmni ma wedi cael y gorau maes ohonoch chwi cyn hir... a mi fyddwch chwi'n cael eich tipio maes i ben y tip yna—rhy hen a rhy stiff i blygu. | |
| (1, 1) 451 | A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti am fynd? |
| (1, 1) 452 | Nawr te! |