| (Bernardo) Pwy sydd yna? | |
| (Brenin) Pa beth, Laertes, fynit ti ei cael? | |
| (1, 2) 314 | Fy arglwydd mawr, eich cenad ffafriol chwi, |
| (1, 2) 315 | I ddychwel eto yn fy ol i Ffrainc; |
| (1, 2) 316 | O'r hon i Denmarc daethum i o'm bodd |
| (1, 2) 317 | I roi gwarogaeth i'ch coroniad chwi; |
| (1, 2) 318 | Ond wedi ei roi, rhaid i mi addef fod |
| (1, 2) 319 | Fy meddwl a'm dymuniad eto 'n troi |
| (1, 2) 320 | I Ffrainc, ac eu cyflwyno wnaf yn awr |
| (1, 2) 321 | I'ch cenad graslawn a'ch maddeuant chwi. |
| (Brenin) Ond a oes genych ganiatâd eich tad? | |
| (Hamlet) Er i'r holl ddaear geisio 'u cuddio hwynt. | |
| (1, 3) 601 | Mae pob peth angenrheidiol yn y llong; |
| (1, 3) 602 | Yn iach. Fy chwaer, gan fod y gwynt yn deg, |
| (1, 3) 603 | A bod nawddlongau wrth ein galwad ni, |
| (1, 3) 604 | Na huna ddim. Rho air yn fynych im'. |
| (Ophelia) A ydwyt ti yn anmheu yn nghylch hyn? | |
| (Ophelia) A ydwyt ti yn anmheu yn nghylch hyn? | |
| (1, 3) 606 | Am Hamlet, ac y modd dangosa 'i ffafr, |
| (1, 3) 607 | Cyfrifa 'r cwbl yn arfer, tegan mewn |
| (1, 3) 608 | Gwaedoliaeth; a millynen dlos o fewn |
| (1, 3) 609 | Ieuenctyd, natur yn ei blodau yw, |
| (1, 3) 610 | Awyddus, nid safadwy; mwyn, nid yn |
| (1, 3) 611 | Barhâus; arogledd, a chyflenwad am |
| (1, 3) 612 | Un funyd; ond dim mwy. |
| (Ophelia) Dim mwy na hyn? | |
| (Ophelia) Dim mwy na hyn? | |
| (1, 3) 614 | Na wna ei dybied ef yn fwy, can's pan |
| (1, 3) 615 | Gynyddo natur, ni thyf yn unig mewn |
| (1, 3) 616 | Cyhyrau, ac mewn maint; ond fel y gwna |
| (1, 3) 617 | Y deml hon fyn'd ar gynydd, yna bydd |
| (1, 3) 618 | Gwasanaeth mewnol meddwl, enaid, yn |
| (1, 3) 619 | Cynyddu 'n fawr. Fe allai y câr ef chwi |
| (1, 3) 620 | Yn awr; ac weithiau nid oes unrhyw laid, |
| (1, 3) 621 | Na thwyll, yn aflunieiddio rhinwedd ei |
| (1, 3) 622 | Ewyllys; ond mae 'n gweddu i chwi ofni, |
| (1, 3) 623 | Pan ddwys ystyriwn, yna diau ceir |
| (1, 3) 624 | Nad yw'r ewyllys ddim yn eiddo'i hun; |
| (1, 3) 625 | Can's rhwym i'w enedigaeth ydyw ef: |
| (1, 3) 626 | Nas gall, fel dynion o iselach radd, |
| (1, 3) 627 | Ddim dewis drosto 'i hun; can's ar ei ddoeth |
| (1, 3) 628 | Ddewisiad y dibyna iechyd a |
| (1, 3) 629 | Diogelwch yr holl deyrnas; felly rhaid |
| (1, 3) 630 | I'w ddewis ynte'n ddarostyngol fod |
| (1, 3) 631 | I lais a thuedd teulu i yr hwn |
| (1, 3) 632 | Y mae yn ben; am hyny, os dywed ei |
| (1, 3) 633 | Fod yn eich caru chwi, mae 'n gweddu i'ch |
| (1, 3) 634 | Doethineb beidio 'i gredu, ond mor bell |
| (1, 3) 635 | Ag y gall ef o ran ei uchel le, |
| (1, 3) 636 | Wneud gair yn weithred, ond yn hyn nid aiff |
| (1, 3) 637 | Ddim pellach nag yr ä llais Denmarc. |
| (1, 3) 638 | Ystyriwch hyn, y golled fawr a fydd |
| (1, 3) 639 | I'ch urddas teg, os a hygoelus glust, |
| (1, 3) 640 | Gwrandewch ei gân, ac wed'yn golli eich |
| (1, 3) 641 | Holl galon; neu eich diwair drysor roi 'n |
| (1, 3) 642 | Agored i'w aflywodraethus nwyd. |
| (1, 3) 643 | Ophelia, ofnwch—ofnwch, f' anwyl chwaer, |
| (1, 3) 644 | Ymgedwch chwi tu cefn i'ch cynes serch |
| (1, 3) 645 | O olwg holl beryglon nwyd a'i saeth, |
| (1, 3) 646 | Mae 'r wyryf fwya' gwilgar yn dra ffol, |
| (1, 3) 647 | Os dadorchuddia ei thegwch ger y lloer; |
| (1, 3) 648 | Ni ddianc rhinwedd deg ei hunan rhag |
| (1, 3) 649 | Ymosodiadau enllib: y cancr wna |
| (1, 3) 650 | Ddirboeni 'n fynych, ieuanc blant y fron, |
| (1, 3) 651 | Cyn bod, yn aml, fotwm ar eu gwisg; |
| (1, 3) 652 | Ac yn moreuddydd, ac yn nhyner wlith |
| (1, 3) 653 | Ieuenctyd, mae deifiadau llygrus yn |
| (1, 3) 654 | Fygythiol i'r gradd eithaf. Yna bydd |
| (1, 3) 655 | Ochelgar: mae y diogelwch mawr |
| (1, 3) 656 | Mewn ofn yn gorwedd; canys mynych mae |
| (1, 3) 657 | Yr ieuanc yn milwrio âg ef ei hun, |
| (1, 3) 658 | Pryd na ddygwyddo arall fod gerllaw. |
| (Ophelia) Myfi a gadwaf effaith dda dy wers, | |
| (Ophelia) Heb ddysgu gair o'i foesol wers ei hun. | |
| (1, 3) 666 | Nac ofna ddim. 'R wy 'n aros yn rhy hir;— |
| (1, 3) 667 | Ond wele yma mae fy nhad yn d'od. |
| (1, 3) 669 | Mae bendith ddyblyg, yn ddauddyblyg ras; |
| (1, 3) 670 | Achosa wenau wrth ro'i ail ffarwel. |
| (Polonius) Ai yma fyth, Laertes? Dos i'r llong, | |
| (Polonius) Ffarwel! fy mendith wreiddio hyn o'th fewn. | |
| (1, 3) 704 | Tra gostyngedig y cymeraf fi; |
| (1, 3) 705 | Fy nghenad, f' arglwydd. |
| (Polonius) Yr amser eilw, dos. | |
| (Polonius) Mae 'th weision bellach yn dy ddysgwyl di. | |
| (1, 3) 708 | Ffarwel, Ophelia; cofiwch hyny 'n dda |
| (1, 3) 709 | A ddywedais gyneu. |
| (Ophelia) Mae 'n glöedig yn fy nghof, | |
| (Ophelia) A chwi eich hun gaiff gadw ei allwedd ef. | |
| (1, 3) 712 | Ffarwel. |