| (Amos) P'nawn da, Syr. | |
| (Helga) Wyt ti wedi d'anafu? | |
| (1, 0) 622 | Na, mi ydw' i'n iawn, Helga. |
| (Botha) Y dynion, Hendricks? | |
| (1, 0) 625 | Rhy hwyr, Mr. Botha. |
| (Helga) Mae nhw wedi —? | |
| (Helga) Mae nhw wedi —? | |
| (1, 0) 627 | Wedi boddi. |
| (1, 0) 628 | Y ddau. |
| (1, 0) 629 | Petawn i bum munud ynghynt... |
| (1, 0) 630 | Pum munud... |
| (1, 0) 631 | Ond 'doedd dim modd mynd atyn' nhw. |
| (1, 0) 632 | 'Roeddyn' nhw mewn twnel cul yn arwain o'r brif siafft... |
| (1, 0) 633 | Fe wyddoch amdano? |
| (Botha) Gwn, 'machgen i, gwn. | |
| (Botha) Gwn, 'machgen i, gwn. | |
| (1, 0) 635 | Ac ar y munud olaf mi ddiffoddodd y trydan... |
| (1, 0) 636 | Mae'n ddrwg gen' i, Mr. Botha. |
| (Botha) Paid â dweud hynna, Hendricks, paid â dweud hynna. | |
| (Botha) Nid dy fai di oedd o. | |
| (1, 0) 639 | Dim ond pum munud... |
| (1, 0) 640 | Ond fe gododd y dŵr yn rhy gyflym. |
| (1, 0) 641 | A heb drydan 'doedd dim modd cael y pympiau i weithio. |
| (Helga) Damwain oedd hi, Karl! | |
| (Helga) Damwain oedd hi, Karl! | |
| (1, 0) 643 | Ia, damwain. |
| (1, 0) 644 | Ond 'dyw gwybod hynny'n fawr o help... |
| (1, 0) 645 | 'Roeddwn i o fewn ugain llath iddyn' nhw. |
| (1, 0) 646 | Eu clywed yn gweiddi, a minnau'n hollol ddiymadferth... |
| (1, 0) 647 | 'Alla' i byth anghofio... |
| (1, 0) 648 | Ac yna, y distawrwydd... |
| (1, 0) 649 | Mi wyddoch pa mor ddistaw y gall y pwll fod, Mr. Botha. |
| (Botha) Gwn, 'machgen i. | |
| (Botha) Ond fe aeth y dŵr i lawr? | |
| (1, 0) 653 | Do, mor sydyn ag y cododd. |
| (1, 0) 654 | Mi fedrais fynd i mewn... |
| (1, 0) 655 | 'Roedd y ddau wrth geg y twnel, yn lled-orwedd ar y graig... |
| (1, 0) 656 | Eu breichiau wedi ymestyn... fel petaent wedi eu croeshoelio... |
| (1, 0) 657 | Maddau i mi, Helga. |
| (Helga) Dos ymlaen, Karl. | |
| (Helga) Gwell ei gael o allan. | |
| (1, 0) 660 | 'Rwy' i wedi gweld damweiniau o'r blaen... |
| (1, 0) 661 | Fe laddwyd tri y llynedd, os wyt ti'n cofio, pan ddisgynnodd y rwbel... ond 'roedd hynny'n wahanol, rywsut. |
| (1, 0) 662 | Fe'u lladdwyd yn y fan: 'wydden' nhw ddim... |
| (1, 0) 663 | 'Roedd eu diwedd yn lân, heb boen, heb ofn... |
| (1, 0) 664 | Nid fel y ddau yma heddiw... angau yn cripian atyn' nhw... fesul modfedd... |
| (Botha) Profiad dychrynllyd, Hendricks. | |
| (Botha) Ond mae gen' ti un cysur, — fe wnest dy orau. | |
| (1, 0) 667 | Pum munud...! |
| (Helga) Eistedd, Karl. | |
| (1, 0) 670 | Mi rown i unrhyw beth... |
| (1, 0) 671 | 'Roedd eu llygaid yn agored, ac arswyd wedi fferu ynddyn' nhw. |
| (1, 0) 672 | Fe fydd fel hunlle imi ar hyd f'oes. |
| (Botha) Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar. | |
| (Botha) Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar. | |
| (1, 0) 674 | Dim ond wythnos yn ôl. |
| (1, 0) 675 | 'Welais i ddim allan o'i le ynddo fo. |
| (Botha) Fel yna mae'n digwydd weithia'. | |
| (Botha) Fel yna mae'n digwydd weithia'. | |
| (1, 0) 677 | Ia, ond yr eironi chwerw ydy'... |
| (Helga) Ia, Karl? | |
| (Helga) Ia, Karl? | |
| (1, 0) 679 | 'Roeddwn i wedi rhagweld rhywfaint o beryg' yn y siafft arall. |
| (1, 0) 680 | Dyna pam y symudodd Malán y gweithwyr a gafodd eu... boddi heddiw. |
| (Botha) 'Rwy'n deall. | |
| (Botha) 'Rwy'n deall. | |
| (1, 0) 682 | Ond 'ydych chi'n deall 'mod i'n teimlo, rywsut, mai fi oedd yn gyfrifol am y drychineb? |
| (Helga) 'Rwyf ti'n siarad yn ffôl rŵan, Karl. | |
| (Helga) 'Rwyf ti'n siarad yn ffôl rŵan, Karl. | |
| (1, 0) 684 | Dyna a ddywedodd Malán, Helga. |
| (1, 0) 685 | Ond ag ystyr gwahanol. |
| (1, 0) 686 | Mi ddywedodd 'mod i'n ffôl i boeni fy mhen am ddau negro! |
| (1, 0) 688 | "Wyt ti ddim yn sylweddoli," medda' fo, "mae yna ddau ddwsin yn y Dre-Sianti yn barod i gymryd eu lle. |
| (1, 0) 689 | 'Does yna byth brinder ohonyn' nhw. |
| (1, 0) 690 | Mi fyddan' yn heidio o flaen y swyddfa bore fory." |
| (1, 0) 691 | Dyna'i union eiriau. |
| (1, 0) 692 | Fel petai'n sôn am anifeiliaid. |
| (1, 0) 693 | Ond wrth gwrs, dyna ydy'r negrod i Malán, — anifeiliaid mud, Mr. Botha! |
| (Botha) Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti. | |
| (Botha) Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti. | |
| (1, 0) 695 | 'Dwy'i ddim yn gorliwio. |
| (Botha) 'Dd'wedais i ddim dy fod ti, Hendricks. | |
| (Botha) "Chafodd yna neb arall ei anafu? | |
| (1, 0) 712 | Naddo, diolch i'r nefoedd. |
| (1, 0) 713 | Mae hyn yn ddigon. |
| (Botha) Fe ddoi di drosto fo, 'machgen i. | |
| (Botha) 'Gymeri di lymaid o rywbeth? | |
| (1, 0) 717 | Na, dim diolch, Mr. Botha. |
| (Helga) Eistedd, Karl. | |
| (Helga) Eistedd, Karl. | |
| (1, 0) 719 | Mae fy nillad yn lleidiog, Helga. |
| (Helga) O, pa wahaniaeth! | |
| (Botha) Rho fenthyg un o'm siwtiau i iddo fo. | |
| (1, 0) 727 | Peidiwch â thrafferthu, Mr. Botha. |
| (1, 0) 728 | Mi fydda' i'n iawn. |
| (Botha) 'Fyddi di ddim yn iawn yn y dillad gwlyb yna. | |
| (Botha) Hendricks, — y ddau ddyn anffodus yna, 'oes ganddyn' nhw deulu? | |
| (1, 0) 734 | Oes, mae'r ddau yn briod. |
| (1, 0) 735 | Un â phedwar o blant, a'r llall â dau. |
| (Botha) Trueni... | |
| (Botha) {Saib.} | |
| (1, 0) 739 | Maddeuwch imi, Mr. Botha... |
| (Botha) Ia, Hendricks? | |
| (Botha) Ia, Hendricks? | |
| (1, 0) 741 | Mae yna rywbeth yr hoffwn 'i ofyn i chwi. |
| (Botha) Gofyn. | |
| (Botha) Gofyn. | |
| (1, 0) 743 | 'Oes yna rywbeth y gellid 'i wneud iddyn' nhw? |
| (Botha) Beth wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (Botha) Beth wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (1, 0) 745 | Wel, fel y gwyddoch chi, fe fyddant mewn cynni dychrynllyd. |
| (Botha) Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna. | |
| (Botha) Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna. | |
| (1, 0) 747 | Eich pardwn am y tro, Mr. Botha. |
| (1, 0) 748 | 'Rwy'n eich adnabod yn bur dda. |
| (1, 0) 749 | 'Oddefwch chi ddim i neb gael cam. |
| (1, 0) 750 | Ond fel y gwyddoch, 'dyw'r Cwmni byth yn talu iawn-dâl i'r negro. |
| (Botha) Nac ydy', — yn swyddogol. | |
| (Botha) Ond unwaith eto, 'rwy' i am ofyn iti adael hynna i'm doethineb i. | |
| (1, 0) 753 | Mae'r awgrym yna'n ddigon, Mr. Botha... |
| (1, 0) 754 | 'Rwy'n fodlon. |
| (Helga) Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl. | |
| (Helga) Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl. | |
| (1, 0) 757 | Diolch, Helga. |
| (1, 0) 759 | Fe fydd yn rhaid cau'r siafft yna rŵan, Mr. Botha. |
| (Botha) Wrth gwrs, wrth gwrs. | |
| (Botha) Gorffwys am ychydig wedyn, os mynni. | |
| (1, 0) 764 | Gorffwys? |
| (Botha) Ia, ia, paid â dadla'! | |
| (Botha) 'Wyt ti'n meddwl y medri di wneud y plania'n barod? | |
| (1, 0) 768 | Gallaf yn siŵr: mi af ati heno... |
| (1, 0) 769 | Diolch ichi eto. |