| (Efa) {Try edrych am foment.} | |
| (1, 0) 257 | Godidog. |
| (1, 0) 259 | Ie... godidog. |
| (Meurig) A ga'i 'i chwarae hi eto? | |
| (Meurig) Mae Efa yn 'i hoffi hi'n fawr. | |
| (1, 0) 262 | Mae Efa yn deall. |
| (1, 0) 263 | Mae hi'n gallu gwerthfawrogi miwsig symbolig. |
| (1, 0) 264 | A beth amdanoch chi? |
| (1, 0) 265 | Yr o'ch chithau'n gwrando. |
| (1, 0) 267 | Mae e'n dod yr un ffordd â ni. |
| (Meurig) Dim eto, Josef. | |
| (1, 0) 270 | Trueni. |
| (1, 0) 272 | Mae'n anodd dirnad pam nad yw pawb yn ymateb i fiwsig tebyg i hwn. |
| (1, 0) 273 | Mae'r miwsig hwn yn wir o bob oes. |
| (Meurig) Yn wir? | |
| (Meurig) Yn wir? | |
| (1, 0) 275 | Ydy'. |
| (1, 0) 276 | Gan mai |dianc| yw'r thema. |
| (1, 0) 277 | Os oes yna un gair yn arbennig yn nodweddu Ewrop heddiw, y gair dianc yw hwnnw. |
| (Meurig) Fe ddylech chi fod yn gwybod, Josef. | |
| (1, 0) 281 | Fe wn beth yw ffoi. |
| (1, 0) 282 | Dianc? |
| (1, 0) 283 | Na. |
| (1, 0) 284 | Mae hwnnw'n fwy anodd. |
| (1, 0) 285 | Fe all dyn ffoi i bellteroedd y ddaear, ond eto, heb ddianc. |
| (1, 0) 286 | Mae rhywbeth yn aros o'r hen fywyd ac yn gafael ynddo o hyd. |
| (Meurig) Cydwybod efallai? | |
| (Efa) Efallai yr hoffech chithau rywbeth 'i fwyta? | |
| (1, 0) 292 | Dim, diolch yn fawr. |
| (1, 0) 293 | Ond nes ymlaen... cwpanaid o goffi... E? |
| (Efa) Cewch siwr. | |
| (1, 0) 296 | Does neb arall yng Nghymru cystal â'ch gwraig chi am wneud coffi. |
| (Meurig) 'Dwy i byth yn 'i yfed e. | |
| (Meurig) Gwaith pacio. | |
| (1, 0) 303 | Yr ych chi'n mynd i ffwrdd? |
| (Meurig) Mae'r gwaith yn galw am hynny. | |
| (Meurig) Mae'r gwaith yn galw am hynny. | |
| (1, 0) 305 | Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth. |
| (Meurig) Paid ti â dod. | |
| (Meurig) Mae'r thema yn un mor addas i chi'ch dau. | |
| (1, 0) 312 | I ni'n tri. |
| (1, 0) 314 | Onid yw'r gwyddonydd hefyd â'i fryd ar ddianc y dyddiau hyn? |
| (1, 0) 315 | Mae si yn y pentref fod y sateleit nesaf yn mynd i gario dynion. |
| (Meurig) Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran. | |
| (Meurig) Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran. | |
| (1, 0) 317 | Felly 'dyw'r stori ddim yn wir? |
| (Meurig) Amser a ddengys. | |
| (Meurig) Amser a ddengys. | |
| (1, 0) 319 | Chwarae teg i chi. |
| (1, 0) 320 | Ni allai'r un swyddog diogelwch gael unrhyw fai ynoch chi. |
| (1, 0) 321 | Eto... yn hwyr neu'n hwyrach, fe welwn ddynion yn mentro i'r gwagle... i ddianc. |
| (Meurig) I ddarganfod rhyfeddodau newydd. | |
| (Meurig) I ddarganfod rhyfeddodau newydd. | |
| (1, 0) 323 | A thrwy hynny... yn dianc oddiwrth y presennol sydd yn gwasgu. |
| (1, 0) 325 | Fe ddeallodd y cyfansoddwr hynny'n glir iawn, ac mae e' wedi cerfio 'i ddarlun fan hyn. |
| (1, 0) 327 | Ond 'rwyf heb eich llongyfarch chi eto. |
| (Meurig) Ar beth? | |
| (Meurig) Ar beth? | |
| (1, 0) 329 | Dydd eich priodas. |
| (1, 0) 330 | Wyth mlynedd i heddiw, ontefe? |
| (1, 0) 332 | Peidiwch â dweud fy mod i wedi gwneud camsyniad? |
| (Efa) Naddo. | |
| (1, 0) 336 | Yr ych chi'n ddyn lwcus iawn. |
| (Meurig) 'Rwyf yn eich dyled. | |
| (Meurig) 'Rwyf yn eich dyled. | |
| (1, 0) 338 | Sut hynny? |
| (Meurig) Fe anghofiais i ba ddydd oedd e' heddi'. | |
| (1, 0) 342 | Dyma chi wedi cyflawni'r pechod anfaddeuol... yn anghofio dydd eich priodas. |
| (1, 0) 343 | Beth ych chi'n ddweud, Efa? |
| (Efa) {Erys foment.} | |
| (1, 0) 347 | Dyw hi ddim am 'ch condemnio chi'n gyfangwbl chwaith. |
| (Meurig) Efallai mai i'r miwsig 'rwy'n ddyledus am hynny. | |
| (Meurig) 'Rwy'n mynd i fod yn brysur. | |
| (1, 0) 360 | Beth sy'n bod? |
| (Efa) {Llais rhyfedd.} | |
| (Efa) Gadewch iddo chwarae. | |
| (1, 0) 363 | Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando. |
| (Efa) Oeddwn, rywle yn fy isymwybod. | |
| (1, 0) 366 | Fe fu yna adeg pan oeddech chi'n arfer gwrando â'ch holl feddwl. |
| (Efa) Y pen tost 'ma. | |
| (Efa) Y pen tost 'ma. | |
| (1, 0) 368 | Ydyw e'n ddrwg? |
| (Efa) Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd. | |
| (Efa) Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd. | |
| (1, 0) 370 | Effaith y siom? |
| (1, 0) 372 | Mae gwragedd yn disgwyl cael blodau i ddathlu dydd priodas. |
| (Efa) 'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith. | |
| (Efa) 'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith. | |
| (1, 0) 374 | 'Falle y carech chi i mi fynd. |
| (1, 0) 375 | Mi ddof draw nos yfory. |
| (Efa) Efallai na fydd yfory. | |
| (1, 0) 378 | Yr ych chi'n sâl! |
| (Efa) {Gyda gwên fach.} | |
| (Efa) Ond heno 'wnaiff y rheiny ddim mo'r tro. | |
| (1, 0) 383 | Oes rhywbeth y galla" i ei wneud? |
| (Efa) Dim, Josef. | |
| (Efa) Pa faint o amser ych chi wedi bod yn byw yn y pentre' 'ma erbyn hyn? | |
| (1, 0) 387 | Blwyddyn... na, deng mis. |
| (1, 0) 388 | Rwy' wedi colli cyfri'. |
| (Efa) A minnau. | |
| (Efa) Pam tybed? | |
| (1, 0) 392 | Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol. |
| (Efa) Ond eto i gyd fe wn i ond ychydig iawn amdanoch chi. | |
| (Efa) Dim byd am 'ch hanes chi. | |
| (1, 0) 395 | 'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim. |
| (Efa) Nid dyna farn y byd. | |
| (Efa) Yr ych chi'n gweld fel mae pethau wedi newid yn y tŷ hwn, a hynny mewn byr amser? | |
| (1, 0) 405 | Mae hawl gyda chi i'm holi i. |
| (Efa) Croesholi! | |
| (1, 0) 410 | Fe ddes i'r pentre' 'ma gan obeithio dod o hyd i noddfa. |
| (1, 0) 411 | Cyn dod yma fe dreuliais ddwy flynedd yn Llundain gyda chyfeillion. |
| (1, 0) 412 | Roedd hynny'n nefoedd ar y dechrau ar ôl dioddef yr erledigaeth yn fy ngwlad fy hun. |
| (1, 0) 413 | Ond yn raddol dyma'r bywyd yn Llundain yn dechrau suro. |
| (1, 0) 414 | Dinas y trwst a'r gweiddi mawr, a phob pwyslais ar gynnwrf y byd. |
| (1, 0) 415 | Gwaethygodd fy iechyd, ac yr oedd yn rhaid i mi ddianc. |
| (1, 0) 416 | Mae pethau'n wahanol yma. |
| (Efa) 'Wn i ddim. | |
| (Efa) Mae'r labordy yma, a hwnnw yw duw mawr y gymdogaeth, yn rhoi gwaith ac yn addo'n dda. | |
| (1, 0) 419 | Sylwais i ddim. |
| (1, 0) 420 | Rwyf wedi treulio yr holl oriau diddan yn yr ystafell hon. |
| (Efa) Bywyd unig. | |
| (Efa) Bywyd unig. | |
| (1, 0) 422 | Pan ddes i 'ma flwyddyn yn ôl, dyna pryd yr oeddwn yn ddyn unig. |
| (1, 0) 423 | Fy nghyfeillion yn Llundain wedi methu a'm cysuro ar ôl i mi golli fy ngwlad. |
| (Efa) Mi fyddai hynny'n ormod i'w ddisgwyl. | |
| (1, 0) 426 | Fe lwyddoch chi. |
| (1, 0) 427 | Efallai ryw ddiwrnod y caf y fraint o dalu peth o'r ddyled yn ôl. |
| (Efa) Ond fi sydd yn 'ch dyled chi! | |
| (Efa) Cyn cwrdd â chi yr oeddwn yn ddall i bopeth o werth. | |
| (1, 0) 433 | Yr oedd y gallu i ddeall ynoch chi'n barod. |
| (1, 0) 434 | Dim ond 'ch annog chi. |
| (1, 0) 435 | Dyna i gyd a wnes i. |
| (Efa) {Yn oedi foment.} | |
| (Efa) Mae e' wedi gorffen â'i waith yn y labordy. | |
| (1, 0) 441 | Beth! |
| (1, 0) 442 | 'Chlywais i ddim mohonoch chi'n sôn am hyn o'r blaen. |
| (Efa) 'Wyddwn innau ddim tan heno. | |
| (Efa) 'Wyddwn innau ddim tan heno. | |
| (1, 0) 444 | 'D... 'does dim o'i le? |
| (Efa) Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn. | |
| (Efa) Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn. | |
| (1, 0) 446 | Mae rhywbeth arall? |
| (Efa) Oes. | |
| (Efa) Nid yw Meurig yn gallu deall... y gall dyn a merch fod yn... gyfeillion diniwed. | |
| (1, 0) 450 | Ni'n dau? |
| (1, 0) 452 | Ai dyna'r rheswm mae e'n mynd odd'ma? |
| (Efa) Beth arall? | |
| (Efa) Beth arall? | |
| (1, 0) 454 | Mae hyn yn sydyn iawn. |
| (1, 0) 455 | Anodd gen i gredu mai heno yw'r tro cyntaf i Meurig gyfeirio at ein... cyfeillgarwch. |
| (1, 0) 456 | Mae'n rhaid fod y peth ar i feddwl e' ers llawer dydd. |
| (Efa) Dyma'r tro cyntaf iddo ddweud yn blaen. | |
| (Efa) 'Roedd hynny'n peri difyrrwch i mi ar y dechrau, ond fe aeth chwerthin yn fwy anodd gydag amser. | |
| (1, 0) 461 | I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud? |
| (Efa) Nid dau. | |
| (Efa) Gwallgofrwydd! | |
| (1, 0) 467 | O'm hachos i? |
| (Efa) {Erys.} | |
| (1, 0) 472 | Pam wy' i wedi cael croeso gyda chi i ddod i'r tŷ 'ma 'n ystod y misoedd diwetha'? |
| (Efa) Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau. | |
| (Efa) Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau. | |
| (1, 0) 474 | Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig? |
| (Efa) Maent y tu hwnt i'm hamgyffred. | |
| (Efa) Maent y tu hwnt i'm hamgyffred. | |
| (1, 0) 476 | Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod? |
| (Efa) Nagwyf! | |
| (1, 0) 482 | Rwyf mewn cariad o hyd. |
| (Efa) Ble mae hi? | |
| (Efa) Dyma'r tro cyntaf i mi 'ch clywed chi'n sôn amdani! | |
| (1, 0) 485 | Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno. |
| (Efa) Heno? | |
| (1, 0) 488 | Mae Meurig yn dianc. |
| (1, 0) 490 | Efa! |
| (1, 0) 491 | Rwy'n 'ch caru chi. |
| (1, 0) 492 | Nid rhywbeth sydyn yw hyn. |
| (1, 0) 493 | Rwyf wedi bod yn ymladd yn i erbyn e' ers misoedd, ond heno mae'n rhaid i mi siarad. |
| (Efa) Na! | |
| (Efa) Na! | |
| (1, 0) 495 | Ni fwriedais ddweud fy nghyfrinach wrth neb fyth. |
| (1, 0) 496 | Roedd gen i ormod o barch tuag atoch chi a Meurig. |
| (1, 0) 497 | Ond mae Meurig yn mynd i ffwrdd, ac mae'r ffaith hynny'n newid popeth. |
| (1, 0) 498 | Rwyf am i chithau ddod i ffwrdd gyda fi. |
| (Efa) Peidiwch! | |
| (Efa) Peidiwch! | |
| (1, 0) 500 | Mae'n bryd i ni gyd wynebu'r ffeithiau! |
| (1, 0) 501 | 'Does dim dyfodol i chi a Meurig gyda'ch gilydd. |
| (1, 0) 502 | Mae Meurig wedi cydnabod hynny heno. |
| (Efa) Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo. | |
| (Efa) Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo. | |
| (1, 0) 504 | Nid oes 'ch angen chi ar Meurig! |
| (1, 0) 505 | Fawr iawn o barch mae e' wedi ei ddangos i chi erioed. |
| (1, 0) 506 | 'Rwy' wedi sylwi ar ei ymddygiad droeon, a'r profiad yn fy nghynhyrfu i'r gwraidd. |
| (1, 0) 507 | Wn i ddim ar y ddaear sut y llwyddais i'm hatal fy hun rhag ymyrryd. |
| (Efa) Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen! | |
| (Efa) Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen! | |
| (1, 0) 509 | 'Doedd gen i mo'r hawl. |
| (Efa) Rhaid fy mod i'n ddall... | |
| (Efa) Ond fe welodd Meurig trwy'r cyfan! | |
| (1, 0) 512 | Naddo! |
| (1, 0) 513 | 'Roeddech chi a Meurig yn ymbellhau oddiwrth 'ch gilydd ymhell cyn i mi ddod i'r pentref. |
| (Efa) Mawr fy nghywilydd i! | |
| (Efa) Mawr fy nghywilydd i! | |
| (1, 0) 515 | Beth amdano fe? |
| (Efa) Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw. | |
| (Efa) Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw. | |
| (1, 0) 517 | Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr! |
| (Efa) Beth amdanoch chi, Josef? | |
| (Efa) Fy chwennych i yr ych chi! | |
| (1, 0) 521 | I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd. |
| (Efa) Mae 'ch cynllun yn rhy syml. | |
| (Efa) Mae 'ch cynllun yn rhy syml. | |
| (1, 0) 523 | Dyna ei ogoniant. |
| (Efa) Nage. | |
| (Efa) Yr ych chi'n cynghori dianc eto! | |
| (1, 0) 529 | Efa! |
| (1, 0) 530 | Mae bywyd yn fyr. |
| (1, 0) 531 | Nid oes ystyr i fywyd, os nad i chwilio am nefoedd fach yn rhywle. |
| (Efa) Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd. | |
| (Efa) Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd. | |
| (1, 0) 533 | Felly, yr ych chi'n gwrthod? |
| (Efa) Mae'n rhaid i fi. | |
| (1, 0) 539 | Efa annwyl. |
| (1, 0) 541 | Fe ddywedsoch y gwir gynnau fach... |
| (1, 0) 542 | Mae'n hyfory ni wedi mynd. |
| (1, 0) 543 | Fe gawn ffarwelio heno. |
| (Efa) Nid ffarwelio! | |
| (Efa) Nid ffarwelio! | |
| (1, 0) 545 | Cyn daw'r chwerw. |
| (1, 0) 546 | Oni dyna fydd orau i ni? |
| (Efa) {Erys yn hir cyn ateb.} | |
| (Meurig) Ond efallai nad yw'r miwsig mor bwysig wedi'r cyfan! | |
| (1, 0) 554 | 'Roeddwn ar fynd. |
| (Meurig) {Yn wawdlyd.} | |
| (1, 0) 568 | 'Ch aelwyd chi... ac Efa. |
| (Meurig) lefe? | |
| (Meurig) Bob tro y do i adre mae rhyw ddieithryn wedi cydio yn y lle. | |
| (1, 0) 572 | Nagoes, Meurig. |
| (1, 0) 573 | Mae'r aelwyd 'ma'n barod i'ch croesawu chi bob amser. |
| (Efa) Yr wyt ti allan mor amal. | |
| (Efa) | |
| (1, 0) 579 | Rwy'n cydnabod fy mod i'n ymwelwr cyson, ond 'roedd y tŷ hwn yn noddfa. |
| (Meurig) Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth! | |
| (Meurig) Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth! | |
| (1, 0) 581 | Credais fy mod i'n cael croeso. |
| (Meurig) Ac fe gawsoch. | |
| (Meurig) Gyda hon! | |
| (1, 0) 584 | Gyda'r ddau ohonoch chi. |
| (Meurig) Dyna gelwydd! | |
| (Meurig) Ydych chi am ddweud na sylwoch chi ar hynny? | |
| (1, 0) 590 | Efallai fe fûm i'n ddall. |
| (Meurig) Mi ddyweda' i pam! | |
| (Meurig) Fe gawsoch 'ch dallu gan Efa! | |
| (1, 0) 596 | Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd. |
| (Meurig) Dyma chi eto. | |
| (Meurig) Fe ddaw 'nôl. | |
| (1, 0) 611 | Dim y tro hwn. |
| (Meurig) Dyma newydd sydyn! | |
| (Meurig) Dyma newydd sydyn! | |
| (1, 0) 613 | Mor sydyn â'ch penderfyniad chi. |
| (Meurig) Ai hwnnw yw'r symbyliad? | |
| (1, 0) 616 | Nage. |
| (Meurig) {Edrych o'r un i'r llall.} | |
| (Meurig) Beth ych chi'n ddweud, Josef? | |
| (1, 0) 632 | Mae f'amser i'n rhy brin, Meurig. |
| (Meurig) Beth yw'r brys mawr ar ôl misoedd o oedi? | |
| (1, 0) 635 | Misoedd o waith ymchwil manwl, ac yna'r fflach a'r symud mawr. |
| (1, 0) 636 | Fe wyddoch y drefn, Meurig. |
| (1, 0) 637 | A chithau'n wyddonydd? |
| (Meurig) Beth a wyddoch chi am fywyd y labordy? | |
| (1, 0) 640 | Digon. |
| (1, 0) 641 | Gan i mi dreulio dros ugain mlynedd yn llafurio mewn un ohonynt. |
| (Meurig) Anwiredd! | |
| (1, 0) 644 | Nage, Meurig. |
| (Efa) O... pam ddaru i chi adael? | |
| (Efa) O... pam ddaru i chi adael? | |
| (1, 0) 646 | Fe fyddwch chi yn gallu deall... |
| (1, 0) 647 | Yn fy ngwlad i, offeryn yw'r gwyddonydd yn nwylo'r Awdurdodau politicaidd. |
| (1, 0) 648 | Offeryn heb enaid. |
| (Meurig) Pam nad ych chi'n dal swydd yn y wlad hon? | |
| (Meurig) Mae prinder gwyddonwyr. | |
| (1, 0) 651 | Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad? |
| (Efa) Yna i ble'r ewch chi, Josef? | |
| (1, 0) 654 | Adre. |
| (Efa) O nage! | |
| (Efa) Fe gaiff garchar neu'i ladd os aiff e' adre! | |
| (1, 0) 659 | Dim ond i'r corff mae carchar, Efa. |
| (Efa) Meurig! Dwed wrtho am aros! | |
| (Efa) Meurig! | |
| (1, 0) 664 | Diolch. |
| (1, 0) 665 | I'r ddau ohonoch chi. |
| (1, 0) 666 | I chi, Efa, am y breuddwyd... i chithau, Meurig, am y deffro. |