| (Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. | |
| (Adroddwr 2) Llais Jonah fab Amitai, yn ymweld â bro ei febyd... | |
| (1, 0) 28 | Ie, bro fy mebyd, cyn i greithiau Amser hagru ei lechweddau. |
| (1, 0) 29 | 'R hen bentref annwyl, 'r wyt ti yn y llwch ers llawer dydd, a'r llwyni'n llenwi dy winllannoedd. |
| (1, 0) 30 | Ni chlywir mwyach sibrwd machlud-haul cariadon, na thuchan toriad-gwawr y camel wrth dy fur. |
| (1, 0) 31 | Cripiodd y sgorpion i nyth y golomen; ymlusgodd yr asp dan garreg y drws. |
| (1, 0) 32 | Distawodd cleber y heolydd; mae dy farchnad lon yn fud. |
| (1, 0) 33 | Lle bu mwmial yr offeiriad, ceir crechwen oer y siacal gyda'r hwyr, ac estyn y blaidd ei wddf yn hir i udo'i salm i'r sêr... |
| (1, 0) 34 | Mor fregus a diflanedig yw gwaith dwylo dynion! |
| (1, 0) 35 | Maluriwyd dy furiau dithau, Gath Heffer; llithraist yn araf i angof y tywod tawel. |
| (1, 0) 36 | Ond mae'r bryniau moel yn aros, a dyma'r clogwyn serth yn dal i wgu ar y dyffryn. |
| (1, 0) 37 | Dringais i'w gopa ganwaith; nes i ddyddiau mebyd ddirwyn i ben, a dod yr amser i roi heibio bethau bachgenaidd... |
| (Mam) Jonah, 'wyt ti'n breuddwydio eto? | |
| (Mam) Helpu dy fam weddw druan 'ddyli ti, nid clertian o gwmpas fel hyn. | |
| (1, 0) 51 | le, ond mam─ |
| (Mam) Mae'n hen bryd i ti ddysgu crefft, 'machgen i. | |
| (Llongwr) A hoffit ti fynd yn forwr, 'machgen i? | |
| (1, 0) 58 | Na, 'd wy' i ddim yn meddwl. |
| (1, 0) 59 | Mae gen' i ofn mewn storm. |
| (Morwr) Ffwlbri babiaidd! | |
| (Morwr) I'r môr â thi, i ddilyn y wylan a chroesi llwybr 'r hen lefiathan. | |
| (1, 0) 65 | Lefiathan? |
| (1, 0) 66 | Be ydy' Lefiathan? |
| (Gyrrwr Camelod) Pysgodyn anferth a all dy lyncu fel y llwnc yr iâr falwoden. | |
| (Gyrrwr Camelod) Ninefe fawr, perl y dwyrain. | |
| (1, 0) 73 | Pa ddinas ydy' honno? |
| (Offeiriad) Mi ddywedaf wrthyt fy mab, gwrando air dy offeiriad. | |
| (Nathan) Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom. | |
| (1, 0) 90 | A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi? |
| (Nathan) Gwelaf—diolch i'r cymorth amdano! | |
| (Nathan) Mi gei aros yma tan y wawr os mynni! | |
| (1, 0) 96 | Mor agos ydy'r sêr, Nathan! |
| (1, 0) 97 | Pe bawn i'n estyn fy llaw mi fedrwn afael mewn dyrnaid ohonyn' nhw, a'u rhoi yn fwclis i mam!... |
| (1, 0) 98 | A dacw linyn arian i'w clymu, draw i'r gorllewin ar y gorwel! |
| (Nathan) Pelydrau'r lleuad ar rimyn o fôr, machgen i. | |
| (Nathan) 'Wyt ti wedi penderfynu nad ei di ddim yn llongwr? | |
| (1, 0) 101 | Ydw'. |
| (1, 0) 102 | 'Wna'i byth adael Gath Heffer. |
| (Nathan) Wel'd oes dim amdani felly ond bugail neu ffermwr. | |
| (Nathan) Wel'd oes dim amdani felly ond bugail neu ffermwr. | |
| (1, 0) 104 | 'Fydda'i 'run o'r ddau yna chwaith, Nathan. |
| (1, 0) 105 | 'R wy'n gwybod 'rŵan mai Proffwyd yr hoffwn i fod. |
| (Nathan) O? | |
| (Nathan) Mae hynny yn nwylo'r Bod Mawr, wyddost ti. | |
| (1, 0) 110 | O mi wn i hynny, ac 'r wy'n teimlo rhywsut y caf i arwydd, cyn bo hir, Ei fod Ef yn cyd-weld. |
| (Nathan) Felly? | |
| (Nathan) 'Wn i ddim yn iawn sut i ateb hynna! | |
| (1, 0) 113 | 'D oes arna'i ddim eisio bod yn Broffwyd mawr 'run fath ag Elias, cofiwch. |
| (1, 0) 114 | Na, na proffwyd bach i wasanaethu pentref ac ardal Gath Heffer yn unig. |
| (Nathan) 'Wyt ti'n meddwl y bydd Yr Hollalluog vn barod i dderbyn yr amod yna? | |
| (Nathan) 'Wyt ti'n meddwl y bydd Yr Hollalluog vn barod i dderbyn yr amod yna? | |
| (1, 0) 116 | 'R wy' i'n meddwl Ei fod yn gweld fy ochor i i'r cwestiwn, Nathan. |
| (Nathan) O? | |
| (Nathan) 'Weli di rywbeth yn symud i fyny acw? | |
| (1, 0) 123 | Ble? |
| (Nathan) Draw wrth ymyl y twmpath drain. | |
| (Nathan) Draw wrth ymyl y twmpath drain. | |
| (1, 0) 125 | O dan yr hen gorlan? |
| (Nathan) Ia—cadw dy lygaid yn agored. | |
| (Nathan) Ia—dyna hi'n dwad i'r golwg ar y gair! | |
| (1, 0) 129 | Mae yna rywbeth yn ci dilyn hi hefyd, welwch chi? |
| (1, 0) 130 | Blaidd, Nathan, blaidd! |
| (1, 0) 131 | Dyna fe'n llithro allan o'r cysgod! |
| (Nathan) Y cnaf mileinig, wedi cripian i lawr o'r ochor arall! | |
| (Nathan) Y cnaf mileinig, wedi cripian i lawr o'r ochor arall! | |
| (1, 0) 133 | Be' wnawn ni? |
| (Nathan) Fe fydd wedi'i llarpio cyn i mi fynd ganllath. | |
| (Nathan) 'Rwan, aros di wrth y gorlan yma rhag bod ei gymar o gwmpas. | |
| (1, 0) 137 | O'r gora', Nathan. |
| (Nathan) Cofia paid â symud ar fôn dy fywyd. | |
| (1, 0) 142 | 'Fydd o byth digon buan! |
| (1, 0) 143 | Mae'r hen flaidd wrth ei chwt hi. |
| (1, 0) 144 | Dos yn ôl, 'rhen flaidd, dos yn ôl! |
| (1, 0) 145 | Ar fôn dy fywyd paid â llarpio gafr Eliasar!... |
| (1, 0) 146 | Os medraf arbed bywyd yr hen afr, mi fyddaf yn gwybod bod yr Arglwydd wrth fy ochr. |
| (1, 0) 147 | Hwnnw fydd yr arwydd Iddo fy newis yn Broffwyd... |
| (1, 0) 148 | Gwranda, flaidd—yr wyf fi, Jonah fab Amitai, yn dy rybuddio: os niweidi di flewyn arni, mi alwaf ar fellten i'th daro'n farw yn y fan. |
| (1, 0) 149 | Yn ôl, yr hen flaidd llwyd, yn ôl, yn ôl... |
| (1, 0) 150 | Mae—mae o'n llithro i'r cysgod ac yn rhedeg i ffwrdd! |
| (1, 0) 151 | Mae o wedi ufuddhau i 'ngorchymyn! |
| (1, 0) 153 | Nathan! |
| (1, 0) 154 | Nathan! |
| (1, 0) 155 | Edrychwch! |
| (1, 0) 156 | Mae'r hen flaidd wedi mynd! |
| (1, 0) 157 | Dyna'r arwydd, Nathan, dyna'r arwydd! |
| (1, 0) 158 | Dewisodd yr Arglwydd fi'n Broffwyd yng Ngath Heffer. |
| (1, 0) 159 | 'R wy'n broffwyd, yn broffwyd, yn broffwyd...! |
| (Pentrefwyr) {Dod i'r golwg dan lefaru'n goeglyd.} | |
| (1, 0) 179 | Ond mewn hanner breuddwyd y tyfais i o fachgendod i oedran pwyll. |
| (1, 0) 180 | Ac yn raddol mi sylweddolais fod cwrs fy mywyd yn wir wedi'i drefnu i ddiben arbennig. |
| (1, 0) 181 | Pa ddiben, ni wyddwn yn iawn ar y pryd, ond disgwyliwn beunydd am weledigaeth glir a phendant fel fflach mellten. |
| (1, 0) 182 | 'R wy'n gweld fy ffolindeb yn awr na fuaswn wedi ymollwng yn amyneddgar i'r Ewyllys Ddwyfol. |
| (1, 0) 183 | Yn lle hynny, mi geisiais swcro ffafr Rhagluniaeth drwy gwrs o ympryd, sachlian a lludw. |
| (1, 0) 184 | Ond ymbalfalu yn y tywyllwch yr oeddwn o hyd, er i mi wneud gwaith pur dda o dro i dro, os caf ddweud fy hun. |
| (1, 0) 185 | Ac o dipyn i beth, daeth hyd yn oed hynafgwyr ceidwadol Gath Heffer i gymryd sylw ohonof... |
| (Tobias) Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna? | |
| (1, 0) 247 | Eto gwrandewch, chwi bentrefwyr Gath Heffer, a derbynied eich clust leferydd yr Arglwydd. |
| (1, 0) 248 | Yr hwn sy'n gwneud y corwynt yn gerbyd iddo, ac yn casglu'r mellt fel saethau yn Ei law. |
| (1, 0) 249 | Canys efe a edrychodd i lawr o'r nef ac a welodd eich holl gamweddau. |
| (1, 0) 250 | A'i air a ddaeth ataf yn y diffeithwch gan ddywedyd: |
| (1, 0) 251 | "Jonah, fab Amitai, dos atynt a mynega iddynt gynddaredd fy llid. |
| (1, 0) 252 | Ymlygrasant gan wawdio fy neddfau santaidd; ffieidd-waith a wnaethant gydag eilunod. |
| (1, 0) 253 | Am hynny, rhua arnynt megis llew o'i ffau, ie, fel llew rheibus gyda'i ysglyfaeth." |
| (1, 0) 255 | Gochelwch felly, gyfeillion, a chymdogion, rhag i'r llew eich llarpio yn Ei ddigofaint. |
| (1, 0) 256 | Gwrandewch ar un a aned ac a fagwyd yn eich plith. |
| (1, 0) 257 | Un sy'n awr yn sefyll rhyngoch a dialedd yr Arglwydd. |
| (1, 0) 258 | Canys Efe a roddodd Ei fysedd ar linynnau fy nghalon, ac ni allaf atal f'ymadrodd. |
| (1, 0) 259 | Yr wyf fi, Jonah fab Amitai, yn dywedyd wrthych: trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod. |
| (1, 0) 260 | Trowch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd-dra... |
| (Gwraig) Cyfiawn lid yr Arglwydd! | |
| (I Gyd) Dwg ni'n ôl i fendith Duw... | |
| (1, 0) 274 | Do, fe gafodd fy mhregeth gyntaf fwy o effaith nag a freuddwydiais i 'rioed. |
| (1, 0) 275 | Ac wrth gwrs mi fanteisiais ar y cyfle. |
| (1, 0) 276 | A thrwy fygwth tân a brwmstan ar eu pennau mi lwyddais i'w cael yn ôl i well trefn o fywyd. |
| (1, 0) 277 | Ond os bu hynny o les iddyn' nhw, fe wnaeth gryn niwed i mi. |
| (1, 0) 278 | O fod yn greadur swil a diymhongar, dyma fi'n fy nghael fy hun yn brif ddyn y pentref a'r ardal. |
| (1, 0) 279 | Ac mi gefais fwy o awdurdod a dylanwad na lled f'ysgwyddau. |
| (1, 0) 280 | Y canlyniad oedd balchter ac ymffrost a chulni anoddefgar. |
| (1, 0) 281 | Dyna'r cyflwr truenus 'r oeddwn i ynddo y diwrnod mawr hwnnw pan newidiwyd cwrs fy mywyd. |
| (1, 0) 282 | 'R oeddwn i'n eistedd yn fy 'stafell, 'r wy'n cofio, pan ddaeth cysgod ar draws y drws, a llais merch yn galw arnaf... |
| (Rachel) {Dod i mewn, yn wylaidd.} | |
| (1, 0) 290 | Ia—pwy sydd yna? |
| (Rachel) Fi—Rachel. | |
| (Rachel) Fi—Rachel. | |
| (1, 0) 292 | 'Wyddost ti ddim fy mod i'n myfyrio yr adeg yma o'r dydd? |
| (Rachel) Ydw, ond... | |
| (Rachel) Ydw, ond... | |
| (1, 0) 294 | A 'mod i wedi siarsio nad oes yna neb i aflonyddu arna' i? |
| (Rachel) Mae'n ddrwg gen' i Jonah, ond─ | |
| (Rachel) Mae'n ddrwg gen' i Jonah, ond─ | |
| (1, 0) 296 | Ac eto 'r wyt ti'n beiddio anwybyddu fy ngorchymyn! |
| (1, 0) 297 | 'Wyt ti ddim yn sylweddoli bod gen' i'r gallu i alw ar fellten i'th barlysu yn y fan? |
| (Rachel) Ond os caf i egluro─ | |
| (Rachel) Ond os caf i egluro─ | |
| (1, 0) 299 | Paid â thorri ar fy nhraws. |
| (1, 0) 300 | 'Oes yna ddim dysgu arnoch chi, bentrefwyr gwargaled a gwrthnysig? |
| (1, 0) 301 | Ac edrych arnat dy hun—â'th sandalau coch, dy fwclis a'r modrwyau gwrthun yna yn dy glustiau. |
| (1, 0) 302 | Ia, â'th wallt wedi'i gribo'n ôl fel cynffon llwynog. |
| (1, 0) 303 | 'Oes gen' ti ddim cywilydd? |
| (Rachel) 'Dydw' i ddim ond dilyn y ffasiwn, Jonah. | |
| (Rachel) 'Dydw' i ddim ond dilyn y ffasiwn, Jonah. | |
| (1, 0) 305 | Felly wir! |
| (1, 0) 306 | Rhaid rhoi celyn ar ffasiwn sy'n gwneud hoedennod anweddus o ferched Abram. |
| (1, 0) 307 | Paid â gadael imi weld y fath olwg arnat ti eto. |
| (1, 0) 308 | 'Fynna' i ddim i strydoedd Gath Heffer fod fel heolydd anfoesol Ninefe. |
| (1, 0) 309 | Ac yn awr, dos cyn i ti drethu mwy ar f'amynedd. |
| (Rachel) Ond—ond 'dydw' i ddim wedi dweud fy neges eto. | |
| (Rachel) Ond—ond 'dydw' i ddim wedi dweud fy neges eto. | |
| (1, 0) 311 | Wel? |
| (1, 0) 312 | Beth ydy' o? |
| (Rachel) Dim ond bod yna ddyn yn dwad i'ch gweld. | |
| (Rachel) Dim ond bod yna ddyn yn dwad i'ch gweld. | |
| (1, 0) 314 | Pa ddyn? |
| (Rachel) 'Wn i ddim. | |
| (Rachel) 'Ddywedodd o ddim ond ei fod o eisiau i chi baratoi eich hun i'w dderbyn. | |
| (1, 0) 318 | O felly wir! |
| (1, 0) 319 | Fe gaiff gymryd ei dwrn fel pawb arall, pwy bynnag ydy' o. |