| (1, 0) 16 | Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall. |
| (1, 0) 17 | Dengys ei lodrau gwynion mai chwarelwr ydyw, chwarelwr yn byw ar dyddyn, y math perffeithiaf o werinwr a allodd gwareiddiad Cymru ei godi eto; dyn distaw penderfynol, ac ôl diwylliant nid bychan ar ei iaith a'i foes. |
| (1, 0) 18 | Gwasged gordoroy werdd, a chôt frethyn lychlyd am dano. |
| (1, 0) 19 | Dyry ei esgidiau am ei draed yn bwyllog, ac yna, cyfyd i fyny ei freichiau i ymestyn. |
| (1, 0) 20 | Saif fel pe bai rhwng dau feddwl am funud, a dyry ochenaid ddofn, ond â allan yn araf drwy'r drws, a daw'n ol ymhen munud neu ddau, gyda choed tân yn un llaw, a glo mewn bwced yn y llall; penlinia o flaen y tân, gan ddechreu ei osod. |
| (1, 0) 21 | ~ |
| (1, 0) 22 | Yna daw Catrin Morris i lawr, gwraig ieuanc brydweddol, serchog yr olwg, dan glymu ei barclod o'r tu ol. |
| (1, 0) 23 | Cymer lamp oddiar y dresel i'w goleu, ac wrth siarad a'i gŵr, y mae'n paratoi'r bwrdd at bryd. |
| (Catrin) Ewch i molchi, John, a gadwch i'r tân yna. | |
| (Catrin) Mi goleua i o. | |
| (1, 0) 26 | Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth. |
| (Catrin) O'r gora, brysiwch wir; mae hi'n oer ofnadwy i sefyllian o gwmpas, a chitha wedi cael annwyd fel rydech chi. | |
| (Catrin) Oes rhwbeth ar ych meddwl chi, deudwch? | |
| (1, 0) 32 | Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny? |
| (Catrin) Ych clywed chi'n ochneidio, a'ch gweld chi'n edrych mor syn. | |
| (Catrin) Rhoswch, dowch yma, John; mi wn i bedi'r mater. | |
| (1, 0) 35 | Beth, meddwch chi? |
| (Catrin) Poeni rydech chi fod yr hen fargen yna yn y chwarel wedi mynd mor sâl, ac ofn arnoch chi na chewch chi ddim digon o gyflog y mis yma i dalu'r addewid at ddyled y capel. | |
| (Catrin) Wel, wir, wn i ddim i beth rydech chi'n gneud baich o'ch crefydd fel hyn─tasa bawb yn rhoi cystal at yr achos ag yr yden ni 'n roi, fasa raid poeni dim pan ddaw ambell i fis gwan fel hyn heibio. | |
| (1, 0) 38 | Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha. |
| (Catrin) Wel, dowch i gael ych brecwast ynte, mae'r y tê yn barod. | |
| (Catrin) Dowch, deudwch wrth ych gwraig. | |
| (1, 0) 47 | Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch? |
| (Catrin) Chwe blynedd i fis Ebrill dwytha; mi ddylech chi gofio cystal a finna. | |
| (Catrin) Chwe blynedd i fis Ebrill dwytha; mi ddylech chi gofio cystal a finna. | |
| (1, 0) 49 | le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna? |
| (Catrin) Gwylia? | |
| (Catrin) Mynd am dro'n bell ydech chi'n feddwl? | |
| (1, 0) 53 | Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel? |
| (Catrin) Dim ond yr wythnos y bu'ch mam farw, rydw i'n meddwl. | |
| (Catrin) Ydech chi'n meddwl mynd am dro i rywle? | |
| (1, 0) 57 | Wn i ddim, neno'r tad annwyl. |
| (1, 0) 58 | Rydw i'n dechra blino ar yr hen chwarel yna; ydw wir. |
| (1, 0) 59 | Mi fydda i'n meddwl weithia am fynd oddiyma i Awstralia neu rywle arall─yn ddigon pell, lle caiff rhywun dâl gonest am i waith... |
| (1, 0) 60 | Mae Tomos ych brawd yn cadw sŵn o hyd arna'i fynd hefo fo. |
| (Catrin) Peidiwch a chyboli, wir─lle cawn arian i gychwyn, ydech chi'n feddwl? | |
| (Catrin) Dydech chi ddim yn hapus yma hefo mi ag Ifan bach, John? | |
| (1, 0) 63 | Wyddoch chi'n iawn y mod i'n hapus yma, Catrin─ar ych cownt chi ag Ifan yr ydw i'n poeni. |
| (1, 0) 64 | Rydw i'n câl digon o bopeth sy arna i eisio, ond mi fyddai'n ama weithia y byddwch chi ag Ifan bach yn byw ar wynt a dŵr pan fyddai yn y chwarel... |
| (1, 0) 65 | Wel, wir, waeth imi dewi. |
| (1, 0) 66 | Fedrwn i byth adael yr hen le yma debig, er mor gandryll ydi o─hen aelwyd y nhad a mam─y siambar lle buon nhw i gyd farw, a'r hen gapel lle ces i'r olwg gynta... |
| (1, 0) 67 | Ar hen lwybra yma lle buon ni'n caru ystalwm... |
| (1, 0) 68 | Does arna i fawr o eisio bwyd y bore yma. |
| (Catrin) {Yn codi ac yn sefyll y tu ol iddo a'i dwylo ar ei ysgwydd.} | |
| (Catrin) John? | |
| (1, 0) 71 | Wel? |
| (Catrin) Deudwch beth sy wedi'ch styrbio chi'r bora ma... mi wela fod yna rwbeth go fawr o'i le arnoch chi. | |
| (Catrin) Deudwch beth sy wedi'ch styrbio chi'r bora ma... mi wela fod yna rwbeth go fawr o'i le arnoch chi. | |
| (1, 0) 73 | Newch chi ddim ond chwerthin am y mhen i, mi wn, dawn i'n deud wrthoch chi. |
| (1, 0) 74 | Ydi Mr. Jones y scŵl yn sôn am godi Ifan i'r |First Class| y tro yma? |
| (Catrin) Hitiwch chi befo Ifan,─troi'r stori ydi peth fel yna... | |
| (Catrin) Deudwch wrtha i, nghariad i. | |
| (1, 0) 77 | Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i. |
| (Catrin) Wna i ddim chwerthin, John, mi wyddoch yn iawn. | |
| (1, 0) 80 | Hen freuddwyd câs gês i neithiwr. |
| (1, 0) 81 | Mi fuom i bron a'ch deffro chi, i ddeud owrthoch chi, ond mi feddylis y basa'n well peidio, wedyn, ac mae'n debig imi huno tipin rhwng rhyw gwsc ac effro wedyn. |
| (1, 0) 83 | Mae'n gâs genni feddwl am dano fo, na'i ddeud o. |
| (Catrin) Wel, mi fydd oddiar ych meddwl chi wedi i chi ddeud o. | |
| (Catrin) Dowch. | |
| (1, 0) 86 | Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch? |
| (Catrin) Wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi,─bydda ac na fydda chwaith. | |
| (Catrin) Wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi,─bydda ac na fydda chwaith. | |
| (1, 0) 88 | Mi fyddai'n meddwl weithia fod yna ryw synnwyr ymhob dyn wedi mynd ar goll, rhywbeth sy gan yr anifeiliaid nag sy gynnon ni, a phan fydd y synwyra erill yn cysgu, mi fydd hwnnw'n cael i gyfle i ddeud gair weithia. |
| (1, 0) 89 | Ydech chi'n y nghofio i'n sôn am Sion y Muria rywdro? |
| (Catrin) Hwnnw fu'n gweithio yn ych ymyl chi ym Mhonc Mosus? | |
| (Catrin) Hwnnw fu'n gweithio yn ych ymyl chi ym Mhonc Mosus? | |
| (1, 0) 91 | la, dyna fo─y creadur meddwa yn yr holl sir, heb ddim dowt.. |
| (1, 0) 92 | Mi fethodd y capal, ag mi fethodd y jêl, mi fethodd i wraig o a'i blant i droi o,─fydda fo byth yn sobor. |
| (1, 0) 93 | Ond mi freuddwydiodd ryw noson i fod o wedi lladd i wraig a'i blant bach yn i ddiod, a phan ddeffrodd o yn y bore, mi aeth ar i union cyn brecwast at Mr. Huws, Sardis, i seinio dirwest, a chyffyrddodd o â dafn byth wedyn. |
| (1, 0) 94 | Mae o'n coelio hyd heddiw tasa fo wedi meddwi unwaith wedyn y basa fo wedi gneud fel yr oedd o'n breuddwydio. |
| (1, 0) 95 | Mae ambell un yn medru gweld yng ngola llwyd i freuddwyd yr hyn na feder o weld yn llygad haul pan yn effro; mae'r gola yn i ddallu o. |
| (Catrin) Medru gweld beth? | |
| (Catrin) Medru gweld beth? | |
| (1, 0) 97 | Gweld drwy amser, Catrin, heb len o gwbl. |
| (1, 0) 98 | Mae yna ddwy len o'n cylch ni, un o'n hola ni, sef llen y gorffennol, ac un o'n blaena, sef llen y dyfodol. |
| (1, 0) 99 | Mae'r co yn medru gweld drwy'r llen gynta, ac mae yna ryw synnwyr arall yn medru gweld drwy'r llall, pan fyddwn ni'n breuddwydio. |
| (Catrin) Fedrai ddim mynd ar ych hol chi yn y fan yna, John; rydech chi'n ormod o sglaig i mi... | |
| (1, 0) 103 | Wel, mi welwn fy hunan wrthi hi'n tyllu ar wyneb y graig, a Tomos ych brawd, fel arfer, yn taro imi. |
| (1, 0) 104 | Mi fuon ni wrthi hi yn ddygyn am oria, debygwn i, a phan oedden ni ar ddarfod, dyma'r corn yn canu, a ninna'n codi i fynd at y trên i ddwad adre, ond cyn y mod i wedi rhoi fy nghôt am dana, mi welwn ddyn ar ben y clogwyn yn galw arna i wrth f'enw, ac yn gwaeddi |wâr|, a chyn i fod o wedi tewi, mi welwn y graig wrth yn penna ni yn gwegian ac yn plygu drosodd, ac i lawr a hi am yn penna ni. |
| (1, 0) 105 | Mi welwn blyg mawr yn taro Tomos yn i ben, a wedyn dyma'r cwbwl i lawr, am danon ni... |
| (1, 0) 106 | Mi ddeffris yn chwys oer drosta'i gyd, ac yn crynu fel deilen... |
| (1, 0) 107 | Catrin, wyddoch chi pwy oedd y dyn oedd yn gwaeddi |wâr| arnai? |
| (Catrin) {Yn gyffrous.} | |
| (1, 0) 111 | Yr hen Huw Lewis y Buarth,─hwnnw gafodd i ladd pan syrthiodd y Clogwyn Mawr ystalwm. |
| (Catrin) {Ymhen ychydig}. | |
| (1, 0) 116 | le, rydw i fel Joseph yn breuddwydio ar y mwya, bob amser─ond breuddwyd hollol ddisynnwyr oedd hwnnw. |
| (1, 0) 118 | Ond dyma i chi rwbeth mwy rhesymol. |
| (1, 0) 119 | Rydw i dest a pheidio mynd i'r chwarel─heblaw fod arnon ni eisio arian i orffen pen y flwyddyn yn y capel, dawn i ddim chwaith. |
| (Catrin) Peidiwch a gadael imi'ch perswadio chi beth bynnag, y naill ffordd na'r llall. | |
| (Catrin) Gnewch chi fel rydech chi'n meddwl yn ora, John bach. | |
| (1, 0) 122 | Ie, dim iws rhoi coel ar bopeth─esgus dyn diog ydi peth felly yn amal. |
| (1, 0) 123 | Rhaid imi fynd i molchi. |
| (Catrin) Dim gair, Tomos, cofia. | |
| (1, 0) 144 | Hylo, Twm, ti sy'na? |
| (1, 0) 145 | Sut mae hi'n canu? |
| (1, 0) 146 | Beth wyt ti'n neud yma mor fora? |
| (Tomos) Eisio dy weld ti.─ | |
| (1, 0) 151 | Beth! ddim am fynd i'r chwarel? |
| (1, 0) 152 | A hitha'n ben y mis? |
| (1, 0) 153 | Wyt ti'n wael? |
| (Tomos) Nag ydw i, ond pen y mis neu beidio, dydw i ddim am fynd. | |
| (Tomos) Nag ydw i, ond pen y mis neu beidio, dydw i ddim am fynd. | |
| (1, 0) 155 | Bedi'r rheswm? |
| (1, 0) 156 | Wyt ti'n mynd i briodi, dwad? |
| (1, 0) 157 | Ynte wyt ti'n mynd i riteirio a byw'n ŵr bonheddig? |
| (Tomos) Mi riteiria i o'r byd yma os â i i'r chwarel heddiw, rydw i'n ddigon siwr o hynny. | |
| (Tomos) Mi ges hen freuddwyd cas iawn neithiwr. | |
| (1, 0) 162 | Eh! |
| (1, 0) 163 | Breuddwyd? |
| (1, 0) 164 | Beth odd o? |
| (Tomos) Wel, mi welwn fy hun yn taro iti ar wyneb y graig, a thitha'n dal yr ebill. | |
| (1, 0) 169 | Ddaru ti ddal sylw ar y dyn oedd yn gweiddi |wâr|? |
| (Tomos) Do. | |
| (Tomos) Do. | |
| (1, 0) 171 | Pwy oedd o? |
| (Tomos) Wel, rhyw frith atgo sy genni am dano fo; ond roeddwn i'n meddwl mai'r hen Huw Lewis y Buarth oedd o,─dyna dychrynodd fi gymint. | |
| (Catrin) Dydi John ddim yn mynd i'r chwarel chwaith, Twm. | |
| (1, 0) 175 | Wel, dyma'r peth rhyfedda glywis i erioed. |
| (1, 0) 176 | Wyddost ti beth? |
| (1, 0) 177 | Mi freuddwydis inna 'r un breuddwyd yn union neithiwr. |
| (Tomos) Yr un breuddwyd, beth wyt ti'n feddwl? | |
| (Tomos) Yr un breuddwyd, beth wyt ti'n feddwl? | |
| (1, 0) 179 | Ia, yr un breuddwyd yn union, air am air, a mi glywis yr hen Huw Lewis yn galw |wâr| a phopeth fel y deudisti. |
| (Tomos) {Ar ol distawrwydd mawr.} | |
| (Catrin) Nid yn amal y byddwch chi'n cael siawns i gysgu heb ddim yn galw arnoch chi. | |
| (1, 0) 186 | Ia, dyden ni ddim i fynd i'r chwarel heddiw, mae hynny'n amlwg ddigon. |
| (Tomos) Ydi─roeddwn i'n ddigon siwr o hynny cyn dwad yma, ond dawn i ddim yno rwan wedi clywed y peth glywis pe cawn i'r chwarel i gyd yn aur am fynd. | |
| (Tomos) Ydi─roeddwn i'n ddigon siwr o hynny cyn dwad yma, ond dawn i ddim yno rwan wedi clywed y peth glywis pe cawn i'r chwarel i gyd yn aur am fynd. | |
| (1, 0) 189 | Aros funud! |
| (1, 0) 190 | Faint well fyddwn ni wedi aros adre? |
| (1, 0) 191 | Doedd y breuddwyd ddim yn deud pa bryd yr oedd y ddamwain i fod,─hwyrach mai fory neu'r wythnos nesa, neu'r flwyddyn nesa... |
| (Catrin) Arhoswch chi adre heddiw ych dau beth bynnag, ac mi gewch weld beth ddigwydd yno heddiw. | |
| (1, 0) 194 | Wn i ddim, na wn i wir... |
| (1, 0) 196 | Dyna hi'r trên wrth Gefn y Gwyndy. |
| (Tomos) Gwna dy feddwl i fyny, ngwas i, i aros adre bellach... | |
| (Tomos) Gwna dy feddwl i fyny, ngwas i, i aros adre bellach... | |
| (1, 0) 198 | O'r gore. |
| (1, 0) 199 | Mi adwn ni iddi hi yn y fan yna ynte... |
| (1, 0) 200 | Dydw i ddim yn mynd. |
| (1, 0) 203 | Mae'r hogyn bach yna wedi cael annwyd ofnadwy yn rhywle... |
| (1, 0) 204 | Rhaid ini gymryd gofol hefo fo, neu mae o'n siwr o droi yn rhywbeth gwaeth arno fo. |
| (1, 0) 208 | Catrin! sana pwy ydi'r rhain? |
| (Catrin) Sana Ifan bach. | |
| (1, 0) 211 | Y mae nhw'n lyb dyferu! |
| (Catrin) Yn lyb? | |
| (Catrin) Yn lyb? | |
| (1, 0) 213 | Ia, teimlwch nhw... |
| (1, 0) 214 | Does dim rhyfedd fod y peth bach wedi cael annwyd... |
| (1, 0) 215 | Rhowch imi weld i sgidia fo. |
| (1, 0) 217 | Wel, edrychwch ar i sgidia fo... ond tydyn nhw'n dwll drwadd!... |
| (1, 0) 218 | Oes gynno fo bâr arall? |
| (Catrin) Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed. | |
| (Catrin) Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed. | |
| (1, 0) 223 | Faint o arian sydd yma yn y ty? |
| (Catrin) Dim ond deuswllt dan ben y mis. | |
| (Catrin) Dim ond deuswllt dan ben y mis. | |
| (1, 0) 225 | Oes coel i gael gan gryddion y Dre? |
| (Tomos) Nag oes, dim perig. | |
| (Tomos) Rhaid iti dalu arian parod am bopeth. | |
| (1, 0) 229 | Wel, dyna ben arni hi. |
| (1, 0) 230 | Fedra i ddim aros adra i ddiogi ag lfan bach heb sgidia am i draed... |
| (1, 0) 231 | Cadwch o yn i wely heddiw. |