| (1, 0) 7 | Byt gaws, bachan, i ti gael dyfod yn gryf i weithio. |
| (1, 0) 8 | 'Does dim gwell Ann ni yn Nyffryn Tywi i weithio caws, nas cyffrai. |
| (1, 0) 9 | Y mae'n un dda. |
| (Wil) {Yn codi oddiwrth y bwrdd yn ymestyn, ac yn rhoddi ochenaid, ac yn siarad ag ychydig lediaith.} | |
| (Wil) Thankyou, fi wedi cael dicon yn awr; fi wedi byta da iawn. | |
| (1, 0) 12 | O'r gore. |
| (1, 0) 13 | Cer nawr i roddi bwyd i'r anifeiliaid, da machan i. |
| (Ann) Yn wir, mishtir bach, mae yr hen grwt yna wedi mynd yn rhyfedd iawn oddiar pan ych chwi a finne wedi dechre caru. | |
| (1, 0) 18 | Lycoch chi nawr. |
| (1, 0) 19 | Pe byddai Wil Sais Bach mor brysur ac mor ofalus efo'i waith ac ydyw e efo'n caru ni, fe fyddai yn hogyn da ofnatsan. |
| (1, 0) 20 | Ond i newid yr ymadrodd, ys dywed y pregethwr, y mae yn ddealledig bellach dy fod di a minnau i ymuno mewn glân briodas. |
| (1, 0) 21 | Yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus, ac yr wyf yn gwbl gredu y gwnei di wraig dda hefyd. |
| (Ann) Eithaf da, mishtir bach, ond dwyf fi ddim am i chi gredu mai dim ond gyda chwi yr wyf wedi cael cynnyg priodi hefyd. | |
| (1, 0) 24 | Lycoch chi nawr. |
| (1, 0) 25 | Rhai budr i chi y merched am ddangos eich independancy, ac yr ydych yn leicio cael eich coaxio yn ofnatsan. |
| (Ann) Ie, ond yn siwr i chwi, ces i gynnyg pum mlynedd yn ol ar John, Tynyfron. | |
| (1, 0) 30 | Ie, lycoch chi nawr. |
| (Ann) Ac own ni yn mynd i weyd ta chi yn gadael llony i fi, ces i gynnyg hefyd ar William, gwas Ty'r-ddol. | |
| (Ann) Fe wariodd swlltau yn ffair G'langaea ar ffeirins i mi, ac mi dalodd am ride i mi ar y ceffylau bach hefyd, a mae bob nos Sul am fy hebrwng i adre o'r cwrdd. | |
| (1, 0) 33 | Lycoch chi nawr, wyt ti yn cael hwyl ar siarad heddyw, Ann, ond yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus i mi am bymtheg mlynedd, ac y mae ychydig o'th gyflogau, fel y gwyddost, yn aros heb eu talu o hyd. |
| (1, 0) 34 | Does gen i, wyt ti'n gweld, ddim ffashwn beth a thalent at garu fel sydd gan rai bechgyn, ond y mae yn hen bryd i ni ddod i'r penderfyniad bellach i fyw er gwell neu er gwaeth fel gwr a gwraig yn y Tyddyn Llwyd. |
| (Ann) O'r gore, mishtir bach, yr wyf yn eithaf boddlon, ond rhaid i mi gael amser i baratoi fy |nhress| briodas. | |
| (Ann) Fe briododd Mary, morwyn Plas-bach yn ei hen |ddress|, a mawr fu y siarad yn y pentre am hynny, ac y maent yn edrych i lawr ar Mary byth oddiar hynny. | |
| (1, 0) 38 | Lycot ti nawr. |
| (1, 0) 39 | Creaduriaid garw i chi y merched yma am eich gwisgoedd. |
| (1, 0) 40 | Byth nas cyffra i, mae |dress| y briodas yn fwy pwysig yng ngolwg llawer merch na'r dyn y mae yn briodi; ond o'r goreu, cymer di dy amser fy ngeneth i, i gael dy |ddress|,' ac fe gadwn ni y mater yn |secret| hyd yr awr apwyntiedig. |
| (Ann) Ia'n wir, charwn ni ddim i deulu clonc y pentre ddwad i wybod. | |
| (Ann) Y maent yn estyn at un stori, ac yn tynnu oddiwrth stori arall, ac nid yw y stori yn agos yr un fath wedi iddi fyned trwy ddwylaw a thafodau teulu y glonc. | |
| (1, 0) 44 | Lycot ti, nas cyffra i. |
| (1, 0) 45 | Creaduriaid budr am siarad yw y menywod yma. |
| (1, 0) 46 | Roedd Deio y Saer yn dweyd yn wastad mai y rheswm na fuasai |moustache| yn tyfu ar ên menyw fel y mae ar ên gwryw, nad ydyw gên menyw ddim yn llonydd yn ddigon hir i |moustache| i dyfu arni, ond cloncian neu beidio, y mae yn rhaid i ni eich cael chwi. |
| (1, 0) 47 | Os ydi menyw dipyn yn anhawdd byw efo hi, y mae yn anhawddach byth byw hebddi. |
| (Postman) {Yn dyfod i mewn gyda phac o lythyrau ac yn rhoddi llythyr ag ymyl ddu i JOHN JONES.} | |
| (Postman) Gobeithio nad oes ynddo newydd drwg, ond dyna fel y mae yr hen Bostman i chwi, cario hyd y byd newyddion da a drwg. | |
| (1, 0) 57 | Lycoch chi. |
| (1, 0) 58 | Llythyr oddiwrth, neu ynghylch Wil fy mrawd sydd yn yr America. |
| (1, 0) 59 | Druan o Wil. |
| (1, 0) 61 | Lycoch chi, peidiwch a chredu fy mod i yn |bad sort|, postman. |
| (1, 0) 63 | Lycot ti, Ann. |
| (1, 0) 64 | Cer i mofyn Morris y sgwlyn i ddarllen y llythyr. |
| (Ann) {Ar ol esgus trwsio tipyn yn rhedeg yn ei chloes.} | |
| (1, 0) 68 | Beth tybed ydyw'r newydd? |
| (1, 0) 69 | Llawer o bethau sydd yn fy mlino yn awr. |
| (1, 0) 70 | Llawer i gosfa dialedd roddais i i Wil pan oeddem yn blant. |
| (1, 0) 71 | A helynt garw y bu hi ynghylch ewyllys nhad. |
| (1, 0) 72 | Y ffaith am dani, yr oedd Wil yn fachan mor fawr, ac am berchenogi y cwbl. |
| (1, 0) 73 | Ond er mwyn dangos i'r gwalch pwy oedd drech, fe gafodd fyned o'r Tyddyn Llwyd heb ond ychydig yn ei logell. |
| (1, 0) 74 | Ond beth dâl whalu yn awr. |
| (1, 0) 75 | Garw mor hir y mae Morris cyn dod. |
| (1, 0) 76 | Garw y fath anfantais ydyw peidio cael ysgol. |
| (1, 0) 77 | Gallaf fi wneud yn lled dda i gowntio pris y menyn a'r wyau, a gallaf ddarllen ychydig adnodau o'r hen Lyfr yna, ond garw mor lleied y gallaf wneud o lythyr; ond dyma nhw yn dod. |
| (1, 0) 78 | Beth tybed yw y newydd. |
| (1, 0) 79 | Y mae fy nghalon yn curo fel ffustau machine dyrnu pan fo Darby a Bess wrth y |power|. |
| (Morris) {Dyn tua hanner cant oed, bywiog ei ysbryd, ysgolheigaidd ei olwg, ond yn ymddangos fel un wedi gweled amser gwell.} | |
| (Morris) Gobeithio nad oes ynddo |bad news|. | |
| (1, 0) 84 | Lycoch chi, dymafe. |
| (1, 0) 85 | A welsoch chi erioed ffasiwn beth, fedra i ddim gwneud na phen na chynffon ohono fo, |
| (Morris) {Yn gosod eye-glasses ar ei lygaid, ac yn darllen.} | |
| (Morris) Daeth o hyd i wythien o aur." | |
| (1, 0) 93 | Lycoch chi nawr, |well done| Wil fy mrawd. |
| (1, 0) 94 | Ile, un da oedd Wil erioed am gael gafael mewn rhywbeth. |
| (1, 0) 95 | Rwy'n cofio colli dafad un tro, pan oeddym yn blant, ac yr oeddym yn suspecto fod yna leidr wedi bod yn y lle. |
| (1, 0) 96 | Ond mi gafodd Wil ei |drack| e, a ble 'rych chwi yn meddwl ca'dd Wil afael yn y ddafad? a mi 'nabyddodd hi hefyd—ond yng nghrochan cawl Dai Shams Puw. |
| (1, 0) 97 | Ie, ewch ymlaen, Morris. |
| (1, 0) 98 | Gwythien o aur─ |
| (Ann) {Yn dawnsio gan lawenydd, ac yn cwro ei dwylaw.} | |
| (Ann) Ie, gwythien o aur, a finne yn gweithio blwyddyn gyfan am ddeuddeg punt, ac y mae ychydig o fy nghyflogau yn aros heb eu talu o hyd. | |
| (1, 0) 101 | Ewch ymlaen, Morris, gwythien o aur─ |
| (Ann) {Yn chwerthin gan lawenydd.} | |
| (Morris) "Heblaw y swm anferth o aur cafodd hefyd ffynhonnau o olew, a llawer iawn o nwy (gas) tra gwerthfawr; fel trwy y cyfan gwnaeth eich brawd William Jones, mewn oes gymharol fer, y swm anferth o dri chan mil o ddoleri, yn ol arian y wlad hon, yn ol arian eich gwlad chwi byddant yn rhyw driugain mil o bunnau." | |
| (1, 0) 105 | Triugain mil o bynnau, nas cyffra i—dyna waith da! |
| (Ann) Ma digon o'u heisiau nhw arnoch chi, mishtir bach. | |
| (Ann) Wedi i Pinken farw 'doedd gennych chwi ddim arian i gael buwch yn ei lle hi, a phe buaswn ni yn gwasgu am fy nhipyn cyflogau. | |
| (1, 0) 108 | Ewch ymlaen, Morris, wr glân, peidiwch a gwrando ar Ann. |
| (1, 0) 109 | Garw y fath ddiddordeb y mae yn gymryd yn arian pobl eraill. |
| (Ann) Arian pobl eraill yn wir, a minnau yn mynd─ | |
| (1, 0) 112 | Ewch ymlaen, Morris. |
| (Morris) {Yn darllen ymlaen.} | |
| (1, 0) 120 | Lycoch chi nawr. |
| (1, 0) 121 | Ddim mor gyfoethog a Holeford y Dderi. |
| (Morris) Lawer mwy cyfoethog. | |
| (Morris) Lawer cyfoethocach. | |
| (1, 0) 125 | Hwre. |
| (1, 0) 126 | Lycoch chi nawr. |
| (1, 0) 127 | Dyma fachan fydd yn torri sgwars. |
| (Ann) {Yn clapio ei dwylaw.} | |
| (Ann) hwre! | |
| (1, 0) 131 | Peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris. |
| (1, 0) 132 | Y mae wedi cael rhyw chwilen yn ei phen heddi eto. |
| (Morris) Quite so. | |
| (1, 0) 140 | Lycoch chi nawr. |
| (Ann) Chware teg i mishtir. | |
| (Morris) Ond fe fydd John Jones, coeliwch chwi fi, yn eistedd yn y set fawr yn Salem cyn bo chwech mis arall wedi mynd heibio. | |
| (1, 0) 148 | Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli. |
| (Morris) Quite so, ac nid yw hynny ond dechreu— | |
| (1, 0) 152 | Ie, lycoch chi nawr. |
| (Morris) Ac ymhellach, fe ellwch brynu llaw a chalon y ferch lanaf yn nyffryn Tywi am drigain mil o bunnau, a'i chael yn wraig yn y Tyddyn Llwyd, | |
| (Ann) Ychydig o gysur gaiff e gyda hi. | |
| (1, 0) 158 | Lycoch chi, peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris, y mae ei thafod yn hir ar brydiau. |
| (Morris) Quite so. | |
| (Morris) Byw a thorri |stroke| nes bo Jones y Gelli a Holeford y Dderi yn mynd na fydd dim son am danynt, a chyda y fath swm o gyfoeth fe allwch yn hawdd wneud hynny. | |
| (1, 0) 166 | Nas cyffra i. |
| (1, 0) 167 | Lycoch chi nawr. |
| (1, 0) 168 | Does dim a garem yn fwy na byw fel Holeford y Dderi a Jones y Gelli, oherwydd y maent yn cael eu hanner addoli am eu cyfoeth, a pham nad allaf finnau. |
| (1, 0) 169 | Ond y gwir ag e, Morris, yr wyf dipyn yn anllythrennog. |
| (1, 0) 170 | Yr wyf yn gallu gwerthu moch yn Llandilo, a menyn ym Mrynaman, ond nas cyffra i, wn i ddim o'r ffordd i weithredu yn y cylch y mae Holeford a Jones yn troi ynddo. |
| (Morris) O, y mae yn rhaid i chwi gael |Private Secretary|, Mr. Jones, a does dim a rydd mwy o bleser i mi na'ch gwasanaethu fel y cyfryw. | |
| (Morris) Mi a'ch cynorthwyaf i dorri y fath |stroke| nes synnu gwlad gyfan, a'ch gwneuthur yn deilwng o'ch safle fel y gwr bonheddig pennaf fagwyd erioed wrth droed y Mynydd Du. | |
| (1, 0) 175 | Lycoch chi, nawr. |
| (1, 0) 176 | Bachan helyg wyt ti, Morris. |
| (1, 0) 177 | Dyna setlo y peth. |
| (1, 0) 178 | Rho dy law. |
| (1, 0) 179 | Fi gwr bonheddig mawr a tithau yn |Private Secretary|. |
| (Morris) Quite so. | |
| (1, 0) 185 | Lycoch chi nawr. |
| (Morris) Ond y mae yn rhaid i chwi wrth lawer iawn o gyfnewidiadau, Syr. | |
| (Morris) Y mae |motor car| yn anhepgorol angenrheidiol i wneud gwr bonheddig. | |
| (1, 0) 198 | Lycoch chi nawr, pwy fydd yn drifo rhyw greadur fel hynny. |
| (1, 0) 199 | Alla i ddrifo Darby a'r cart am y goreu ag undyn, ond, nas cyffra i, wn i ddim y ffordd i ddrifo rhyw greadur fel yna, na wrandawa fe ddim ar "Gee," a "Come here," a "Woa." |
| (Morris) Fe wna Wil Sais Bach y tro fel |chaffeur|. | |
| (Morris) Y mae yn rhaid i chwi osod hwnna o'r neilltu, ac os bydd rhaid i chwi gael rhyw |slang word|, wel, dywedwch "|Snakes and Fiddlesticks|," y mae yn gweddu yn well i wr bonheddig. | |
| (1, 0) 209 | Lycoch chi nawr. |
| (1, 0) 210 | Snakes and Fiddlesticks. |
| (1, 0) 211 | Bachan helyg wyt ti, Morris, hefyd. |
| (Morris) Fe gawn ni weld ymhellach eto ynghylch hyn Syr. | |
| (Morris) Gwell i ni fynd yn awr i ordro y dillad a'r |motor|, ac efallai i gael dropin bach ym mharlwr y Red Lion i ddathlu yr amgylchiad ac i yfed llongyfarchiadau i John Jones Esquire, a'r trigain mil. | |
| (1, 0) 215 | Lycot ti nawr. |
| (1, 0) 216 | Snakes and Fiddlesticks. |