| (Adelina) {Mewn llais mursenaidd.} | |
| (Adelina) She always puts her feet up after dinner, and we didn't expect you so early. | |
| (1, 0) 12 | Erbyn pedwar wedodd Modryb Mary Jane inni ddod, a mae'n hynny nawr. |
| (1, 0) 18 | Siaradwch Gymraeg, ferch. |
| (1, 0) 19 | D'yw Mari Myfanwy ddim yn deall llawer o Sysneg. |
| (Adelina) {Gyda chwerthin bach mursenaidd.} | |
| (1, 0) 23 | Dyna gelwydd! |
| (Adelina) Here's an album. | |
| (Adelina) I think there are some photos of the family in it you might like to see, or perhaps you would like to look at this "Views of Llanelly". | |
| (1, 0) 27 | O, fyddwn ni yn all right. |
| (1, 0) 28 | Mi wnawn ni'n hunen yn gartrefol. |
| (Mari) {Yn rhoi ochenaid o ryddhad.} | |
| (Mari) Un felna yw 'i mam? | |
| (1, 0) 32 | O, dyna 'i ffordd nhw. |
| (1, 0) 33 | Mae'n dda gen i bod hi wedi'n gadel ni wrth yn hunen, achos mae ishe arna i ichi gael golwg dda ar y rwm 'ma. |
| (Mari) O, dyna grand! | |
| (1, 0) 38 | Dyna n'ewyrth Richard. |
| (1, 0) 39 | Odd e'n gwbod ffordd i neud arian, ta beth. |
| (1, 0) 40 | Dechreuodd fel bachgen negesi heb ddim ysgol, ac yn awr edrychwch ar y lle 'ma i gyd! |
| (1, 0) 42 | Mor wahanol i nhad druan. |
| (1, 0) 43 | 'Rodd n'ewyrth yn ddyn clefer iawn. |
| (Mari) {Yn codi ornament i fyny ac yn edrych arno.} | |
| (Mari) O, drychwch, Jim, ond yw hwn yn bert? | |
| (1, 0) 46 | Er mwyn popeth! dodwch hwnna i lawr. |
| (1, 0) 47 | 'Rych yn siwr o'i dorri e. |
| (Mari) {Yn edrych arno yn syn.} | |
| (1, 0) 52 | Dyna dreni i chi ddodi'r hat yna lan. |
| (1, 0) 53 | 'Rwi'n siwr y bydde Modryb Mary Jane yn meddwl y bydde'r sailor hat 'na yn ych taro chi'n well. |
| (Mari) Diws anwyl! | |
| (1, 0) 66 | Pidwch a siarad felna. |
| (1, 0) 67 | Mae miloedd o bunnau gyda Modryb Mary Jane. |
| (Mari) {Yn uchel ei ffroen.} | |
| (Mari) Lwc na chafodd i thad ddim gafael ynddyn nhw i roi rhagor o baent ar ei drwyn! | |
| (1, 0) 70 | O ddifri nawr, Mari Myfanwy, rwi'n moyn ichi gofio popeth rwi wedi weud wrthoch chi, achos 'rwi'n moyn i chi neud argraff dda ar Modryb Mary Jane. |
| (1, 0) 71 | Pidiwch ag edrych mor nervous, ferch! |
| (Mari) {Yn chwarae gyda'i menyg ac yn edrych yn anghysurus.} | |
| (Mari) Beth wedsoch chi wrtho i? | |
| (1, 0) 75 | 'Stim dress arall gyda chi? |
| (Mari) {Mewn syndod.} | |
| (Mari) Dim ond un ddu wi'n wishgo mewn angladde. | |
| (1, 0) 78 | Treni na fyddech chi wedi dodi hono mlan. |
| (1, 0) 79 | Fydde hi ddim yn dishgwyl mor—mor— |
| (Mari) {Yn frathlyd.} | |
| (Mari) Beth? | |
| (1, 0) 82 | Flighty! |
| (Mari) {Yn edrych yn sur.} | |
| (1, 0) 86 | Dyna'ch sgitshe gore chi? |
| (Mari) {Yn edrych arno mewn syndod.} | |
| (Mari) Beth yw hynny i chi? | |
| (1, 0) 89 | Dim. |
| (1, 0) 90 | Ond ro'n i'n meddwl y bydde Modryb Mary Jane yn meddwl y bydde nhw dipyn yn glumsy i'w drawing room. |
| (1, 0) 91 | Dyna dreni na ddodsoch y rhai arall! |
| (Mari) {Yn gwta.} | |
| (1, 0) 100 | Mari fach, arhoswch. |
| (1, 0) 101 | Dim ond moyn i narpar wraig edrych i gore'w i. |
| (1, 0) 102 | Mae hynny yn ddigon naturiol. |
| (Mari) Allwch chi weud hynny! | |
| (1, 0) 105 | Dewch 'nol. |
| (1, 0) 106 | Ych 'chi ddim yn moyn towli canpunt bant, odi chi? |
| (Mari) {Yn wawdlyd ac yn stopio.} | |
| (1, 0) 113 | Odi chi'n moyn inni briodi, Mari Myfanwy? |
| (Mari) Wrth gwrs. | |
| (Mari) Pidiwch a bod shwd ffwl! | |
| (1, 0) 116 | Wel, brodwn ni byth os na allwn ni gael y canpunt mas o Modryb Mary Jane. |
| (Mari) {Gyda mwy o ddiddordeb.} | |
| (Mari) Pam na wedsoch chi wrtho i am dano o'r blan? | |
| (1, 0) 122 | Oe'ni ddim moyn y'ch gwneud chi yn nervous. |
| (Mari) Cerwch ona, chi a'ch sgitshe, a'ch hat sailor, a'ch dress ddu! | |
| (Mari) Oes ar ych modryb ganpunt i chi? | |
| (1, 0) 126 | Wel, dim yn gwmws. |
| (1, 0) 127 | Ond fe addawodd 'newyrth Richard i nhad druan y rhoise fe start imi, ond odd e ddim wedi dodi hynny yn i wyllys. |
| (Mari) Y hi gadwodd e mas! | |
| (Mari) Y hi gadwodd e mas! | |
| (1, 0) 129 | Ond pan oedd e ar i wely ange gofynnodd i modryb roi canpunt i fi, a gwnath iddi addo hynny o flan Mr. Jones, Siloh, a thri o'r blanoriaid, a 'newyrth Rhys, a Mrs. Evans, a mam. |
| (Mari) A 'dyw'r hen scriw ddim wedi talu nhw eto? | |
| (1, 0) 132 | Nag yw. |
| (Mari) Falle na wnaiff hi ddim nawr. | |
| (Mari) Falle na wnaiff hi ddim nawr. | |
| (1, 0) 134 | Fydd raid iddi rywbryd, achos fe glywodd y bobl hyn i gyd, a bydd arni gwiddyl bido. |
| (1, 0) 135 | A'r unig beth sydd ofan arna i yw iddi gadel nhw imi yn i hewyllys, a dos dim golwg marw'n gloi arni—'dyw hi ddim ond hanner cant nawr. |
| (Mari) {Yn wangalon, ond mewn llais uchel.} | |
| (Mari) A mi fu Mari Daniel Trwyn Coch fyw i fod bedwar ugen! | |
| (1, 0) 138 | Sh-sh-sh! |
| (1, 0) 139 | Pidwch a gweiddi ne falle clywe nhw chi. |
| (Mari) Pam 'ych chi wedi bod mor hir heb drio cal y canpunt? | |
| (Mari) Pam 'ych chi wedi bod mor hir heb drio cal y canpunt? | |
| (1, 0) 141 | Mae mam wedi bod yn trio o ar pan own i yn ddeuddeg. |
| (1, 0) 142 | 'Roedd hi'n moyn hala fi i'r County; ond d'oedd e ddim iws. |
| (1, 0) 143 | Allse'n fod yn teachio 'na erbyn hyn. |
| (Mari) O, dyna hen fenyw glos yw hi! | |
| (Mari) O, dyna hen fenyw glos yw hi! | |
| (1, 0) 145 | Fasen haws symud y Darren na chal arian oddiwrthi hi. |
| (Mari) Stim o hi wedi rhoi dim i chi? | |
| (Mari) Stim o hi wedi rhoi dim i chi? | |
| (1, 0) 147 | Blwyddyn wedi marw 'newyrth, a'th mam i ofyn iddi am y canpunt, ond wedodd hi i bod yn rhy dorcalonnus i feddwl am fusnes, yn enwedig busnes y 'newyrth. |
| (1, 0) 148 | A 'rodd hi fel yna am dair blynedd. |
| (Mari) A fase ni'n rhyfeddu dim i bod hi'n mynd bob dydd Sadwrn i Abertawe i'r theatre, a thair gwaith yr wthnos i'r pictiwrs. | |
| (Mari) A fase ni'n rhyfeddu dim i bod hi'n mynd bob dydd Sadwrn i Abertawe i'r theatre, a thair gwaith yr wthnos i'r pictiwrs. | |
| (1, 0) 150 | A mae mam yn mynd bob cwarter i'w hadgoffa hi, ond yn lle'r arian mae'n rhoi presents ifi—un bob Nadolig, ac un ar fy mhenblwydd. |
| (Mari) Beth ma hi wedi roi i chi? | |
| (Mari) Beth ma hi wedi roi i chi? | |
| (1, 0) 152 | Dyna'r watch 'ma. |
| (Mari) Yn mynd bob tro ych chi'n mynd. | |
| (1, 0) 157 | Dyma'r hancsher shidan 'ma. |
| (Mari) Mercerised. | |
| (1, 0) 161 | Rhos rhyw lyfr imi hefyd. |
| (1, 0) 162 | "Life of Spurgeon" oedd i enw e. |
| (Mari) Gweles fod yr enw wedi cael i rwbo mas. | |
| (1, 0) 166 | Wedyn, dyna'r tie—a'r—photo frame—a'r box matches—a'r—pwrs sofrin, a'r llun Oueen. |
| (1, 0) 167 | Victoria, a'r— |
| (Mari) Pwff! | |
| (Mari) Oen ni wedi bod yn rhyfeddu lle cesoch chi nhw. | |
| (1, 0) 171 | O ie—a photel o beth i dyfu gwallt. |
| (Mari) Mae digon o wallt 'da chi to beth, heb yr hen stwff 'na. | |
| (Mari) Falle taw peth ar ol ych ewyrth oedd e. | |
| (1, 0) 174 | Cerwch ona, ferch. |
| (1, 0) 175 | Fyse diacon dim yn iwso stwff fel na. |
| (Mari) Wi i ddim yn gwbod, Jim Davies. | |
| (Mari) Ond pam ych chi'n meddwl y bydd hi'n rhoi y canpunt nawr? | |
| (1, 0) 179 | Wel, pan ath mam i weld Modryb Mary Jane Nadolig dwetha, gwnath iddi addo rhoi y canpunt i fi i ddechreu cadw ty pan briodwn. |
| (Mari) Wel, mae hynny'n all right, odi e ddim? | |
| (1, 0) 182 | Odi, ond ar yr amod i bod hi yn lico'r ferch. |
| (Mari) {Yn ostyngedig.} | |
| (Mari) O, ych chi'n meddwl y bydd hi yn fy lico i? | |
| (1, 0) 185 | Wel, mae hynny'n dibynnu arnoch chi. |
| (Mari) O! | |
| (Mari) Dyna dreni i chi newis i, Jim. | |
| (1, 0) 189 | O dyna nonsense, Mari fach. |
| (1, 0) 191 | Gwell 'da fi'ch cal chi heb y canpunt na'r canpunt heboch chi. |
| (Mari) Ych chi'n siwr, yr hen gariad? | |
| (Mari) Beth wnawn pan gawn i e? | |
| (1, 0) 194 | Wel, ych chi'n 'nabod Dai Jones, Cwmllynfell? |
| (1, 0) 195 | Mae e'n meddwl starto Cinema lan yn Clare Road, a mae e'n moyn ifi fentro tipyn o arian ynddo. |
| (1, 0) 196 | Ond oes dim gyda fi i spario os na allwn i gal e mas o Modryb Mary Jane. |
| (Mari) O, Jim, ych chi'n meddwl fod e'n saff? | |
| (1, 0) 199 | Saff? |
| (1, 0) 200 | Odi. |
| (1, 0) 201 | Pam, dyna ni wedi gwneud ein ffortiwn os allwn ni gal gafel yn y canpunt'na. |
| (1, 0) 202 | Edrychwch nawr ar y Royal. |
| (1, 0) 203 | Mae'r bechgyn startodd y Cinema 'na wedi gwneud tunelli o arian, a Dai Jones yw'r bachgen smarta' yn y Cwm. |
| (1, 0) 204 | Byddwn yn gallu cael drawing room fel hyn un diwrnod ryfedde ni ddim. |
| (Mari) O, Jim, alla'i gredu hynna? | |
| (Mari) O, Jim, alla'i gredu hynna? | |
| (1, 0) 206 | Allwn gadw morwyn, a falle gawn ni motor bike a side car! |
| (Mari) Pidwch a chyfri'ch cywion cyn bod nhw'n dod lawr, machgen i. | |
| (1, 0) 210 | O, ie, rhaid ifi gofio hynny. |
| (Mari) Falle bydde'n well i chi weud wrtho i swd i bleso'ch modryb. | |
| (Mari) Falle bydde'n well i chi weud wrtho i swd i bleso'ch modryb. | |
| (1, 0) 212 | Wel, yn enw popeth, pidwch a gweud gair am ych bod yn Fethodist, all hi ddim godde i gweld nhw o ar y Bazaar 'na. |
| (Mari) {Yn frwd.} | |
| (1, 0) 216 | Odyn, odyn, ond meddwl di am y canpunt, Mari fach. |
| (Mari) O, ro 'ni wedi anghofio. | |
| (Mari) Cerwch ymlan. | |
| (1, 0) 219 | A chymrwch ofal na wedwch air am y ty newydd 'na yr ochr arall i'r hewl. |
| (Mari) Pam? | |
| (Mari) Pam? | |
| (1, 0) 221 | Achos taw Ezra Morgan sydd yn i fildo fe a'r arian gas e ar ol i ewyrth William, a 'rodd i wraig e yn arfer bod yn forwyn yma. |
| (1, 0) 222 | Y mae Modryb Mary Jane yn cadw'r blinds lawr rhag iddi weld e. |
| (Mari) {Yn wawdlyd.} | |
| (Mari) Peth od nag yw hi'n byw yn y back! | |
| (1, 0) 225 | A chofiwch pidwch gweud dim am rhubarb wine—nag am Woolworth's—nag am scadenyn coch —nag am bazaars—nag am Daniel Trwyn Coch. |
| (Mari) Ond am beth ga i siarad, te? | |
| (Mari) Ond am beth ga i siarad, te? | |
| (1, 0) 227 | Nid am y pethe yma, ta beth. |
| (1, 0) 228 | A ma'n rhaid i finne hefyd beidio i galw hi yn '' Modryb Mary Jane." All hi ddim godde hyny. |
| (1, 0) 229 | Mae hi yn dishgwl i fi i galw hi yn "Auntie Mary." |
| (Mari) Falle fydde'n well ifi gaead y mhen. | |
| (Mari) Falle fydde'n well ifi gaead y mhen. | |
| (1, 0) 231 | O, raid i chi siarad, a falle se'n well i chi gadw ych traed o dan y sofa yn lle bod hi'n notishio ych sgitshe. |
| (Mari) {Yn tynnu ei thraed yn sydyn dan y sofa.} | |
| (1, 0) 236 | Ond y canpunt, ynghariad i! |
| (Mari) O, ie, roe'n i wedi anghofio yr hen ganpunt. | |
| (Mari) Pe baech yn gofyn imi lyncu'n hat am y canpunt 'na, bydde rhaid i fi neud hynny. | |
| (1, 0) 239 | Meddylwch am yn cartre bach ni, Mari fach. |
| (Mari) {Yn curo ei dwylo ynghyd mewn gorlawenydd.} | |
| (Mari) O, ie! | |
| (1, 0) 242 | O, ie, peth arall. |
| (1, 0) 243 | Raid i chi weud rhwbeth neis am bictiwrs Adelina. |
| (1, 0) 244 | Fydd hynna yn pleso Modryb Mary Jane yn fwy na dim. |
| (1, 0) 245 | A mae nhw'n rhai pert hefyd, chware teg. |
| (Mari) {Fel pe byddai'n dwedyd cyfrinach.} | |
| (1, 0) 249 | Cato'n pawb, na! |
| (1, 0) 250 | Rhyw sar fel fi! |
| (1, 0) 252 | Ych chi'n nabod Sam Price sy' bia Gwaith Glo Cors-y-Bryniau? |
| (Mari) {Yn dechreu chwerthin.} | |
| (Mari) Pwff, yr hen fflirt mawr 'na. | |
| (1, 0) 255 | Sh-sh-sh! |
| (1, 0) 256 | Mae gan welydd glustie. |
| (1, 0) 257 | Mae hi wedi bod yn rhedeg ar i ol e, o ar bod y gwaith wedi dechreu talu i ffordd. |
| (Mari) Pwy wedodd wrthoch chi? | |
| (Mari) Pwy wedodd wrthoch chi? | |
| (1, 0) 259 | Mam. |
| (1, 0) 260 | Mae Modyrb Mary Jane bron a marw ishe i gal e fel mab yn nghyfreth, yn enwedig nawr fod motor car ganddo, ond yn ol y marn i, mae e'n dderyn rhy hen i ddal. |
| (Mari) {Yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 266 | Tro cynta i fi glywed am hynny! |
| (Mari) Pwff, paid bod mor jealous. | |
| (1, 0) 288 | Oh—Modryb Mary Ja—Auntie Mary! |
| (1, 0) 289 | Dyna Mari Myfanwy Williams. |
| (Mrs Davies) How do you do, Miss Williams? | |
| (1, 0) 299 | Dim ond dodi i gwallt yn i le odd Mari Myfanwy. |
| (Mrs Davies) Please sit down, Miss Jenkins. | |
| (1, 0) 310 | 'Dyw Mari Myfanwy ddim yn siarad llawer a Sysneg, Modryb Mary Ja—Auntie Mary. |
| (1, 0) 311 | Mae hi'n dod o Cwm Llyffannod. |
| (1, 0) 312 | Fysech chi mor garedig a siarad yn Gymraeg, os gwelwch yn dda? |
| (Mrs Davies) {Mewn syndod.} | |
| (Mrs Davies) Odd hi'n meddwl fod Sysneg yn fwy genteel. | |
| (1, 0) 321 | O, yn wir? |
| (Mrs Davies) Ydych chi wedi bod y ffordd hyn o'r blan, Miss Williams? | |
| (1, 0) 332 | Mae pregethwyr da iawn gyda'r Annibynwyr hefyd. |
| (Mrs Davies) {Yn edrych o gwmpas ar y muriau fel pe'n chwilio am rywbeth i siarad am dano.} | |
| (Mrs Davies) {Yn pwyntio at y darluniau ar y mur.} | |
| (1, 0) 349 | Mae hi bound o fod yn glefer! |
| (Mari) {Yn pwyntio at un.} | |
| (Mrs Davies) {Yn gwenu yn arwyddocaol.} | |
| (1, 0) 374 | Mr. Sam Price o Gors-y-Bryniau? |
| (Mrs Davies) Ie, ie. | |
| (Mrs Davies) Ond fel wedes i o'r blan mae Mr. Price yn dda iawn, ag yn wastod yn folon rhoi cyngor i fi mewn materion fel hyn. | |
| (1, 0) 385 | Dyna fotor car neis mae e wedi i brynnu nawr. |
| (Mari) {Yn bwysig.} | |
| (Mari) Y Mr. Price yna glywsom ni yn canu yn y concert ym Mhontardawe? | |
| (1, 0) 396 | Ie, dyna fe. |
| (Mrs Davies) Ie, mae llais beautiful 'da fe. | |
| (Mrs Davies) O yn wir, odi chi wedi cal rhiw job arall, achos rhaid i chi gal rhywbeth i fyw a chadw ty—a dyna 'ch mam hefyd? | |
| (1, 0) 443 | Wel, mae Dai Jones o Cwmllynfell—ych chi'n nabod i dad e'n dda iawn—yn meddwl agor Cinema lan yn Clare Road. |
| (1, 0) 444 | Mae e'n barnu fod e'n le splendid am fusnes, a mae e'n gweud os investa i ganpunt yn y busnes, fydd e'n siwr o dalu hanner cant y cant. |
| (Mrs Davies) A, ond ŷch chi ddim yn ffindo canpunt yn tyfu ar bob draenen y dyddie yma. | |
| (Mari) Tipyn o dishen, os gwelwch yn dda. | |
| (1, 0) 457 | Ond—y Auntie Mary—y—'roe'n ni'n gobeitho—y— |
| (Mrs Davies) {Yn torri ar ei draws.} | |
| (1, 0) 462 | Na—dim a neb byth—ond Mari Myfanwy! |
| (Mrs Davies) A! dyna beth ych chi'n feddwl nawr, ond fyddwch yn siwr o newid ych meddwl. | |
| (1, 0) 467 | Dwy ar hugen, Modryb. |
| (Mrs Davies) O, lawer rhy ifanc. | |
| (Mrs Davies) Beth oedd hynny, Miss Williams fach? | |
| (1, 0) 476 | Mae Dai Jones yn gweud na fyddai ddim yn debyg o gal shwd chance eto. |
| (1, 0) 477 | A 'dwi ddim moin i golli e. |
| (Mrs Davies) Fase'n dda gen i allu rhoi canpunt yn y Cinemas 'na, er 'dyw Mr. Price ddim yn meddwl llawer o honyn nhw fel investment, ych chi byth yn gwbod ffordd tro nhw mas. | |
| (Mrs Davies) Beth wyddoch chi, falle fydd Diwygiad—a gobeitho bydd e, medda i, mae digon o'i ishe fe—a ble fydd eich Dai Jones chi wedyn? | |
| (1, 0) 480 | Dim llawer o ddanger i hynny ddigwydd, Modryb. |
| (1, 0) 481 | Edrychwch ar— |
| (Mari) Diws! | |
| (Mrs Davies) Talodd gyment a deg punt am dano, druan o hono. | |
| (1, 0) 492 | Wel, Mari Myfanwy! |
| (Mrs Davies) A 'rwi'n siwr nag wi ddim yn gwbod shwd i gal un arall a meddwl gyment o arian rwy'n gorfod dalu mas ddydd ar ol dydd. | |
| (Mrs Davies) Adelina, well i chi sychu gwn Miss Williams. | |
| (1, 0) 510 | Dyna fe. |
| (1, 0) 511 | Mae'n all right nawr, Auntie Mary |
| (1, 0) 512 | Dyna beth sy'n dod o gael te fel y Rowlandses! |
| (Mrs Davies) Ie, 'n enwedig os nag ych chi wedi arfer a manners dynon neis. | |
| (Mari) 'Rwi wedi cal itha digon. | |
| (1, 0) 522 | I fynd nol at y busnes yna eto, Auntie Mary, odych chi'n cofio'ch siarad a mam y Nadolig dwetha? |
| (Mrs Davies) Pwy siarad? | |
| (1, 0) 526 | Wel, do, wrth gwrs, pan wedsoch wrth mam y bysech yn rhoi y canpunt 'na adawodd 'newyrth i fi, pan oe'n i'n meddwl am briodi. |
| (Mrs Davies) {Gyda phwyslais, yn edrych ar Fari Myfanwy.} | |
| (1, 0) 530 | Mari Myfanwy yw y ferch anwyla yn y byd—yn gwitho'n galed—yn gallu canu fel yr eos—ac mae lot o gommon sense gyda hi—prin gan rai y dyddie yma. |
| (1, 0) 532 | A mae'n dda iawn i'w hen dad, a rwi'n meddwl bod chi'n angharedig iawn iddi, Modryb Mary Jane. |
| (1, 0) 533 | Mae'n ddigon da i'r Prince of Wales i hunan. |
| (1, 0) 534 | Beth sydd gyda chi yn i herbyn hi? |
| (Mrs Davies) {Yn ddigllon iawn.} | |
| (1, 0) 641 | Rwi'n meddwl bydde'n well i ni fynd, Modryb Mary Jane. |
| (Mrs Davies) {Yn awchio am gael dywedyd.} | |
| (Mrs Davies) Wel, 'dos dim llawer o amser cyn y train. | |
| (1, 0) 644 | Dewch ymlan, Mari Myfanwy. |
| (Sam) Mynd nawr? | |
| (1, 0) 740 | Dyn a wyr beth mae'n feddwl! |
| (Sam) {Yn chwerthin yn uchel.} | |
| (1, 0) 765 | Diolch yn fawr, Modryb fach, diolch yn fawr. |
| (Mari) {Yn torri ar ei draws.} | |
| (Mari) Beth yw hi o'r gloch? | |
| (1, 0) 787 | Cwarter i wech. |