| (1, 0) 9 | Be fuost ti'n neud â'r plaen yma, Harri? |
| (Harri) Plaenio, Mistar. | |
| (Harri) Plaenio, Mistar. | |
| (1, 0) 11 | Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo. |
| (1, 0) 12 | Does dim blewyn o fin arno fo rwan beth bynnag. |
| (1, 0) 14 | Mae ma dolc ne ddau arno fo hefyd. |
| (1, 0) 15 | Estyn y plaen arall na. |
| (1, 0) 17 | Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed? |
| (Harri) Do, am spel, Mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi. | |
| (Harri) Do, am spel, Mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi. | |
| (1, 0) 19 | O, felly wir! |
| (1, 0) 20 | Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar. |
| (Harri) O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn. | |
| (Harri) O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn. | |
| (1, 0) 22 | Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari. |
| (Harri) Tybad, Mistar? | |
| (Harri) "Prentis o siopwr" ddwedwn ni yntê? | |
| (1, 0) 25 | Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti. |
| (Harri) Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor. | |
| (Harri) Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor. | |
| (1, 0) 27 | Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren bocs. |
| (1, 0) 28 | Ond wastio amser ryda ni rwan: gad i ni olchi arni yn o gwic, achos ma hi'n mynd ymhell ar y dydd. |
| (1, 0) 29 | 'Run pryd cofia ystyr y gair prentis wrth usio'r plaen─dojio'r hoelion, wyddost, ydi'r gamp i brentis o jeinar. |
| (1, 0) 31 | Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle? |
| (Dafydd) Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr â ni'n glwt i'r llawr. | |
| (Dafydd) Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen. | |
| (1, 0) 34 | Cato pawb! |
| (1, 0) 35 | l peth sad fasai'r gweinidog newydd gael ei godwm cynta yn dy dŷ di. |
| (1, 0) 36 | Ond marcia di ngair i, mae rhywun yn mynd i gael codwm yn y gweithdy ma heno. |
| (1, 0) 37 | Diaist i, mi rof Ifan Wyn i eiste arni: watsia di 'rhen grydd yn llyfu'r llawr. |
| (1, 0) 38 | Mi gosodwn hi i sefyll y fan yma a golwg mor ddiniwed a'r gloman arni hi. |
| (1, 0) 40 | Eiste'n rhywle, Dafydd, nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl Gŵr y Plas i'w orffen. |
| (Dafydd) Dos di ymlaen. | |
| (Dafydd) Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw. | |
| (1, 0) 43 | Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd, ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli. |
| (1, 0) 44 | Eiste'n rhywle, ond nid ar y gadair goes glec na. |
| (1, 0) 45 | lfan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna. |
| (Dafydd) Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau. | |
| (Dafydd) Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau. | |
| (1, 0) 47 | Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn. |
| (Dafydd) Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared? | |
| (Dafydd) Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared? | |
| (1, 0) 49 | Dyna oedd yn y rhan i hwyrach. |
| (1, 0) 51 | Pa siap sydd ar y siopwr heno? |
| (Hopcyn) Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory? | |
| (Hopcyn) Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory? | |
| (1, 0) 53 | Be sydd ar y tacla heddiw? |
| (1, 0) 54 | Rwan jest roedd Dafydd am i mi roi coes ei gadair yn ei lle; rwan dyma titha'n gofyn i mi ostwng y chwydd yn dy shetar. |
| (1, 0) 55 | Mae'r gweithdy ma'n mynd yn rêl surjary doctor. |
| (1, 0) 57 | Hopcyn! |
| (1, 0) 58 | Biwêr! |
| (1, 0) 59 | Cadw draw oddiwrth y gadair na. |
| (1, 0) 60 | Ifan Wyn sy'n mynd i gael ei gadeirio yn y steddfod hon. |
| (1, 0) 62 | Howld! dyma sŵn i droed o! |
| (1, 0) 63 | Mor sobr a |judge| bob copa ohonoch chi rwan. |
| (1, 0) 65 | Da machgen i am gadw dy gyhoeddiad. |
| (Ifan) {Dan fopio'i dalcen.} | |
| (Ifan) Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i. | |
| (1, 0) 71 | Go lew di, Ifan! |
| (1, 0) 72 | Mi feddyliaist am y deunydd teneuaf yn bosibl ar wres, achos ti ydi'r creadur mwya croen-deneu'n y wlad. |
| (1, 0) 73 | Tyrd, rhen bellen gwyrcrydd, rwyf wedi cadw'r gadair acw i ti yn arbennig. |
| (1, 0) 74 | Aros, mae drychfeddwl wedi nharo, ti yw'r bardd cadeiriol, Ifan, a finna ydi'r archdderwydd yn d'arwain dros yn llwyfan. |
| (1, 0) 76 | A oes heddwch? |
| (1, 0) 78 | Steddwch, Mr. Wyn, yng nghadair beirdd Ynys Prydain. |
| (Ifan) Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti dy droed i mewn yn sêt fawr Seilo: |clown| mewn syrcus ddylset ti fod. | |
| (1, 0) 84 | Dyna fi wedi profi'r gosodiad wnes i rwan jest mai croen teneu enbyd sy gen ti; mae o fel croenin pwdin reis. |
| (1, 0) 85 | Ond eiste, Ifan bach, a gad i ni anghofio'n poen mewn mwg baco. |
| (1, 0) 87 | Lodia dy getyn a phasia fo rownd i'r postman. |
| (Ifan) Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio. | |
| (Ifan) Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio. | |
| (1, 0) 89 | Mae'n syn i mi na fasa ti, Hopcyn, yn smocio, a tithau'n gwerthu baco. |
| (1, 0) 90 | Ar fy ngair i, dos gen ti o bawb ddim hawl i beidio smocio. |
| (Hopcyn) Sut hynny? | |
| (Hopcyn) Sut hynny? | |
| (1, 0) 92 | Wel os wyt ti'n credu fod smocio'n arferiad drwg, ac mi wn dy fod, pam gebyst wyt ti'n gwerthu baco? |
| (1, 0) 93 | Os wyt ti o'r farn mai gwastraff ar arian ydi smocio, ymhle mae dy gysondeb yn ei werthu dros y cowntar? |
| (1, 0) 94 | Wyt ti ddim yn gweld dy fod fel Satan yn temtio'r crydd a'r postman a finnau i syrthio i'r arferiad ac i wastio'n harian prin? |
| (Hopcyn) Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus. | |
| (Hopcyn) Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus. | |
| (1, 0) 96 | Rhen gribiniwr arian! |
| (1, 0) 97 | Rwyt yn barod i bocedu pris y gwenwyn wyt ti'n gredu sy'n lladd Ifan a Dafydd a finnau'n raddol. |
| (1, 0) 98 | Mi grafi di'r pres baco sy'n ein tlodi ni'n tri, ffei ohonot! |
| (Ifan) Pwya fo, Jared. | |
| (Hopcyn) Ti sy'n gneud sgidia i'r Gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti. | |
| (1, 0) 104 | Howld! |
| (1, 0) 105 | Nid run peth ydi hynny a dy waith di'n gwerthu baco nad wyt ti'n credu dim ynddo. |
| (Hopcyn) Run peth yn hollol ydi'r ddau. | |
| (Hopcyn) Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i Ŵr y Plas, yn dwyt ti? | |
| (1, 0) 109 | Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm. |
| (Hopcyn) Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio. | |
| (Hopcyn) Sgubwch yn lân o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i. | |
| (1, 0) 116 | Hanner munud! |
| (1, 0) 117 | Rwyt ti'n union fel rhen longwr na fydd yn dod i ffair Caerdref i gael i rwymo â rhaff, mae'n llithro o bob cwlwm; ond mi ro i gwlwm dolen ar dy sodla na fedri di syflyd gam ohono. |
| (1, 0) 118 | Rwyt ti'n deyd bob amser fod smocio'n arferiad drwg, yn dwyt ti? |
| (Hopcyn) Ydw. | |
| (Hopcyn) Ydw. | |
| (1, 0) 120 | Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio? |
| (Hopcyn) Dos ymlaen â'th ymresymiad. | |
| (Hopcyn) Dos ymlaen â'th ymresymiad. | |
| (1, 0) 122 | Os ydi smocio'n ddrwg, mae'n rhaid fod baco'n ddrwg, achos does dim |use| i faco o gwbl ond i'w smocio. |
| (1, 0) 123 | O'r goreu; mae baco, felly, 'n ddrwg ynddo'i hunan, ond am y sgidia mae Ifan yn i neud i Mr. |
| (1, 0) 124 | Blackwell y Plas, mae rheiny'n bethau angenrheidiol, achos mae'n rhaid i Dori gael sgidia. |
| (Hopcyn) Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr. | |
| (1, 0) 134 | Harri, picia dros y ffordd a galw ar Mr. Harris y gweinidog i ddod yma am ychydig. |
| (1, 0) 135 | Wedyn mi elli gadw noswyl. |
| (1, 0) 136 | Cofia ystyr y gair prentis, a chofia fod yma am saith bore fory. |
| (Hopcyn) Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog? | |
| (Hopcyn) Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog? | |
| (1, 0) 139 | Fo gaiff setlo'r ddadl ma. |
| (Hopcyn) Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni. | |
| (Ifan) Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar. | |
| (1, 0) 142 | Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti. |
| (Dafydd) Ie, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol. | |
| (Mr Harris) Pwy fasa'n disgwyl cyfarfod â blaenoriaid Seilo'n drefnus hefo'i gilydd yma? | |
| (1, 0) 147 | Does gynno chi ddim yn erbyn i ni ddod am scwrs a smoc i weithdy saer gyda'r nos fel hyn, Mr. Harris? |
| (Mr Harris) Yn erbyn? | |
| (Mr Harris) Jared Jones, ga i drio'm llaw ar y tools ma am funud, i weld ydi mysedd a nhw'n dal i nabod i gilydd? | |
| (1, 0) 152 | Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi, ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha. |
| (1, 0) 154 | Cyn i chi drioch llaw, setlwch ddadl go boeth sy ar droed yma. |
| (1, 0) 155 | Rwan, beth ydi'ch barn chi? |
| (1, 0) 156 | Gneud tentia oedd crefft yr Apostol Paul, yntê? |
| (1, 0) 157 | Fasa Paul yn fodlon i neud tent i anffyddiwr a chablwr? |
| (Mr Harris) Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr? | |
| (Mr Harris) Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr? | |
| (1, 0) 159 | Ie siwr. |
| (Mr Harris) Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud |tent| i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef." | |
| (Mr Harris) A chyda llaw, mae gen i, fel mae'n digwydd, fater bach yr hoffwn i gael eich barn arno, a barn ffafriol os yn bosib. | |
| (1, 0) 164 | Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth. |
| (Mr Harris) Dyma'n agos i fis er pan ordeiniwyd fi'n weinidog yma, ac fel pob gwas newydd mae gen i gynllun bach y carwn i ei roi o'ch blaen fel blaenoriaid Seilo, a dyma fo: rwyf wedi gosod fy mryd ar alw yn nhŷ y bobl hynny yn yr ardal yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad. | |
| (Mr Harris) Go ddistaw yda chi; rwyn ofni nad ydach chi ddim yn ffafriol i'r cynllun. | |
| (1, 0) 171 | Mr. Harris, mi fedrwn ddadlu pyncia trymion yng Nghymru am oriau bob dydd, ond go ddi-gynnig yda ni ar dipyn o waith ymarferol. |
| (1, 0) 172 | Tyrd, Ifan Wyn, dywed rywbeth, seinia gân yn lle bod yn fudan. |
| (Ifan) {Gan chware â'i getyn.} | |
| (Ifan) Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt─y gweilch drwg. | |
| (1, 0) 182 | Cato pawb, Mr. Harris, mae ma dalwrs siamal o ddrwg yn y wlad. |
| (1, 0) 183 | Da chi, rhowch bregeth i ni rai o'r Suliau nesa ar y gair ddeydodd Eliseus wrth y wraig honno: "Dos, gwerth dy olew a thâl dy ddyled." |
| (1, 0) 184 | Mi wnae un bregeth felly'r byd o les. |
| (Mr Harris) Mi gofia'r cyngor, Jared Jones. | |
| (Pawb) Nos dawch, Mr. Harris. | |
| (1, 0) 209 | Diaist i, mae na gêm yno fo, fechgyn! |
| (1, 0) 210 | Ac mae'n dda gen i fod o am alw i weld Dic er mwyn rhoi siawns i'r hen walch. |
| (1, 0) 211 | Hwyrach, wedi'r cwbl, fod gronyn o rhyw ddaioni yn Dic Betsi. |
| (Ifan) Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i? | |
| (1, 0) 214 | Rhaid fod rhyw ddaioni yno fo ymhell yn ol neu fasa Martha'r Wern Lwyd ddim yn ei briodi: merch ragorol oedd Martha. |
| (Ifan) A! rwy'n cofio rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha, yn doeddet ti, cyn i Dic ddod i'r ardal ma? | |
| (1, 0) 217 | Oeddwn, waeth cyfadde'n onest, ond Dic garíodd y dydd, ac yr oedd yntau'n gamp o ddyn bum mlynedd ar hugain yn ol. |
| (1, 0) 218 | Ond druan o Martha, byd helbulus gafodd hi, a doeddwn i ddim yn leicio'ch clywed mor lawdrwm ar Nel Davis. |
| (1, 0) 219 | Os Dic ydi thad hi, Martha oedd i mam hi. |
| (1, 0) 220 | Wel, nos dawch. |
| (1, 0) 221 | Mi faria'r drws 'ma ar eich holau. |
| (Pawb) {Wrth fyned.} | |
| (Nel) Ga i aros yn y gweithdy ma heno? | |
| (1, 0) 229 | Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin â gneud hynny. |
| (Nel) Wn i ddim sut i ddiolch i chi. | |
| (Nel) Wn i ddim sut i ddiolch i chi. | |
| (1, 0) 231 | Does dim i ddiolch am dano. |
| (1, 0) 232 | Fe wnawn ragor na hyn i ferch Martha'r Wern Lwyd. |
| (1, 0) 233 | Anghofia i byth mo'ch mam, a choelia i ddim nad ydach chi'n debig iawn iddi pan oedd hi run oed a chi. |
| (Nel) Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno? | |
| (Nel) Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno? | |
| (1, 0) 235 | Mi fyddaf fel y bedd. |
| (1, 0) 236 | Mi gewch hyd i'r bwyd yn y gegin a gnewch bryd i chi'ch hun. |
| (Nel) Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan. | |
| (Nel) Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan. | |
| (1, 0) 238 | Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n |grand|. |
| (Nel) Dyma hi. | |
| (Nel) Dyma hi. | |
| (1, 0) 241 | Nos dawch! |
| (Nel) {Gan fynd drwy'r drws i'r tŷ.} | |
| (3, 0) 807 | Mi glywais dy gwestiwn di, Ifan Wyn, ac rwyn synnu at dy hyfdra, ond rhaid i chi gofio, Mr. Harris, fod Ifan yn grydd yn y sêt fawr weithiau ac yn flaenor ar ei sêt grydd dro arall, a does dim ond joch o gwyrcrydd yn dal |joint| y crydd a joint y blaenor wrth ei gilydd ym marchog y myniawyd ma. |
| (Ifan) {Yn ddig.} | |
| (Ifan) Rwan, Mr. Harris, mae'n bryd i ni gael gwybod, ydach chi'n meddwl priodi merch Dic neu beidio, achos ryda ni bawb ers misoedd bellach mewn pryder ynghylch y peth. | |
| (3, 0) 812 | Mae ngwaed i'n twymo wrth glywed dy hyfdra, Ifan Wyn. |
| (3, 0) 813 | Wyt ti'n meddwl mai ti yw angel yr Eglwys yn Seilo, dywed? |
| (3, 0) 814 | Os wyt ti, mae'n hen bryd rhoi patsh neu ddau ar d'adenydd di a choblo dipyn ar esgyll dy bedion. |
| (Mr Harris) Hanner munud, chaiff dau hen ffrind fel chi ddim ffraeo â'ch gilydd o'm hachos i. | |
| (Ifan) Pam, ynte, mae o'n pwyo'i wimblad i mi? | |
| (3, 0) 817 | Pam rwyt tithau'n pwnio dy fyniawyd i mewn i fusnes y gweinidog? |
| (3, 0) 818 | Mae'n ofnadwy o beth na chaiff Mr. Harris ddim priodi'r neb a fynno. |
| (Hopcyn) Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw, | |
| (Hopcyn) Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw, | |
| (3, 0) 820 | Wel, tawn i byth yn symud o'r fan ma! |
| (3, 0) 821 | Hen lanc ydw i, a diolch i'r drefn am hynny, ond pe basa Eglwys Seilo yn fy nal i'n gyfrifol i briodi pob geneth y bu'm llaw i am ei gwddw mi fasa gen i gymaint o wragedd a'r Shah o Persia─os doeth hefyd i briodi cymaint. |
| (Hopcyn) Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis? | |
| (Mr Harris) Anghofio'ch het ddaru chi, Jared Jones? | |
| (3, 0) 855 | Dod yn ol ddaru mi er mwyn cael ysgwyd llaw â chi, syr, ar ol y sgarmes. |
| (3, 0) 857 | Mr. Harris, mae na rêl gêm ynoch chi, os ca i usio'r gair. |
| (3, 0) 858 | Os byth y daw hi i'r pen arnoch yn Seilo, gobeithio na ddaw hi byth i hynny, ond os digwydd i'r llanw droi yn eich erbyn, mae'r gweithdy acw'n agored i chi pan fynnoch. |
| (3, 0) 859 | Hen jeinar ydach chi yntê? |
| (3, 0) 860 | Wel, er mai dyn tlawd ydw i, mi ranna'r pres nillwn ni gyda'n crefft. |
| (3, 0) 861 | Mi fydd hynny'n deg yn fydd o? |
| (3, 0) 862 | Bendith ar ych pen! |
| (3, 0) 863 | Mae na rêl gêm ynoch chi, fel sydd yn y dynion na yn y Beibl. |
| (3, 0) 864 | Nos dawch! |
| (Mr Harris) Nos dawch, a diolch i chi, Jared Jones. | |
| (Ifan) O'r tad, gobeithio daw o uwchben i draed unwaith eto. | |
| (4, 0) 1190 | Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio arna i. |
| (Nel) O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma. | |
| (Nel) O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma. | |
| (4, 0) 1193 | Nel Davis, mi rydw i cyn iached a'r gneuen; fûm i rioed mor iach. |
| (Hopcyn) Tyrd i'r tŷ i dy wely, Jared bach, mi awn a thi rwan. | |
| (Hopcyn) {Ymaflant ynddo er mwyn ei gael yn ol i'r tŷ.} | |
| (4, 0) 1196 | Howld on! |
| (4, 0) 1197 | Be sy haru chi? |
| (4, 0) 1198 | Diain i, mi gwela hi! |
| (4, 0) 1199 | Rydach chi'n meddwl mod i o ngho. |
| (4, 0) 1200 | Does dim y mater arna i. |
| (4, 0) 1201 | Doctor Huws! dowch yma, da chi, i sponio petha i'r Philistiaid ma. |
| (Doctor Huws) {Daw i mewn o'r chwith gan chwerthin.} | |
| (Mr Harris) Doctor Huws! rwyn credu y dylech chi ddeyd be ydi ystyr y cellwair yma; mae'n amlwg mai chi ac nid Jared sydd i'w feio. | |
| (4, 0) 1206 | Ruwd annwyl, rydach chi'n edrach yn ddig ofnadwy ar y Doctor—mae pawb ohonoch chi yn edrach yn ddig. |
| (4, 0) 1207 | Myn gafr! |
| (4, 0) 1208 | Choelia i ddim na fasach chi'n leicio ngweld i'n sâl bron a marw er gwaetha'ch holl siarad y tri diwrnod diwedda ma. |
| (4, 0) 1209 | Mae'r esboniad mor eglur a thrwyn Ifan y crydd, ac mi ddylech chi, Mr. Harris, o bawb neidio i ben y gweithdy pan glywch chi o. |
| (4, 0) 1210 | Dyma fo! tric o eiddo'r Doctor a'r Scweiar a finna i gael Nel Davis yn ol i'r pentre ma. |
| (Nel) {â'i dwylo am ei wddf.} | |
| (4, 0) 1215 | Mi gadwa'r ddwy fraich yma lle ma nhw. |
| (4, 0) 1216 | Rwan, frodyr a chwiorydd, a blaenoriaid, doedd dim yn bosib cael yr eneth ma yn ol i'r pentre mewn un ffordd; er i'r Scweiar a'r Doctor neud pob cynnig, gwrthod roedd hi, a gwaeth na'r cwbl, fe rybuddiodd y ddau i beidio deyd wrth Mr. Harris y gweinidog ymhle roedd hi yn Llunden. |
| (4, 0) 1217 | Wel, i fynd ymlaen, be nath y Doctor ma—ac un melltigedig o gastiog ydi o—be nath o ond gofyn i mi ddydd Sadwrn fuaswn i'n mynd yn sâl iawn dydd Llun, dydd Llun diweddaf, wrth gwrs, ac mi es yn sâl iawn fel y gwyddoch, drwy ordors Doctor. |
| (Ifan) Yr hen gena drwg gen ti. | |
| (Ifan) Yr hen gena drwg gen ti. | |
| (4, 0) 1219 | Paid a porthi mhregeth i, Ifan bach, achos ma dy lais di yn y ngyrru oddiar y rêls. |
| (4, 0) 1220 | Rwan mi wyddai'r Doctor a'r Scweiar fod Nel yn fy leicio i yn enbyd iawn (peidiwch a phinsio, Nel), a'r funud y clywodd hi mod i'n sâl dyma hi'n ysgwyd llwch Llunden oddiar ei sgidia ac yn carlamu yma yn y trên i dendio arna i. |
| (4, 0) 1221 | Wel, dyma hi! yr eneth glysa yn y wlad—roedd yn werth i mi gymryd arna fod yn wael er mwyn i chael hi yma i'r pentre. |
| (4, 0) 1222 | Rwan am y gusan na, Nel Davies. |
| (4, 0) 1224 | Mi nillais hi'n deg. |
| (Hopcyn) Y corgi digywilydd! a fi ac Ifan a pawb bron a thorri'n calon rhag ofn iti farw. | |
| (Doctor Huws) Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod at i gilydd. | |
| (4, 0) 1231 | Howld, Doctor, os rhoith hi gusan i chi mi ddaw holl frigêd y blaenoriaid yma i fyny am gusan, yn cael eu harwain gan General Ifan Wyn. |
| (4, 0) 1232 | Rwan, Mr. Harris, dowch yma a safwch ar y llaw chwith yma; safwch chitha ar y dde, Nel Davis, ochr yn ochr a fo. |
| (4, 0) 1233 | Yn gymaint a bod y ddau hyn eisio priodi â'i gilydd, a chan eu bod yn caru ei gilydd y tuhwnt i bob rheswm, rwyf fi, Jared Jones, Jeinar a Carpentar, ar ran pawb sydd ma, yn rhoi caniatad iddynt i fynd ymlaen at eu diwrnod priodas. |
| (4, 0) 1234 | Dyna fi wedi cynnig ac eilio; pawb sydd yr un farn, i fyny â'ch dwylo. |
| (4, 0) 1236 | Welwch chi, Mr. Harris, fe gewch yrru'r gostegion priodas i mewn pan fynnoch chi. |