| (Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? | |
| (Syr Tomos) Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai. | |
| (1, 0) 302 | Wel, Harri, mi gest d'ethol yn anrhydeddus. |
| (1, 0) 303 | Hir oes i ti i wneud dy waith heb fegio gwên nac ofni gwg neb. |
| (1, 0) 305 | Dyma'r gwas newydd, yntê, wedi dod i sgidiau'r hen was? |
| (Syr Tomos) Mae o'n gwisgo sgidiau cryfach na fi─size mwy a lledar gwahanol. | |
| (Syr Tomos) Mae o'n gwisgo sgidiau cryfach na fi─size mwy a lledar gwahanol. | |
| (1, 0) 307 | Fe ddylai Aelod Seneddol heddiw wisgo esgid go drom. |
| (Syr Tomos) Efallai; ond mae cyrn tyner iawn ar draed yr oes yma. | |
| (Syr Tomos) Efallai; ond mae cyrn tyner iawn ar draed yr oes yma. | |
| (1, 0) 309 | Paid ag ofni rhoi dy draed i lawr, Harri: mi leiciwn dy weld yn gefn i rywbeth gwerth byw a marw er ei fwyn, a phaid a bod yn chwitchwat: fuost ti erioed a fyddi di ddim, greda i. |
| (Nan) {Yn oeraidd.} | |
| (Harri) Wel ar fy ngair, wyddwn i ddim eich bod mor ofergoelus. | |
| (1, 0) 324 | Harri bach, y gwir yw nid wyf innau yn leicio gweld drain gwynion mewn ty. |