| (1, 0) 15 | Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia. |
| (Elin) {Yn procio'r tân.} | |
| (1, 0) 19 | Rwy'n synnu atoch chi'n codlo'ch pen hefo breuddwydion: ryda chi'n rhoi gormod o goel arnyn' nhw o lawer. |
| (Elin) {Yn gwynfanus.} | |
| (Elin) Da ti, Jane, paid a 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd. | |
| (1, 0) 22 | 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn. |
| (1, 0) 23 | Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na. |
| (Elin) Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd: fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo." | |
| (Elin) Dyna dy dad─ | |
| (1, 0) 27 | Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo. |
| (Elin) Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i. | |
| (Elin) Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny. | |
| (1, 0) 30 | O ïe, ewch ymlaen─rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth |stiff| yn 'y natur i. |
| (1, 0) 31 | Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun. |
| (Elin) Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi. | |
| (Elin) Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach. | |
| (1, 0) 34 | Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith. |
| (1, 0) 35 | Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach. |
| (Elin) Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun. | |
| (Elin) Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun. | |
| (1, 0) 37 | Wel, mi gadawn hi ar hynyna. |
| (1, 0) 38 | Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi? |
| (Elin) Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion. | |
| (Elin) Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion. | |
| (1, 0) 40 | Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o. |
| (Elin) Mi freuddwydis neithiwr fod Dic, dy frawd, wedi dod adre a bod golwg torcalonnus o wael a llwm arno fo. | |
| (Elin) 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane. | |
| (1, 0) 46 | 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn. |
| (Elin) Gwn, 'ngeneth i─rwyt ti 'run farn a dy dad. | |
| (Elin) Dyma dros bum mlynedd wedi mynd heibio er pan safodd dy dad ar garreg yr aelwyd 'ma─ anghofia i byth mo'i eiriau: mi warniodd fi nad oeddwn i enwi Dic yn i glyw o hynny allan; a wnes i byth, ond ma' 'nghalon i ar dorri i gael siarad amdano fo hefo dy dad, ond fod ofn gneud hynny arna i. | |
| (1, 0) 49 | Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr. |
| (Elin) Dyna'r noson─yr un noson pan yr aeth o ar 'i draed ar y gadair i osod almanac i fyny uwchben y lle tân 'ma, i guddio llun Dic bach rhag i neb gael gweld y llun, ond ŵyr dy dad ddim pa mor amal rydw i'n codi cwr yr hen almanac hefo'r procar i sbio ar 'y machgen. | |
| (1, 0) 53 | Dic bach, wir! |
| (1, 0) 54 | Mae'n ddigon hen i fod wedi torri'ch calon chi beth bynnag er's dros bum mlynedd: mae'n ddigon hen i fod wedi gneud 'y nhad ddeng mlynedd yn hynach na'i oed. |
| (1, 0) 55 | 'Dydw i ddim yn synnu na fyn 'y nhad ddim clywed i enw yn y tŷ 'ma. |
| (1, 0) 56 | Dic bach, ai ê? |
| (1, 0) 57 | Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth. |
| (Elin) "A anghofia mam ei phlentyn sugno?" | |
| (Elin) Dic, Dic! pam rwyt ti wedi 'nghadw i am bum mlynedd heb yr un cipolwg arnat ti ac heb yr un gair o dy helynt? | |
| (1, 0) 63 | Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid. |
| (Tad) {Dan ymdwymo.} | |
| (Tad) Does dim ond rhyw awr ne ddwy rhyngom ni a bore Saboth, wyddost. | |
| (1, 0) 73 | Rwyf bron wedi gorffen. |
| (Tad) {Yn eistedd i dynnu'i legins a'i esgidiau.} | |
| (Tad) Does dim fel darfod gwaith y tŷ yn brydlon nos Sadwrn i fod yn barod i'r Sul. | |
| (1, 0) 76 | Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê? |
| (Tad) Ie. | |
| (1, 0) 81 | Does gen i fawr o feddwl o Ezra Davis, waeth gen i pwy glywo. |
| (Tad) Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da. | |
| (Tad) Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da. | |
| (1, 0) 83 | Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag. |
| (Tad) Be sy o'i le arno? | |
| (Tad) Be sy o'i le arno? | |
| (1, 0) 85 | Dim, am wn i, ond i fod o'n ofnadwy o barticlar hefo'i fwyd. |
| (1, 0) 86 | Pam na fedar o fyta fel rhyw ddyn arall─byta popeth, yn lle pigo fel cyw iar? |
| (Tad) Paid a beio dyn am rhyw fân betha fel yna. | |
| (Tad) Jane, ddaru ti folltio'r drws? | |
| (1, 0) 99 | Naddo. |
| (Tad) Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory. | |
| (1, 0) 118 | Pwy sydd yna? |
| (Dic) Jane! | |
| (Dic) Wel wir, dydw i ddim yn cofio'r funud 'ma, ond fedra i fyta dim rwan beth bynnag. | |
| (1, 0) 149 | Dyma fi'n mynd ynteu. |