| (Mrs Lloyd) 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach. | |
| (Tabitha) Helo, Jane, sut y'ch chi? | |
| (1, 0) 189 | Da iawn, diolch, Modryb Tabitha. |
| (Tabitha) Siarad 'rown i nawr gyda Dilys, ynghylch priodi'n gyfoethog. | |
| (Dilys) Dim peryg, diolch. | |
| (1, 0) 193 | Na, mae gan Dilys ddigon o feddwl am briodi, a phriodi arian, heb i chi ei chymell, Modryb. |
| (1, 0) 194 | Byddai'n foethyn iddi feddwl am rywbeth arall, 'rwy'n tybio—meddwl am ennill, er enghraifft. |
| (Dilys) Dyna hi, Modryb Tabitha. | |
| (Dilys) Ddoe y deuthum adre, a does dim taw ar Jane am i mi fynd i ennill. | |
| (1, 0) 197 | Mae'n rhyfedd bod eisiau sôn am hynny, wedi i ti gael yr holl ysgol a choleg. |
| (1, 0) 198 | Dymuno 'rwyf i dy fod wedi llwyddo yn dy arholiad, fel y gelli sefyll ar dy draed dy hunan, o'r diwedd. |
| (Mrs Lloyd) Tewch 'nawr ferched! | |
| (Tabitha) Twt! | |
| (1, 0) 211 | Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny. |
| (Dilys) 'Does dim eisiau i chi ddannod mai chi sy'n ein cynnal. | |
| (Dilys) Mae'n gywilydd i chi. | |
| (1, 0) 214 | 'Ddanodais i erioed. |
| (1, 0) 215 | 'Doedd dim byd yn falchach gen i na dy fod di wedi gallu cael coleg. |
| (Mrs Lloyd) Nag oedd, wir, Dilys. | |
| (Mrs Lloyd) Ydi hi ddim yn bryd te? | |
| (1, 0) 220 | Ydi, bron â bod, mam, ond mae Letitia'n gorffen tipyn bach o waith i mi gyntaf. |
| (Tabitha) Letitia yw enw'r forwyn ofnadwy yna, ai e? | |
| (Tabitha) Rwy'n deall nad yw Dilys na'ch mam am ei chadw. | |
| (1, 0) 224 | Wel, ydi, druan, mae Letitia dipyn yn lletchwith. |
| (1, 0) 225 | 'Rwy'n gwybod na fyddai yn taro nemor un. |
| (1, 0) 226 | Dyna pam y cymerais drugaredd arni; ond erbyn hyn y mae wedi dod at fy llaw yn gwmws. |
| (Tabitha) O'n wir! | |
| (Tabitha) O'n wir! | |
| (1, 0) 228 | Ydi. |
| (1, 0) 229 | Mae'n syndod fel y mae wedi dod i deipio. |
| (1, 0) 230 | Teipio llythyr y mae hi 'nawr, ond fe gaiff fynd at y te yn union. |
| (Dilys) Dyna reswm dros gadw'r fath forwyn, ynte, Modryb? | |
| (Dilys) Fe gewch ei gweld yn tendio wrth y ford. | |
| (1, 0) 234 | Fe gei di weithio tê, os yw'n well gennyt, Dilys. |
| (1, 0) 235 | Chaiff Letitia ddim bod yn destun gwawd i ti. |
| (Dilys) Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia. | |
| (Mrs Lloyd) Tewch, wir, ferched. | |
| (1, 0) 238 | Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam. |
| (Mrs Lloyd) O'r gorau Jane. | |
| (1, 0) 246 | Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi! |
| (Dilys) 'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn. | |
| (Tabitha) 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd. | |
| (1, 0) 309 | Mae te'n barod. |
| (1, 0) 310 | Dewch 'nawr. |
| (Tabitha) Aroswch funud, nes daw Dilys lawr â'r ffrog sydd ganddi ar gyfer y Ginio, heno. | |
| (Tabitha) Mae i fod yn amgylchiad neilltuol heno, 'rwy'n meddwl. | |
| (1, 0) 313 | Ydi, heno, am fod yr elw tuag at yr Ysbyty. |
| (1, 0) 314 | Rwyf innau wedi addo mynd heno. |
| (1, 0) 315 | Nid wyf byth yn arfer mynd, a byddai'n well gen i beidio mynd heno, hefyd—ond rhaid mynd, er mwyn yr Achos. |
| (Tabitha) 'Dyw Dilys ddim yr un fath â chi, Jane. | |
| (Tabitha) Dyw hi ddim yn golygu bod yn hen ferch. | |
| (1, 0) 319 | Nag ydi, 'rwy'n deall. |
| (Tabitha) 'Nawr yw ei hamser hi, a rhaid i chi ei chefnogi i fanteisio ar ei chyfle. | |
| (Tabitha) 'Nawr yw ei hamser hi, a rhaid i chi ei chefnogi i fanteisio ar ei chyfle. | |
| (1, 0) 321 | 'Sylwais i ddim fod eisiau cefnogaeth arni, Modryb. |
| (Dilys) {Yn dod i mewn.} | |
| (Dilys) Dyma'r ffrog, Modryb 'Tabitha, ond nid wyf yn ei leicio o gwbl. | |
| (1, 0) 324 | Gwisg un arall 'te, Dilys. |
| (1, 0) 325 | Mae sawl un i'w cael gennyt. |
| (1, 0) 326 | Dewch 'nawr, wir, neu bydd y te yn... |
| (Dilys) Te, te! | |
| (Dilys) Beth alla i wisgo heno? | |
| (1, 0) 330 | Ti ŵyr orau Dilys. |
| (Dilys) Ond 'does gen i ddim—dim byd newydd. | |
| (Dilys) O Jane, rhowch fenthyg eich ffrog newydd i mi, heno, wir—os gwelwch yn dda, Jane. | |
| (1, 0) 333 | Na wna, wir. |
| (1, 0) 334 | Sut y gelli di ofyn y fath beth? |
| (1, 0) 335 | Nid wyf i wedi cael un ffrog ginio ers blynyddau, a thithau wedi cael un bob blwyddyn oddiar 'rwyt yn y Coleg. |
| (Dilys) Mae gen i reswm neilltuol dros bod ar fy ngorau, heno. | |
| (Mrs Lloyd) 'Nawr yw ei hamser hi, Jane. | |
| (1, 0) 340 | Beth sydd arnoch chi i gyd, â'ch "'Nawr yw ei hamser hi?" |
| (1, 0) 341 | A beth yw dy reswm neilltuol di heno, Dilys? |
| (Tabitha) Mi ddweda i wrthych chi, Jane. | |
| (Tabitha) Mae gennym ni le i feddwl fod rhywun bach yn mynd i ofyn am law Dilys, heno. | |
| (1, 0) 345 | O, sut ych chi'n meddwl hynny? |
| (Tabitha) {Yn chwerthin.} | |
| (Tabitha) Ha ha! | |
| (1, 0) 350 | Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd! |
| (Dilys) A pheth arall, ddywedais i ddim wrthych chi, Modryb, ond dywedodd yr Athro y byddai John Gray yn dod i'r Ginio heno. | |
| (Dilys) Ie, mae yr Athro yn gyfaill mawr iddo, ac y mae am i mi ei gyfarfod. | |
| (1, 0) 355 | "John Gray" wir! |
| (1, 0) 356 | Bydd John Gray yn sylwi dim ar dy ffrog, gelli fentro. |
| (Dilys) Dyna sut y mae Jane yn fy ngwawdio bob amser. | |
| (Tabitha) Bydd yn dipyn o glod i Dilys i ddod i gyffyrddiad â dyn mawr fel John Gray. | |
| (1, 0) 360 | Clod, wir! |
| (1, 0) 361 | Chi â'ch John Gray! |
| (Dilys) Mae Jane yn bychanu pawb. | |
| (Tabitha) Mae e'n ddibriod hefyd, 'rwy'n deall. | |
| (1, 0) 365 | Dyna ddigon o reswm dros ei gyfarfod, ynteu! |
| (Tabitha) {Gyda gwawd.} | |
| (1, 0) 370 | Nag ydw i, nag am glywed gair pellach amdano. |
| (Tabitha) 'Does dim eisiau tymer ddrwg, Jane. | |
| (Tabitha) 'Does dim eisiau tymer ddrwg, Jane. | |
| (1, 0) 372 | Wel dewch at eich te. |
| (Dilys) Ond a gaf i fenthyg eich ffrog, Jane? | |
| (1, 0) 375 | Wel... gan ei bod hi mor bwysig i ti... cei. |
| (Dilys) O diolch yn fawr, Jane annwyl. | |
| (Tabitha) Pwyswch arnaf i. | |
| (1, 0) 381 | Tendia di Dilys y te. |
| (1, 0) 382 | Mae popeth yn barod, ond mae'n rhaid i mi wneud tipyn bach o fusnes cyn te. |
| (Dilys) O'r gorau, Jane. | |
| (Letitia) Chi ganodd y gloch, Miss Lloyd? | |
| (1, 0) 389 | Ie, Letitia. |
| (1, 0) 390 | Mae'n rhaid i chi fynd â neges y'r Athro ar unwaith. |
| (1, 0) 391 | Mae rhywbeth pwysig wedi digwydd. |
| (Letitia) Be sy'n bod? | |
| (Letitia) Be sy'n bod? | |
| (1, 0) 393 | Alla i ddim mynd i'r Ginio, wedi'r cyfan. |
| (Letitia) Dim mynd? | |
| (Letitia) Mae'n rhaid i chi fynd. | |
| (1, 0) 396 | 'Rwyf wedi addo, 'rwy'n gwybod, ond allaf i ddim mynd. |
| (Letitia) "Rych chi'n un â'ch gair bob amser, a mae'r Athro'n gwybod hynny. | |
| (Letitia) "Rych chi'n un â'ch gair bob amser, a mae'r Athro'n gwybod hynny. | |
| (1, 0) 398 | Dyna pam na wna ffonio'r tro nawr. |
| (1, 0) 399 | Rhaid i chwi fynd lawr ar eich beisicl i esbonio'n iawn sut y mae'n bod. |
| (1, 0) 400 | Dwedwch nas gallaf fynd am... am {yn chwerthin} am fod Dilys wedi mynnu fy unig ffrog {yn chwerthin eto} i gwrdd â John Gray. |
| (1, 0) 401 | LETITIA |
| (1, 0) 403 | 'Dych chi ddim wedi rhoi eich ffrog bert i Miss Dilys, os bosib! |
| (1, 0) 404 | Ydw wir. |
| (1, 0) 405 | Does neb yma'n meddwl fod eisiau ffrog bert ar hen ferch ddeugain oed. |
| (Letitia) O Miss Lloyd, 'rych chi'n bert ofnadwy yn eich ffrog newydd,... a 'rych chi'n bert ofnadwy bob amser, hefyd. | |
| (Letitia) O Miss Lloyd, 'rych chi'n bert ofnadwy yn eich ffrog newydd,... a 'rych chi'n bert ofnadwy bob amser, hefyd. | |
| (1, 0) 407 | 'Nawr 'nawr, Letitia! |
| (1, 0) 408 | Wel, dwedwch wrth yr Athro fod yn ddrwg gen i... |
| (Letitia) A mi fydd pawb yno hefyd! | |
| (Letitia) 'Roedd Siwsi'r Oueens yn dweud y bydd y lle'n llawn i gwrdd â John Gray, a fod llawer wedi methu cael lle. | |
| (1, 0) 411 | Gorau gyd. |
| (1, 0) 412 | Dyna oedd yr Athro'n obeithio—er mwyn yr Ysbyty. |
| (Letitia) Ie, ond i gwrdd â John Gray, a John Gray yn methu mynd... am fod Miss Dilys wedi gwisgo ei ffrog! | |
| (Letitia) Cerwch wir, Miss Lloyd. | |
| (1, 0) 417 | Byddai'n hwyl iawn i chwi, Letitia, ond 'rwyf i wedi bod yn crynu digon wrth feddwl am y peth. |
| (1, 0) 418 | Rwy'n methu deall sut y perswadiwyd fi i roi fy ngair. |
| (Letitia) Er mwyn yr Achos, Miss Lloyd fach. | |
| (Letitia) Er mwyn yr Achos, Miss Lloyd fach. | |
| (1, 0) 420 | Ie, ond y mae'n amhosib 'nawr, beth bynnag. |
| (Letitia) Rhaid i chi ddweud wrtho eich hunan, 'te, wir. | |
| (Letitia) Rhaid i chi ddweud wrtho eich hunan, 'te, wir. | |
| (1, 0) 422 | Alla i ddim gadael y tŷ cyn y daw'r post. |
| (1, 0) 423 | Addawodd y Cyhoeddwyr roi gwybod i mi heddiw'n ddi-ffael, a... a gwyddoch mor bwysig yw eu dedfryd y tro hwn. |
| (Letitia) Gwn yn iawn, ond gellwch fynd yn gysurus, ac mi gadwaf i'r llythyr yn sâff i chi. | |
| (Letitia) Byddant yn falch iawn i gael eich llyfr. | |
| (1, 0) 427 | O Letitia! |
| (1, 0) 428 | Gwyn fyd na fyddech yn dweud y gwir! |
| (Letitia) Ond yw'r Athro wedi dweud hynny? | |
| (Letitia) A mae e'n iawn bob tro, a rwyf innau'n gwybod, hefyd, na fuodd dim cystal llyfr erioed. | |
| (1, 0) 431 | Peidiwch rhagrithio, Letitia. |
| (Letitia) 'Rwy'n dweud y gwir; a fi deipiodd e bob gair, yntefe? | |
| (Letitia) 'Rwy'n dweud y gwir; a fi deipiodd e bob gair, yntefe? | |
| (1, 0) 433 | Ie, ie. |
| (1, 0) 434 | 'Wnawn i ddim byd heboch chi, Letitia. |
| (Letitia) Dyna ddwl mae merched i feddwl am ddillad, a bechgyn, a hen ddwli fel yna, pan y gallent fod yn teipio llyfrau mawr! | |
| (Letitia) Ond cer'wch chi 'nawr, Miss Lloyd. | |
| (1, 0) 437 | O'r gorau. |
| (1, 0) 438 | Cystal i mi fynd ynteu. |
| (Letitia) Ydi. | |
| (Letitia) Mi orffennaf i'r llythyron ar ôl cymhennu tipyn man hyn. | |
| (1, 0) 441 | Fydda i ddim yn hir. |
| (1, 0) 510 | Hawyr bach! |
| (1, 0) 511 | Beth yw'r twrw 'ma? |
| (1, 0) 512 | Troais 'nol i 'mofyn llythyr i'w bostio, a 'chefais i erioed y fath fraw. |
| (1, 0) 513 | Be sy'n bod, dwedwch? |
| (Dilys) Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i. | |
| (Dilys) A John Gray, cofiwch, Modryb Tabitha. | |
| (1, 0) 520 | Beth sy'n bod, Letitia? |
| (Letitia) Miss Lloyd fach, mae popeth yn iawn. | |
| (Letitia) Mae nhw'n falch iawn i gael y llyfr, ac fe gewch chi lythyr yfory. | |
| (1, 0) 524 | O dyna dda! |
| (1, 0) 525 | Diolch byth! |
| (Letitia) A dwedwch wrthyn' nhw 'mod i'n iawn na fydd dim eisiau i mi fod yn forwyn a gwisgo hen gapan, ragor. | |
| (Letitia) A dwedwch wrthyn' nhw 'mod i'n iawn na fydd dim eisiau i mi fod yn forwyn a gwisgo hen gapan, ragor. | |
| (1, 0) 527 | Eisteddwch, Modryb Tabitha. |
| (1, 0) 528 | Mae'n rhaid i mi roi esboniad i chi i gyd, ond wn i ddim yn iawn sut y mae dechrau. |
| (Letitia) 'Ddwedais i ddim mai y |fi| sy'n mynd i briodi'r Athro. | |
| (Letitia) 'Ddwedais i ddim mai y |fi| sy'n mynd i briodi'r Athro. | |
| (1, 0) 530 | Ond y fi. |
| (Tabitha) Beth, chi... yn priodi... yr Athro? | |
| (Tabitha) Beth, chi... yn priodi... yr Athro? | |
| (1, 0) 532 | Ie... ac yr wyf wedi addo mynd â Letitia gen i fel ysgrifennydd. |
| (Tabitha) Ysgrifennydd i'r Athro? | |
| (Tabitha) Ydi'r ddwy wedi drysu? | |
| (1, 0) 540 | Efallai y dylwn fod wedi dweud wrthych chi, 'mam, o'r blaen, mae y fi yw John Gray. |
| (1, 0) 542 | Ond yr o'wn yn gallu 'sgrifennu'n fwy rhydd, a chael mwy o lonydd pan nad oedd neb yn gwybod... |
| (1, 0) 543 | 'Nawr y cafodd Letitia glywed fod y Cyhoeddwyr wedi derbyn fy llyfr newydd. |
| (Mrs Lloyd) {Bron a thorri i lawr.} | |
| (Tabitha) Jane, o bawb! | |
| (1, 0) 551 | Peth rhyfedd na fyddech yn deall na allwn i byth gadw cartre fel hyn wrth deipio yn unig. |
| (Mrs Lloyd) Beth oedd yr Athro yn wneud yma bob dydd ynteu? | |
| (Tabitha) Oes dim eisiau gofyn wir! | |
| (1, 0) 554 | Fe oedd yn darllen fy ngwaith, ac yn fy nghymell ymlaen. |
| (Dilys) Beth am 'mam a finnau, wedi i chi briodi? | |
| (Dilys) Beth am 'mam a finnau, wedi i chi briodi? | |
| (1, 0) 556 | Bydd arian y llyfr newydd i chi 'mam. |
| (1, 0) 557 | Neges y ffôn heno sydd wedi penderfynu tynged yr Athro a minnau. |
| (1, 0) 558 | Yr wyf wedi gwrthod priodi nes eich bod chi 'mam yn annibynnol. |
| (1, 0) 559 | Fydd dim eisiau i'r Athro eich cynnal chi, o gwbl. |