| (Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? | |
| (1, 0) 425 | Duwcs mawr, Rolant Huw, 'rois i fraw ichi, deudwch? |
| (Rolant) Sh! | |
| (Rolant) Paid â bloeddio! | |
| (1, 0) 428 | Pam? |
| (1, 0) 429 | 'D oes yma neb i mewn heblaw chi. |
| (1, 0) 430 | Mi fum i'n gwylio'r tŷ 'ma ers meityn am gyfle i lithro i mewn. |
| (1, 0) 431 | A phan weles i Mrs. Huw... |
| (Rolant) Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith? | |
| (Rolant) Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith? | |
| (1, 0) 433 | Ie, gorfod gadael Llundain ar |short notice|, fel pe tae. |
| (1, 0) 434 | Ond mi ges i'r blaen ar y tacle, Rolant Huw! |
| (1, 0) 436 | Bras-gamu allan o'r tŷ drwy ddrws y bac fel cr'adur o'i go' ulw las, heb ddim ond côt ucha' a'r pecyn 'ma. |
| (Rolant) A dod yr holl ffordd o Lundain? | |
| (Rolant) A dod yr holl ffordd o Lundain? | |
| (1, 0) 438 | Ie. |
| (1, 0) 439 | Cymryd f'amser, wrth gwrs, a thrafeilio |strictly incognito|, fel y brenin a'r byddigions 'ma... |
| (1, 0) 441 | 'Neno'r dyn, Rolant Huw, be' ydi rhyw d'wllwch fel hyn? |
| (Rolant) O, ofn i rywun dy weld, Jac. | |
| (Rolant) O, ofn i rywun dy weld, Jac. | |
| (1, 0) 444 | Dyna welliant! |
| (1, 0) 446 | 'R argod fawr, ydech chi wedi dychryn, deudwch? |
| (Rolant) Wel... na, ond mae'n ddrwg gen' i drosot ti, Jac. | |
| (1, 0) 449 | Pam, yn duwcs? |
| (1, 0) 450 | 'D oes dim angen gofidio, Rolant Huw. |
| (1, 0) 451 | 'R ydw i'n dechre mwynhau crwydro fel rhyw dramp o le i le. |
| (1, 0) 452 | 'Styrio tipyn ar yr hen gorffyn 'ma ar ôl byw yn ddyn |respectable| yn Llundain! |
| (Rolant) {Yn lled ddifrifol.} | |
| (Rolant) Mae'n g'wilydd dy fod ti'n gorfod ffoi oddi cartre' am sefyll dros yr hyn sy'n iawn. | |
| (1, 0) 455 | O wel, rhyw greadur aflonydd 'fum i erioed wyddoch. |
| (1, 0) 456 | Dyna pam 'r ydw i'n dal yn hen lanc, efallai. |
| (Rolant) 'R wyt ti mewn tipyn o helynt heno. | |
| (Rolant) |Seren tan Gwmwl|? | |
| (1, 0) 460 | Ie. |
| (1, 0) 461 | Y Llywodraeth a minne'n methu cyd-weld ynghylch cynnwys y llyfr. |
| (1, 0) 462 | A 'd oes dim syndod! |
| (1, 0) 463 | Mi ddeudis i bethe reit gas amdanyn' nhw. |
| (Rolant) 'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod. | |
| (Rolant) 'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod. | |
| (1, 0) 465 | Ond gwrandewch! |
| (1, 0) 466 | Meddwl na feder yr un wan jac o'r cnafon ddarllen na deall gair o'r |Seren|. |
| (1, 0) 467 | Dim un! |
| (1, 0) 468 | Mae'n rhaid fod rhyw Ddic-Siôn-Dafydd wedi prepian arna' i. |
| (Rolant) Rhag c'wilydd iddo, pwy bynnag oedd. | |
| (Rolant) Dyna un sgerbwd na fedra' i ei ddiodde' byth... bradwr! | |
| (1, 0) 471 | Wel, 'ddarfu imi ddim aros yn Llundain i ddadlau f'achos. |
| (1, 0) 472 | A dyma fi bellach yn ddigon dig'wilydd i ofyn am loches. |
| (1, 0) 473 | Noswaith o leia'. |
| (Rolant) Â chroeso, Jac. | |
| (1, 0) 477 | Na, fel arall yn hollol! |
| (1, 0) 478 | 'Wyddwn i ddim o'r blaen 'mod i mor boblogaidd yng Nghymru 'ma. |
| (Rolant) {Gydag edmygedd.} | |
| (Rolant) Mae'r werin yn dy hanner addoli. | |
| (1, 0) 481 | Ydi. |
| (1, 0) 482 | Gwneud ffys dychrynllyd ohono'i lle bynnag 'r o'wn i'n dangos fy wyneb. |
| (1, 0) 483 | Digon o fwyd hefyd... |
| (1, 0) 485 | ... a llawer ohonyn' nhw'n hanner lwgu, y cre'duried. |
| (Rolant) Mi fyddi'n berffaith sâff yma, Jac. | |
| (Rolant) Mae pawb yn yr ardal yn cyd-weld â thi, ond |un|... | |
| (1, 0) 489 | O? |
| (1, 0) 490 | A phwy ydi hwnnw, felly? |
| (Rolant) Person y plwy. | |
| (1, 0) 493 | Naturiol iawn, wir! |
| (1, 0) 494 | Sut greadur ydi hwnnw? |
| (1, 0) 495 | Yr hen deip, mi'wn. |
| (Rolant) Ie, efallai. | |
| (1, 0) 502 | Dyna'r teip... i'r blewyn! |
| (Rolant) Ond mae hwn yn llawer mwy galluog na'r cyffredin. | |
| (Rolant) Mae o'n ddyn i'w |ofni|. | |
| (1, 0) 505 | Ofni? |
| (1, 0) 506 | 'D oes yr un person plwy dan haul nad ydw i'n deall sut i'w drin. |
| (1, 0) 507 | Ydech chi'n cofio hwnnw yng Ngherrig-y-Drudion ers talwm? |
| (1, 0) 508 | 'Des i ddim i'w afael |o| beth bynnag. |
| (1, 0) 509 | Druan ohono! |
| (1, 0) 511 | Person dd'udsoch chi, Rolant Huw? |
| (1, 0) 512 | Mi ro' i berson iddyn' nhw! |
| (Janet) {Wrth y drws.} | |
| (1, 0) 530 | Sut yr ydech chi, Miss Foster? |
| (Janet) Yn dda iawn diolch, Mr.... Mr. Williams, yntê? | |
| (1, 0) 533 | Ie siŵr. |
| (1, 0) 534 | Mr. Williams. |
| (1, 0) 535 | Yntê, Rolant Huw? |
| (Rolant) {Yn lled ffwndrus o hyd.} | |
| (1, 0) 543 | Mynd, ddywed'soch chi, Miss Foster, a chwithau newydd gyrraedd? |
| (1, 0) 544 | Dim o'r fath beth! |
| (1, 0) 545 | 'R ydw i'n synnu atoch, Rolant Huw. |
| (1, 0) 546 | Nid fel hyn y mae ymddwyn at |young ladies| yr ardal, yn siŵr i chi. |
| (1, 0) 547 | Swil? |
| (1, 0) 548 | A chwithe'n ŵr priod? |
| (Janet) {Yn gwenu.} | |
| (Janet) Hen lanc ydych chwi, mae'n amlwg, Mr. Williams. | |
| (1, 0) 551 | Hen lanc? |
| (1, 0) 552 | Wel... ie. |
| (1, 0) 553 | Ond 'd ydw i ddim mor hen â hynny, 'chwaith, nag ydw, Rolant Huw?... |
| (Rolant) Wel... y... eisteddwch am funud, Janet. | |
| (1, 0) 557 | Janet? |
| (1, 0) 558 | Enw swynol dros ben. |
| (1, 0) 559 | Mi fedrwn i nyddu pwt o englyn am "Janet"... |
| (Janet) 'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams? | |
| (Janet) 'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams? | |
| (1, 0) 561 | Rhyw dalcen slip hwyrach. |
| (1, 0) 562 | Ond cofiwch, pe cawn i destun teilwng i'm symbylu... |
| (Rolant) {Yn newid y stori ar unwaith.} | |
| (Rolant) {Yn troi at Jac.} | |
| (1, 0) 573 | Ie, mi synnech pa mor sydyn, Miss Foster. |
| (1, 0) 574 | A dod yma ar garlam gwyllt. |
| (Janet) Rhyw |flying visit|, fel pe tae... | |
| (1, 0) 577 | Go dda! |
| (1, 0) 578 | Dyna daro'r hoel ar ei phen! |
| (1, 0) 579 | |Flying visit|! |
| (Janet) Mae'n amlwg nad ydych yn gadael i'r hen ryfel 'ma effeithio rhyw lawer arnoch, Mr. Williams. | |
| (Janet) Gwneud y gorau o'r gwaethaf? | |
| (1, 0) 582 | Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi. |
| (Janet) Gallai yn siŵr. | |
| (Janet) Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau a oes rhaid i ddynion ryfela? | |
| (1, 0) 586 | Eithaf cwestiwn. |
| (1, 0) 587 | Mi fum innau'n ei ofyn hefyd lawer tro, onido Rolant Huw? |
| (Rolant) Wel do... am wn i... wir. | |
| (Janet) Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela. | |
| (1, 0) 590 | O? |
| (1, 0) 591 | A phwy ydi'r creadur hwnnw, tybed? |
| (Janet) Jac Glan-y-Gors. | |
| (Janet) Mi glywsoch sôn amdano yn siŵr, Mr. Williams? | |
| (1, 0) 599 | O do, coeliwch fi! |
| (1, 0) 600 | Gryn dipyn! |
| (Janet) Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei |Seren ian Gwmwl|? | |
| (Janet) Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei |Seren ian Gwmwl|? | |
| (1, 0) 602 | O do... lawer gwaith. |
| (Janet) Llyfr eithaf diddorol, wrth gwrs, er nad oes rhyw lawer o |polish| yn perthyn iddo. | |
| (1, 0) 605 | |Polish|? |
| (Janet) Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus? | |
| (Janet) Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus? | |
| (1, 0) 607 | Y... y... anwybodus? |
| (Janet) Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny. | |
| (Janet) Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny. | |
| (1, 0) 609 | Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur! |
| (Janet) Ond cofiwch, ar y cyfan 'r wy'n cyd-weld â syniadau'r awdur. | |
| (1, 0) 612 | Da iawn. |
| (1, 0) 613 | Mi allaf finnau ddweud cymaint â hynny. |
| (Janet) Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol. | |
| (Janet) Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol. | |
| (1, 0) 615 | O, yn wir? |
| (Janet) Yn hynod felly. | |
| (Janet) Dweud llawer peth digon chwerw ac annheg, yn enwedig am yr offeiriaid. | |
| (1, 0) 618 | Wel ydi, efallai. |
| (1, 0) 619 | Ond ma'r cnafon yn haeddu pob gair, Miss Foster. |
| (1, 0) 620 | Mae'n hen bryd i rywun ymosod ar y tacle! |
| (Janet) Ond y mae hi ar ben arno, druan. | |
| (Janet) Ond y mae hi ar ben arno, druan. | |
| (1, 0) 622 | Pam? |
| (Janet) Clywais yn y pentref heno iddo orfod dianc yn ddi-seremoni o Lundain, a chyrraedd Cymru. | |
| (Janet) Mae cryn gyffro yma ynghylch y peth. | |
| (1, 0) 625 | O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch. |
| (Janet) Gobeithio'n wir. | |
| (1, 0) 629 | Wel ie, yntê? |
| (1, 0) 630 | Yn enwedig os ydi o yn y cyffinie yma. |
| (1, 0) 631 | Wyddoch chi be', Miss Foster, ma' Rolant Huw yn dweud fod person y plwy' yma yn ddyn caled gynddeiriog, heb ronyn o ras. |
| (Janet) {Yn swynol iawn.} | |
| (Janet) Felly'n wir! | |
| (1, 0) 634 | Ydi. |
| (1, 0) 635 | Efallai eich bod yn ei 'nabod yn well na mi. |
| (Janet) Wel, synnwn i ddim, wyddoch. | |
| (Janet) Wel, synnwn i ddim, wyddoch. | |
| (1, 0) 637 | 'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw... |
| (Janet) Trueni fyddai i Jac Glan-y-Gors fynd i afael dyn felly, onid e? | |
| (Janet) Wel, Mr. Williams, 'r wy'n falch imi gael sgwrs â chwi, er nad ydym yn cyd-weld yn hollol ynglŷn â'r gwalch Jac Glan-y-Gors yna. | |
| (1, 0) 649 | O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster. |
| (Janet) Efallai na welaf mohonoch eto. | |
| (1, 0) 653 | Gadael? |
| (Janet) |Flying visit| i ryw bentref arall efallai, pwy a ŵyr? | |
| (1, 0) 669 | Jac Glan-y-...? |
| (1, 0) 671 | 'R oeddech chi'n gwybod, drwy'r amser? |
| (Janet) {Yn dawel.} | |
| (Janet) Peidiwch oedi... 'r wy'n crefu arnoch... | |
| (1, 0) 683 | Ond Miss Foster, pam yr ydych... |
| (Janet) Mae gennyf ormod o feddwl ohonoch... fel dyngarwr... i'ch gweld yn mynd i'r ddalfa... yma o bob man... | |
| (1, 0) 704 | Merch y person! |
| (Rolant) Ie. | |
| (1, 0) 708 | Biti? |
| (1, 0) 709 | Mae'n llawer mwy na hynny; pe bai chi ond yn gwybod. |
| (Rolant) {Ei dro ef yw bod yn llawen.} | |
| (1, 0) 715 | Yn goblyn o glyfar, Rolant Huw. |
| (Rolant) {Yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 719 | "Janet" ddywed'soch chi oedd ei henw hi, yntê? |
| (Rolant) Wel ie... ond... | |
| (1, 0) 722 | Janet! |
| (1, 0) 723 | ~ |
| (1, 0) 724 | "Nid adwaen, iawn yw dwedyd, |
| (1, 0) 725 | Weithian ei bath yn y byd." |
| (Rolant) {Wedi ei synnu.} | |
| (1, 0) 730 | Efallai fy mod i, Rolant Huw... yn sâl. |
| (1, 0) 735 | Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith! |
| (Rolant) Ffoi? | |
| (Rolant) Ffoi? | |
| (1, 0) 737 | 'D oes dim aros i fod! |
| (Rolant) Ofn yr hen Foster? | |
| (Rolant) Ofn yr hen Foster? | |
| (1, 0) 739 | Na. |
| (1, 0) 740 | Mae pethau'n waeth nag a feddyliwch... |
| (Rolant) 'Neno'r dyn, Jac... | |
| (1, 0) 743 | Histeria gwallgof drwy'r wlad yn erbyn pawb sy'n sôn am heddwch... neu gondemnio rhyfel. |
| (1, 0) 744 | Tom Paine... mi glywsoch am hwnnw? |
| (Rolant) Wel do... ond... | |
| (1, 0) 747 | Bwgan mawr y Llywodraeth! |
| (1, 0) 748 | Mae arnyn' nhw ei ofn. |
| (1, 0) 749 | Llosgi ei lun... hyrddio pawb i garchar sy'n darllen neu werthu ei lyfrau! |
| (1, 0) 750 | Sbiwyr ar bob cornel stryd yn gwrando ar bobl yn siarad... |Reign of Terror|! |
| (1, 0) 751 | Nid yn Ffrainc, ond yn y wlad hon! |
| (1, 0) 752 | Ie, yng Nghymru! |
| (Rolant) Ond beth sydd a wnelo Tom Paine... | |
| (Rolant) Ond beth sydd a wnelo Tom Paine... | |
| (1, 0) 754 | Y fi ydi Tom Paine Cymru! |
| (1, 0) 755 | A ma' nhw ar fy ôl! |
| (1, 0) 756 | 'D oes dim dinas barhaus bellach i awdur |Seren tan Gwmwl|. |
| (Rolant) Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma... | |
| (Rolant) Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma... | |
| (1, 0) 758 | Nac ydw'! |
| (1, 0) 759 | A chofiwch hyn... cyn bo hir bydd carchar ac erlid yn aros pawb sy'n darllen neu werthu'r |Seren|, heb sôn am roi lloches i'r awdur! |
| (1, 0) 760 | Na,mae hi ar ben... |
| (Sara) {Heb weld Jac eto.} | |
| (Ifor) Mr. John Jones o Lan-y-Gors, yntê? | |
| (1, 0) 773 | Wel, ie siŵr. |
| (Ifor) Y |mae|'n dda gennyf gwrdd â chwi, Mr. Jones! | |
| (1, 0) 783 | Deudwch y gwir, da chi. |
| (1, 0) 784 | Wedi gorfod dianc o Lunden ydw i, Mrs. Huw. |
| (Ifor) Ie, clywsom stori yn y pentref eich bod wedi cyrraedd Cymru. | |
| (Ifor) 'R wy'n siŵr y gallwch aros am sbel, Mr. Jones, i gael y croeso y mae dyn fel chwi yn ei haeddu. | |
| (1, 0) 801 | Na, rhaid symud. |
| (1, 0) 802 | Lle mae fy nghôt i, deudwch? |
| (1, 0) 803 | A'r pac? |
| (1, 0) 804 | 'Chydig iawn o |luggage| sydd gan rhyw dramp fel fi, wyddoch! |
| (1, 0) 806 | 'D oes gen' i ddim ond diolch... |
| (Rolant) {Mewn cyffro.} | |
| (Rolant) Pwy sy' 'na, tybed? | |
| (1, 0) 811 | Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda! |
| (Sara) Y Brenin! | |
| (1, 0) 816 | A ma' nhw wedi cyrraedd i unwaith eto? |
| (1, 0) 817 | 'D ydw i ddim yn aros am y tacle! |
| (1, 0) 818 | Drws bac amdani, fel arfer! |
| (1, 0) 830 | Milishia? |
| (1, 0) 831 | Wel, wel. |
| (1, 0) 832 | Hen ffrindie! |
| (Rolant) Dyna Hugh Foster, | |
| (Rolant) Dyna Hugh Foster, | |
| (1, 0) 835 | Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen! |
| (Rolant) Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac... | |
| (1, 0) 845 | Ie, yn duwcs... pam? |
| (Rogers) Mae gennyf awdurdod i'ch dwyn i'r ddalfa. | |
| (Foster) Dyletswydd pob un ohonom heddiw ydyw rhoi ei wlad o flaen popeth arall... hyd yn oed ei deulu... | |
| (1, 0) 879 | Ac o flaen yr efengyl! |
| (Foster) Dyna ddigon. | |
| (1, 0) 888 | Mae'n hollol ddi-euog, Mr. Foster! |
| (1, 0) 889 | Byddai ei gosbi yn gam dybryd... |
| (Foster) A oes raid imi dderbyn cyngor gan fradwr ac anffyddiwr? | |
| (Janet) Pa waith? | |
| (1, 0) 906 | A pha frenin? |
| (Foster) Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda. | |
| (1, 0) 924 | Gadewch lonydd iddo. |
| (1, 0) 925 | Gwneud ei ddyletswydd oedd y bachgen... |
| (Janet) {Yn fwy tosturiol na dim arall.} | |
| (Janet) Ac os anfonwch ef i garchar, rhoddaf finnau fy hun i fyny i'r awdurdodau yn Rhuthun fel dilynydd Jac Glan-y-Gors. | |
| (1, 0) 984 | 'D oes dim rhaid i chwi wneud hynny, Miss Foster. |
| (1, 0) 986 | Dowch, syr, galwch ar Capten Rogers. |
| (Foster) Ie... wel... y... | |
| (Janet) Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel... | |
| (1, 0) 995 | Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster. |
| (Janet) Nid y chwi sydd i benderfynu bellach. | |
| (Janet) Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau. | |
| (1, 0) 1019 | Nid oes dewis i mi, druan! |
| (Foster) Bydded felly. | |
| (Foster) Dyna'r... telerau. | |
| (1, 0) 1031 | Diolch, syr. |
| (1, 0) 1032 | Byddaf yn siŵr o lynu wrthynt. |
| (Foster) O'r gorau. | |
| (Foster) A gawn ni fynd, Mr. Huw? | |
| (1, 0) 1039 | Janet... a gaf fi eich galw felly? |
| (Janet) Cewch... Jac. | |
| (Janet) Cewch... Jac. | |
| (1, 0) 1041 | A oedd raid i chwi wneuthur hyn? |
| (Janet) Oedd. | |
| (Janet) Y mae gennyf gymaint o feddwl o... | |
| (1, 0) 1044 | Jac Glan-y-Gors? |
| (Janet) Efallai'n wir! | |
| (1, 0) 1047 | Janet, dowch gyda mi, i wynebu'r dyfodol law yn llaw! |
| (1, 0) 1048 | 'R ydych chwi'n perthyn i rengoedd Rhyddid... yno mae'ch lle... |
| (1, 0) 1050 | Na, nid oes gennyf hawl bellach i ofyn am hyn... y telerau! |
| (Janet) Na, Jac. | |
| (Janet) Gallaf wneud llawer... dylanwadu ar fy nhad, a cheisio dod â rhyw gymaint o heulwen i drueiniaid tlawd y pentref hwn. | |
| (1, 0) 1055 | Gallwch, Janet. |
| (Janet) Ac Ifor, druan. | |
| (Janet) Yma y mae'n rhaid imi aros. | |
| (1, 0) 1059 | Ie. |
| (Janet) Ond daliwch i ymladd, Jac. | |
| (Janet) Cofiwch am y |Seren|. | |
| (1, 0) 1071 | Ond heno, Janet, y mae fy Seren i... dan gwmwl... |