| (Oll) {Yn canu.} | |
| (Llywelyn) Mae tir Caio'n ddigon gwael, ond mae'n well na hwn o gryn dipyn. | |
| (1, 1) 35 | Gwir bob gair! |
| (1, 1) 36 | Chydig o ffrwyth welais i arno, nac o hono erioed, ond anghydfod. |
| (1, 1) 37 | Ac o hwnnw cawn ddigon─a mwy. |
| (Rhys) Taw ditha, Iolo. | |
| (Rhys) Welis i 'run twrnai 'rioed na fynnai dynnu pres o groen dyn cyn methu. | |
| (1, 1) 41 | Na! |
| (1, 1) 42 | Choeliai fawr! |
| (1, 1) 43 | Mi faswn i'n llwgu fel twrna─mi rydw i'n rhy onast, wyddost! |
| (Gruffydd) Mi 'rwyt wedi pesgu rywle a rhywsut fodd bynnag! | |
| (Gruffydd) Mi 'rwyt wedi pesgu rywle a rhywsut fodd bynnag! | |
| (1, 1) 45 | Ydw'n tad! |
| (1, 1) 46 | Ond ar y delyn, ac ar fwyd da, bwrdd yr Arglwyddes, dy fam, wel di. |
| (1, 1) 47 | Does le fel Sycharth na gwraig fel dy fam i ofalu am angen corff prydydd. |
| (1, 1) 48 | ~ |
| (1, 1) 49 | Amla lle nid er ymliw |
| (1, 1) 50 | Penhwyaid a gwyniaid gwiw; |
| (1, 1) 51 | A'i dri bwrdd, a'i adar byw |
| (1, 1) 52 | Paunod, cryhyrod hoewryw. |
| (Rhys) Taw da'ch ditha a'th brydyddu. | |
| (Gruffydd) Nid gwerth y tir, f'ewyrth, ond yr egwyddor odditan y cweryl sy bwysig. | |
| (1, 1) 60 | Be sy'n iawn sy o bwys i ni! |
| (Glyndwr) Cofia dithau hynny, Gruff. | |
| (Glyndwr) Mi gefais air yn ddistaw y gallem ddisgwyl rhuthr ar y Croesau eto. | |
| (1, 1) 64 | Twt! lol wirion! |
| (1, 1) 65 | Llosgodd Grey ei fysedd y tro dweutha. |
| (1, 1) 66 | Fe losgir ei esgyrn os daw eto. |
| (1, 1) 67 | ~ |
| (1, 1) 68 | Pwy a ostwng Powysdir |
| (1, 1) 69 | Tra bo cyfraith a gwaith gwir! |
| (Glyndwr) Ie, tra bo cyfraith a gwaith gwir. | |
| (Glyndwr) Ond chydig geir o rheiny tra b'o Harri ar ei orsedd a Grey o Ruthin yn ei lawes. | |
| (1, 1) 72 | Onid wyt tithau cyn belled yn llawes y brenin ag ydyw Grey? |
| (1, 1) 73 | Neu mi ddylit fod, a thithau wedi cynnal ei freichiau mewn gwledydd pell. |
| (1, 1) 74 | Mi clywais i o yn dy frolio am yr hyn a wnest yn y twrnameint trosto yn Calais a Thunis, a'r brwydro ar lannau'r Baltic yn erbyn y Germaniaid, ac ar y Danaw fawr yng ngwlad y Twrc. |
| (1, 1) 75 | A be wnai Grey, greadur truan, mewn lleoedd felly, amgen beichio fel llo neu ffoi am ei hoedl! |
| (Glyndwr) Mae pethau wedi newid er hynny, Iolo bach! | |
| (1, 1) 158 | Cyfra'n gywir y ffwl! |
| (1, 1) 159 | Mae yma ugain, gan fod un Cymro yn werth deg Sais, a dwrn Cymro'n well nag arf estron! |
| (Glyndwr) A dywed wrth dy feistr Grey os beiddia ef, neu ti, neu neb o'i wyr, roi troed ar dir y Croesau mwy heb ganiatad Glyndwr, mai'r crogbren a fydd rhan y neb a wna. | |
| (1, 1) 188 | Da iawn, Glyndwr. |
| (1, 1) 189 | Ond un peth a anghofiaist. |
| (Glyndwr) Pa beth yw hynny? | |
| (Glyndwr) Pa beth yw hynny? | |
| (1, 1) 191 | Mae'r fanner yn ei lle─ond ble mae'r parch? |
| (1, 1) 192 | Anrhydedd yw i Sais gael cyfarch y Ddraig! |
| (Syr Rhys a'r Cymry Oll) Gwir! Gwir! | |
| (1, 2) 237 | Nid Iorwerth Llwyd ond Iolo Goch, os gwel eich Gras yn dda. |
| (1, 2) 238 | Llwyd oeddwn i tra'n byw yn Lloegr. |
| (1, 2) 239 | Yn Sycharth daethum i yn goch! |
| (Tywysog) {Yn chwerthin.} | |
| (Tywysog) Ond pa beth a ddywedi di, pa un bynnag ai fel cyfreithiwr ai fel bardd, am dlodi'r Cymro hwn wrth ochr cyfoeth Llunden? | |
| (1, 2) 244 | Ni thal i mi, eich Gras, ddweyd dim am wychder Llunden, ond am Sycharth gallaf ddweyd: |
| (1, 2) 245 | ~ |
| (1, 2) 246 | Anfynych iawn fu yno |
| (1, 2) 247 | Weled na chlicied na chlo; |
| (1, 2) 248 | Na gwall, na newyn, na gwarth, |
| (1, 2) 249 | Na syched fyth yn Sycharth! |
| (Tywysog) {Yn chwerthin.} | |
| (Dafydd Gam) Paham nad edrychi i ble 'rwyt ti'n mynd, y Cymro trwsgl diddysg! | |
| (1, 2) 259 | Llabwst, a thrwsgl, a diddysg dy hun! |
| (1, 2) 260 | Ac os Cymro wyf, 'rwy'n well Cymro, a gwell gwr, ac o ran hynny yn well Sais hefyd, tae raid, na'ch di a'th lygad cam, a'th dafod sy'n barotach na'th gledd! |
| (Dafydd Gam) Cei brofi llymder fy nghledd bryd y mynni, a'm tafod pan y mynnaf fi! | |
| (Dafydd Gam) Cei brofi llymder fy nghledd bryd y mynni, a'm tafod pan y mynnaf fi! | |
| (1, 2) 262 | Oes amser gwell na rwan, dwêd? |
| (1, 2) 273 | Ie! |
| (1, 2) 274 | Mae'n siwtio'n well lle mae o, 'rwy'n coelio. |
| (1, 2) 275 | Ond caf gyfle eto ar Ddafydd Gam! |
| (Yr Arglwyddi) Clywch! | |
| (1, 2) 371 | Ie, dyna gyfraith dda ond rheswm gwael! |
| (Barnwr) Gwir iawn, Syr Edmund Mortimer. | |
| (1, 2) 415 | Caiff fwy o groesau nag a ga o dir, os wyf yn adnabod Glyndwr ac ysbryd Cymru! |