| (Hlin) Y RHAN GYNTAF | |
| (Hlin2) AUXERRE, 429 A.D. | |
| (1, 0) 3 | |Sursum corda|, fy mrawd Paulinus. |
| (Paulinus) |Habeo ad Dominum|. Nid fy nghalon sy'n drom, | |
| (Paulinus) Ni bu gan bechadur draed trymach. | |
| (1, 0) 7 | Dyma ninnau drwy borth Auxerre, |
| (1, 0) 8 | A'r teithio blinderus dros fôr a thros diroedd ar ben. |
| (Paulinus) I Dduw y bo'r diolch; | |
| (Paulinus) Mae'r cyrn yn gori ar fy nhraed. | |
| (1, 0) 11 | Ai gardd yw pob dinas yng Ngâl? |
| (1, 0) 12 | Edrych y llannau hyn, a'r gwinwydd yn dringo'r llethrau |
| (1, 0) 13 | O'r afon hyd at fur y fynachlog, |
| (1, 0) 14 | Dirion gyfannedd Duw. |
| (Paulinus) Nid oes neb ar yr heol, a gweigion yw'r gwinllannoedd. | |
| (Paulinus) Neu wledd, a dynnodd y trefwyr i neuadd neu eglwys? | |
| (1, 0) 19 | Arhoswn. Wele lidiart y clas. |
| (Paulinus) A drws y fynachlog. | |
| (Paulinus) Bydd tynged gwlad y Brythoniaid yn ein haros ni yma. | |
| (1, 0) 30 | Ond pam y mae'r llwch yn llonydd a'r heolydd yn ddistaw? |
| (1, 0) 31 | 'Rwy'n ofni'r distawrwydd. |
| (Paulinus) Gwrando. | |
| (Paulinus) A adweini di'r llais? | |
| (1, 0) 37 | Clywais gân esgob, sy newydd ei dywys i'w orsedd, |
| (1, 0) 38 | Dair gwaith ar ei ddeulin ger uchel allor Crist |
| (1, 0) 39 | Yn cyfarch y gwŷr a'i cysegrodd. |
| (Paulinus) A'r funud hon rhoir iddo gusan tangnefedd | |
| (Paulinus) Trefnwyd awr dda inni ddyfod. | |
| (1, 0) 44 | Mihangel, y santaidd archangel, sy â'i gleddyf tros Gymru. |
| (1, 0) 45 | Dacw sŵn traed yn dyfod at y drws; |
| (1, 0) 46 | Mae'r bar mawr yn symud o'i fodrwy; |
| (1, 0) 47 | Mae'r ddôr yn agor. |
| (Porthor) |Dominus vobiscum|. | |
| (Y Tri) |Pax tecum|. | |
| (1, 0) 62 | Gynnau, pan safem yma yn heol amddifad y ddinas, |
| (1, 0) 63 | Clywsom o allor yr eglwys gân un newydd eneiniog |
| (1, 0) 64 | Yn deisyf am hir flynyddoedd i abadau Crist. |
| (Porthor) I Dduw y bo'r clod: heddiw'r bore | |
| (Paulinus) Yn ôl dy air. | |
| (1, 0) 225 | I Dduw y bo'r diolch. |