| (Mrs Harris-Jones) {Yn gollwng ei gafael ar ysgwydd ei mab gyda hwrdd bach fel pe bai hi'n cychwyn olwyn i lawr y rhiw.} | |
| (Bertie) A gwisg hi yn dy |galon|!" | |
| (1, 0) 56 | Hylo, hylo, hylo! |
| (1, 0) 57 | Be' sy'n mynd mlaen yma? |
| (1, 0) 58 | Beth yw'r wynionyn yna sy genti yn dy got? |
| (1, 0) 59 | Wyt ti'n mynd i ferwi cawl? |
| (Mrs Harris-Jones) Evan. | |
| (Mrs Harris-Jones) Rhaid i chi gael sarnu popeth wastad. | |
| (1, 0) 69 | Pam? |
| (1, 0) 70 | Wnes i ddim ond gofyn iddo a oedd e'n mynd i ferwi cawl. |
| (1, 0) 71 | Dere mlaen, dere mlaen. |
| (1, 0) 72 | Gad cael clywed yr adroddiad: |
| (1, 0) 73 | ~ |
| (1, 0) 74 | "Os wyt Gymro hoff o'th iaith |
| (1, 0) 75 | A hoff o gawl a sucan, |
| (1, 0) 76 | Stwff genhinen yn dy gap, |
| (1, 0) 77 | A stwff hi yn y sospan". |
| (1, 0) 78 | Come on, boy! |
| (Bertie) Na - 'na i ddim nawr. | |
| (1, 0) 88 | Bachgen! |
| (1, 0) 89 | Dere mlaen! |
| (1, 0) 90 | Fe alli di gymryd joc ond alli di? |
| (1, 0) 91 | Adrodd y pennill eto. |
| (David Henry) Ie, dere ngwas i. | |
| (Mrs Harris-Jones) A ninnau'n mynd i gadw coffadwriaeth eich tad. | |
| (1, 0) 98 | Wel, wnes i ddim ond gofyn beth oedd pwrpas y geninen yna yn i gap e. |
| (1, 0) 99 | Beth mae e'n wneud, te? |
| (Mrs Harris-Jones) (Yn wyllt.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Dyw e'n ddim ond enw o lys-dad i Bertie. | |
| (1, 0) 105 | Wel? |
| (1, 0) 106 | Idea dda! |
| (1, 0) 107 | Gaiff Bertie anrhydeddu Nhad i, a mi gaf innau anrhydeddu tad Bertie. |
| (1, 0) 109 | Be chi'n weyd, Napoleon? |
| (1, 0) 110 | Hoffech chi gael cof-golofn i'ch coffadwriaeth? |
| (David Henry) {More in sorrow, etc.} | |
| (David Henry) Wrth gwrs, 'dwy ddim am ddangos amharch... | |
| (1, 0) 116 | Ha! Ha! He! |
| (1, 0) 117 | Go lew, Napoleon! |
| (1, 0) 118 | Go lew, Nap! |
| (1, 0) 119 | The outraged step-father, myn diawl i. |
| (1, 0) 120 | Dewch ymlaen, Paterfamilias. |
| (1, 0) 121 | Dewch lawr i'r pentre. |
| (1, 0) 123 | Does dim lle i chi a fi fan yma. |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn ei ganfod a chornel ei llygad.} | |
| (Mrs Harris-Jones) I chi mae dioloh am hyn. | |
| (1, 0) 140 | Wel. |
| (1, 0) 141 | 'Doeodd gen i ddim bwriad i stopio'r band, dyna fi'n dweud y gwir. |
| (1, 0) 144 | Bertie. |
| (1, 0) 145 | Dere boi bach! |
| (1, 0) 146 | Mae mwy o stwffin ynot ti na hyn. |
| (1, 0) 147 | Wna i ddim sport ar dy ben di. |
| (1, 0) 148 | Dere mlaen! |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn gynddeiriog.} | |
| (1, 0) 160 | Wel! |
| (1, 0) 161 | Meddwl helpu own i nawr yn onest. |
| (David Henry) {Yn llwytho'i bib.} | |
| (1, 0) 167 | Cynghorion tadol, Nap? |
| (1, 0) 168 | Mae heisiau nhw'n dost. |
| (David Henry) Rwyt ti'n poeni braidd gormod ar dy fam, Ifan. | |
| (1, 0) 171 | Dechreuad da. |
| (David Henry) Rwyt ti'n poeni braidd mwy na sydd eisiau, Ifan. | |
| (David Henry) Ond wedi'r cwbwl, dy fam di yw hi... | |
| (1, 0) 179 | "That dear old mother of mine". |
| (1, 0) 180 | 'Dyw hi'n ffito dim mewn í'r pictiwr, Napoleon. |
| (1, 0) 181 | Mi ddylai fod wedi gwisgo hen shol fagu a bonet, a spectol, nid low neck a short skirts. |
| (1, 0) 182 | Mi adawes i gartre pan own i'n un-ar-bymtheg oed, ac o ran Mam fuodd fawr o awydd arna i ddwad nol byth wedyn. |
| (David Henry) Dy dad, Ifan? | |
| (David Henry) Paid ti ag anghofio hynny. | |
| (1, 0) 187 | Ry'm ni'n i tharo hi'n go lew, mae'n rhaid dweud. |
| (David Henry) {Yn sentimental.} | |
| (1, 0) 192 | Ddysgodd i fi yfed y gwydraid cyntaf pan oedd Mam yn llywydd Urdd Dirwestol Cymru. |
| (1, 0) 193 | Da ware, Napoleon l |
| (David Henry) Rhyw greadur anfodddog wyt ti, Ifan. | |
| (David Henry) Dyna finne wedyn, weldi, yn i hela hi yn y blaen {yn dechreu "canu grwndi"} yn smo-co mhib, yn dawel fach, yn enjoyo... dim byth yn cynhyrfu neb... yn en-joyo... | |
| (1, 0) 200 | Rwy wedi blino ar bethau, Nap. |
| (1, 0) 201 | Y gwisgo cennin yma, a'r bust yma {yn pwyntio at y mur tu ol iddo} i goffadwriaeth y Nhad, a'r ffys a'r bodder. |
| (1, 0) 202 | Pryd mae'r seremoni yma i ddigwydd, a be ma nhw'n mynd I wneud? |
| (David Henry) Mi fyddant yn dadorchuddio'r cof-golofn i dy dad - coffa da am dano... am hanner awr wedí dau, a mi fydd te i'r plant... | |
| (David Henry) Mi fyddant yn dadorchuddio'r cof-golofn i dy dad - coffa da am dano... am hanner awr wedí dau, a mi fydd te i'r plant... | |
| (1, 0) 204 | Rwy'n gwybod hynny. |
| (1, 0) 205 | Rwy wedi clywed hynny nawr rhyw gant o weithiau... |
| (David Henry) Wel, ti ofynnodd, Ifan. | |
| (David Henry) Wel, ti ofynnodd, Ifan. | |
| (1, 0) 207 | Pam na allan' nhw adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd? |
| (David Henry) Fyddai hynny ddim yn deg a dyn mawr... i adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd. | |
| (1, 0) 214 | Dwedwch yna eto! |
| (1, 0) 215 | Dwedwch e eto! |
| (1, 0) 216 | Mae e'n ddywediad mor arswydus o wreiddiol! |
| (David Henry) Wel, ti ofynnodd y cwestiwn, Ifan. | |
| (David Henry) Wel, ti ofynnodd y cwestiwn, Ifan. | |
| (1, 0) 218 | Ofynnes i ddim a oedd 'y nhad yn ddyn mawr. |
| (1, 0) 219 | Rwy'n meddwl mod i wedi cael digon o gyfle i wybod hynny. |
| (1, 0) 220 | 'Dwy ddim wedi clywed dim arall oddiar i'r syniad wawrio ar Mam. |
| (1, 0) 221 | Bob man af i... |
| (1, 0) 222 | "O, dyma fab Ifan Harris, aie... |
| (1, 0) 223 | Yr anfarwol Ifan Harris. |
| (1, 0) 224 | Felly wir! |
| (1, 0) 225 | Ydych chwi'n mynd i fod yn ddyn mor fawr a'ch tad, machgen i?" |
| (1, 0) 226 | Fel pe na bai enaid na phersonoliaeth gennyf i fy hun, a fel pe gallwn i lusgo oes allan yn marchogaeth ar gysgod 'y nhad, |
| (David Henry) Rhaid i ti beidio a chymryd pethe fel yna... | |
| (David Henry) Rhaid i ti beidio a chymryd pethe fel yna... | |
| (1, 0) 228 | Wythnos ddwetha mi gwrdded ag un o'r |slugs| hyn. |
| (1, 0) 229 | Yn union wedi iddo gael ei introdìwsio dyma fe'n dechreu, "Ydych chi, machgen i, yn ddyn mor fawr a'ch tad?" |
| (1, 0) 230 | A mi atebais innau, "Dim o'r hanner, neu mi fuaswn wedi'ch llindagu chi cyn hyn", a mi gerddais i ffwrdd... |
| (1, 0) 232 | Roedd Mam yn gweld chwith wrth gwrs. |
| (David Henry) Wel, mi ddwedaist lawer o wir wrtho... fel rwy i'n cofio dy dad, beth bynnag. | |
| (David Henry) Cofia di, dim pob teulu all godi monument yn y ty... | |
| (1, 0) 236 | Dych chi ddim yn gweld ein bod ni i gyd yn byw mewn museum? |
| (David Henry) Museum? | |
| (David Henry) Museum? | |
| (1, 0) 238 | le, museum. Dy' ni ddim ond ceidwaid mewn museum, a'r relics oddeutu ì ni er mwyn yr ymwelwyr. |
| (1, 0) 239 | Edrychwch ar y gadair yna oddìtanoch chi. |
| (1, 0) 240 | Paham mae'n cael ei chadw mor barchus? |
| (1, 0) 241 | Er mwyn i chi gael bod yn gyfforddus? |
| (1, 0) 242 | Dim perigl! |
| (1, 0) 243 | Am mai cadair Ifan Harris yw hi! |
| (1, 0) 244 | A'r sofa yne! |
| (1, 0) 245 | Ydi hi wedi cael ei rhoi fanna er ych mwyn chi? |
| (1, 0) 246 | Dim. |
| (1, 0) 247 | Y sofa lle gorweddai'r anfarwol Ifan Harris yw hi! |
| (David Henry) Ie, wel, edrych di mor lwcus wyf fi fod dy dad yn ddyn mawr. | |
| (David Henry) Dyna'r gadair a'r sofa fwyaf cysurus yn y wlad... | |
| (1, 0) 250 | Ond nid chi pia' nhw. |
| (1, 0) 251 | Mae cysgod y marw ar bopeth yn y ty yma. |
| (1, 0) 252 | Hyd yn oed y gwely 'rych chi'n cysgu ynddo. |
| (1, 0) 253 | Dyna lle gorweddodd 'y Nhad... |
| (David Henry) Paid nawr, wir, Ifan. | |
| (David Henry) Rwyt ti'n ngneud i'n nervous... | |
| (1, 0) 256 | Ond does dim eisiau mynd at y dodrefn. |
| (1, 0) 257 | Beth y'm ni'n dau ond relics? |
| (1, 0) 258 | Pwy wyf i? |
| (1, 0) 259 | Mab i Ifan Harris! |
| (1, 0) 260 | 'Does gen i ddim enw fy hun. |
| (1, 0) 261 | Enw nhad sy arna i. |
| (1, 0) 262 | 'Dwy i ddim yn bod fy hun... |
| (David Henry) O wyt, Ifan, wyt. | |
| (David Henry) Rwyt ti'n bod, ac yn cadw tipyn o dwrw... | |
| (1, 0) 265 | Wel, 'dych |chi| ddim beth bynnag. |
| (David Henry) Wel, rown i dan yr argraff mod i... | |
| (David Henry) Wel, rown i dan yr argraff mod i... | |
| (1, 0) 267 | Ydych chi'n cael eich adnabod fel "Mr Jones, Allt-wen"? |
| (1, 0) 268 | Dim perigl. |
| (1, 0) 269 | "Ail wr gwraig Ifan Harris"! |
| (1, 0) 270 | Dyna pwy ych chi! |
| (David Henry) {Yn anghysurus.} | |
| (David Henry) Dipyn bach yn gas oedd beth ddwedest ti nawr. | |
| (1, 0) 274 | Pwy gas? |
| (1, 0) 275 | 'Dwy ddim casach i chi nag wyf i i mi fy hun. |
| (1, 0) 276 | 'Rym ni'n dau yn byw bywydau ail-law. |
| (David Henry) {Yn ail-lonni.} | |
| (David Henry) Mae hynny'n rhyw gysur. | |
| (1, 0) 282 | Yr un cyflwr yn hollol! |
| (1, 0) 283 | Bore echdoe rown i'n clywed fod rhywun wedi dweud am dana i, "Mae e'n lwcus dychrynllyd i fod e'n fab i dad". |
| (1, 0) 284 | Mi fyse'n well getyn gen i fod yn fab i Nhadcu... yr hen wr bach oedd yn gwneud coffine. |
| (1, 0) 285 | 'Does fawr o son am hwnnw yn y ty hwn. |
| (1, 0) 286 | 'Doedd e ddim yn anfarwol, mae'n debyg. |
| (David Henry) Wel, fyddai hynny ddim yn good for trade, weldi, i ddyn oedd yn gwneud coffine. | |
| (David Henry) Wel, fyddai hynny ddim yn good for trade, weldi, i ddyn oedd yn gwneud coffine. | |
| (1, 0) 288 | Napoleon! |
| (1, 0) 289 | Dwedwch wrthw i'n onest... aiff e ddim pellach... beth yw'ch barn chi am 'y Nhad? |
| (1, 0) 290 | Dych chi ddim yn blino weithe gyda'r holl ffys hyn am 'y Nhad, a chwithe'n... y... ail wr? |
| (David Henry) {Yn bwyllog.} | |
| (David Henry) O'r goreu, o'r goreu, Ifan, 'does dim eisie i ti wylltu! | |
| (1, 0) 294 | Ie, mlaen a chwì! |
| (David Henry) O leia, mae pawb yn dweud hynny ers rhyw ugain mlynedd mwy neu lai. | |
| (David Henry) O leia, mae pawb yn dweud hynny ers rhyw ugain mlynedd mwy neu lai. | |
| (1, 0) 296 | O ie, dyna beth arall oeddwn i am ofyn... |
| (1, 0) 297 | Faint o'r bobol yma sy'n cadw'r holl swn yn awr oedd yn cydnabod mawredd 'y Nhad pan oedd e byw? |
| (David Henry) Wel, rhaid i ti gofío fod llawer ohonyn nhw'n ifanc iawn bryd hynny. | |
| (David Henry) Wel, rhaid i ti gofío fod llawer ohonyn nhw'n ifanc iawn bryd hynny. | |
| (1, 0) 299 | Ond y teip, rwy'n feddwl. |
| (1, 0) 300 | 'Roedd yr un hen deip yng Nghymru ers oed Adda... |
| (1, 0) 301 | Pobol y marwnadau! |
| (1, 0) 302 | Beth oedd barn rheiny am 'y nhad? |
| (David Henry) {Yn ystyried.} | |
| (David Henry) Beth wyt tí'n feddwl wrth hynna, nawr? | |
| (1, 0) 306 | Wel, pobol o deip Gwilym Reynolds, sy'n dadorchuddio'r |bust| yma, a Walter Bevan, Llywydd Urdd y Dinasyddion bychain, a Rice Roberts, a Mrs Eurallt Morris, sy wedi gwasanaethu ar gymaint o bwyllgorau fel na phrynith hi ddim "pork chops" i ginio heb i'r mwyafrif o'r plant godi dwylo o blaid y peth. |
| (1, 0) 307 | 'Rych chi'n gwybod pwy wy'n feddwl... boys y Pwyllgorau a hen wlad y menyg gwynion. |
| (David Henry) Wel, os rwy'n dy ddeall di, 'roedd dy dad ddim yn rhyw wr mawr ìawn gyda'r teip yna. | |
| (David Henry) Wel, os rwy'n dy ddeall di, 'roedd dy dad ddim yn rhyw wr mawr ìawn gyda'r teip yna. | |
| (1, 0) 309 | A mam? Beth am mam? |
| (David Henry) {Yn anghysurus.} | |
| (David Henry) Wel, wrth gwrs... mor bell ag oedd y teulu yn y cwestiwn, do'wn i ddim mewn sefyllfa bryd hynny... | |
| (1, 0) 312 | Y peth wyf fi am wybod yw... a oedd Mam yn ystyried 'y Nhad yn ddyn mawr pan oedd e yma? |
| (David Henry) Ddim yn hollol, Ifan... neu, a bod yn onest... 'dwy ddim yn meddwl y buasai hi wedi mhriodi i. | |
| (David Henry) Ifan, pe bai rhywun wedi dweud wrthw i pan oedd dy dad yn ein plith ni, y buaswn i'n ail wr i wraig Ifan Harrís mi fuaswn wedi dychrynu! | |
| (1, 0) 315 | Pam? |
| (1, 0) 316 | Oedd ofn 'y Nhad arnoch chi? |
| (David Henry) O cofia di, roedd dy dad a finnau'n í tharo hi'n burion pan fyddai digwydd i ni gyfarfod. | |
| (1, 0) 325 | Naddo? |
| (David Henry) Na ffrindie. | |
| (David Henry) 'Roedd pob un yn elyn neu yn ffrind iddo. | |
| (1, 0) 328 | Ond 'rych chi'n gadael y pwynt. |
| (1, 0) 329 | Pryd dechreuodd Mam edrych arno fel dyn mawr? |
| (David Henry) Wel, a bod yn onest... dim amharch cofia... does geni ddim cof i mi feddwl hynny'n hunan pan oedd e yma. | |
| (David Henry) Ond diast, erbyn meddwl, roedd e'n wahanol i bob un arall rywsut! | |
| (1, 0) 339 | Ym mha ffordd? |
| (David Henry) Roedd dy dad... dim amharch, cofia! | |
| (1, 0) 342 | O, peidiwch a dweud felna o hyd! |
| (1, 0) 343 | Mlaen a chi! |
| (David Henry) 'Roedd dy dad yn ddyn... wel, ddweda i ddim i fod e'n ddyn cas. | |
| (1, 0) 357 | Ydych chi? |
| (David Henry) Ydw. | |
| (David Henry) Wrth gwrs, paid a son gair wrth... mm... mm... mm | |
| (1, 0) 365 | Fel y banc, Nap. |
| (1, 0) 366 | Go on! |
| (David Henry) O! | |
| (David Henry) Down i ddim yn i deall hi'n iawn... | |
| (1, 0) 371 | Rw i'n deall yn burion... |
| (1, 0) 372 | Rhaid i bod hi'n fwy cysurus arnoch chi cyn i'r idea yma wawrio ar Mam. |
| (David Henry) Wel Ifan, 'does gen i ddim lle i achwyn. | |
| (David Henry) Rhaid cyfaddef, mi es i'n dipyn bach mwy o Number Two nag own i wedi fargeinio am dano. | |
| (1, 0) 380 | Wel, Mussolini! |
| (1, 0) 381 | Ddysgest ti dy "bisyn"? |
| (Bertie) Fues i ddim yn treio nawr. | |
| (Bertie) Fues i ddim yn treio nawr. | |
| (1, 0) 383 | Gwell i ti shapo! |
| (1, 0) 384 | Mae'r llo aur yna {yn pwyntio at y gorchudd} yn cael ei ddadorchuddio y dìwmod ar ol fory, |
| (Bertie) Ifan, a fyddech chi'n folon dysgu'r darn yna i fi? | |
| (Bertie) Ifan, a fyddech chi'n folon dysgu'r darn yna i fi? | |
| (1, 0) 386 | Fi? |
| (1, 0) 387 | Pwna di arni, boy. |
| (1, 0) 388 | Mae Mam wrth y gwaith ond yw hi? |
| (Bertie) Gwell gen i 'se chi'n gneyd. | |
| (Bertie) Gwell gen i 'se chi'n gneyd. | |
| (1, 0) 390 | Dim, dim. |
| (1, 0) 391 | Os yw Mrs Harris-Jones wedi dechreu ar y gwaith wnaiff hi ddim o'r tro i fi roi mhig i mewn. |
| (Bertie) Mae hi'n eitha bolon. | |
| (Bertie) Mae hi'n eitha bolon. | |
| (1, 0) 393 | Mam ddywedodd wrthyt ti am ofyn? |
| (Bertie) le. | |
| (Bertie) le. | |
| (1, 0) 395 | Be sy'n bod, te? |
| (Bertie) Dim byd, ond i bod hi am i ti wneud. | |
| (Bertie) Dim byd, ond i bod hi am i ti wneud. | |
| (1, 0) 397 | Beth yw'r game? |
| (Bertie) Dim byd. | |
| (1, 0) 401 | Wel, mae hynny'n eitha gwir... |
| (1, 0) 402 | Na, na. |
| (1, 0) 403 | Gwna di fel mae hi'n dweud. |
| (1, 0) 405 | Does gen i ddim o'r sel gwladgarol sydd gyda hi... |
| (1, 0) 406 | Be wnest ti a'r genhinen? |
| (1, 0) 407 | Roddest ti hi'n cawl? |
| (Bertie) O gwna, Ifan! | |
| (Bertie) Adrodda i'n dda wedyn, Ifan. | |
| (1, 0) 414 | 'Dwyt ti ddim yn foneddigaidd iawn i dy fam. |
| (Mrs Harris-Jones) Ofynnest ti i Evan, Bertie? | |
| (Mrs Harris-Jones) Evan, rwy'n siwr y gwnewch chi gymaint a hynna i mhliso i... dysgu recitation bach i Bertie bach, gwnewch! | |
| (1, 0) 421 | Beth ar ddaear sy'n bod nawr te? |
| (1, 0) 422 | Gynnau fach chawswn i ddim rhoi 'mhig i mewn. |
| (Mrs Harris-Jones) Oh come, come, Evan! | |
| (Mrs Harris-Jones) 'Rych chi'n gwybod cymaint am reseito! | |
| (1, 0) 427 | Wel yn enw popeth! |
| (1, 0) 428 | Pam nad ewch chi mlaen a'r gwaith wedi i chi ddechreu? |
| (Mrs Harris-Jones) Oh Evan, rych chi'n gwybod mwy na fi, a mae'ch Cymraeg chi gymaint yn well. | |
| (Mrs Harris-Jones) Oh Evan, rych chi'n gwybod mwy na fi, a mae'ch Cymraeg chi gymaint yn well. | |
| (1, 0) 430 | 'Wn 'im. |
| (1, 0) 431 | Chi sy a'r cennin yma a phethe ar hyd y ty. |
| (1, 0) 432 | Mi ddylsech Cymraeg chi fod yn ddigon da. |
| (Mrs Harris-Jones) O, rwy'n very Welsh o ran fy ideals. | |
| (Mrs Harris-Jones) Ond ches i ddim o'r cyfle gawsoch chi. | |
| (1, 0) 435 | Do. |
| (1, 0) 436 | Fe gawsoch fwy. |
| (Mrs Harris-Jones) Ches i ddim o 'nwyn i fyny mewn Welsh atmosphere yn y cartref fel chi. | |
| (1, 0) 445 | Gaf i ddewis y darn? |
| (Bertie) O cewch. | |
| (Mrs Harris-Jones) Pa ddarn fyddech chi'n sujesto? | |
| (1, 0) 450 | Pryd mae e'n adrodd... o flaen y seremoni? |
| (Mrs Harris-Jones) Ie. | |
| (Mrs Harris-Jones) Just o flaen yr unveiling. | |
| (1, 0) 453 | Mae darn tarawiadol iawn gan Parry-Williams... rhywbeth am esgym y meirw. |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn gwrido.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Nawr a fyddwch chi'n neis nawr a gwrando am dipyn bach, a pheido a bod yn brofoclyd? Rych chi am y mhliso i, ond ych chi? | |
| (1, 0) 459 | Beth ych chi eisiau? |
| (Mrs Harris-Jones) Nawr, rych chi'n gwybod ond ych chi fod tipyn bach o sensation yn y pentre am yr unveiling yma... | |
| (Mrs Harris-Jones) Pobol ddieithr yn dwad yma ac yn y blaen. | |
| (1, 0) 462 | Wel? |
| (Mrs Harris-Jones) Nawr, mae e'n strain fawr ar fy meddwl i. | |
| (Mrs Harris-Jones) Chysges i ddim hanner nos neithiwr. | |
| (1, 0) 465 | Wel, beth ych chi moyn codi rhyw stunt fel yma? |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn dyner.} | |
| (Mrs Harris-Jones) 'Dych chi ddim yn meddwl fod eich tad annwyl yn haeddu peth parch? | |
| (1, 0) 468 | Parch be damned,...! |
| (Mrs Harris-Jones) Evan! | |
| (Bertie) Mi ddylai fod cywilydd amoch chi... siarad felna am y nada cynta i! | |
| (1, 0) 472 | O'r goreu! |
| (1, 0) 473 | Paid ti a rhoi dy drwyn i fewn! |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn ei meddiannu ei hun.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Rych chi am y mhliso i ond ydych chi? | |
| (1, 0) 481 | Wel, beth ych chi am i mi wneud? |
| (Mrs Harris-Jones) Nawr, rwy am i chwi wneud favour fach a fi. | |
| (Mrs Harris-Jones) Nawr, rych chi'n gwybod fod eich tad pan oedd e byw yn annwyl iawn i mi. | |
| (1, 0) 485 | Oedd e? |
| (Mrs Harris-Jones) {Ymron a cholli thymer.} | |
| (Mrs Harris-Jones) A mae gen i barch i enw e ac i'w syniade fe. | |
| (1, 0) 490 | Beth oedd i syniade fe? |
| (Mrs Harris-Jones) Mi wyddoch chwi beth oedd i syniade fe. | |
| (Mrs Harris-Jones) Mi wyddoch chwi beth oedd i syniade fe. | |
| (1, 0) 492 | Gwn. |
| (1, 0) 493 | Fe wn |i|. |
| (1, 0) 494 | Ond ydych |chi|'n i gwybod nhw? I |
| (1, 0) 495 | syniade cyhoeddus e... |
| (1, 0) 496 | Syniadau a gyhoeddodd e yn y pamphledi a wrthodwyd gan bob cyhoeddwr yng Nghymru ond un? |
| (1, 0) 497 | A oes un o'r gang fydd yn dwad yma Dydd Mercher i frolio yn i gylch e wedi dangos unrhyw barch i syniade fe yn i gweithredoedd? |
| (1, 0) 498 | A feiddiai un ohonyn nhw? |
| (David Henry) Ie, wel, mae yna bwynt fan yna... | |
| (Mrs Harris-Jones) Rych chi'n gwbod, Ifan, fod y gentlemen sy'n dwad yma i'r unveiling yn cymryd yn ganiataol y bydd i fab Ifan Harris wneud rhywbeth yn y seremoni... | |
| (1, 0) 508 | Mi ddwedes i'n ddigon plaun ar y dechreu nad own i ddim yn mynd i gymryd unrhyw ran... |
| (Mrs Harris-Jones) Very well... gwrandewch funud... | |
| (Mrs Harris-Jones) Very well... gwrandewch funud... | |
| (1, 0) 510 | ... dim un ran o gwbwl. |
| (Mrs Harris-Jones) Very well. | |
| (Mrs Harris-Jones) Dyna i gyd rwy eisieu i chi wneud yw rhoi un speech fach... | |
| (1, 0) 515 | Dw... |
| (Mrs Harris-Jones) Un speech fach o flaen yr unveiling. | |
| (Mrs Harris-Jones) Nawr a ydw i'n gofyn gormod i chwi wneud un favour fach a fì am unwaith yn y mywyd? | |
| (1, 0) 518 | Dim ffafr a chi yw'r pwynt. |
| (1, 0) 519 | Dwi ddim yn mynd i sefyll i fyny fanna a'r |bust| hyll yna tu ol i mhen i, a rhyw ddynion samllyd yn gwenu ama i, a brolio rhyw blatitiwds am 'y nhad... dwy ddim yn mynd i wneud e! |
| (Mrs Harris-Jones) Pam, Evan? | |
| (Mrs Harris-Jones) {Tarewir David Henry gan gymaint o syndod fel y neidia'n llwyr o'i gadair ac yn ol drachefn.} | |
| (1, 0) 524 | Pwy? |
| (1, 0) 525 | Naroleon? |
| (David Henry) Fi!? | |
| (David Henry) {Tarewir ef yn fud.} | |
| (1, 0) 541 | Hal Ha! Ha! |
| (1, 0) 542 | Leicwn i weld Napoleon wrthi. |
| (Mrs Harris-Jones) Wel dyna fe, Evan, os gwnewch chi, mae David Henry yn addo gneyd. | |
| (1, 0) 547 | 'Dwy ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni. |
| (Mrs Harris-Jones) Dych chi ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni | |
| (Mrs Harris-Jones) Dych chi ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni | |
| (1, 0) 549 | Nagw. |
| (Mrs Harris-Jones) A ble mae'ch parch chi i'ch tad? | |
| (Mrs Harris-Jones) A ble mae'ch parch chi i'ch tad? | |
| (1, 0) 551 | 'Dwn i ddim ymhle mae mharch i nhad, ond os na ddaeth e i'r golwg cyn hyn, 'dyw e ddim yn mynd i godi nawr i swn band y pentre ac areithiau Gwilym Reynolds, |
| (Mrs Harris-Jones) Rhag ych cywilydd chi, Evan! | |
| (Mrs Harris-Jones) Mae'ch tad yn gorwedd yn llonydd mewn mangre dawel ochr ddraw i'r Werydd. | |
| (1, 0) 555 | Gobeithio i fod e. |
| (1, 0) 556 | Mae e'n cadw digon o stwr yr ochr hyn i'r mor. |
| (Mrs Harris-Jones) Mae ei enw yn perarogli yn ein plith ni, ac yntau'n gorwedd yn i fedd ymhlith estroniaid na wyddant am ei syniadau na'i fywyd disglair. | |
| (Mrs Harris-Jones) Mae ei enw yn perarogli yn ein plith ni, ac yntau'n gorwedd yn i fedd ymhlith estroniaid na wyddant am ei syniadau na'i fywyd disglair. | |
| (1, 0) 558 | Mae pobol lwcus yn America. |
| (1, 0) 559 | |Speech| yr |unveiling| yw honna, mam? |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn colli ei thymer yn llwyr.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Wnaethoch chi ddim un cynnig erioed. | |
| (1, 0) 569 | Beth yw'ch ideals chi, Mam? |
| (Mrs Harris-Jones) Os nad ych chi wedi i deall nw cyn hyn, ddeallwch chi ddim ohonyn nhw nawr. | |
| (David Henry) Gneud speech! | |
| (1, 0) 573 | Roeddech chi'n son gynne am barch. |
| (1, 0) 574 | Ydych chi'n parchu coffadwriaeth 'y Nhad? |
| (Mrs Harris-Jones) Peidiwch a gofyn cwestiwn mor insulting. | |
| (Mrs Harris-Jones) Peidiwch a gofyn cwestiwn mor insulting. | |
| (1, 0) 576 | Ydych chi mewn gwirionedd? |
| (1, 0) 577 | Ydych chi'n siwr nad cadw i enw e'n fyw er mwyn dwad ag enwogrwydd i'ch ty chi, ych chi? |
| (1, 0) 578 | Er mwyn i chwi gael cadw mewn cyffyrddiad a'r bobol fawr yma... |
| (Mrs Harris-Jones) Rych chi'n hollol insulting. | |
| (Mrs Harris-Jones) Rych chi'n hollol insulting. | |
| (1, 0) 580 | Ydw. |
| (1, 0) 581 | Ond rwy'n dweud llawer o wir. |
| (1, 0) 582 | Mi ofynnes i i chi gynne beth oedd syniade Nhad. |
| (1, 0) 583 | Ydych chi wedi darllen y cwbwl y gyhoeddodd ef... heb son am ysgrifau yn y ty hwn na welodd neb arall erioed? |
| (1, 0) 584 | Dyma her i chwi! |
| (1, 0) 585 | Treiwch hi roi rhai o syniade yr anfarwol Ifan Harris mewn gweithred a mi ddweda inne beth yn y byd a fynnoch chi yn y seremoni! |
| (Mrs Harris-Jones) Peidiwch a siarad mor ffol. | |
| (Mrs Harris-Jones) Sut gall benyw wan fel fi roi gweithred i syniadau dyn mawr fel efe! | |
| (1, 0) 588 | Pam ych chi'n codi stunt fel yma? |
| (Mrs Harris-Jones) Mae'r gair yna'n hollol discourteous - hollol, pan yn son am commemoration service ych tad. | |
| (Mrs Harris-Jones) Mae'r gair yna'n hollol discourteous - hollol, pan yn son am commemoration service ych tad. | |
| (1, 0) 590 | Wel, os ych chi am i fi siarad yn yr unveiling... mi wnaf. |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn sirioli.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Beth ddywedwch chi? | |
| (1, 0) 598 | Gadewch chi hynny i fi. |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn ffromi eto.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Rhywbeth cas eto! | |
| (1, 0) 602 | Gaf i ddweud y gwirionedd am dano, mam? |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn wyllt.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Na chewch!... y... cewch... hynny yw... | |
| (1, 0) 605 | Wnaiff hi ddim o'r tro i ddweud y gwir am ddyn marw, mam! |
| (Mrs Harris-Jones) Very cheap, Evan, very cheap. | |
| (Mrs Harris-Jones) Gwell gen i chi gadw draw. | |
| (1, 0) 610 | Rwy'n folon dwad yna a rhoi eglurhad am y tro cyntaf yn i hoes i rai o'r bobol barchus yna beth oedd syniade Nhad mewn gwirionedd. |
| (1, 0) 611 | Hyd y gwn i does neb arall yn i deall nw, a dw inne ddim yn honni mod i'n i credu nhw i gyd. |
| (Mrs Harris-Jones) Ddewch chi ddim yn agos, Evan... dim ar ych perigl! | |
| (Mrs Harris-Jones) Fe gaiff 'i fab fod lawr yn y dafarn gyda scums y pentre. | |
| (1, 0) 615 | Gaf i wneud araith i Napoleon, te? |
| (Mrs Harris-Jones) Na chewch! Fe wna i araith iddo fe. | |
| (1, 0) 626 | Pam fues i mor ffol a dweud wrthi? |
| (1, 0) 627 | Mi |wnawn| i araith pe bawn i'n cael cyfle!... |
| (1, 0) 628 | Napoleon, peidiwch a gofidio! |
| (1, 0) 629 | Fe wna i araith i chi! |
| (David Henry) Nid gneud yr araith yw'r pwynt. | |
| (David Henry) O dier, dier! | |
| (1, 0) 633 | Dewch allan am dro, Nap. |
| (1, 0) 635 | O diawch! |
| (1, 0) 636 | Mae un o'r cigfrain wrth y drws eto. |
| (1, 0) 637 | Dewch i mewn i'r rwm gefen. |
| (1, 0) 638 | Fe gawn siarad fan honno. |
| (1, 0) 639 | Bertie, dwed wrth Ann y forwyn fod rhywun wrth y drws. |
| (Bertie) {Yn ymddangos yn y drws pellaf.} | |
| (Mr Inskip) Mi fyddaf i'n all right. | |
| (1, 0) 803 | Hylo, hylo! |
| (Mr Inskip) O... y... Mr Inskip wyf i... ynte? | |
| (Mr Inskip) O... y... Mr Inskip wyf i... ynte? | |
| (1, 0) 806 | Wel, chi ddylai fod yn gwybod. |
| (Mr Inskip) Y... ie. | |
| (Mr Inskip) Mab Mr Ifan Harris ych chwi? | |
| (1, 0) 811 | Ie. |
| (Mr Inskip) {Yn dyfod ymlaen.} | |
| (1, 0) 817 | Ie siwr. |
| (1, 0) 818 | Fi yw e, Mam ddywedodd wrthw i'ch bod chwi yma. |
| (1, 0) 819 | Mi ddywedodd wrthw i'ch bod chwi wedi gweld y gadair a'r ysgrifbin. |
| (1, 0) 820 | Rown i'n meddwl i bod hi'n drueni na chawsech chi ngweld innau... un o'r relics goreu adawodd 'y Nhad ar ei ol. |
| (Mr Inskip) Y... Ie Siwr. | |
| (Mr Inskip) A dyma fab Ifan Harris? | |
| (1, 0) 824 | Dyma fe. |
| (Mr Inskip) Ydych chi'n mynd i fod yn gymaint o ddyn a'ch tad, machgen i? | |
| (Mr Inskip) Rych chi'n siwr o fod yn falch iawn o enw'ch tad. | |
| (1, 0) 827 | Wel, ambell waith rwy'n cael y cyfle o glywed i enw e, ond pan fydd digwydd i rywun, ar siawns weithiau, wneud rhyw gyfeiriad ato rwy'n pefreiddio drwyddo i gyd a pharchedig ofn! |
| (Mr Inskip) Da iawn, machgen i, da íawn. | |
| (Mr Inskip) Parchwch i enw e beth bynnag a wnewch chi. | |
| (1, 0) 832 | Fydda i'n siwr o wneud, Mr Inskip, gan mai chwi sydd yn gofyn... |
| (1, 0) 833 | Nawr, Mr Inskip, a ydyw Mam wedi dangos y relics i gyd i chwi? |
| (Mr Inskip) Wel, fe welais i'r gadair... | |
| (Mr Inskip) Wel, fe welais i'r gadair... | |
| (1, 0) 835 | Twt! Twt, twt, twt! |
| (Mr Inskip) A'r pen sgrifemnu. | |
| (Mr Inskip) A'r pen sgrifemnu. | |
| (1, 0) 837 | Twh! Twt, twt! |
| (1, 0) 838 | A welsoch chwi'r warming-pan? |
| (Mr Inskip) Y waming-pan? | |
| (Mr Inskip) Y waming-pan? | |
| (1, 0) 840 | le, waming-pan 'y Nhad. |
| (1, 0) 841 | Y warming-pan a fu'n twymno 'i draed e am yr holl flynyddau? |
| (Mr Inskip) {Braidd yn wannaidd.} | |
| (Mr Inskip) Naddo. | |
| (1, 0) 844 | O dier, dier. |
| (1, 0) 845 | Mae Mam yn esgeulus. |
| (1, 0) 846 | Mi ddylsai fod wedi dangos y warming-pan i chwi. |
| (1, 0) 847 | Y relic mwyaf gwerthfawr adawodd 'y Nhad ar ei ol. |
| (1, 0) 848 | Ond mae arna i ofn i fod e yn yr iws ar hyn o bryd. |
| (Mr Inskip) O, na hidiwch Mr... Harris. | |
| (Mr Inskip) Na nidiwch. | |
| (1, 0) 851 | Ond fe gewch chi weld yr aser, beth bynnag. |
| (1, 0) 854 | Dyna aser 'y Nhad, Mr Inskip. |
| (1, 0) 855 | Mae cyfeiriad at hwn yn un o'i weithie fe, Mr Inskip. |
| (1, 0) 856 | Rych chi wedi darllen i weithiau fe i gyd. |
| (Mr Inskip) {Yn edrych yn bryderus at y drws.} | |
| (Mr Inskip) Y... ydw... y... rhan fwyaf... y... | |
| (1, 0) 859 | "Llyfr y tri aderyn", Mr Inskip! |
| (Mr Inskip) Y... ie... | |
| (Mr Inskip) Y... ie... | |
| (1, 0) 861 | "Theomemphus", Mr Inskip? |
| (Mr Inskip) le siwr... ydw. | |
| (Mr Inskip) le siwr... ydw. | |
| (1, 0) 863 | A Chofiant Dic Aberdaron, |
| (Mr Inskip) Ie siwr. | |
| (1, 0) 866 | A "Drych y Prif Oesoedd", Mr Inskip. |
| (Mr Inskip) Yn anghysurus.} | |
| (Mr Inskip) Wel, wel, nid pawb all ddweud i fod e wedi gweld peth fel hwn. | |
| (1, 0) 871 | Ychydig iawn sydd wedi cael gweld yr aser yna. |
| (Mr Inskip) Felly siwr. | |
| (Mr Inskip) Rhywbeth rhyfedd yw meddwl mai hon oedd gyda'ch tad yn eillio bob dydd... | |
| (1, 0) 875 | Eillio! |
| (1, 0) 876 | Eillio!, weddsoch chi? |
| (Mr Inskip) Ie. | |
| (1, 0) 879 | Ni chyfarfu hon erioed ag wyneb 'y Nhad! |
| (Mr Inskip) {Yn syn.} | |
| (Mr Inskip) O! | |
| (1, 0) 882 | Hon oedd ganddo yn torri 'i gyrn. |
| (Mr Inskip) {Heb wybod yn iawn beth i wneud o'r sefyllfa.} | |
| (Mr Inskip) le... y... ie... Mr Harris, ynte? | |
| (1, 0) 893 | Pwy Fister Harris? |
| (Mr Inskip) {Yn methu a deall.} | |
| (Mr Inskip) Mab Ifan Harris ych chwi? | |
| (1, 0) 897 | Wel, nage! |
| (1, 0) 898 | Rych chi wedi dwad i'r ty wrong! |
| (Mr Inskip) Wel, yn enw'r annwyl, ty pwy yw hwn? | |
| (Mr Inskip) Wel, yn enw'r annwyl, ty pwy yw hwn? | |
| (1, 0) 900 | Jonathan Thomas. |
| (Mr Inskip) Pwy Jonathan Thomas? | |
| (Mr Inskip) Pwy Jonathan Thomas? | |
| (1, 0) 902 | Y trafaeliwr pop. |
| (Mr Inskip) {Yn anadlu ei anadl olaf.} | |
| (Mr Inskip) Trafaeliwr pop? | |
| (1, 0) 905 | le. |
| (1, 0) 906 | Roedd e'n gwerthu ginger beer dros yr Hopkin Breweries... |