| (Amos) P'nawn da, Syr. | |
| (Amos) Dr. Hoffman, Syr. | |
| (1, 0) 262 | Botha, 'glywaist ti am y pwll? |
| (Botha) Do, Hoffman. | |
| (Botha) Mae Malán newydd fod ar y teliffôn. | |
| (1, 0) 265 | Oes yna rywun wedi —? |
| (Botha) Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud. | |
| (Botha) Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud. | |
| (1, 0) 267 | Mae yna stori yn y dre' fod deg o weithwyr ar goll. |
| (Botha) Dau, Hoffman, dau negro. | |
| (Botha) A'r rheini ar fin cael eu hachub erbyn hyn, mae'n debyg. | |
| (1, 0) 270 | O, mae'n dda gen' i glywed. |
| (Botha) Rhyfedd mor hoff yw pobl o orliwio newydd drwg! | |
| (Helga) Peth naturiol yw pryder, 'nhad. | |
| (1, 0) 273 | O, p'nawn da, Helga. |
| (1, 0) 274 | 'Wnes i ddim bwriadu bod yn anghwrtais. |
| (Helga) Popeth yn iawn, Dr. Hoffman. | |
| (Helga) Eisteddwch. | |
| (1, 0) 278 | Diolch... |
| (1, 0) 279 | Fe fydd hyn yn golled fawr i'r Cwmni, Botha? |
| (Botha) Dim i boeni yn ei gylch, Hoffman. | |
| (Botha) Buom yn sôn am ei gau fwy nag unwaith, ac agor siafft newydd. | |
| (1, 0) 284 | Wel, mae hynna'n ollyngdod. |
| (1, 0) 285 | Cofia fod gen' i siâr ynddo fo! |
| (Helga) Llymaid o win, Dr. Hoffman. | |
| (Helga) A gofalwch ei ganmol! | |
| (1, 0) 289 | Eich gwin chi, Helga? |
| (Helga) Ia, grawnwin o'r ardd. | |
| (Helga) Ia, grawnwin o'r ardd. | |
| (1, 0) 291 | 'Does yna mo'i hafal yn y wlad, felly! |
| (1, 0) 292 | Diolch yn fawr, |
| (Botha) {Yn gellweirus.} | |
| (Botha) Rwy'n deall, rŵan, pam y daethost yma ar gymaint o frys, Hoffman. | |
| (1, 0) 297 | 'Roeddwn i ar y ffordd yma pan glywais i, Botha. |
| (Botha) Ia, — ond y brys anarferol! | |
| (Botha) Nid meddwl am fy nghyflwr i barodd iti ddod â'th wynt yn dy ddwrn. | |
| (1, 0) 300 | 'Dwy' i ddim yn deall. |
| (1, 0) 301 | Beth arall? |
| (Botha) Ariangarwch: poeni ynghylch dy siâr! | |
| (1, 0) 304 | Dim o gwbl! |
| (1, 0) 305 | 'Dyw'r ychydig a fuddsoddais i ddim gwerth colli munud o gwsg yn 'i gylch. |
| (1, 0) 306 | Hwyrach na choeli di ddim, ond fel cyffur y bydda' i'n edrych ar aur, nid fel cyfoeth. |
| (Botha) 'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman! | |
| (Botha) 'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman! | |
| (1, 0) 308 | Mae'n berffaith wir iti. |
| (1, 0) 310 | Fe wyddost yn eitha' da pam 'rydw' i yma, Botha. |
| (Botha) Da ti, paid â throi i'r llais angladdol yna! | |
| (Botha) Dy ddyletswydd fel cyfaill ydy' sirioli, nid codi bwganod. | |
| (1, 0) 313 | Fy nyletswydd fel meddyg ydy' iachâu. |
| (1, 0) 314 | Ond 'alla' i wneud dim heb dy gydweithrediad di. |
| (1, 0) 315 | Pam wyt ti'n mynnu bod mor styfnig? |
| (Botha) Styfnigrwydd wyt ti'n galw peidio â ffwdanu? | |
| (Botha) Wyddost ti be', petawn i wedi gwrando arnat ti, mi fyddwn i fel hen ferch yn yfed te yn fy ngwely! | |
| (1, 0) 318 | Petait wedi gwrando arna' i ynghynt, fyddit ti ddim yn y cyflwr yma heddiw. |
| (Helga) 'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo! | |
| (Helga) 'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo! | |
| (1, 0) 321 | Mi wn i, Helga. |
| (1, 0) 322 | 'Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â chi... |
| (1, 0) 323 | Hawdd y gelli di chwerthin, Botha! |
| (Botha) 'Wyddost ti pam? | |
| (Botha) Ugain mlynedd yn ôl, 'wyt ti ddim yn cofio? | |
| (1, 0) 327 | Hanner munud rŵan —! |
| (Helga) Am beth mae o'n sôn, Doctor? | |
| (Helga) Am beth mae o'n sôn, Doctor? | |
| (1, 0) 329 | Mae eich tad yn cellwair fel arfer, Helga. |
| (Botha) Dim o gwbl. | |
| (Botha) 'Roeddit ti'n meddwl ar y dechrau mai'r Pla Du oedd o, Hoffman. | |
| (1, 0) 335 | 'Roedd yr arwyddion yn ddigon tebyg. |
| (Botha) Wel, mewn un ystyr 'roeddit ti'n iawn. | |
| (Botha) A dyma titha' Hoffman, yn fy siarsio i fynd i'r gwely'n syth. | |
| (1, 0) 340 | Mae'n dda 'mod i wedi gwneud, ne fyddit ti ddim yma heddiw! |
| (Botha) Ond y jôc ydy' na fum i ddim yn fy ngwely am fwy na dwyawr ar hyd yr amser! | |
| (Botha) A thithau wedi bygwth marwolaeth arswydus imi petawn i'n beiddio codi o fewn pythefnos! | |
| (1, 0) 343 | Felly'n wir! |
| (1, 0) 344 | Wel, paid â dibynnu ar lwc eto. |
| (Botha) Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd. | |
| (Botha) Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd. | |
| (1, 0) 346 | 'Rwy'n cymryd dy wydnwch i ystyriaeth. |
| (1, 0) 347 | Ond cofia fod i'r gadwyn gryfa' ei dolen wanna'. |
| (1, 0) 348 | 'Dwy'i i ddim yn gwneud camgymeriad, 'wyddost ti. |
| (Botha) Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw! | |
| (Botha) Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw! | |
| (1, 0) 350 | Mi ydw' i'n trio 'ngora glas dy gadw di'n fyw. |
| (Botha) {Gwenu.} | |
| (Helga) 'Nhad! | |
| (1, 0) 354 | Mae'n rhaid iti wrando arna' i, Botha. |
| (1, 0) 355 | Mae'r hen gorff gwydn yma'n erfyn am orffwys. |
| (Botha) 'Dwyt ti ddim yn deall, 'rhen gyfaill. | |
| (Botha) Mae gen' i waith i'w wneud. | |
| (1, 0) 358 | Fel hen gyfaill, 'wnei di goelio am funud 'mod i o ddifri'? |
| (1, 0) 359 | 'Mod i'n wir bryderus yn dy gylch? |
| (Botha) Heb achos, yn siŵr iti. | |
| (Helga) Mae'n gwrthod gwrando. | |
| (1, 0) 365 | Fe fydd yn rhaid iddo wrando, 'fory. |
| (Botha) Pam yfory? | |
| (Botha) Pam yfory? | |
| (1, 0) 367 | 'Wyt ti'n cofio i mi gymryd sampl o'th waed di ddoe? |
| (Botha) Ydw. | |
| (Botha) Ydw. | |
| (1, 0) 369 | 'Rwy' i wedi ei anfon i Hertz. |
| (Botha) Hertz? | |
| (Botha) Pwy ydy' Hertz? | |
| (1, 0) 372 | Un o arbenigwyr mwya'r wlad yma, Botha. |
| (Botha) A'i fil yn gymesur â'i fri, mwya' tebyg. | |
| (Botha) Peth costus yw tipyn o salwch i ddyn cyfoethog! | |
| (1, 0) 375 | Tipyn o salwch? |
| (1, 0) 376 | Gwrando, Botha, mae gen' i newydd pur ddifrifol iti. |
| (Botha) O? | |
| (Botha) Paid â chelu dim. | |
| (1, 0) 380 | 'Rwyf i o'r farn fod triniaeth law-feddygol yn angenrheidiol iti. |
| (1, 0) 381 | A hynny ar frys. |
| (Botha) 'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau? | |
| (Botha) 'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau? | |
| (1, 0) 383 | Bron yn siŵr ─ |
| (Botha) A! | |
| (Botha) A! | |
| (1, 0) 385 | 'Does 'run meddyg yn anffaeledig. |
| (1, 0) 386 | Dyna pam 'rwy' i mor awyddus i gael barn Hertz. |
| (1, 0) 387 | Ac yr wy' i'n hollol sicr o un peth. |
| (1, 0) 388 | Fe fydd yn rhaid iti gael trawsnewid gwaed cyn hynny. |
| (Botha) Pam? | |
| (Botha) Pam? | |
| (1, 0) 390 | O, paid â gofyn imi fanylu, Botha. |
| (1, 0) 391 | Mae gennyt ddigon o ymddiriedaeth yn fy nhipyn gallu erbyn hyn, gobeithio! |
| (Botha) 'Rwy' i'n rhoi fy hun yn dy ddwylo, Hoffman. | |
| (Botha) Ond rho imi'r pleser o dynnu tipyn ar dy goes weithiau! | |
| (1, 0) 394 | Y felltith ydy' na wn i byth pa bryd yr wyt ti o ddifri' a phryd yr wyt ti'n cellwair. |
| (1, 0) 395 | Ond aros funud, mae gen' i newydd arall, iti. |
| (Botha) Newydd drwg? | |
| (Botha) Newydd drwg? | |
| (1, 0) 397 | Nid ynddo'i hun. |
| (1, 0) 398 | Ond gallai achosi trafferth. |
| (Botha) Beth ydy' o? | |
| (Botha) Beth ydy' o? | |
| (1, 0) 400 | 'Wyddit ti dy fod yn perthyn i grŵp-gwaed prin? |
| (1, 0) 401 | Mor brin ag un ymhob miliwn? |
| (Botha) Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin! | |
| (Botha) Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin! | |
| (1, 0) 403 | Fel mater o ffaith dim ond un o'r grŵp hwnnw a welais i erioed. |
| (1, 0) 404 | Rhyw bum mlynedd yn ôl. |
| (Botha) Pwy ydy'r dyn anrhydeddus? | |
| (Botha) Pwy ydy'r dyn anrhydeddus? | |
| (1, 0) 406 | Dyna'r drwg, 'fedra' i yn fy myw gofio. |
| (Botha) A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus! | |
| (Botha) A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus! | |
| (1, 0) 408 | Mi wnes i gofnod o'r achlysur, 'rwy'n sicr o hynny. |
| (Botha) Wel? | |
| (Botha) Wel? | |
| (1, 0) 410 | 'Fedra' i ddim dod o hyd i'r cofnod! |
| (Botha) Druan o ddynol-ryw! | |
| (Botha) Druan o ddynol-ryw! | |
| (1, 0) 412 | O, fe ddown o hyd i'r dyn, paid â phryderu. |
| (1, 0) 413 | Mae o yn yr ardal yma yn rhywle. |
| (1, 0) 414 | Peth hawdd fydd rhoi apêl ar y radio. |
| (1, 0) 415 | Yn y cyfamser, ymgynghori â Hertz. |
| (1, 0) 416 | Cawn weld beth fydd ei ddyfarniad yfory. |
| (Botha) Yfory? | |
| (Botha) Yfory? | |
| (1, 0) 418 | Ia, mae'n dod i'm gweld i'r ysbyty. |
| (1, 0) 419 | Hwyrach y byddi'n barotach i dderbyn cyngor dieithryn! |
| (1, 0) 420 | 'Ge'st ti rywfaint o orffwys heddiw? |
| (Botha) Wel ─ | |
| (Helga) Gweithio drwy gydol y bore. | |
| (1, 0) 424 | Ffolineb y doeth! |
| (1, 0) 425 | Llafurio a chwysu efo'i araith, mae'n debyg. |
| (Botha) Na, ma' hi'n dwad yn weddol hawdd imi rŵan, Hoffman. | |
| (Botha) 'Hoffit ti ei chlywed? | |
| (1, 0) 434 | Mae'n ormod o dreth ar dy nerth, Botha. |
| (1, 0) 435 | Gwell peidio. |
| (Botha) Wel, hwyrach y goddefi imi ddarllen y diweddglo, ynte". | |
| (Botha) Wel, Hoffman? | |
| (1, 0) 475 | Mae'n rymus, Botha. |
| (1, 0) 476 | Yn rymus a diffuant. |
| (1, 0) 477 | Rhaid imi dy longyfarch. |
| (Botha) Diolch iti. | |
| (1, 0) 481 | Ond tyrd rŵan: eistedd i lawr. |
| (1, 0) 482 | 'Rwyt ti'n edrych braidd yn flinedig. |
| (1, 0) 484 | 'Dwyt ti i wneud dim rhagor heddiw, 'wyt ti'n deall? |
| (1, 0) 485 | Cofia gadw llygad arno fo, Helga. |
| (Helga) Mi wnaf fy ngora', Doctor. | |
| (Botha) 'Rwy'n rhoi fy ngair iti. | |
| (1, 0) 492 | Gobeithio y cofi di hynna ar ôl i mi fynd! |
| (1, 0) 493 | Mi ddof yma eto nos yfory. |
| (1, 0) 494 | Fe fydd adroddiad Hertz gen' i pryd hynny. |
| (1, 0) 496 | P'nawn da i chwi eich dau, |
| (Botha) P'nawn da, Hoffman. | |
| (1, 0) 501 | O, diolch am y gwin, hefyd, Helga. |
| (1, 0) 502 | 'Roedd o'n ardderchog! |