| (Tad) Where's that crotyn tonight agen? | |
| (Tad) Gad ini weld pwy sydd yna. {Egyr y drws}. | |
| (1, 0) 399 | Wnewch chi faddau i mi; dwy i ddim am aflonyddu arnoch, ond ai eich hogyn bach chi oedd yn canu nawr? |
| (Tad) Ie. | |
| (Tad) Ie. | |
| (1, 0) 401 | Gaf fi ddod mewn i'w glywed e os gwelwch chi'n dda? |
| (Mam) Na William, dyw hi ddim i ddod mewn yma. | |
| (Mam) Na William, dyw hi ddim i ddod mewn yma. | |
| (1, 0) 403 | O peidiwch â ngwrthod i. |
| (1, 0) 404 | Rwy wedi cael derbyniad mewn pedwar man o'r newydd heno, a chroeso mawr. |
| (Mam) Beth ych chi'n mofyn? | |
| (Mam) Dynion tlawd ŷn ni. | |
| (1, 0) 409 | Fy merch annwyl i, nid cardota rwyf fi. |
| (1, 0) 410 | Fe fyddaf fi'n arfer rhoi llawer mwy nag y byddaf yn ei dderbyn. |
| (Tad) Beth yw'ch neges chi ynte? | |
| (Tad) Beth yw'ch neges chi ynte? | |
| (1, 0) 412 | Dim ond cael dod mewn ac aros gyda chi am dipyn ar yr aelwyd. |
| (Tad) O'r gore, dewch mewn. | |
| (Mam) Eisteddwch. | |
| (1, 0) 427 | Diolch yn fawr. {Yn eistedd}. |
| (Mam) Dynnwch chi'ch clogyn? | |
| (Mam) Dynnwch chi'ch clogyn? | |
| (1, 0) 429 | Ddim ar unwaith, diolch i chi. |
| (1, 0) 430 | Rwyf wedi bod allan yn yr oerfel yn ddiweddar a rwyn gorfod bod yn ofalus iawn. |
| (1, 0) 431 | Wedi imi gynhesu tipyn efallai y gallaf ddiosg y fantell. |
| (Tad) Fuoch chi'n galw mewn llawer o dai heno? | |
| (Tad) Fuoch chi'n galw mewn llawer o dai heno? | |
| (1, 0) 433 | Do, ddwsin neu fwy. |
| (1, 0) 434 | Dyma'r noson orau yr wyf wedi ei chael ers amser maith. |
| (1, 0) 435 | Chauodd neb y drws yn fy wyneb, a fe ges i fynd â'r plant i'r gwely mewn sawl man heno. |
| (Mam) Nid un o'r lle yma ych chi? | |
| (Mam) Nid un o'r lle yma ych chi? | |
| (1, 0) 437 | Mi fum i yn yr ardal yma flynyddoedd mawr yn ôl a thipyn o lewych arnai, ond fe gollais lawer o fy meddiannau. |
| (Tad) Colli ffortiwn, aie? | |
| (Tad) Pwy aeth a hi oddiarnoch chi? | |
| (1, 0) 440 | Fy mhlant i fy hun yn fwy na neb. |
| (Mam) Dyna blant diddiolch a di-gwilydd. | |
| (Tad) Rwyn gyfarwydd iawn â'ch llais chi ond 'd alla i ddim meddwl pwy ych chi, chwaith. | |
| (1, 0) 443 | Fe fu amser pan y byddech chi'n clywed fy llais i o fore tan nos. |
| (1, 0) 444 | Rwyn mynd nôl bymtheg mlynedd ar hugain a gweld aelwyd yn Sir Aberteifi. |
| (1, 0) 445 | Y mae dau o'r plant, bachgen a merch yn chwarae wrth draed y fam sy'n gweu gerllaw'r tân tra mae'r hogyn ienga ar lin ei dad yn ceisio dysgu darllen Cymraeg. |
| (1, 0) 446 | Elin oedd enw'r ferch, John oedd enw'r mab hynaf, a wyddoch chi beth oedd enw'r llall? |
| (Tad) {yn syn} Gwn. | |
| (Tad) William oedd enw'r llall, {yn sobr} a fi yw hwnnw. | |
| (1, 0) 449 | Yn gyfarwydd â fy llais i! |
| (1, 0) 450 | Glywsoch chi unrhyw lais ar yr aelwyd honno erioed ond fy llais i? |
| (1, 0) 451 | Ac nid yn unig ar yr aelwyd ond mewn capel, ffair a marchnad, beth arall glywech chi drwy gydol y dydd? |
| (1, 0) 452 | A phan fyddai'r bugail, gyda'r nos yn galw ar ei gwn ar ben y mynydd draw, llais pwy glywech chi? Fy llais i. |
| (1, 0) 453 | Gwelaf aelwyd arall, yng nghwm Tawe. |
| (1, 0) 454 | Y mae yno bedwar o blant a dim ond mam. |
| (1, 0) 455 | Nid yw'r ddau blentyn iengaf yn cofio dim am eu tad ond y mae yna gadair dderw hardd iawn yn y parlwr ac y mae'r fam wedi adrodd droion lawer, sut yr enillodd y tad y gadair mewn eisteddfod a dod â hi adre. |
| (1, 0) 456 | Wn i yn y byd beth yw hanes y gadair erbyn hyn. |
| (Mam) {yn ddwys} Y mae'r gadair... yma... gen i. | |
| (Mam) {yn ddwys} Y mae'r gadair... yma... gen i. | |
| (1, 0) 458 | Y maer gadair yma gennych chi. |
| (1, 0) 459 | Ellwch chi sefyll o flaen y gadair yna, fy merch i, ac yna feddwl am eich plant, heb wrido? |
| (1, 0) 460 | Ond beth dâl siarad? |
| (1, 0) 461 | Rwyn anghofio'r plant. |
| (1, 0) 462 | Nhw sy'n bwysig nawr. |
| (1, 0) 463 | Gaf fi glywed yr hogyn yn canu pennill? |
| (Mab) {fel y dysgwyd ef yn yr ysgol} Thomas Henry Jones yw fy enw i. | |
| (1, 0) 466 | Wnewch chi ganu, Tomi? |
| (Mab) Canu... sing? {yn edrych ar ei rieni}. | |
| (Mab) I gyrchu corff yr hedydd adre. | |
| (1, 0) 476 | Swynol iawn, Tomi. |
| (1, 0) 477 | A dyma'r ferch. |
| (1, 0) 478 | Beth yw eich enw chi? |
| (Merch) {yn ffurfiol} Olwen yw fy enw i. | |
| (Merch) {yn ffurfiol} Olwen yw fy enw i. | |
| (1, 0) 480 | Olwen. |
| (1, 0) 481 | Pedair meillionen wen a dyfai yn ôl ei throed pa le bynnag yr elai. |
| (1, 0) 482 | Ac am hynny y gelwid hi Olwen. |
| (1, 0) 483 | Ellwch chi ganu, Olwen? |
| (Tad) Na, 'd yw Olwen fawr iawn am ganu, ond y mae hi'n gallu adrodd. | |
| (Tad) Na, 'd yw Olwen fawr iawn am ganu, ond y mae hi'n gallu adrodd. | |
| (1, 0) 485 | Da iawn, 'rych chi wedi dysgu iddi adrodd? |
| (Tad) Wel na, yn yr ysgol y dysgodd hi. | |
| (Tad) Wel na, yn yr ysgol y dysgodd hi. | |
| (1, 0) 487 | Wnewch chi adrodd, Olwen. |
| (Merch) {yn edrych ar eî thad} Recite? | |
| (Merch) Daeth arni hirnos ddu. | |
| (1, 0) 507 | Do, fu hi bron â darfod amdanai y pryd hwnnw. |
| (Tad) Wel, y mae'n rhaid eich bod chi'n hen iawn. | |
| (Tad) Wel, y mae'n rhaid eich bod chi'n hen iawn. | |
| (1, 0) 509 | Yn hen! |
| (1, 0) 510 | Ydwyf, 'rwyn hen iawn. |
| (1, 0) 511 | Ond... |
| (1, 0) 513 | ... rwy'n ifanc hefyd. |
| (1, 0) 514 | Ewch ymlaen, Olwen. |
| (Merch) O'r plasau a'r neuaddau | |
| (Merch) Ac yn eu calon hwy—. | |
| (1, 0) 527 | Eto, Olwen, eto... "Meithrinodd gwerin Cymru... " |
| (Merch) Meithrinodd gwerin Cymru | |
| (Merch) Eu heniaith yn ei chlwy, | |
| (1, 0) 530 | Glywsoch chi? |
| (1, 0) 531 | Dyna ichi amod mwya pendant fy nghadw i yn fyw, fy meithrin gan werin. |
| (1, 0) 532 | Heb hynny, 'd allaf fi byth adnewyddu fy ieuenctid, fel hyn, o oes i oes, heb fy meithrin gan werin. |
| (1, 0) 533 | Ydych chi'n deall? |
| (Tad) Ydw. | |
| (Tad) Ydw. | |
| (1, 0) 535 | Gaf fi orffen y darn, Olwen. |
| (1, 0) 537 | Gogoniant mwy gaf eto |
| (1, 0) 538 | A pharch yng Nghymru fydd; |
| (1, 0) 539 | Mi welaf ddisglair oleu 'mlaen, |
| (1, 0) 540 | A dyma doriad dydd! |