| (Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.} | |
| (Jared) Be fuost ti'n neud â'r plaen yma, Harri? | |
| (1, 0) 10 | Plaenio, Mistar. |
| (Jared) Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo. | |
| (Jared) Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed? | |
| (1, 0) 18 | Do, am spel, Mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi. |
| (Jared) O, felly wir! | |
| (Jared) Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar. | |
| (1, 0) 21 | O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn. |
| (Jared) Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari. | |
| (Jared) Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari. | |
| (1, 0) 23 | Tybad, Mistar? |
| (1, 0) 24 | "Prentis o siopwr" ddwedwn ni yntê? |
| (Jared) Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti. | |
| (Jared) Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti. | |
| (1, 0) 26 | Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor. |
| (Jared) Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren bocs. | |
| (Doctor Huws) Gweithio'n galed, Harri? | |
| (4, 0) 980 | Go lew, Syr. |
| (4, 0) 981 | Mae Mr. Harris y gweinidog a finnau am weithio'n hwyr heno er mwyn gorffen rhyw ddrysau a ffenestri sydd i fod yn barod erbyn diwedd yr wsnos. |
| (Doctor Huws) Wedi mynd i'w dê mae o rwan? | |
| (Doctor Huws) Wedi mynd i'w dê mae o rwan? | |
| (4, 0) 983 | Ie, Syr. |
| (Doctor Huws) Beth ydi dy farn di am dano fel jeinar? | |
| (Doctor Huws) Dyma ti wedi cael tri diwrnod o brawf arno erbyn hyn. | |
| (4, 0) 986 | Mae o wedi colli i law ar y grefft, ond mae'n hwbio mlaen dipyn gwell heddiw. |
| (Doctor Huws) Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar? | |
| (Doctor Huws) Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar? | |
| (4, 0) 988 | Oes, mae chwech ne saith mlynedd, medde fo. |
| (4, 0) 989 | Mae'n weinidog yma ers dros ddwy, a rhyw dair neu bedair blynedd yn y coleg at hynny. |
| (Doctor Huws) Patrwm o ddyn ydi o, wel di, ne fasa fo ddim yn gweithio'n rhad ac am ddim fel hyn yn lle Jared yr wsnos yma. | |
| (Doctor Huws) Dyna beth ydi practical Christianity wyddost. | |
| (4, 0) 992 | Sut mae Jared Jones y pnawn ma, yr. |
| (Doctor Huws) Gwael iawn, druan; mae'n methu symud er dydd Llun. | |
| (Doctor Huws) Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê. | |
| (4, 0) 1048 | Dim perig i mi ddeyd, syr. |
| (Doctor Huws) Rwan mi awn i'r tŷ ein tri. | |
| (Mr Harris) Orffennwn ni'r |job| yma erbyn diwedd yr wsnos? | |
| (4, 0) 1058 | Fe ddylem a ninnau'n gweithio'n hwyr fel hyn. |
| (Mr Harris) {Gan estyn ei freichiau'n ola blaen.} | |
| (Mr Harris) Pe cawn i'r breichiau ma i stwytho dipyn, mi drown ragor o waith drwy nwylo. | |
| (4, 0) 1061 | Peth da ydi rhwbio dipyn o |embrocation| arnyn nhw cyn mynd i'r gwely, Syr. |