| (Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? | |
| (1, 0) 28 | Wel, wir, fûm i 'rioed yn meddwl dim o'r |honours| yma. |
| (Mrs Jones-Roberts) |Oh, you musn't say that|, Mr. Meredith; "teilwng i'r gweithiwr"─rych yn cofio'r adnod. | |
| (1, 0) 56 | |Hold on|, Syr Tomos, ddwedais i mo'r fath beth. |
| (Syr Tomos) {Yn ddigon dig i'w ladd yn y fan, ond yn gwenu.} | |
| (1, 0) 67 | Mi gadwa hynny mewn cof. |
| (1, 0) 69 | Gwelaf fod f'eisiau islaw. |
| (Mrs Jones-Roberts) Good-bye, a chofiwch fod yr |Hazels| yn agored bob amser. | |
| (1, 0) 122 | A yw'r ddau yna wedi mynd? |
| (Syr Tomos) {Yn deimladwy.} | |
| (1, 0) 128 | Mae snobs Cymru yma'n ddiweddar yn annioddefol─rhyw daclau o dwll tan y grât yn dynwared stumiau snobs o Saeson. |
| (Syr Tomos) {Yn dringar.} | |
| (Syr Tomos) Sebon, Harri, rhaid cael sebon ymhob cylch. | |
| (1, 0) 131 | Rwy'n ceisio bod o ddifri efo pawb. |
| (Syr Tomos) Nid bod o ddifri sy'n bwysig ond rhoi'r argraff dy fod o ddifri. | |
| (Myrddin) "Yn awr y gollyngi dy was." | |
| (1, 0) 136 | Welwch chi, Syr Tomos, fe welodd rhywrai drwy'ch sebon a'ch── |
| (1, 0) 146 | Mi fydd yn anodd iawn f'argyhoeddi i fod yn rhaid dweyd anwiredd i helpu'r gwir hyd yn oed mewn politics. |
| (Syr Tomos) {Yn ffug-bryderus.} | |
| (1, 0) 162 | Felly wir. |
| (Myrddin) Yng nghanol berw politics y mae pob diwygiwr penboeth naill ai'n cael ei rewi allan o'r blaid neu ynteu'n troi'n bolitisian doeth. | |
| (1, 0) 165 | "Call" yw'r gair goreu─politisian call. |
| (Olifer) {Yn gorffen wrth y bwrdd a dod ymlaen.} | |
| (1, 0) 169 | Rôg cyfrwys, politisian call, diwygiwr doeth: cyfrwys i uffern, call i'ch oes, a doeth i'r oesoedd. |
| (Olifer) Call neu ddoeth, 'dall neb roi'r un cam ymlaen mewn busnes na pholitics heb gompromeisio rhyw gymaint. | |
| (1, 0) 172 | Compromeisio─compromeisio, beth yn syml yw hynny? |
| (Syr Tomos) Yn syml dyna yw compromeisio─titotal sy'n cashau |ginger-beer| ond â blys cwrw arno yn torri'r ddadl drwy gymysgu'r ddau a gwneud yr hyn elwir yn shandigaff, a shandigaff o gelwydd a gwir yn gymysg yw busnes a pholitics y byd a'r oesoedd, a dyna fydd hi byth.' | |
| (1, 0) 177 | Pan oeddwn i'n hogyn yn y ffair mi wariais lawer ceiniog ar rywbeth elwid yn "Try your strength." Roedd rhyw baladr o ddyn pren at faint Syr Tomos yma, a'r pwynt oedd ei daro yn rhywle yn ei ganol {gan ddangos y smotyn ar gorff y SYR} ac wedyn roedd yna fath o gloc yn uwch i fyny ar frest y dyn pren fan yma {ar gorff y SYR o hyd} yn mesur nerth yr ergyd: thrawais i rioed rownd y cloc ond choelia í byth na fedrwn i heddiw. |
| (Myrddin) {Y ddau'n codi i fynd, a HARRI yn dod i mewn..} | |
| (1, 0) 208 | Ydach chi'n mynd? |
| (Myrddin) Rhaid mynd rwan. | |
| (Syr Tomos) Ffarwel i chwi'ch dau─Latimer a Ridley Cymru, mi losgwch fel dwy gannwyll wêr. | |
| (1, 0) 222 | Ffarwel, Olifer. |
| (1, 0) 223 | Diolch i chithau, Myrddin, am bob help yn yr etholiad, ond cofiwch nad wy'n rhwymo fy hun wrth neb─Syr Tomos na'r Wasg na'r Weinyddiaeth. |
| (Syr Tomos) Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd. | |
| (Syr Tomos) Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd. | |
| (1, 0) 226 | Beth sydd o'i le arnyn' nhw? |
| (Syr Tomos) Y gwir plaen, rhyw hogyn mawr o freuddwydiwr wyt ti─byrbwyll, penstiff; a fi yw spesialist Ysbryd yr Oes i agor dy lygaid. | |
| (1, 0) 229 | Rwy'n gweld pobl gyffredin yr ydych chwi ac eraill wrth droi mewn cylchoedd artifisial cyfoeth a dysg wedi colli golwg arnynt ers talwm. |
| (Syr Tomos) {Wedi digio.} | |
| (Mabli) Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen. | |
| (1, 0) 235 | Dy ben di yw'r clysa o bawb. |
| (Mabli) I chi mae rhein. | |
| (Mabli) I chi mae rhein. | |
| (1, 0) 237 | Wel, rwan am dani. |
| (Mabli) Rhaid i chi fynd ar eich gliniau. | |
| (Mabli) Rhaid i chi fynd ar eich gliniau. | |
| (1, 0) 239 | Pam? |
| (Mabli) Ar eu gliniau y mae pawb yn derbyn coron. | |
| (1, 0) 242 | Fel hyn? |
| (Mabli) Ie. | |
| (Mabli) Coron wen ar ei ben: ond fe ddylech gael clôg o'ch cylch. | |
| (1, 0) 246 | Beth am y llian sydd ar y bwrdd? |
| (Mabli) I'r dim. | |
| (1, 0) 251 | Ydw i'n debyg i frenin? |
| (Mabli) Neisiach na dim brenin fu erioed. | |
| (Syr Tomos) Pymtheg─ers plwc bellach. | |
| (1, 0) 266 | Hen lanc ydi o, Mabli, ac mae o'n drigain a phump os yn ddiwrnod. |
| (Mabli) Faint sy rhwng pymtheg a thrigain a phump? | |
| (1, 0) 275 | Wel rwan am dani. |
| (Syr Tomos) {Mewn ystum areithyddol o'r ffenestr.} | |
| (1, 0) 284 | Ydi mam wedi dod? |
| (Nan) {Yn ddig.} | |
| (Nan) Harri, dyma'ch siawns ar ddechreu. | |
| (1, 0) 291 | Siawns i beth, Nan fach? |
| (Nan) {Yn ddreng.} | |
| (1, 0) 297 | Mae mam yn o hir yn dod. |
| (Nan) {Wrth y SYR yn wawdus.} | |
| (1, 0) 314 | Gormod o bwdin dagith gi. |
| (1, 0) 315 | Am awr gyfa y mae pawb wedi bod wrthi yn stwffio cynghorion i lawr fy ngwddw─rhowch chware teg i greadur gwael. |
| (1, 0) 317 | Mabli, rwyt ti'n werth Ty'r Arglwyddi a Thy'r Cyffredin gyda'i gilydd. |
| (Nan) {Yn neidio ymlaen ac yn tynnu'r blodeu oddiar ei ben.} | |
| (Mabli) Rhoi coron o flodeu ar ben nhad oeddwn i. | |
| (1, 0) 323 | Wel ar fy ngair, wyddwn i ddim eich bod mor ofergoelus. |
| (Janet) Harri bach, y gwir yw nid wyf innau yn leicio gweld drain gwynion mewn ty. | |
| (1, 0) 326 | Grym annwyl, beth yw'r gwahaniaeth rhwng draenen wen a rhosyn coch: mae'r naill a'r llall yn pigo? |
| (1, 0) 328 | Beth yw'r mater? |