| (0, 1) 9 | Yli! |
| (Iris) Nic! | |
| (Iris) Be ar y ddaear mae o'n 'i wneud wrth yr afon yna! | |
| (0, 1) 12 | Yfed! |
| (Iris) Pam nad ydy o yn 'i waith? | |
| (Iris) Pam nad ydy o yn 'i waith? | |
| (0, 1) 14 | Dyna gwestiwn. |
| (0, 1) 15 | Mae gen ti ŵr ar y naw, Iris! |
| (0, 1) 16 | Wel, mi ge'st ti ddigon o rybudd. |
| (0, 1) 17 | Taet ti ond wedi gwrando arna i. |
| (0, 1) 18 | Gwaith? |
| (0, 1) 19 | Mae o'n rhy ddiog i gymryd 'i wynt. |
| (Iris) Ond mam, rhaid bod yna ryw reswm! | |
| (Iris) Pam? | |
| (0, 1) 33 | Gamblo reit siwr. |
| (0, 1) 34 | Ne hel diod. |
| (0, 1) 35 | Ne gymryd dwy awr i ginio. |
| (0, 1) 36 | Ne glertian yn Theatr Dionysos yn edrach ar sothach. |
| (Nicias) Fel mater o ffaith, mi ydw i wedi bod yma ers awr yn gwrando ar Gôr y Llyffantod. | |
| (Nicias) Peidiwch, da chi, â'i ddiffetha. | |
| (0, 1) 47 | Digri dros ben! |
| (Nicias) Pam na chwerthwch chi 'te, 'rhen grimpan! | |
| (Nicias) Mi fydd pob ffatri yn Athen wedi cau gyda hyn, myn cebyst! | |
| (0, 1) 53 | Rwyt ti am eistedd yma felly, ar dy ben-ôl. |
| (Nicias) Mae'n rhaid imi, w'chi. | |
| (Nicias) Mae'n rhaid imi, w'chi. | |
| (0, 1) 55 | Rhaid? |
| (0, 1) 56 | Pam? |
| (Nicias) Am reswm anatomegol. | |
| (Nicias) Am reswm anatomegol. | |
| (0, 1) 58 | Am beth wyt ti'n siarad? |
| (Nicias) Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol. | |
| (Nicias) Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol. | |
| (0, 1) 60 | Clyfar iawn! |
| (Iris) Ond be wyt ti'n mynd i' wneud? | |
| (Iris) Fedri di ddim fforddio egwyddor fel yna a thitha efo pump o blant bach. | |
| (0, 1) 70 | Ac un arall ar y ffordd! |
| (Nicias) Be! | |
| (Nicias) Be! | |
| (0, 1) 72 | Ia, mi wyddwn y bydda hynna'n rhoi sgytwad iti. |
| (0, 1) 73 | Ble 'rwyt ti'n 'i feddwl rydan ni wedi bod y bore yma? |
| (0, 1) 74 | D'wed wrtho fo, Iris. |
| (Iris) Gweld y doctor. | |
| (Iris) Gweld y doctor. | |
| (0, 1) 76 | Ia, dyna iti ble. |
| (0, 1) 77 | A does yna ddim amheuaeth, medda fo. |
| (0, 1) 78 | Dim amheuaeth o gwbwl. |
| (0, 1) 79 | Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd! |
| (Nicias) Nefoedd! | |
| (Iris) Llipryn di-ddim wyt ti! | |
| (0, 1) 86 | Hunanol. |
| (Iris) Di-asgwrn cefn. | |
| (Iris) Di-asgwrn cefn. | |
| (0, 1) 88 | Pen-yn-y-gwynt. |
| (Iris) Rabscaliwn! | |
| (Iris) Mi fyddan yn crafu yn y tun-sbwriel am grystyn sych cyn bo hir. | |
| (0, 1) 94 | Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl! |
| (Nicias) Diolch am funud o heddwch! | |
| (Iris) Mae o'n dal i gysgu! | |
| (0, 4) 2338 | Fel mochyn mewn twlc. |
| (Iris) Rhaid ei fod o wedi blino. | |
| (Iris) Rhaid ei fod o wedi blino. | |
| (0, 4) 2340 | Heb wneud dim? |
| (Iris) Does yna ddim mwy blinedig na segura. | |
| (Iris) Does yna ddim mwy blinedig na segura. | |
| (0, 4) 2342 | Hy! |
| (Iris) Yn erbyn eich ewyllys o'n i'n ei feddwl. | |
| (Iris) Yn erbyn eich ewyllys o'n i'n ei feddwl. | |
| (0, 4) 2344 | Hy! |
| (Iris) Nic! | |
| (Nicias) O Iris, Iris! | |
| (0, 4) 2353 | Mae o'n sâl! |
| (Nicias) Does gen ti ddim syniad mor falch ydw i! | |
| (Nicias) {Ei chofleidio unwaith eto.} | |
| (0, 4) 2358 | Mae o'n sâl iawn! |
| (Iris) Be sy'n bod arnat ti? | |
| (Nicias) Rydach chi'n cyfarth digon, ond rywle yn yr hen frest gwynfannus yna, mae yna galon fel pwced! | |
| (0, 4) 2373 | Mi ydw i'n gwybod rwan ei fod o'n drysu! |
| (Iris) Wel, dywed yr hanes hynod yna i gyd. | |
| (Nicias) Am be rwyt ti'n siarad? | |
| (0, 4) 2387 | Rwyt ti newydd fod yn preblian rhywbeth am siwrna erchrydus yn Hades a... a... be-wyt-ti'n-alw... Tartarws. |
| (Iris) Ac am Cerberws a Charon ac Afon Stycs. | |
| (Iris) Rhaid ei fod o wedi mynd i dy ben di. | |
| (0, 4) 2391 | Breuddwyd meddwyn os wyt ti'n gofyn i mi. |
| (Nicias) Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus! | |
| (Nicias) Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus! | |
| (0, 4) 2393 | Digon hawdd gweld ei fod o'n dwad ato'i hun, Iris. |
| (0, 4) 2394 | Dwed y newyddion da wrtho fo! |
| (Iris) O ia, Nic, wyddost ti'r hen wraig drws-nesa-ond-tri? | |
| (Iris) Dim ond sŵn yr awel yn yr hesg. | |
| (0, 4) 2409 | Paid â dweud dy fod ti'n dechra clywed petha rwan! |
| (0, 4) 2410 | Yr arwydd cynta meddan nhw! |
| (Iris) Gad imi orffen dweud wrthyt ti. | |
| (Iris) A mae hi'n gwybod be ydy be, on'd ydy mam? | |
| (0, 4) 2418 | Byth yn methu. |
| (Iris) Blynyddoedd o brofiad. | |
| (Iris) Blynyddoedd o brofiad. | |
| (0, 4) 2420 | Neb craffach. |
| (Iris) Gwell na doctor, meddan nhw, on'de mam? | |
| (Iris) Gwell na doctor, meddan nhw, on'de mam? | |
| (0, 4) 2422 | Ia, ganwaith. |
| (0, 4) 2423 | Wedi dwad â byddinoedd o fabis i'r hen fyd yma. |
| (Nicias) Ond sut ar y ddaear fedar hi wybod? | |
| (Iris) Dyna ddwedodd hi, on'de mam? | |
| (0, 4) 2428 | Yr union eiria. |
| (0, 4) 2429 | Rhaid iti wynebu ffeithia, 'machgen i. |
| (0, 4) 2430 | Os ydy'r hen fydwraig yn dweud, felly y bydd hi. |
| (Nicias) Efeilliaid! | |
| (Iris) Arnat ti roedd y bai — mynd ar streic. | |
| (0, 4) 2434 | Rhy hwyr codi pais ar ôl be-wyt-ti'n-alw, fel y bydden nhw'n dweud... |
| (0, 4) 2435 | Dwed y newydd da arall hwnnw wrtho fo, Iris. |
| (Nicias) Un gwell na'r dwetha, gobeithio!... | |
| (Iris) Mae o eisio rhywun i fynd â fo o gwmpas Athen, i weld y llefydd diddorol a ballu. | |
| (0, 4) 2445 | A chario'i fag o. |
| (0, 4) 2447 | Bag mawr trwm. |
| (0, 4) 2448 | Mi wneith les iti, rhag dy fod yn magu bol wrth ddiogi! |
| (0, 4) 2449 | Chwysu tipyn! |