| (Negeswyr) Gosteg! | |
| (1, 0) 11 | Y Brenin mawr Ahasferus at y Tywysogion, y Rhaglawiaid a'r Llywodraethwyr sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau o'r India hyd at Ethiopia. |
| (Y Dorf) Gosteg! | |
| (Y Dorf) Gosteg! | |
| (1, 0) 13 | Gan fy mod i, Ahasferus, yn Arglwydd ar genhedloedd lawer ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi ewyllysiais lywodraethu'n addfwyn, a gosod fy neiliaid oll mewn bywyd llonydd, a rhoi heddwch hyd eithafoedd yr ymerodraeth. |
| (Y Dorf) Heddwch! | |
| (Y Dorf) Heddwch! | |
| (1, 0) 15 | Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─ |
| (Y Dorf) Haman! | |
| (Y Dorf) Haman yr Agagiad! | |
| (1, 0) 19 | Mynegodd Haman fod cenedl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, cenedl sy'n wrthwynebus ei chyfraith i bob cenedl arall, cenedl sy'n torri'n wastad ein gorchymyn brenhinol ni, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni ddim sefyll. |
| (Y Dorf) Brad! | |
| (Y Dorf) Brad! | |
| (1, 0) 25 | Cenedl yr Iddewon. |
| (Y Dorf) Iddewon! | |
| (Y Dorf) Gosteg! | |
| (1, 0) 29 | Ninnau'n awr, gan wybod y modd y mae'r genedl hon wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, yr ydym ninnau yn hysbysu ac yn gorchymyn, drwy lythyrau at holl ddugiaid a thywysogion a llywodraethwyr pob talaith o'n hymerodraeth,─ |
| (1, 0) 30 | Ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis o'r flwyddyn bresennol hon, fod dinistrio a lladd a difetha drwy gleddyf a thrwy grog holl genedl yr Iddewon, yn hen ac yn ieuanc, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, heb ddim trugaredd na thosturi, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern, heb adael un o'u hil yn fyw ar y ddaear. |
| (1, 0) 31 | Yn enw'r Brenin Ahasferus! |
| (Y Dorf) Angau i'r Iddewon!... | |
| (Haman) 'Rwyt ti'n ei haeddu o. | |
| (1, 0) 42 | Diolch, syr... |
| (1, 0) 43 | Hir oes i Haman yr Agagiad!... |
| (1, 0) 44 | Ie, gwaith sych yw darllen proclamasiwn. |
| (Haman) Gwaith sych? | |
| (Haman) Roedd o'n tynnu dŵr o'm dannedd i. | |
| (1, 0) 47 | Dŵr? |
| (1, 0) 48 | Tybed? |
| (1, 0) 49 | Gwaed, 'ddyliwn i... |
| (1, 0) 50 | Proclamasiwn go waedlyd yn fy marn i.... |
| (1, 0) 51 | Eich gwaith chi, syr? |
| (Haman) Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i. | |
| (Haman) Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i. | |
| (1, 0) 53 | Felly roeddwn i'n meddwl. |
| (1, 0) 54 | 'Dydy'n harddull ni'r Persiaid ddim mor apocaluptaidd. |
| (Haman) Beth yw ystyr hynny? | |
| (Haman) Beth yw ystyr hynny? | |
| (1, 0) 56 | "Yn ieuanc a hen, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern!"... |
| (1, 0) 58 | Braidd yn Semitig i'm chwaeth i, sy'n ŵr o Bersia, os ca' i ddweud hynny, syr. |
| (Haman) 'Rwyt ti'n nes ati nag y gwyddost ti, machgen i. | |
| (Haman) Iddew piau'r geiriau. | |
| (1, 0) 61 | Iddew? |
| (Haman) Ïe, Iddew. | |
| (Haman) Un o'u proffwydi nhw. | |
| (1, 0) 65 | Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw? |
| (Haman) Yn y geiriau yna y gorchmynnodd Samuel ddinistrio fy nghenedl i, ac Agag ei Brenin hi. | |
| (Haman) Fo, â'i law ei hunan, laddodd y brenin Agag yn garcharor heb arfau, yn sefyll yn ddiniwed ger ei fron. | |
| (1, 0) 68 | Tewch, da chi. |
| (Haman) Felly fe welwch fod gen i reswm dros gofio'r geiriau, dros gofio'r gwaed, dros gofio'r alanas. | |
| (Haman) Ychydig weddill o'm cenedl i ddaru ddianc. | |
| (1, 0) 71 | Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth? |
| (Haman) Fe gaiff pob Iddew byw dalu! | |
| (Haman) Fe gaiff pob Iddew byw dalu! | |
| (1, 0) 73 | Haman yr Agagiad? |
| (Haman) Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag. | |
| (Haman) Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag. | |
| (1, 0) 75 | 'Welsoch chi'r alanas? |
| (1, 0) 76 | 'Oeddech chi yno? |
| (Haman) Na, doeddwn i ddim yno. | |
| (Haman) Ar |ryw| ystyr. | |
| (1, 0) 79 | Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag? |
| (Haman) Pum canrif yn ôl. | |
| (Haman) Pum canrif yn ôl. | |
| (1, 0) 81 | Beth? |
| (Haman) Pum canrif yn ôl. | |
| (Haman) Pum canrif yn ôl. | |
| (1, 0) 84 | Hawyr bach, syr, 'does neb yn dial cam pum canrif yn ôl. |
| (1, 0) 85 | 'Does neb yn cofio pum canrif yn ôl. |
| (1, 0) 86 | Pum canrif yn ôl 'doedd ymerodraeth Persia ddim yn bod. |
| (1, 0) 87 | Na'r ddinas yma, Susan. |
| (Haman) 'Roedd Agag yn bod. | |
| (Haman) 'Rwyf innau'n bod. | |
| (1, 0) 92 | Ydy'r Iddew yn cofio hynny? |
| (Haman) Pan laddodd Samuel Agag, dial cam pum canrif cyn hynny 'roedd yntau. | |
| (Haman) Fe gofian' wrth ddisgyn i uffern yn genedl grog. | |
| (1, 0) 97 | All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw? |
| (Haman) Mae'r Iddewon yn fyw. | |
| (Haman) 'Edrychaist ti 'rioed yn eu llygaid nhw? | |
| (1, 0) 100 | Pobl wedi eu concro ydyn' nhw, pobol alltud yn wylo wrth afonydd Babilon. |
| (1, 0) 101 | Pan fydd swyddog o Bersiad yn eu pasio nhw ar yr heol, 'chodan' nhw mo'u llygaid. |
| (Haman) Mae un ohonyn' nhw yma yn Susan, yn eistedd bob dydd ym mhorth palas y Brenin yma. | |
| (Haman) 'Rwy'n edrych ym myw ei lygaid o, ac yn gweld y blewgi Samuel, a'r ewyn a'r llau ar ei farf, yn darnio Agag yn Gilgal. | |
| (1, 0) 104 | Haman, Haman, cymerwch bwyll, syr. |
| (1, 0) 105 | 'Does gen' i ddim yn erbyn crogi Iddewon, ond chi yw prif weinidog yr Ymerodraeth; mae modrwy'r Brenin ar eich bys chi, a'ch urddas yn ail i urddas Ahasferus ei hunan. |
| (1, 0) 106 | All trempyn o Iddew ym mhorth y palas ddim codi'ch gwrychyn |chi|? |
| (Haman) Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i. | |
| (Haman) Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i. | |
| (1, 0) 108 | Gorchymyn y Brenin yw bod pawb yn ymostwng i chi. |
| (1, 0) 109 | Sut mae o'n meiddio? |
| (Haman) Dyna fo, Harbona, ar y gair. | |
| (Haman) Hwnna! | |
| (1, 0) 118 | Mordecai! |
| (Haman) 'Wyt ti'n ei nabod o? | |
| (Haman) 'Wyt ti'n ei nabod o? | |
| (1, 0) 120 | Mae pawb yn y llys yn ei nabod o. |
| (1, 0) 121 | Mordecai achubodd fywyd y Brenin. |
| (Haman) 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno? | |
| (Haman) 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno? | |
| (1, 0) 123 | Chwedl? |
| (Haman) Dau was ystafell hanner pan. | |
| (Haman) Dau was ystafell hanner pan. | |
| (1, 0) 125 | Fe gyffesodd y ddau eu bod nhw ar fedr llindagu'r Brenin. |
| (1, 0) 126 | Mordecai ddatguddiodd y brad. |
| (Haman) Dan artaith y cyffesodd y ddau. | |
| (Haman) Dan artaith y cyffesodd y ddau. | |
| (1, 0) 128 | Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg. |
| (Haman) 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu. | |
| (Haman) 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu. | |
| (1, 0) 130 | Cyn iddyn' nhw enwi neb arall. |
| (Haman) Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw. | |
| (Haman) Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw. | |
| (1, 0) 132 | Da iawn. |
| (1, 0) 133 | Chi oedd y barnwr yn yr achos. |
| (Haman) Wrth gwrs. | |
| (Haman) 'Roedd yr achos yn glir. | |
| (1, 0) 136 | Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog. |
| (Haman) Ie, wedyn, yn swyddogol. | |
| (Haman) Ond fe drefnwyd hynny ers talwm. | |
| (1, 0) 139 | Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny? |
| (Haman) Mordecai'n brif weinidog? | |
| (Haman) Y mochyn yna ar y grisiau? | |
| (1, 0) 142 | Ond chi a ddewiswyd. |
| (Haman) 'Rwyf i o waed brenhinoedd. | |
| (Haman) 'Rwyf i o waed brenhinoedd. | |
| (1, 0) 144 | Gadawyd Mordecai yn y porth. |
| (Haman) Iddew ym mhorth y Palas. | |
| (Haman) Mae'r peth yn warth. | |
| (1, 0) 147 | A chyfrinach y ddau was ganddo. |
| (Haman) 'Doedd dim cyfrinach. | |
| (Haman) 'Does arna'i ddim o'i ofn o. | |
| (1, 0) 150 | Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach. |
| (Haman) 'Anghofiais i mono fo. | |
| (Haman) Mae o'n fy herio i'n fud ym mhorth y palas bob dydd. | |
| (1, 0) 154 | Dirmygu dewis y Brenin. |
| (1, 0) 155 | Sarhad ar y Brenin yw hynny. |
| (1, 0) 156 | Pam na chosbwch chi o? |
| (Haman) Dyna yw'r proclamasiwn a ddarllenaist ti'n awr. | |
| (1, 0) 162 | Go dda, syr. |
| (1, 0) 163 | 'Rwy'n deall dial fel yna. |
| (1, 0) 164 | Ond pan soniwch chi am ddial cam Agag bum canrif yn ôl, 'fedra' i ddeall dim ar hynny. |
| (Haman) 'Glywaist ti am ddewines Endor? | |
| (Haman) 'Glywaist ti am ddewines Endor? | |
| (1, 0) 166 | Naddo fi. |
| (1, 0) 167 | Rhyw wrach, ai e? |
| (Haman) Fe alwodd hi Samuel o uffern i ddarogan angau Saul. | |
| (Haman) Mi alwaf innau Samuel ac mi alwaf Agag at drothwy Gehenna i groesawu holl genedl Moses. | |
| (1, 0) 170 | Dyna yw bod yn Brif Weinidog? |
| (Haman) Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol! | |
| (Haman) Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol! | |
| (1, 0) 172 | Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth. |
| (Haman) 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona? | |
| (Haman) 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona? | |
| (1, 0) 174 | Cwestiwn peryglus, syr. |
| (Haman) Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau. | |
| (Haman) Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau. | |
| (1, 0) 176 | O'r gorau. |
| (1, 0) 177 | Do, mi fûm i'n cenfigennu wrtho. |
| (Haman) Pam? | |
| (Haman) Pam? | |
| (1, 0) 179 | Mae o'n ddeg ar hugain, a dydy'r frenhines Esther ddim eto'n ugain oed. |
| (Haman) {Dan chwerthin.} | |
| (Haman) Chwarae teg iti, fachgen, chwarae teg iti. | |
| (1, 0) 182 | Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi. |
| (Haman) 'Ystyriais i ddim. | |
| (Haman) A'r llances yma enillodd. | |
| (1, 0) 186 | Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi? |
| (Haman) Beth wn i? | |
| (Haman) 'Dydw i ddim yn credu ei fod o wedi ei gweld hi ers mis. | |
| (1, 0) 190 | Mae hi'n eistedd ar ei gorsedd fel petai hi wedi ei geni yno. |
| (1, 0) 191 | Wyddoch chi rywbeth am ei theulu hi, ei thras hi? |
| (Haman) Mae Brenin Persia a Media yn rhy gall. | |
| (Haman) 'Does ganddo fyth berthnasau yng nghyfraith. | |
| (1, 0) 194 | 'Wyr neb i ble'r aeth Fasti. |
| (1, 0) 195 | 'Wyr neb o ble daeth Esther. |
| (Haman) 'Welaist ti Fasti? | |
| (Haman) 'Welaist ti Fasti? | |
| (1, 0) 197 | Mae Esther yn harddach. |
| (Haman) Dyna dy farn di? | |
| (Haman) Edrychais i 'rioed arni lawer. | |
| (1, 0) 200 | Druan ohonoch chi, syr. |
| (1, 0) 201 | Does dim arall yn Susan sy'n werth edrych arno wrthi hi. |
| (Haman) 'Rwyt ti'n edrych yn uchel? | |
| (Haman) 'Rwyt ti'n edrych yn uchel? | |
| (1, 0) 203 | 'Rydw i'n gweini arni ryw dipyn bron bob dydd, ond 'dydy hi ddim wedi 'ngweld i eto. |
| (1, 0) 204 | Pwy ŵyr? |
| (1, 0) 205 | Ychydig newyn a blino? |
| (Haman) Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti? | |
| (Haman) Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti? | |
| (1, 0) 207 | Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi. |
| (Haman) I mi pethau i'w defnyddio yw merched. | |
| (Haman) Am wn i ei bod hi'n ffordd reit hwylus. | |
| (1, 0) 211 | 'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly? |
| (Haman) Mae gen'i ddeg o feibion, saith ohonyn' nhw'n swyddogion yn y palas neu yn y fyddin. | |
| (Haman) Mae pob grym yn bleser. | |
| (1, 0) 220 | Rydych chi'n iawn; syr. |
| (1, 0) 221 | Does gennych chi ddim achos i genfigennu wrth neb. |
| (Haman) Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen. | |
| (Haman) Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen. | |
| (1, 0) 223 | 'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin? |
| (Haman) Cenfigennu wrth Ahasferus? | |
| (Haman) Cenfigennu wrth Ahasferus? | |
| (1, 0) 225 | Wrth ei rwysg o, ie? |
| (1, 0) 226 | Wrth ei fawredd o, ei awdurdod o? |
| (Haman) Dim oll. | |
| (Haman) Rydw i'n ei ddefnyddio fo fel y mynna' i erbyn hyn. | |
| (1, 0) 232 | Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny. |
| (Haman) 'Does fawr o berig'. | |
| (Haman) Mae ei feddwl o, fel dy feddwl dithau, ar Esther neu ryw gariad arall. | |
| (1, 0) 235 | Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther. |
| (Haman) Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld. | |
| (Haman) Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld. | |
| (1, 0) 237 | Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i. |
| (Haman) Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin. | |
| (Haman) Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin. | |
| (1, 0) 239 | Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres. |
| (Haman) Be wyt ti'n ei awgrymu? | |
| (Haman) Be wyt ti'n ei awgrymu? | |
| (1, 0) 241 | Cellwair, syr, dim ond cellwair. |
| (1, 0) 242 | Mae clepian y palas yn ddigon diniwed. |
| (Haman) Cenfigen yw clep y palas. | |
| (Haman) Cenfigen yw clep y palas. | |
| (1, 0) 244 | Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu? |
| (Haman) 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall. | |
| (Haman) 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall. | |
| (1, 0) 246 | Rhowch braw arna' i. |
| (Haman) Wrth y Duwiau, Harbona. | |
| (Haman) Wrth y Duw sy'n rheoli angau. | |
| (1, 0) 249 | Wel, na. |
| (1, 0) 250 | 'Dydw'i ddim yn deall. |
| (Haman) Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, dyn yn ysu am fod yn Dduw. | |
| (Haman) Heddiw mae hanes Israel yn cau, trwy benderfyniad a gorchymyn un dyn, fi, Haman yr Agagiad, yr artist mewn gwleidyddiaeth. | |
| (1, 0) 268 | Ie, ias go iawn. |
| (1, 0) 269 | Mi fedra'i ddeall. |
| (1, 0) 270 | Ac eto i gyd, y mae'r olwg ar Mordecai ar risiau'r palas, a sach am ei ganol, yn eich cynhyrfu chi. |
| (Haman) 'Dydw i ddim wedi drysu. | |
| (Haman) Nid fy mod i wedi cyrraedd. | |
| (1, 0) 274 | Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr? |
| (Haman) Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o. | |
| (Haman) Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o. | |
| (1, 0) 276 | Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr? |
| (Haman) Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis. | |
| (Haman) Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis. | |
| (1, 0) 278 | Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc? |
| (Haman) Mi wrandawaf yn astud a phwyso. | |
| (Haman) Mi wrandawaf yn astud a phwyso. | |
| (1, 0) 280 | 'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon. |
| (Haman) Hyd y galla' i farnu, dim oll. | |
| (Haman) Hyd y galla' i farnu, dim oll. | |
| (1, 0) 282 | Pa angen aros mor hir mewn mater o frys? |
| (Haman) Cyn crogi'r Iddewon? | |
| (Haman) Cyn crogi'r Iddewon? | |
| (1, 0) 284 | Nage. |
| (1, 0) 285 | 'Rydw i'n deall hynny. |
| (1, 0) 286 | Mater o drefniadaeth... |
| (1, 0) 287 | Ond crogi un arweinydd? |
| (1, 0) 288 | Crogi'ch gelyn arbennig, ysbïwr Bigthana a Theres? |
| (Haman) Crogi Mordecai? | |
| (Haman) Crogi Mordecai? | |
| (1, 0) 290 | Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw. |
| (Haman) Sut mae perswadio'r Brenin? | |
| (Haman) Mae o'n rhoi cryn bris ar gyfraith, ond mewn achosion go eithriadol. | |
| (1, 0) 293 | Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel. |
| (Haman) Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd. | |
| (Haman) Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd. | |
| (1, 0) 295 | Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ. |
| (Haman) Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd. | |
| (Haman) Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd. | |
| (1, 0) 297 | Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely. |
| (Haman) A'r brain a'r eryrod yn pigo'r esgyrn.... | |
| (Haman) Mi af am y seiri rhag blaen. | |
| (1, 0) 301 | Wedyn at y Brenin. |
| (1, 0) 302 | Mi fydda' i yno'n gweini. |
| (Mordecai) Harbona! | |
| (Mordecai) Harbona! | |
| (1, 0) 305 | Wel, wel! |
| (1, 0) 306 | Mordecai! |
| (1, 0) 307 | Dyna ryfedd, amdanat ti 'roedden ni'n sgwrsio. |
| (Mordecai) 'Synnwn i fawr. | |
| (Mordecai) 'Synnwn i fawr. | |
| (1, 0) 309 | 'Glywaist ti? |
| (1, 0) 310 | Mae sôn fod y Brenin yn paratoi codiad arbennig iti heddiw. |
| (1, 0) 311 | Mae'r gweinidog yn selog dros y codiad hefyd. |
| (Mordecai) Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona. | |
| (Mordecai) Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona. | |
| (1, 0) 313 | Un arall eto! |
| (1, 0) 314 | Rydw i newydd ddarllen y Proclamasiwn. |
| (Mordecai) Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn? | |
| (Mordecai) Ie, mi all hynny fod. | |
| (1, 0) 317 | Pa gymwynas arall a fedra' i? |
| (Mordecai) Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi. | |
| (Mordecai) Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi. | |
| (1, 0) 319 | Y Frenhines? |
| (Mordecai) Ie. | |
| (Mordecai) Ie. | |
| (1, 0) 321 | Wyt ti wedi dy weld dy hun, ddyn? |
| (1, 0) 322 | Y baw ar dy dalcen? |
| (1, 0) 323 | Y sach yna amdanat ti? |
| (Mordecai) Sachliain a lludw. | |
| (Mordecai) Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines. | |
| (1, 0) 327 | 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna. |
| (Mordecai) Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi. | |
| (Mordecai) Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi. | |
| (1, 0) 329 | 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines. |
| (Mordecai) Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin. | |
| (Mordecai) Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin. | |
| (1, 0) 331 | Ydy'r Brenin mewn perigl eto? |
| (Mordecai) Mae'r Frenhines mewn perigl. | |
| (Mordecai) Mae'r Frenhines mewn perigl. | |
| (1, 0) 333 | Y Frenhines mewn perigl? |
| (1, 0) 334 | 'Wyt ti'n siŵr? |
| (Mordecai) Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin. | |
| (Mordecai) Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin. | |
| (1, 0) 336 | Y Frenhines mewn perigl! |
| (Esther) Be' sy'n bod, Harbona? | |
| (Esther) Be' sy'n bod, Harbona? | |
| (1, 0) 340 | Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes. |
| (Esther) Mordecai'r Iddew? | |
| (1, 0) 343 | Dyma fo, Arglwyddes. |
| (Esther) Beth ydy' ystyr hyn? | |
| (Esther) Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i. | |
| (1, 0) 348 | Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi. |