| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (1, 0) 49 | Gan bwyll, Ahitoffel. Mae'r dydd yn ifanc, |
| (1, 0) 50 | Fe gŵyd y Brenin toc. Gan bwyll! Gan bwyll! |
| (Ahitoffel) Rhwydd, f'arglwydd Hŵsai, ydyw dweud "Gan bwyll." | |
| (Ahitoffel) Nid yw mor hwylus heddiw." | |
| (1, 0) 58 | Mae ei wedd |
| (1, 0) 59 | Tan gwmwl am fod cwmwl ar ei feddwl. |
| (Ahitoffel) Ac enw'r cwmwl ydyw ystyfnigrwydd! | |
| (Ahitoffel) Ac enw'r cwmwl ydyw ystyfnigrwydd! | |
| (1, 0) 61 | Ac enw'r cwmwl, f'arglwydd, ydyw hiraeth. |
| (1, 0) 62 | Dolur y galon sydd yn llethu'r ysbryd. |
| (1, 0) 63 | Mae'i galon gydag Absalom ei fab |
| (1, 0) 64 | Yng ngwlad Gesŵr. Ie, gyda'r tylwyth nomad |
| (1, 0) 65 | Fan honno'n symud gwersyll fel bo'r borfa |
| (1, 0) 66 | Mae pabell ysbryd Dafydd. Oni chadd |
| (1, 0) 67 | Loches y llwyth ei hun pan oedd ar ffo |
| (1, 0) 68 | Rhag dicter Saul, a chael yn wraig |
| (1, 0) 69 | Eu tywysoges Mâcha? |
| (Ahitoffel) {Yn atgofus.} | |
| (1, 0) 76 | Yn enw Duw, Ahitoffel, gofala! |
| (1, 0) 77 | Mae gan barwydydd glustiau, ac mae'i hysbiwyr |
| (1, 0) 78 | Yn rhedeg â phob chwedl at Bathseba. |
| (Ahitoffel) {Wedi edrych bod llenni'r pyrth yn glir.} | |
| (Ahitoffel) Gael bod yn frenin ar ôl marw'i dad. | |
| (1, 0) 84 | Nid hwnnw ond Absalom ydyw'r etifedd. |
| (1, 0) 85 | Ac Absalom a daniodd fryd y bobol, |
| (1, 0) 86 | Er bod yn alltud. |
| (Ahitoffel) Alltud! Am ba hyd? | |
| (Ahitoffel) A'r haul yn sgleinio ar ei hirwallt hardd. | |
| (1, 0) 92 | Hyd ddydd ei drosedd. Na, nid angel oedd |
| (1, 0) 93 | Yr herwr a lofruddiodd Amnon ei frawd, |
| (1, 0) 94 | A hwnnw'n profi o'i win yng Ngwledd y Cneifwyr. |
| (1, 0) 95 | Nid hawdd yw maddau lladd etifedd y goron. |
| (Ahitoffel) Mae'r bobol wedi maddau iddo. Rhagor, | |
| (1, 0) 114 | Ond nid y Brenin. |
| (Ahitoffel) Maddeuodd yntau iddo yn ei galon. | |
| (Ahitoffel) Ar Ddafydd Frenin megis cynt ar Saul. | |
| (1, 0) 123 | O! na bai telyn heddiw a fedrai ymlid |
| (1, 0) 124 | Ysbrydion drwg; ond ni cheir yng Nghaersalem |
| (1, 0) 125 | Delynor ail i'r bugail-lanc, a ddug |
| (1, 0) 126 | Dangnefedd y corlannau i fynwes Saul. |
| (1, 0) 127 | A mud yw telyn Dafydd ers amser maith. |
| (Ahitoffel) Cynghori'r brenin i alw Absalom adref. | |
| (1, 0) 131 | 'Ryfygodd neb ei enwi ers tair blynedd |
| (1, 0) 132 | Yng nghlyw ei dad. Gwyddost fod llid y brenin |
| (1, 0) 133 | Fel rhuad llew o'i ffau. Pwy a'i gwrthsaif? |
| (Ahitoffel) A ffafr y brenin megis gwlith ar laswellt | |
| (1, 0) 138 | Aros beth, |
| (1, 0) 139 | Mae'n antur enbyd. |
| (Ahitoffel) Mwy enbyd bod yn fud | |
| (Ahitoffel) Sy'n llywodraethu'r llys. | |
| (1, 0) 147 | Hyn a ŵyr gwlad, |
| (1, 0) 148 | Ond gŵyr y Llys na alwodd am Bathseba |
| (1, 0) 149 | I'w stafell wely ar ôl geni Solomon. |
| (1, 0) 150 | Ciliodd ei thegwch ac fe ymfrasaodd. |
| (Ahitoffel) Hon sydd yn tynnu barn ar Israel. | |
| (Ahitoffel) Hon sydd yn tynnu barn ar Israel. | |
| (1, 0) 152 | Ac eto hi a eilw o'n Frenhines, |
| (1, 0) 153 | Ac arni hi y gwrendy. |
| (Ahitoffel) {Yn ffrwydro.} | |
| (Ahitoffel) Haws ganddo wrando arni na'i Gynghorwyr! | |
| (1, 0) 157 | Hist! |
| (1, 0) 159 | Ei chyngor iddo'n awr yw addo'r goron |
| (1, 0) 160 | I Solomon ei mab. A Nathan broffwyd, |
| (1, 0) 161 | Hwnna'n ategu ei chais. |
| (Ahitoffel) {Yn wawdlyd.} | |
| (Ahitoffel) Condemniwr eon eu godineb gynt! | |
| (1, 0) 165 | Llogodd y gyfrwys ef yn athro i'w mab |
| (1, 0) 166 | I'w ddysgu yn ffyrdd doethineb. Llif damhegion |
| (1, 0) 167 | A diarhebion hwn o enau'r llanc. |
| (Ahitoffel) Megis y llif yn ddiau'r siclau arian | |
| (Ahitoffel) O goffr brenhines i goffr gwas yr Arglwydd. | |
| (1, 0) 170 | I ddofi proffwyd, gwna fo'n gaplan llys! |
| (Ahitoffel) Ond ti a mi, nis dofwyd, f'arglwydd Hŵsai. | |
| (Ahitoffel) Ond ti a mi, nis dofwyd, f'arglwydd Hŵsai. | |
| (1, 0) 172 | Ac nid er siclau hon y'n prynir ni. |
| (Ahitoffel) Ac nid er siclau hon y prynir Israel | |
| (Ahitoffel) Ar ôl marwolaeth Dafydd,—Absalom! | |
| (1, 0) 178 | Duw a'i dychwelo. |
| (Ahitoffel) Rhaid llefaru heddiw. | |
| (Ahitoffel) Duw roddo inni lwyddiant. | |
| (1, 0) 186 | Onis rhydd, |
| (1, 0) 187 | Ffarwel, hen ffrind; ffarwel oleuni'r dydd. |
| (Ahitoffel) Tyred i ffau y llew; ond cofia hyn— | |
| (Joab) Er mwyn y fyddin, galw Absalom! | |
| (1, 0) 886 | Er mwyn dy orsedd, galw Absalom! |
| (Dafydd) Beth yw dy gyngor dithau, fy Mrenhines? | |
| (Absalom) Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad. | |
| (2, 1) 1078 | Newyn yn Gilgal, a newyddion drwg |
| (2, 1) 1079 | O ddinas Hebron, ond mae'r olygfa hon |
| (2, 1) 1080 | Yn ddigon i orbwyso pob gorthrymder. |
| (Absalom) Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed? | |
| (Ahitoffel) Mae Hebron wedi gwrthod treth y Brenin. | |
| (2, 1) 1106 | I'w gwario ar Gaersalem, meddant hwy! |
| (Dafydd) Beth yw dy gyngor? | |
| (Dafydd) A phorthi'r sanctaidd fflam â braster hyrddod. | |
| (2, 1) 1193 | A'r dydd yr edrych Duw i lawr o'r nefoedd |
| (2, 1) 1194 | A gweld dwy golofn fwg, o fawl dwy ddinas, |
| (2, 1) 1195 | Derbynied Ef yr ebyrth, a chymoded |
| (2, 1) 1196 | Yn ei dangnefedd Hebron a Chaersalem, |
| (2, 1) 1197 | Fel y cymododd Ef y tad a'r mab. |
| (Dafydd) Cyhoedder wedi'r aberth wledd a dawns | |
| (Joab) A gwae i'r neb fo'n bygwth mab y brenin. | |
| (2, 1) 1251 | Gyda fy mrenin yr arhosaf innau |
| (2, 1) 1252 | I'w helpu i drefnu'r aberth mawr a'r wledd. |
| (Dafydd) {Yn ysgafn.} | |
| (Dafydd) Gynghorwyr, ei hymgeledd i hen ŵr. | |
| (2, 1) 1301 | Mae'i llaw ar delyn yn gwefreiddio'n llys, |
| (2, 1) 1302 | A'i hulio â blodau hyfryd yn feunyddiol. |
| (Abisâg) A fyn fy arglwydd fynd i rodio heddiw? | |
| (2, 2) 1537 | Dawnsio ardderchog! |
| (2, 2) 1538 | (Yn ceisio eto'n ddistawach, gan sylweddoli ei fod wedi gweiddi gormod yng ngŵydd y Brenin y tro cyntaf. Yn gyfrinachol megis:) |
| (2, 2) 1539 | Dawnsio ardderchog, f'arglwydd frenin, —cystal |
| (2, 2) 1540 | Â'th loyw win i lonni calon hen. |
| (2, 2) 1548 | Cael gweled mwg yr aberth |
| (2, 2) 1549 | O flaen yr Arch yn esgyn! |
| (Joab) Cael clywed Sadoc, | |
| (Joab) Llwydd i'n Brenin! | |
| (2, 2) 1561 | Ac Absalom ei fab! |
| (Joab) I goroni'n gwledd. | |
| (Cŵsi) Bradwr! Rhagrithiwr! Cythraul o lwynog ffals! | |
| (2, 2) 1596 | Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem? |
| (Cŵsi) O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw. | |
| (Cŵsi) O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw. | |
| (2, 2) 1598 | Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth. |
| (Cŵsi) Ar flaen eu byddin y daw Ahitoffel, | |
| (Dafydd) {Tyn y llafn a rhed ei fawd ar hyd ei fin.} | |
| (2, 2) 1688 | Duw a'm helpo! |
| (2, 2) 1689 | Ni chredais fyth y gwelwn Frenin Israel |
| (2, 2) 1690 | Yn ei hen ddyddiau eto'n trin y cledd. |
| (2, 2) 1691 | Rhowch gledd i minnau! |
| (Dafydd) Na, hen gyfaill, gwrando. | |
| (Dafydd) Trwy'r anial baich a fyddit arnom. | |
| (2, 2) 1695 | Rhaid |
| (2, 2) 1696 | Im wasanaethu 'Mrenin yn awr y praw. |
| (Dafydd) Ti gei fy ngwasanaethu... Aros yma | |
| (2, 2) 1706 | Rwy'n ufuddhau, fy Mrenin, ond goddefer |
| (2, 2) 1707 | Im ddod i'th hebrwng hyd at Afon Cedron. |
| (2, 2) 1708 | Ath adael yno â chusan gŵr di-frad. |
| (Dafydd) Yn barod, fy Mrenhines? Doeth y gwnaethost | |
| (Ahitoffel) Y dyrfa. | |
| (2, 3) 1962 | Henffych well i'n brenin mwy. |
| (Absalom ac Ahitoffel) Hŵsai! | |
| (Absalom) Am ei holl garedigrwydd iti? | |
| (2, 3) 1967 | Na, |
| (2, 3) 1968 | Yr hwn sydd wrth Arch Duw yw 'mrenin i. |
| (2, 3) 1969 | Yr hwn sy'n trigo yma'n Frenin Seion, |
| (2, 3) 1970 | I hwnnw mae fy llw. |
| (Ahitoffel) Fy arglwydd frenin | |
| (Absalom) 'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred. | |
| (2, 3) 1979 | Frenin Seion, |
| (2, 3) 1980 | Rhoddais fy nghyngor pwyllog i'th dad Dafydd, |
| (2, 3) 1981 | A phwy a wasanaethwn ond y mab |
| (2, 3) 1982 | Sydd ar ei orsedd? Megis y bûm i'th dad, |
| (2, 3) 1983 | Gad imi fod i'r Brenin Absalom. |
| (Absalom) Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma. | |
| (Ahitoffel) Ymrestrant oll o dan dy faner di. | |
| (2, 3) 2000 | Cyngor cyrhaeddbell. Sicr o gael y dorf. |
| (Ahitoffel) Un peth ymhellach. Dyro i minnau gatrawd | |
| (Absalom) Beth yw dy gyngor di? | |
| (2, 3) 2018 | Nid da yw cyngor |
| (2, 3) 2019 | Y doeth Ahitoffel i ni'r waith hon. |
| (2, 3) 2020 | Ti wyddost am dy dad, mai glewion grymus |
| (2, 3) 2021 | Yw gwŷr ei osgordd. Nid ar chwarae bach |
| (2, 3) 2022 | Y tarfir hwy gan ruthr gwyllt liw nos. |
| (2, 3) 2024 | Atolwg sut mae lladd "neb ond y brenin?" |
| (2, 3) 2025 | Capten profiadol ydyw. Mewn rhyw ogof |
| (2, 3) 2026 | Bydd ef a'i deulu'n cysgu'n gwbwl ddiogel, |
| (2, 3) 2027 | A'r Cedyrn yn eu gwarchod. Hyd y llethrau |
| (2, 3) 2028 | Bydd gwyliwr wedi ei osod ar bob craig |
| (2, 3) 2029 | O gylch y gwersyll gan gyfrwyster Joab. |
| (Ahitoffel) Gad hynny imi. Fe dduwn ein hwynebau | |
| (Ahitoffel) A disgyn ar bob gwyliwr yn ddi-sŵn. | |
| (2, 3) 2032 | Methwch ag un, a deffry hwnnw'r gwersyll; |
| (2, 3) 2033 | A Duw a'ch helpo rhag llid Cedyrn Dafydd! |
| (2, 3) 2034 | F'arglwydd, mi fûm i'n un o fintai helwyr |
| (2, 3) 2035 | Yn fy ieuenctid, ar ôl cenawon arth. |
| (2, 3) 2036 | Gwelsom ddau genau'n sleifio i mewn i ogof. |
| (2, 3) 2037 | Dringasom ar eu hôl â deg o gŵn |
| (2, 3) 2038 | A gwaywffyn. Gollwng dau gi i'r ogof |
| (2, 3) 2039 | I'w troi nhw allan. Ond clywsom ffyrnig ru |
| (2, 3) 2040 | Y fam, tu fewn, yn boddi sgrech y cŵn |
| (2, 3) 2041 | Wrth iddi eu rhwygo. Toc hi ddaeth i'r porth. |
| (2, 3) 2042 | Safodd, a'i rhu fel taran hyd y bryn |
| (2, 3) 2043 | A'i llygaid fel y mellt. Y peth ffyrnicaf |
| (2, 3) 2044 | A welais ar ddau droed. Ie, wyth o helgwn |
| (2, 3) 2045 | A adawsom wedi eu darnio o flaen y porth. |
| (2, 3) 2046 | A llithro bendramwnwgl i lawr y bryn |
| (2, 3) 2047 | Heb ennill cenau... Un peth ffyrnicach sydd |
| (2, 3) 2048 | Nag arthes ym mhorth ogof lle mae'i chywion,— |
| (2, 3) 2049 | Ei Gedyrn ym mhorth ogof lle mae Dafydd. |
| (Ahitoffel) Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai? | |
| (Ahitoffel) Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai? | |
| (2, 3) 2051 | Os methiant fydd dy gyrch,—ar ôl y lladdfa |
| (2, 3) 2052 | Liw nos ar dy ddilynwyr, torri calon |
| (2, 3) 2053 | A wnâi gwŷr Hebron, a llithro adre'n ôl |
| (2, 3) 2054 | A gadael ein Tywysog heb amddiffyn. |
| (2, 3) 2055 | Gormod o fenter! |
| (Ahitoffel) Menter yw pob rhyfel. | |
| (Ahitoffel) Menter yw pob rhyfel. | |
| (2, 3) 2057 | Eto mae'r pwyllog yn mantoli ei siawns; |
| (2, 3) 2058 | A dyma 'nghyngor,—tario yng Nghaersalem; |
| (2, 3) 2059 | Arddangos yma holl ragorfraint brenin, |
| (2, 3) 2060 | Oni lwyr-gesglir llwythau Israel atom |
| (2, 3) 2061 | O Dan hyd Beerseba. Megis tywod |
| (2, 3) 2062 | Y môr y bydd ein llu... Wedyn, Dywysog |
| (2, 3) 2063 | Dos, ledia hwy dy hun i'w brwydyr gyntaf, |
| (2, 3) 2064 | A bydd dy frwydyr gynta'n fuddugoliaeth. |
| (Ahitoffel) {Yn ddirmygus.} | |
| (Ahitoffel) A ph'le bydd byddin Dafydd? | |
| (2, 3) 2067 | Wedi encilio |
| (2, 3) 2068 | Rhwng muriau rhyw hen ddinas. Ond fe'i tynnwn, |
| (2, 3) 2069 | Megis â rhaff, i'r afon â'n llu mawr. |
| (2, 3) 2070 | Arswydant rhag ein nifer. A'n telerau |
| (2, 3) 2071 | Fydd rhoi ohonynt Ddafydd inni'n fyw. |
| (2, 3) 2072 | Ac os ymwâd â'r goron,—ef a Solomon— |
| (2, 3) 2073 | Cânt winllan ar y ffin, i'w thrin a'i throi. |
| (Absalom) Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw. | |
| (Ahitoffel) Ond nid anghofiais i. | |
| (2, 3) 2122 | 'Fentret-ti ffawd |
| (2, 3) 2123 | Achos dy Frenin er dial llid personol? |
| (Ahitoffel) Mae mwy o berygl yn dy gynllun di,— | |
| (Absalom) {Hŵsai'n bwyllog yn cyrchu'r gwin a'r cwpan a'i estyn iddo, ac yna'n hamddenol yn tywallt cwpanaid iddo'i hun.} | |
| (2, 3) 2156 | Ateb arafaidd—hwnnw a ddetry lid. |
| (2, 3) 2157 | Diffoddodd dy air tawel ei gynddaredd. |
| (2, 3) 2158 | Mae'n cywilyddio eisoes yn yr ardd. |
| (2, 3) 2159 | 'Rwy'n yfed i'th ddoethineb. |
| (Absalom) {Gwrandawant ill dau, ond ni chlywir na thinc na thonc wedyn.} | |
| (2, 3) 2168 | Un donc ar y gloch?... Y gwynt oedd yn ei siglo, |
| (2, 3) 2170 | Cynghorwr gwerthfawr yw'r hen ffrind, ond weithiau |
| (2, 3) 2171 | Y mae'n lled fyrbwyll. Pan ddaw at ei goed, |
| (2, 3) 2172 | Fe fydd yn llwyr gytuno â ni. |
| (Absalom) 'Wyddwn i ddim | |
| (Absalom) Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo. | |
| (2, 3) 2175 | Mi wyddwn i. Ond nid yw gwleidydd doeth |
| (2, 3) 2176 | Yn gadael i'w deimladau ŵyrdroi'i farn. |
| (2, 3) 2177 | Am les y wlad, yn lle defnyddio'i ben. |
| (Absalom) Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf | |
| (Absalom) Fy nhad. | |
| (2, 3) 2181 | 'Rwy'n gyfaill iddo o hyd. Ond rhaid |
| (2, 3) 2182 | Oedd rhoi'r llywodraeth ar dy ysgwydd gref |
| (2, 3) 2183 | Er mwyn y wlad, ac er lles Dafydd ei hun. |
| (2, 3) 2184 | Byth ni niweidiwn dy frenhinol dad. |
| (Absalom) Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo | |
| (Absalom) I'w phlentyn siawns? | |
| (2, 3) 2191 | Tybed, a fyddai modd |
| (2, 3) 2192 | Cyn dechrau brwydro, anfon at dy dad |
| (2, 3) 2193 | Amodau heddwch? Gan ein bod ni'n gryfach, |
| (2, 3) 2194 | Cawn osod amod caeth yn diogelu |
| (2, 3) 2195 | Yr orsedd hon i ti. |
| (Absalom) Byth ni chytunai | |
| (Absalom) Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo. | |
| (2, 3) 2198 | Dwys |
| (2, 3) 2199 | A dyrys ydyw problem tad a mab |
| (2, 3) 2200 | Ym mhob cenhedlaeth;—y gwrthdaro anorfod; |
| (2, 3) 2201 | A'r naill yn caru'r llall yn nwfn y galon |
| (2, 3) 2202 | Oni bai falchder... |Tybed| na fyddai modd |
| (2, 3) 2203 | Cynnig amodau i Dafydd? |
| (Absalom) Hollol ofer! | |
| (2, 3) 2214 | Be' sydd, fy machgen annwyl-i, be' sydd? |
| (Absalom) Ai un o'm milwyr i...? | |
| (Meffiboseth) Yn dallu fy llygaid... Rhedais i'w erbyn... O! | |
| (2, 3) 2221 | Nac edrych, arglwydd... Mae Ahitoffel |
| (2, 3) 2222 | Wedi ymgrogi wrth raff y Gloch Alarwm. |