| (Price) {Gyda gollyngdod.} | |
| (Price) Rown i'n gweyd wrth dy fam ar ol cino y dylat ti fynd i orffws am spel bob diwetydd. | |
| (1, 0) 215 | Rwy'n olreit, nhad! |
| (Gwen) Ista lawr, nghalon i. | |
| (Gwen) Ble buast ti, Gwilym? | |
| (1, 0) 234 | Wel, fe fuas am dro at yr |Institute|, ac yna meddyliais y byswn yn aros i glywad pwy gas 'i ethol fel yr ymgeisydd newydd. |
| (Price) Yr hen Binkerton yna, spo. | |
| (Pugh) Wel, feddylias i ariod y byswn i byw i weld shwd ddyn a'r hen Binkerton yn M.P. dros y Cwm─naddo'n wir! | |
| (1, 0) 268 | Mae' nhw'n gweyd 'i fod e'n ddyn galluog iawn, Mr. Pugh. |
| (Price) Dynon fel fe sy'n felldith i'r wlad yma heddi. | |
| (Pugh) Wel, rown i'n meddwl fod pawb yn diall 'slawar dydd taw Evan Davies oedd i ddilyn George Llewelyn. | |
| (1, 0) 276 | Bysa wedi ei ddilyn ddeng mlynadd yn ol, yn ddi-os, Mr. Pugh; falle bum mlynadd yn ol. |
| (1, 0) 277 | Ond mae'r cwbwl wedi newid yn y cwm erbyn heddi. |
| (Price) Eitha gwir, Gwilym, y cwbwl wedi newid, a newid er gwath hed, mae'n flin gen i weyd. | |
| (Gwen) A'r llyfra roedd e'n brynu ag ynta ddim ond coliar bach! | |
| (1, 0) 335 | Mae yna un peth yn siwr am Lewis, pun a fyddwch chi'n cytuno ag e ne bido, allwch chi ddim llai na theimlo'n falch ohono. |