| (Oll) {Yn canu.} | |
| (1, 2) 294 | Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth. |
| (Glyndwr) Da gwnaeth yr Arglwydd Grey i alw'i hun yn gi, canys hynny yw, a hynny a fu erioed. | |
| (Brenin) Ymlaen, fy Arglwydd | |
| (1, 2) 304 | Fy Arglwydd Frenin. |
| (1, 2) 305 | Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well. |
| (Glyndwr) Ei well! | |
| (Glyndwr) P'le gwelir gwell o waed neu fonedd na'r sawl a olrheinia linach glir ei waed o Dywysogion Cymru? | |
| (1, 2) 308 | Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr! |
| (Glyndwr) {Yn ffyrnig.} | |
| (Brenin) Ymlaen, De Grey! | |
| (1, 2) 328 | Dymunaf ofyn cwestiwn teg i'r gwr difoes a saif mor haerllug yma o flaen ei deyrn. |
| (1, 2) 332 | Ai Cymro ynte Sais wyt ti? |
| (Glyndwr) Ni wedais i erioed ac ni wadaf byth fy ngwlad, fy iaith, na'm cenedl. | |
| (Glyndwr) Yn Gymro y'm ganed i, ac yn Gymro y'm cleddir, pan welo Duw yn dda. | |
| (1, 2) 335 | Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais? |
| (Glyndwr) Pa beth wyt ti, De Grey? | |
| (Glyndwr) Pa beth wyt ti, De Grey? | |
| (1, 2) 337 | Sais ydwyf fi o waed a chalon. |
| (Glyndwr) Wel dyna ddigon! | |
| (Glyndwr) Os wyt ti'n Sais, a thra bo Saeson yn ymfalchio'th fod yn Sais, ni allaf, gyda hunan barch, fyth chwennych hawlio fy mod i yn Sais. | |
| (1, 2) 340 | Wel, felly yn fyr. |
| (1, 2) 341 | 'Rwyf fi yn hawlio'r Croesau ar fy llw, fel Sais. |
| (1, 2) 342 | Syr Owen, yntau hawlia'r Croesau ar ei lw fel Cymro. |
| (1, 2) 343 | Gwnaed hynny'n hollol glir. |
| (1, 2) 344 | 'Nol deddfau Lloegr ni all amheuaeth fod. |
| (1, 2) 345 | Ni ellir derbyn llw'r un Cymro byth yn erbyn llw Sais. |
| (Brenin) Fy Arglwydd Farnwr, a yw De Grey yn iawn? | |
| (1, 2) 362 | A yw Syr Edmund Mortimer yntau'n troi yn dwrnai? |
| (Mortimer) Na, nid felly chwaith, ond erys Mortimer fel cynt yn foneddwr syml, yn parchu ei wlad a'i chlod. | |
| (Brenin) Adgofiaist fi iti ymladd wrth fy ystlys gynt mewn cad; gwna'r atgo hwnnw imi anghofio'r geiriau gwyllt a lefarwyd heddyw gennyt ger fy mron mewn llys. | |
| (1, 2) 388 | Ond nid anghofiaf fi! |
| (Glyndwr) {Yn troi arno.} | |
| (Glyndwr) Os wyt ti'n ddyn, ti wyddost beth i'w wneud! | |
| (1, 2) 396 | Apelio 'rwyf am ddedfryd o fy mhlaid. |
| (Mortimer) Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf. | |
| (Mortimer) Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf. | |
| (1, 2) 398 | Mae deddf yn ddeddf er hyn i gyd, ac ar y ddeddf, a thrwy y ddeddf, 'rwyf eto'n hawlio'r tir. |