| (Pleser) |Now, by your leave, gentlemen and ladies|: | |
| (Pleser) Feddwl fod y farn. | |
| (1, 1) 270 | Wel y mae drwg yma eto, pa beth ydyw'r mater? |
| (1, 1) 271 | Pwy sy'n dyrchafu natur Pleser? |
| (1, 1) 272 | O ran nid oes pleser yn y byd, |
| (1, 1) 273 | Na f'o Gofid ar ei gyfer. |
| (Pleser) Mae natur Pleser yn fwy cryf ei foddion | |
| (Pleser) Ei fwyniant di gel i'r galon. | |
| (1, 1) 278 | Nid yw Pleser ond fel ergyd, |
| (1, 1) 279 | Neu fflam o eirias natur danllyd; |
| (1, 1) 280 | Os tyf arno ffrwythe cnawd a gwaed, |
| (1, 1) 281 | Maent yn gwywo dan draed Gofid. |
| (Pleser) Gan ei myn'd yn |ddispute| mor eger, | |
| (Pleser) Myfi ydyw'r blysig Arglwydd Pleser. | |
| (1, 1) 284 | Myfine ydyw, syth ei wâr, |
| (1, 1) 285 | Y Gofid, 'rwyf ar dy gyfer, |
| (Pleser) Dywed y gwir, drwy gariad, | |
| (Pleser) Pa le y cefest ti ddechreuad? | |
| (1, 1) 288 | Yn mysg y prene, siwrne saeth, |
| (1, 1) 289 | Gydag Adda pan aeth i ymguddiad. |
| (Pleser) O, 'r Cymro glew, mi glywa' | |
| (Pleser) Neu delyn yn eu dwylo. | |
| (1, 1) 309 | Felly 'roedd Saul yn Israel, |
| (1, 1) 310 | Yn cael heddwch gan y cythrel; |
| (1, 1) 311 | Ond pan ddystawo pob ystwr, |
| (1, 1) 312 | Mae Gofid yn siwr mewn gafel. |
| (1, 1) 313 | ~ |
| (1, 1) 314 | Gwreiddyn euogrwydd, cydwybod effro, |
| (1, 1) 315 | Gofid a melldith wnaeth.i Gain ymwylltio; |
| (1, 1) 316 | A chalon g'ledwch fel Pharo ddiglod, |
| (1, 1) 317 | I'w ddirnad, oedd y nod oedd arno. |
| (1, 1) 318 | ~ |
| (1, 1) 319 | Felly pan gollo rhai'r gwirionedd, |
| (1, 1) 320 | Hwy gym'rant eu pleser yn mhob agwedd, |
| (1, 1) 321 | Pe gwelit heddyw, mae ef fel o'r blaen, |
| (1, 1) 322 | Yma blant i Gain ddigonedd. |
| (Pleser) Ni waeth i ti p'un, mae rhei'ny weithie, | |
| (Pleser) Ydyw siarad am blesere. | |
| (1, 1) 327 | Wel, os ceir Pleser dipyn heno, |
| (1, 1) 328 | Bydd Gofid, cyn y fory, yn dechre cyfeirio; |
| (1, 1) 329 | Ni cheir Pleser cnawdol am fawr hyd, |
| (1, 1) 330 | Na fo Gofid gydag efo. |
| (Pleser) Wel, edrych di ar foddion, | |
| (Pleser) Yn fwynedd y byd a fynon' | |
| (1, 1) 335 | Ond ydyw'r boneddigion o'u mawrhydi, |
| (1, 1) 336 | Yn gwerthu tiroedd, ac yn tori, |
| (1, 1) 337 | Ac yn gadel eu gwlad o fan i fan, |
| (1, 1) 338 | Mae Gofid yn rhan i'r rhei'ni. |
| (Pleser) Ni chymer boneddigion fawr o ofidi, | |
| (Pleser) Mae'u naturieth nhw byth yn tori. | |
| (1, 1) 343 | Pan darffo'r hen anian, mae natur yn oeri, |
| (1, 1) 344 | Mae'r balchder a ffrwgwd, a'r sibrwd yn sobri, |
| (1, 1) 345 | Dyna ddaeth a'r afradlon gynt |
| (1, 1) 346 | Am ei helynt i ymholi. |
| (Pleser) Peth caled ydyw barnu | |
| (Pleser) Mewn rhinwedd mae rhai er hyny. | |
| (1, 1) 351 | Digon gwir fod rhai'n cael eu gwared |
| (1, 1) 352 | Trwy ofid, ac erlid, a chaethiwed; |
| (1, 1) 353 | Gwasgfeuon y byd a th'lodi yn nglyn |
| (1, 1) 354 | Sy'n dwyn llawer dyn i deimlad, |
| (Pleser) Tu hwnt i bob teimlad na chyfiawnder, | |
| (Pleser) Ac yn mache Llwyd Pen Mechyn. | |
| (1, 1) 364 | Wel chwi glywsoch fel ca'dd yr Aiphtied, |
| (1, 1) 365 | Ddyodde llawn gystudd rhwng llau a locustied; |
| (1, 1) 366 | Ond mae pla'r cyfreithwyr yn fwy o frad, |
| (1, 1) 367 | I wneud dyben y wlad 'rwy'n tybied. |
| (1, 1) 368 | ~ |
| (1, 1) 369 | Wrth ddilyn y gyfreth areth erwin, |
| (1, 1) 370 | Llaweroedd aeth heddyw heb na thy na thyddyn; |
| (1, 1) 371 | Rhyfedd os nad oes dial a braw, |
| (1, 1) 372 | Rhyw ddiwrnod a ddaw arnyn'. |
| (Pleser) Wel, llawer gwell a fyddwn ni er hyny, | |
| (Pleser) O genfigen yn cydfygu. | |
| (1, 1) 377 | Cyn barn mae dadlu, dyma'r bywyd |
| (1, 1) 378 | Y dyle'r annuwiol gael ei newid; |
| (1, 1) 379 | 'Does ragor i'r cyfoethog na'r tylawd |
| (1, 1) 380 | A rodio'n ol y cnawd a'i ryddid. |
| (Pleser) Gâd heibio'r cyfreithwyr, a thro tuag adre', | |
| (Pleser) Yn siwrach o gael plesere, | |
| (1, 1) 385 | Plesere diawledig sydd i rai tylodion, |
| (1, 1) 386 | Yfed a gwario, dyna fyd gwirion; |
| (1, 1) 387 | A'r gwpan yn sêl, heb gael prin fara sych, |
| (1, 1) 388 | A'r Gofid crych yn y crochon. |
| (Pleser) Wel, y ffermwyr i'w hateb a'i pia hi eto, | |
| (Pleser) Maent hwy'n byw'n weddus ar ben eu heidde. | |
| (1, 1) 391 | Rhwng trethi ac ardrethion, a balchder serth, |
| (1, 1) 392 | Mae Gofid anferth yno. |
| (1, 1) 393 | ~ |
| (1, 1) 394 | A'r bon'ddigion geirwon sydd ar eu gore, |
| (1, 1) 395 | Am eu troi nhw'n ddinerth o'u tir a'u meddiane; |
| (1, 1) 396 | A hwythe'r offeiried yn gollwng i'r diawl, |
| (1, 1) 397 | Mor nodawl yr eneidie. |
| (1, 1) 398 | ~ |
| (1, 1) 399 | Rhwng y cythrel a'r bon'ddigion, |
| (1, 1) 400 | Mae hi'n helynt lidiog ar dylodion, |
| (1, 1) 401 | 'Does dim esmwythder i'w gael o hyd, |
| (1, 1) 402 | Yn un o'r ddau fyd i ynfydion. |
| (Pleser) Nis gwn i ai celwydd ai gwir yw coelion, | |
| (Pleser) O fwyniant, gwnant a fynon'. | |
| (1, 1) 407 | O, siarad annghall yw son am dynged, |
| (1, 1) 408 | On'd oes gras i ragflaenu pob rhyw blaened? |
| (1, 1) 409 | Onide ni waeth i ddynion ddilyn eu chwant, |
| (1, 1) 410 | 'Run foliant a'r anifeilied. |
| (1, 1) 411 | ~ |
| (1, 1) 412 | Beth ydyw'r darllen a'r holl bregethu? |
| (1, 1) 413 | Ond galw dynion i gael daioni; |
| (1, 1) 414 | O ran mae'n rhaid i bob un ymroi, |
| (1, 1) 415 | Droi wyneb o'i drueni. |
| (Pleser) Wel, ymro di'n fynych, mi dd'wedaf ine, | |
| (Pleser) Gytunol efo'r tane. | |
| (1, 1) 420 | O, dynion gonest sy'n dawnsio ac yn canu, |
| (1, 1) 421 | Angylion i'w gweled, ond diawlied i'w teulu; |
| (1, 1) 422 | Pleser naturiol yw clywed swn tant, |
| (1, 1) 423 | A'r wraig a'r plant yn nadu. |
| (Pleser) Peth hawddgar yw dynes wenlan groen dene, | |
| (Pleser) Wedi ymwisgo â dull odieth, yn hardd ei dillade. | |
| (1, 1) 426 | Wel, os bydd iddi hithe ddilyn ei chwant, |
| (1, 1) 427 | Aiff ei dillad yn gant o dylle. |
| (Pleser) Wel, wfft i ti Gofid, on'd wyt yn mhob gafel, | |
| (Pleser) Yn dyfod yn o ryfedd, nod y dafarn a'r efel. | |
| (1, 1) 430 | Ffarwel i ti rwan, mi âf ar fy rhod, |
| (1, 1) 431 | Ond na feddwl fy mod yn ymadel. |
| (Pleser) 'Rwy'n meddwl ac yn ofni | |
| (Pleser) O b'le 'rwyt ti heno yn rhodio mewn rhyddid? | |
| (1, 1) 1438 | O dramwy'r ddaear ac ymrodio ynddi, |
| (1, 1) 1439 | 'Run fath a Satan, weithie yn mhob |city|. |
| (Pleser) 'Rydwy'n awr mewn trafferth arw | |
| (Pleser) Gyda Rondol y cybydd sy'n wr gweddw, | |
| (1, 1) 1442 | Oni chlywes ei fod yn dechre rhwystro? |
| (1, 1) 1443 | Tori gwaith i mi sydd yno. |
| (Pleser) Mae arnaf gryn helynt yn cerdded ac ymholi; | |
| (Pleser) Sy'n ffaelu ymdopio gyda'r |Dippers|, | |
| (1, 1) 1448 | Ond ydwyf fine tan boene beunydd, |
| (1, 1) 1449 | Wrth deimlo'r fath wenwyn dygn sy'n di'gwydd; |
| (1, 1) 1450 | Lle dyle cariad fod yn cyraedde |
| (1, 1) 1451 | Mae'r wlad wedi chwiblo gan lid a chabledd. |
| (Pleser) Wel, ond y |Dippers| sy bron myn'd yn dopie | |
| (Pleser) Fel y golchont hwy bechod mawr a bychan, | |
| (1, 1) 1456 | Mae hwy'n rhoi dyn bychan i farw dan bechod; |
| (1, 1) 1457 | Nid oes i hwnw ddim hawl mewn gras na chyfamod; |
| (1, 1) 1458 | Maent hwy'n fwy dichell na hwnw yn y dechre |
| (1, 1) 1459 | Fu'n cym'ryd plant bychen yn ei freichie. |
| (Pleser) Mae hi y'mhlith crefyddwyr yn lecsiwn gyffredin | |
| (Pleser) Na wyddent hwy haner oddiwrthynt eu hunen. | |
| (1, 1) 1464 | Mae llawer o drueni trwy'r byd ar gerdded |
| (1, 1) 1465 | A rhai'n barnu beunydd ar eu gilydd yn galed, |
| (1, 1) 1466 | Ond pwy all farnu gwas arall pe ba'i fe'n trawswyro? |
| (1, 1) 1467 | Ond i'w Arglwydd ei hun mae fe'n sefyll neu syrthio? |
| (Pleser) Mae amlach adar mân yn canu'r bore | |
| (Pleser) Ac felly'r gwir Gristion at yr eglwys. | |
| (1, 1) 1477 | Mae pob peth i'w elfen yn tynu'n gyson |
| (1, 1) 1478 | 'Run fath a cheffyl yn piso mewn afon: |
| (1, 1) 1479 | Mae cnawd i 'nifeilied, i adar, i bysgod |
| (1, 1) 1480 | Naturieth a'u henfyn bob uneun i'w hanfod. |
| (1, 1) 1481 | ~ |
| (1, 1) 1482 | Mae'r dydd yn mron tori derfydd pob twrw |
| (1, 1) 1483 | Ni thâl, Wele yma, neu, Wele acw; |
| (1, 1) 1484 | Ni cheiff neb |oil| i'w lamp oddi allan, |
| (1, 1) 1485 | Ond yr hyn a gynwysodd yndde'i hunan. |
| (Pleser) A wyddost ti beth, mae amryw'n diflasu | |
| (Pleser) Glywed Gofid yn dynwared pregethu. | |
| (1, 1) 1488 | Yn wir, Gofid a ddyle bregethu fynychaf, |
| (1, 1) 1489 | Mae amryw bregethwyr ar yr iachaf. |
| (1, 1) 1490 | ~ |
| (1, 1) 1491 | Ond gwir yw'r gair, trwy gywir gariad, |
| (1, 1) 1492 | Ac yn haeddu beunydd bob derbyniad; |
| (1, 1) 1493 | Mae'r gwir yn ddidwyll yn gywir i'w ddywedyd |
| (1, 1) 1494 | Mewn amser, ac allan o amser hefyd. |
| (Pleser) Wel, gwir a ddywedaf fineu'n union, | |
| (Pleser) Ni wel'sant hwy erioed ddihirach amser. | |
| (1, 1) 1499 | Dyna ddengys i chwi yn benaf beth yw |bath| bryniol, |
| (1, 1) 1500 | Fo heb ddelw'r brenin yn gyfreithlon a breiniol, |
| (1, 1) 1501 | Ond delw Cesar i Cesar, neu'r diawl os oes eisie, |
| (1, 1) 1502 | A'r twyllwr i'r twyllwr aed pob un i'w tylle. |
| (Pleser) Hawdd gen'ti siarad rhyw hen syrwrw. | |
| (Pleser) Diawl tynwch o'u gilydd, dyna i chwi geiliog. | |
| (1, 1) 1512 | Wel erbyn y c'odont i chwilio'n pocede, |
| (1, 1) 1513 | Mi fyddaf fineu o bergl'n dwad atynt hwy'r bore, |
| (1, 1) 1514 | A dolur i'w clole ar ol bod yn clulian, |
| (1, 1) 1515 | Mewn blinder ac aflwydd oherwydd eu harian. |
| (1, 1) 1516 | ~ |
| (1, 1) 1517 | Rhai'n bloeddio ac yn soundio, rhai eraill mewn syndod, |
| (1, 1) 1518 | Rhai'n llaesu boche wedi colli gwerth buchod, |
| (1, 1) 1519 | Un arall yn y gornel a dolur o'i gerne, |
| (1, 1) 1520 | A'i geiliog yn gorpws, a'i ddillad yn garpiau. |
| (1, 1) 1521 | ~ |
| (1, 1) 1522 | A dyna i chwi ynfydion yn llwyr bendifadu, |
| (1, 1) 1523 | Wedi i felldith eu pleser a'r diawl eu cwplysu: |
| (1, 1) 1524 | O b'le ceiff y rhei'ny drugaredd na rhinwedd, |
| (1, 1) 1525 | Ond lle dalio hwy'n dewis, a diawl yn eu diwedd. |
| (Pleser) Wel chwi glywsoch hen ddiarhebion, | |
| (Pleser) Heb falchder diawl yn eu dilyn. | |
| (1, 1) 2091 | Wel, dawnsio'r wyt ti, i ddal rhai yn 'runlle, |
| (1, 1) 2092 | I rythu llyged ac agor eu cege; |
| (1, 1) 2093 | On'd ydyw hi'n amser i bob un |
| (1, 1) 2094 | Mewn oedran gychwyn adre. |
| (Pleser) Wel, dyma Ofid yn dwad, rhaid i mi dewi, | |
| (Pleser) Rho anair i ddawns y rhei'ny. | |
| (1, 1) 2099 | Ni allaf ddim rhoi anair iddynt, |
| (1, 1) 2100 | Maent hwy'n rhydd i wneud fel y clywont arnynt; |
| (1, 1) 2101 | Os oes cynwr' neu ffwndwr yn eu ffydd, |
| (1, 1) 2102 | Llawenydd a'i ddeunydd ynddynt. |
| (1, 1) 2103 | ~ |
| (1, 1) 2104 | Beth? a raid i wyr uffern gael eu rhaffe, |
| (1, 1) 2105 | Ar y |pit| ceiliogod, ac yn y tafarne? |
| (1, 1) 2106 | Ac ni all pechaduried roi dim clod, |
| (1, 1) 2107 | Os teimlan' hwy nod eu heneidie, |
| (1, 1) 2108 | ~ |
| (1, 1) 2109 | Beth pe b'ai rhyw un o'r cwmpeini, |
| (1, 1) 2110 | Yma, wedi ei fwrw i'w grogi, |
| (1, 1) 2111 | Ac i air ddyfod y cai fod yn rhydd, |
| (1, 1) 2112 | Oni fydde llawenydd yn ei lenwi? |
| (1, 1) 2113 | ~ |
| (1, 1) 2114 | Felly'r un modd yn eglur, |
| (1, 1) 2115 | Ydyw'r chwedel mewn pechadur: |
| (1, 1) 2116 | Ni all ef pan brofo fe beth o'r braint, |
| (1, 1) 2117 | Ddim gosod pa faint ei gysur. |
| (Pleser) Wel, on'd oes rhai'n cerdded hyd y cwrdde, | |
| (Pleser) Wedi glynu yn eu calone. | |
| (1, 1) 2122 | Nid y tro cyntaf wrth redeg, |
| (1, 1) 2123 | Mae dwfr yr afon yn llyfnhau'r gareg; |
| (1, 1) 2124 | Ni chwympodd mur Jerico ddim wrth un llef; |
| (1, 1) 2125 | Fe edwyn y nef ei hadeg. |
| (1, 1) 2126 | ~ |
| (1, 1) 2127 | Gadewch i'r cwn, trwy'ch cenad, |
| (1, 1) 2128 | Gyfarth y ser a siarad; |
| (1, 1) 2129 | Ni wyr twrch daear ddim am yr haul, |
| (1, 1) 2130 | Na llawer am draul y lleuad. |
| (1, 1) 2131 | ~ |
| (1, 1) 2132 | Ni wyr asyn gwyllt neu eidion |
| (1, 1) 2133 | Ddim byd am gyflwr Cristion, |
| (1, 1) 2134 | Ni wyr dyn cnawdol ddim am ras, |
| (1, 1) 2135 | Mae'n g'wilydd ac yn gas gan ei galon. |
| (Pleser) Wel, un o'r Cyriadogs wyt ti, 'rwy'n credu, | |
| (Pleser) Ond ffydd eglwys Loegr ydwy'i'n garu. | |
| (1, 1) 2138 | Nid mynych y gwelir di (goelia i) |
| (1, 1) 2139 | Yn un o eglwysi Cymru. |
| (Pleser) Wel, 'rydwy'i'r un ffydd a'r person a'r clochydd | |
| (Pleser) A glosiant i'r eglwysydd. | |
| (1, 1) 2144 | Y rhan fwyaf o ffydd y rhei'ny |
| (1, 1) 2145 | Yw dyfod i'r llan i siarad ac ymholi, |
| (1, 1) 2146 | Ac ysbio dillade'r naill a'r llall, |
| (1, 1) 2147 | Ac ystyried pob gwall |history|. |
| (1, 1) 2148 | ~ |
| (1, 1) 2149 | Fe fydd rhai yn y llan yn pendwpian yn fusgrell, |
| (1, 1) 2150 | A'r lleill yn chwerthin tan eu 'sgafell, |
| (1, 1) 2151 | Heb wrando darlleniad mwy na brefiad bran, |
| (1, 1) 2152 | Na theimlo'n lân un linell. |
| (1, 1) 2153 | ~ |
| (1, 1) 2154 | Ac wrth ddwad adre hwy fyddant yn dwndro, |
| (1, 1) 2155 | Pawb wrth eu natur a'i chwedl ganddo: |
| (1, 1) 2156 | Ni fydd am y bregeth odieth wawr, |
| (1, 1) 2157 | Na gwasaneth, fawr yn synio. |
| (Pleser) Os bydd rhai ieuenc yn rhuo ryw afieth, | |
| (Pleser) Bydd yr hen rai brigwyn yn son am y bregeth. | |
| (1, 1) 2160 | Byddant yn son, fe alle'n siwr, |
| (1, 1) 2161 | Yn ddigynwr' o ran gwenieth. |
| (1, 1) 2162 | ~ |
| (1, 1) 2163 | Hwy ddywedant, O! pe gwnaem ni'n loyw |
| (1, 1) 2164 | Gyment yn gyhoeddus ag a glywsom ni heddyw, |
| (1, 1) 2165 | Ni fydde raid ddim cerdded o fan i fan, |
| (1, 1) 2166 | I gocian yma ac acw. |
| (Pleser) Mae hyny'n wir diwahanieth, | |
| (Pleser) Fod yn Eglwys Loegr ddifai athrawieth. | |
| (1, 1) 2169 | Fe fydde'n iachus ar les y plwyf, |
| (1, 1) 2170 | Pe bydde halen yn fwy heleth. |
| (1, 1) 2171 | ~ |
| (1, 1) 2172 | Ond lle diflasodd halen cydwybod, |
| (1, 1) 2173 | A pha beth yr helltir? Dyna lle mae'r hylldod, |
| (1, 1) 2174 | Can's yn y tir yn wir ni wna, |
| (1, 1) 2175 | Na'r domen un da amod. |
| (1, 1) 2176 | ~ |
| (1, 1) 2177 | Athrawieth lygoer, chwydlyd, lygredd, |
| (1, 1) 2178 | Ddifraw, digariad, heb fod na brwd nac oeredd, |
| (1, 1) 2179 | Mae melldith ar y grefydd hon |
| (1, 1) 2180 | Fel Meros a'i thrigolion marwedd, |
| (Pleser) Son am Meros, a rhyw groes gyfeirio, | |
| (Pleser) Na wyr dynion ddim byd am dano. | |
| (1, 1) 2185 | Mae llawer o ddynion yn llwyr ddiddaioni, |
| (1, 1) 2186 | Fel tyrchod daear yn gwrando ac yn tewi; |
| (1, 1) 2187 | Ac ni agorant mo'u llyged nes meirw'n llwyr |
| (1, 1) 2188 | Ar wyneb rhy hwyr drueni. |
| (Pleser) Ni waeth i ti dewi, mae'r bobl yn dechre, | |
| (Pleser) Ymeth yn fwyn yr âf fine. | |
| (1, 1) 2194 | Nid ydyw Gofid ond ail i gafod, |
| (1, 1) 2195 | Lle toro cwmwl mae'n rhaid ci ddigymod: |
| (1, 1) 2196 | Ni fydd ar neb â chalon iach |
| (1, 1) 2197 | Ond Gofid bach am bechod. |
| (1, 1) 2198 | ~ |
| (1, 1) 2199 | Mae diwedd pob trwst yn dwad, |
| (1, 1) 2200 | Y Pleser a'r Gofid anfad: |
| (1, 1) 2201 | Peth gore i ddyn sy'n briddyn brau, |
| (1, 1) 2202 | Yw cyrhedd effeithie cariad. |
| (1, 1) 2203 | ~ |
| (1, 1) 2204 | Mae'n bryd i ni dewi, a rhoi ymadawiad, |
| (1, 1) 2205 | Cofiwch mae diwedd ar bob peth yn dwad; |
| (1, 1) 2206 | Ni ail Gofid na Phleser, drawster dro, |
| (1, 1) 2207 | Ddim cyrhedd lle gwreiddio cariad. |
| (1, 1) 2208 | ~ |
| (1, 1) 2209 | Chwi wyddoch bawb yn weddedd, |
| (1, 1) 2210 | Fel y galwyd pob peth yn wagedd: |
| (1, 1) 2211 | Mae pob rhyw gnawdol raddol rym, |
| (1, 1) 2212 | Yn dwad i ddim yn y diwedd. |