| (Oll) {Yn canu.} | |
| (1, 1) 31 | Dyma Dir y Croesau y soniais am dano neithiwr. |
| (1, 1) 32 | Tir yw a ddylasai fod yn ffrwythlon o ran ei fod wedi ei fwydo â gwaed dewrion dwy wlad gyfa. |
| (Llywelyn) Pob un at ei chwaeth, gefnder mwyn. | |
| (Rhys) Mi gostiodd y gyfraith yn ddrud oni do? | |
| (1, 1) 57 | Gwell colli arian na gwaed─ond mi golla'm gwaed cyn colli'm tir. |
| (Llywelyn) Prin 'rwy'n gweld y lle yn werth ymladd am dano mewn na llys barn na chad waedlyd. | |
| (Iolo) Be sy'n iawn sy o bwys i ni! | |
| (1, 1) 61 | Cofia dithau hynny, Gruff. |
| (1, 1) 62 | Mae'r Sais, a'i drais, a'i draha yn Grey o'r Castell Coch yn bygwth helynt newydd. |
| (1, 1) 63 | Mi gefais air yn ddistaw y gallem ddisgwyl rhuthr ar y Croesau eto. |
| (Iolo) Twt! lol wirion! | |
| (Iolo) Tra bo cyfraith a gwaith gwir! | |
| (1, 1) 70 | Ie, tra bo cyfraith a gwaith gwir. |
| (1, 1) 71 | Ond chydig geir o rheiny tra b'o Harri ar ei orsedd a Grey o Ruthin yn ei lawes. |
| (Iolo) Onid wyt tithau cyn belled yn llawes y brenin ag ydyw Grey? | |
| (Iolo) A be wnai Grey, greadur truan, mewn lleoedd felly, amgen beichio fel llo neu ffoi am ei hoedl! | |
| (1, 1) 76 | Mae pethau wedi newid er hynny, Iolo bach! |
| (1, 1) 77 | Cof byr yw cof cymwynas, ond hir yw atgo digter. |
| (Oll) Wele hai am yr helfa drwy'r coed! | |
| (Iolo) {Yn ymosod.} | |
| (1, 1) 165 | Pa beth yw hyn? |
| (1, 1) 166 | Ha! |
| (1, 1) 168 | Lifre Grey o Ruthyn! |
| (1, 1) 169 | Pam y troseddwch ar dir Glyndwr? |
| (Marglee) {Yn gweinio eí gledd.} | |
| (Marglee) {Yn cyfeirio at y faner ar y llumanbren.} | |
| (1, 1) 173 | Myn fy einioes! |
| (1, 1) 174 | Oni bae fod gennyf fwy o barch i mi fy hun nag i ti a'th feistr, mi dy grogwn y funud hon, tydi a'th wyr, am y sarhad a wnest. |
| (1, 1) 175 | Pa le mae fy manner? |
| (Milwr 1) {Yn cerdded yn gloff tuag ato.} | |
| (Milwr 1) Dyma hi, fy Arglwydd. | |
| (1, 1) 178 | Yn ol a hi i'w lle! |
| (1, 1) 179 | I lawr â lluman Grey! |
| (1, 1) 181 | Na! |
| (1, 1) 182 | Ca'r dwylaw a daflasant laid ar luman Cymru ei olchi eto i ffwrdd! |
| (1, 1) 183 | Chwi filwyr Grey, â'ch dwylaw eich hun gwnewch hyn! |
| (1, 1) 186 | Yn ol a chwi i'ch ffau! |
| (1, 1) 187 | A dywed wrth dy feistr Grey os beiddia ef, neu ti, neu neb o'i wyr, roi troed ar dir y Croesau mwy heb ganiatad Glyndwr, mai'r crogbren a fydd rhan y neb a wna. |
| (Iolo) Da iawn, Glyndwr. | |
| (Iolo) Ond un peth a anghofiaist. | |
| (1, 1) 190 | Pa beth yw hynny? |
| (Iolo) Mae'r fanner yn ei lle─ond ble mae'r parch? | |
| (Syr Rhys a'r Cymry Oll) Gwir! Gwir! | |
| (1, 1) 195 | Wel, dyna ddechreu'r storm. |
| (Tywysog) {Wrth yr Esgob.} | |
| (1, 2) 229 | Diolch i'ch Huchelder Brenhinol. |
| (1, 2) 230 | Mae eich croesaw yn anrhydedd a'ch cwmni yn ddywenydd bob amser i Gymro tlawd fel myfi! |
| (Tywysog) {Yn chwerthin.} | |
| (Grey) Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth. | |
| (1, 2) 295 | Da gwnaeth yr Arglwydd Grey i alw'i hun yn gi, canys hynny yw, a hynny a fu erioed. |
| (1, 2) 296 | Ond, p'run a fydd Glyndwr yn 'sglyfaeth iddo sy'n gwestiwn arall! |
| (Tywysog) Ie'n bwyllog, Arglwydd Grey! | |
| (Grey) Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well. | |
| (1, 2) 306 | Ei well! |
| (1, 2) 307 | P'le gwelir gwell o waed neu fonedd na'r sawl a olrheinia linach glir ei waed o Dywysogion Cymru? |
| (Grey) Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr! | |
| (1, 2) 310 | Myn bedd fy nhad, cei lyncu'th air dy hun neu'm cleddyf i! |
| (1, 2) 311 | Rhof her iti! |
| (1, 2) 312 | A dyna'm maneg i lawr! |
| (Brenin) A feiddi di roi her i neb ym mhresenoldeb y brenin yn ei lys? | |
| (1, 2) 316 | Nid myfi yw'r cyntaf a wnaeth hynny. |
| (Brenin) {Yn codi ar ei draed.} | |
| (Grey) Ai Cymro ynte Sais wyt ti? | |
| (1, 2) 333 | Ni wedais i erioed ac ni wadaf byth fy ngwlad, fy iaith, na'm cenedl. |
| (1, 2) 334 | Yn Gymro y'm ganed i, ac yn Gymro y'm cleddir, pan welo Duw yn dda. |
| (Grey) Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais? | |
| (Grey) Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais? | |
| (1, 2) 336 | Pa beth wyt ti, De Grey? |
| (Grey) Sais ydwyf fi o waed a chalon. | |
| (Grey) Sais ydwyf fi o waed a chalon. | |
| (1, 2) 338 | Wel dyna ddigon! |
| (1, 2) 339 | Os wyt ti'n Sais, a thra bo Saeson yn ymfalchio'th fod yn Sais, ni allaf, gyda hunan barch, fyth chwennych hawlio fy mod i yn Sais. |
| (Grey) Wel, felly yn fyr. | |
| (Brenin) Syr Owen de Glendore, pa beth a ddywedi di? | |
| (1, 2) 376 | Fy Arglwydd Frenin. |
| (1, 2) 377 | Mi ddeuthym yma i geisio'r hyn oedd gyfiawn imi fel dyn, a pherchen tir. |
| (1, 2) 378 | Dim mwy na llai na hynny. |
| (1, 2) 379 | Gwrthodwyd hyn i mi, nid am nad oedd fy hawl yn deg a chyfiawn, ond am fy mod yn Gymro. |
| (1, 2) 380 | Cymhellir fi i'w geisio 'nawr fel Sais. |
| (1, 2) 381 | Ond os gwrthodir cyfiawnder i mi fel Cymro, ni fyn olynydd syth y Brenin Arthur Fawr ei gael trwy ddweyd ei fod yn Sais! |
| (1, 2) 382 | Na! |
| (1, 2) 383 | Pe bai'r Croesau'n Gymru, a phe bai Cymru'n fyd! |
| (1, 2) 384 | Ond gwae i'r wlad a wnelo gam mewn llys! |
| (1, 2) 385 | A gwae i'r teyrn a wyro farn ar sedd! |
| (Brenin) {Gydag urddas.} | |
| (1, 2) 390 | Tydi! |
| (1, 2) 391 | Y gwron gwych sy'n llechu'n nghysgod teyrn. |
| (1, 2) 392 | Gwel fy maneg! |
| (1, 2) 393 | Mae honno eto ar lawr! |
| (1, 2) 394 | Os wyt ti'n ddyn, ti wyddost beth i'w wneud! |