| (Gruffydd) A wnewch chwi ddwedyd wrthyf fi fy nhad, | |
| (Gruffydd) Ynghylch y Croesau, a'r Cyffindir hyn? | |
| (1, 1) 7 | Pa beth a glywaist? |
| (Gruffydd) Mae'r si ar led | |
| (Gruffydd) Gan ber awelon nef. | |
| (1, 1) 19 | Myn bedd fy nhad! |
| (1, 1) 20 | Mae hyn yn ormod i fy natur ddal! |
| (1, 1) 21 | Yr wyf yn teimlo fod pob dafn o'm gwaed |
| (1, 1) 22 | Yn berwi yn fy ngwythienau 'n awr, |
| (1, 1) 23 | A bod pob curiad o fy nghalon drist |
| (1, 1) 24 | Yn galw arnaf roddi dyrnod drom |
| (1, 1) 25 | I'r Sais ffroenuchel, elwir Arglwydd Grey, |
| (1, 1) 26 | Yr hwn ysywaeth farna'r Cymro tlawd |
| (1, 1) 27 | Yn deilwng wrthddrych i'w ddirmygus lid! |
| (1, 1) 28 | Ti wyddost ddarfod i'r pendefig hwn |
| (1, 1) 29 | Flynyddau maith yn ol, wneyd eofn hawl |
| (1, 1) 30 | I'r un darn tir. Ei lwyr orchfygu wnes |
| (1, 1) 31 | A throais iddo ef ei hawl yn wawd |
| (1, 1) 32 | Gan brofi'n glir, mewn teg gyfreithlawn lys, |
| (1, 1) 33 | Fy hawl i'r tir: ac am y Croesau hyn |
| (1, 1) 34 | Treftadaeth oedd i'th dad a'th deidiau di, |
| (1, 1) 35 | Ac i'th gyndeidiau, faith ganrifoedd cyn |
| (1, 1) 36 | Fod son am Arglwydd Grey mewn byd yn bod. |
| (1, 1) 37 | Yn awr, diamheu genyf, tybio mae, |
| (1, 1) 38 | Gan ddyfod Harri Henffordd i'r deyrn-sedd, |
| (1, 1) 39 | Y ca yn awr yn lle cyfiawnder ffafr, |
| (1, 1) 40 | Ac arnaf fi trwy drais y ca ei wyn. |
| (1, 1) 41 | Ond ysbryd Bleddyn, dewr Dywysog Powys, |
| (1, 1) 42 | Cyndaid fy nhad, sydd ynof fi yn fyw, |
| (1, 1) 43 | A chochwaed ein Llewelyn, enwog Lyw, |
| (1, 1) 44 | Cyndaid fy mam, yn fy ngwythienau sydd. |
| (1, 1) 45 | Ca Grey, a'i deyrn, a phob Normaniad wel'd |
| (1, 1) 46 | Fod ysbryd yr hen Gymry eto'n fyw. |
| (1, 1) 47 | A chyn yr ymostyngaf i'w sarhad, |
| (1, 1) 48 | Gwnaf Gymru'n wenfflam, a'i chyffiniau'n waed |
| (1, 1) 49 | A mynaf ryddid, neu enillaf fedd! |
| (Gwenfron) {Yn canu.} | |
| (Llewelyn) Gollwng fy merch yn rhydd, neu'n gelain y'th darawaf! | |
| (1, 1) 109 | Plant annwn! rhoddwch le! Pob arf i lawr! |
| (Gruffydd) Ha filain! | |
| (Gruffydd) {Yn taro Phylip Marglee i'r llawr, ac yn rhyddhau Gwenfron.} | |
| (1, 1) 113 | Pa beth yw'r cynhwrf annghyfreithlawn hwn? |
| (1, 1) 114 | A wyddoch Saeson eich bod chwi 'n troseddu? |
| (1, 1) 115 | Pa hawl sydd genych osod troed i lawr |
| (1, 1) 116 | Ar dir y Croesau? |
| (Marglee) {Yn codi.} | |
| (Marglee) Fel gweision Arglwydd Grey, ei wir berchenog! | |
| (1, 1) 120 | Ei wir berchenog! — Dywed eto air, |
| (1, 1) 121 | 'A thynu wnaf o'r gwraidd dy dafod brwnt, |
| (1, 1) 122 | A'i daflu ef i'r cwn,—os bwytu'r cwn |
| (1, 1) 123 | Fath furgyn drewllyd!—Ymaith! ffwrdd a chwi. |
| (1, 1) 124 | Os beiddia eto un o honoch byth, |
| (1, 1) 125 | Neu'ch Meistr ciaidd chwaith ro'i troed i lawr |
| (1, 1) 126 | Ar dir y Croesau, eich ffrewyllu wnaf |
| (1, 1) 127 | Fel cwn yn ol i'ch ffau. |
| (1, 1) 129 | 'N awr Gymry dewch. |
| (1, 1) 130 | Awn ninau adref oll, Dyoddef byth |
| (1, 1) 131 | Un cam ni cha y Cymro dewr, nac un |
| (1, 1) 132 | Gymraes, tra grym yn mraich Glyndwr! |
| (Brenin) Wel f' Arglwydd Grey, pa fodd yr ydych chwi | |
| (Brenin) Syr Owen de Glendore! beth ddwedwch chwi? | |
| (1, 2) 253 | Fy Arglwydd Frenin! a chwi arglwyddi oll! |
| (1, 2) 254 | Mae'r gwir a'r anwir yn anerchiad Grey, |
| (1, 2) 255 | Fel gwenith da yn gymysg gydâg us; |
| (1, 2) 256 | A rhaid eu nithio'n llwyr cyn gellir cael |
| (1, 2) 257 | Y llafur pur,—A cheisiaf finau'n fyr |
| (1, 2) 258 | Eu dethol:—Gwir ddywedodd ddarfod i |
| (1, 2) 259 | Gyfreithiol lys sicrhau imi fy hawl, |
| (1, 2) 260 | Dan deg deyrnasiad Risiart, frenin da. |
| (1, 2) 261 | Ond anwir noeth oedd d'weyd y gwyrwyd barn. |
| (1, 2) 262 | Gwir ddarfod imi fygwth un o'i gwn, |
| (1, 2) 263 | Ar agwedd dyn, er's 'chydig amser 'nol, |
| (1, 2) 264 | Am geisio treisio merch i un o'm deiliaid. |
| (1, 2) 265 | Pob ci a'm cyfarth, fe ga driniaeth ci; |
| (1, 2) 266 | Pob dyn a'm parcha, parchaf finau ef. |
| (1, 2) 267 | Dewised Reginald Grey pa un o'r ddau, |
| (1, 2) 268 | A'i ci, a'i dyn anfona ataf fi, |
| (1, 2) 269 | A phrofed felly p'run a'i ci a'i dyn |
| (1, 2) 270 | Fydd yntau. |
| (1, 2) 271 | Treftadaeth teulu, er's canrifoedd maith, |
| (1, 2) 272 | Yw tir y Croesau, ddaliwyd genyf fi, |
| (1, 2) 273 | A chan fy nhad, a'm taid, a'm teidiau gynt. |
| (1, 2) 274 | A byth nis gellir, ond trwy drais ei ddwyn |
| (1, 2) 275 | Oddi arnaf. |
| (Grey) Fy Arglwydd Frenin: | |
| (Brenin) O blaid y bradwr yn ein herbyn ni? | |
| (1, 2) 285 | Fy nghledd o'r wain a dynais lawer tro |
| (1, 2) 286 | O blaid Plantagenet. |
| (Brenin) A wyddost ti | |
| (Brenin) Mewn perygl. | |
| (1, 2) 290 | Fy Arglwydd Frenin; |
| (1, 2) 291 | Nid oes arnaf gywilydd arddel yma |
| (1, 2) 292 | Yr unrhyw weithred wneuthum yn fy oes! |
| (1, 2) 293 | Ond gwir fy mod er hyn yn ddyogel. |
| (Brenin) Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, a yw hyn | |
| (Grey) Yn ngwydd ei well. | |
| (1, 2) 303 | Mae genyf eto'i wel'd |
| (1, 2) 304 | Neb gwell o waed, na bôn, na'r un a all |
| (1, 2) 305 | Ei linach olrhain i Dywysogion Cymru! |
| (Grey) {Yn wawdlyd.} | |
| (Grey) Tywysogion geifr! | |
| (1, 2) 308 | Myn bedd fy nhad, |
| (1, 2) 309 | Cei lyncu 'th air, neu lyncu'm miniog gledd! |
| (1, 2) 310 | Rhof her i ti! a dyna'm maneg lawr! |
| (Brenin) A wyt ti'n meiddio roddi her i neb, | |
| (Brenin) Yn mhresenoldeb brenin ar ei sedd? | |
| (1, 2) 314 | Mi welais un a elwid y Duc Henffordd, |
| (1, 2) 315 | Yn herio Norfolk gynt yn ngwydd ei deyrn! |
| (Brenin) A wyt ti yn ein barfu ni fel hyn! | |
| (Brenin) Cei fyn'd yn rhwym, nes oero'th ysbryd poeth! | |
| (1, 2) 318 | Nid oes un rhwym a rwym fy ysbryd i. |
| (Esgob) {Gan ymaflyd yn mraich Owen, a dweyd o'r neilldu wrtho.} | |
| (Grey) Pa un a'i Cymro, ynte Sais wyt ti? | |
| (1, 2) 339 | 'Rwyf eisioes wedi dyweyd fy mod yn disgyn |
| (1, 2) 340 | O uchel fon Tywysogion Gwalia wen, |
| (1, 2) 341 | Nid yw etifedd dewr Llewelyn Lyw |
| (1, 2) 342 | Yn myn'd i wadu ei wlad! Ie, Cymro wyf! |
| (Grey) D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais? | |
| (Grey) D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais? | |
| (1, 2) 344 | A'i Sais wyt ti? |
| (Grey) Ie, Sais o waed wyf fi. | |
| (Grey) Ie, Sais o waed wyf fi. | |
| (1, 2) 346 | Tra bo ti'n Sais, ni fyddaf byth yn Sais! |
| (Grey) Os felly, mae y prawf yn wir ar ben. | |
| (Gascoigne) Lw un pendefig. | |
| (1, 2) 370 | Diolch ganwaith sydd, |
| (1, 2) 371 | O eigion calon Owain Glyndowrdy, |
| (1, 2) 372 | I'r doeth Brif Farnwr, am ei eiriau mwyn; |
| (1, 2) 373 | Ond os na chaf gyfiawnder teg fel Cymro, |
| (1, 2) 374 | Ni fyn etifedd Bleddyn Fawr o Powys, |
| (1, 2) 375 | Ni fyn orwyr Llewelyn, Tywysog Cymru; |
| (1, 2) 376 | Ni fyn olynydd union Arthur Frenin; |
| (1, 2) 377 | Ni fyn y tri, yn Owain Glyndowrdy, |
| (1, 2) 378 | Gyfiawnder fel pendefig Lloegr byth, |
| (1, 2) 379 | Pe'r Groesau'n Gymru, a phe Cymru'n fyd! |
| (1, 2) 380 | Ond gwae y wlad a wnelo gam mewn llys; |
| (1, 2) 381 | A gwae y teyrn ar sedd. a wyro farn! |
| (Brenin) Gwell f'ai it' ro'i dy ben yn safn y llew, | |
| (Grey) Ond nid anghofiaf i! | |
| (1, 2) 388 | Fy maneg gwel, |
| (1, 2) 389 | Mae eto ar y llawr o'th flaen: os wyt |
| (1, 2) 390 | Yn meddu gradd o ysbryd dyn i'w chodi. |