| (Walter) O'r andras! | |
| (Walter) A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro? | |
| (1, 0) 25 | Oeddech chi'n breuddwydio? |
| (Walter) Nawr y cysgais i a dyna tithau... | |
| (Walter) Nawr y cysgais i a dyna tithau... | |
| (1, 0) 27 | Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll. |
| (Walter) E! | |
| (Walter) Beth ddwedaist ti? | |
| (1, 0) 30 | A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi. |
| (Walter) Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad. | |
| (Walter) Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad. | |
| (1, 0) 32 | Ydych chi'n drwm eich clyw y pnawn yma. |
| (1, 0) 34 | Am danoch chi'n llymeitian yn y "Prince... |
| (Walter) Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat... | |
| (Walter) Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat... | |
| (1, 0) 36 | Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom. |
| (Walter) Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd. | |
| (Walter) Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith. | |
| (1, 0) 39 | Wel, does dim gwahaniaeth gen i─fe ellwch droi i mewn i bob tafarn yn y lle o'm rhan i... |
| (1, 0) 40 | Ble mae modryb? |
| (1, 0) 41 | Allan yn yr ardd? |
| (Walter) {Chwilio am ei esgidiau.} | |
| (1, 0) 45 | Beth sy'n bod? |
| (Walter) Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti? | |
| (Walter) Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti? | |
| (1, 0) 47 | Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun. |
| (Walter) Fy ngweld i! | |
| (Walter) Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr. | |
| (1, 0) 50 | O! |
| (1, 0) 51 | O'r gorau! |
| (1, 0) 52 | Gwadwch chi. |
| (1, 0) 53 | Fel y dywedais i, does dim gwahaniaeth gen i. |
| (1, 0) 54 | Dwedwch, ydy modryb yn yr ardd? |
| (Walter) Pa amser oedd hyn? | |
| (Walter) Pa amser oedd hyn? | |
| (1, 0) 56 | Beth? |
| (1, 0) 57 | Pryd y gwelais i chi? |
| (1, 0) 58 | O, rywbryd rhwng chwech a saith. |
| (Walter) Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt. | |
| (Walter) Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt. | |
| (1, 0) 60 | Dyna ddiwedd arni ynte. |
| (Walter) Wyt ti ddim yn fy nghredu? | |
| (Walter) Wyt ti ddim yn fy nghredu? | |
| (1, 0) 62 | Nac ydw, Nwncwl. |
| (1, 0) 63 | Peidiwch ag edrych mor ofidus. |
| (1, 0) 64 | Ddweda i ddim wrth modryb. |
| (1, 0) 65 | Dim ond fi ac Arthur sy'n gwybod. |
| (Walter) Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi? | |
| (Walter) Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi? | |
| (1, 0) 67 | Oedd. |
| (Walter) Dyna ddiwedd arni, nawr. | |
| (Walter) Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb. | |
| (1, 0) 70 | Na ofidiwch, Nwncwl bach, ni ddywed Arthur air wrth neb. |
| (1, 0) 71 | Rydych yn ddiogel eto. |
| (1, 0) 72 | Ond gwyliwch chi eich camre o hyn allan. |
| (1, 0) 73 | Beth petai modryb wedi digwydd edrych i mewn drwy ffenestr y bar neithiwr. |
| (Walter) Paid, paid a dychmygu'r fath beth. | |
| (Walter) Paid, paid a dychmygu'r fath beth. | |
| (1, 0) 75 | Wel, meddyliwch chi am hynny y tro nesaf y trowch i mewn yno. |
| (1, 0) 76 | Fe fyddai'n ddigon o sioc i modryb ddod i wybod eich bod chi'n mynd i mewn i'r ""Prince of Wales" heblaw... |
| (Walter) Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor. | |
| (Walter) Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor. | |
| (1, 0) 78 | Reit. |
| (1, 0) 79 | Fe'ch atgofia i chi am yr addewid yna eto. |
| (1, 0) 80 | Ond, dwedwch, ble mae pawb? |
| (1, 0) 81 | Ble mae modryb? |
| (Walter) Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi. | |
| (Walter) Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle. | |
| (1, 0) 84 | Ble mae'r Ianci? |
| (Walter) Ust. | |
| (Walter) Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci. | |
| (1, 0) 88 | O'r gorau. |
| (1, 0) 89 | Ble mae Carnolyn R. Rees, Ysw., Chicago? |
| (Walter) Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd. | |
| (Walter) Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma. | |
| (1, 0) 92 | Wel, gobeithio y gall e wneud y lle hwn yn debycach i Chicago, beth bynnag. |
| (1, 0) 93 | Mari Jones yn dweud bod Arthur wedi mynd am dro, chi yn cysgu yn nhraed eich sanau, Modryb Sara a Modryb Jane yn cario cawl ar hyd y lle, Carnolyn R. Rees yn meindio ei fusnes ei hun a neb yn barod i'm helpu i i dreulio'r pnawn braf yma. |
| (Walter) Ble mae Demetrius? | |
| (Walter) Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser. | |
| (1, 0) 97 | Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle. |
| (Walter) Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones! | |
| (Walter) Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones! | |
| (1, 0) 99 | Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales." |
| (Walter) Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor. | |
| (Walter) Mae clustiau gan y muriau. | |
| (1, 0) 103 | Rhaid i chithau beidio â sôn am Demetrius bach hefyd. |
| (1, 0) 104 | Rwy'n fodlon i chi fy mhryfocio am bopeth arall, ond nid amdano ef. |
| (Walter) Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod. | |
| (Walter) Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod. | |
| (1, 0) 106 | Dydw i ddim am fod, a dyna ddigon ar y pwnc yna. |
| (1, 0) 107 | Nawr, dim gair yn rhagor. |
| (1, 0) 108 | Mae'r cadoediad wed dechrau; ond i chi beidio â sôn am Demetrius fe gadwa innau oddi wrth bwnc y "barmaid." |
| (Walter) Diolch am hynny. | |
| (1, 0) 111 | Hylo! |
| (1, 0) 112 | Mae'r allweddau yn y drôr yna─rwyf wedi bod eisiau gwybod pa gyfrinach sydd gennych ynddo ers oesoedd a dyma gyfle. |
| (Walter) Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen. | |
| (1, 0) 145 | A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb? |
| (Walter) Na chei. | |
| (Mrs. Morgan) {Allan drwy'r ffenestr.} | |
| (1, 0) 246 | Buwyd yn trafod y sefyllfa ariannol, do fe, Nwncwl? |
| (Walter) E! | |
| (Walter) Sut gwyddost ti? | |
| (1, 0) 249 | O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr. |
| (Walter) Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor? | |
| (Walter) Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor? | |
| (1, 0) 251 | Ydynt, bawb am wn i. |
| (1, 0) 252 | Pam nad ewch chi ar streic, Nwncwl? |
| (Walter) Haws dweud na gwneud. | |
| (Walter) Fi wnaeth y cawl, weld di. | |
| (1, 0) 255 | Ie, fe glywais; gamblo! |
| (Walter) Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos. | |
| (Walter) Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos. | |
| (1, 0) 257 | Wel, fe allai fod yn swllt, oni allai? |
| (1, 0) 258 | Byddai hynny yn fwy nag yr ydw i'n ei gael. |
| (Walter) Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd. | |
| (Walter) Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd. | |
| (1, 0) 260 | O! |
| (1, 0) 261 | Sut? |
| (Walter) Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion. | |
| (Walter) Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion. | |
| (1, 0) 263 | Does gennych chi ddim cof da, oes e, Nwncwl? |
| (1, 0) 264 | Ydych chi wedi anghofio'r fargen ynglŷn â'r... |
| (Walter) {Yn gwneud arwyddion cyffrous iddi dewi ac yn gostwng ei lais.} | |
| (Walter) Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn... | |
| (1, 0) 267 | Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd. |
| (Walter) Dy les di oedd gen i mewn golwg. | |
| (Walter) Dy les di oedd gen i mewn golwg. | |
| (1, 0) 269 | Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl? |
| (Walter) Wel, nac ydw, efallai ond... | |
| (Walter) Wel, nac ydw, efallai ond... | |
| (1, 0) 271 | Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi? |
| (Walter) Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain. | |
| (Walter) Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain. | |
| (1, 0) 273 | Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom. |
| (Walter) Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd. | |
| (Walter) Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd. | |
| (1, 0) 275 | Fe allwn bob amser sôn am y cwestiwn mawr y lwans wythnosol. |
| (1, 0) 276 | Rwy'n addo un peth i chi, Nwncwl, pan fydda i wedi bod trwy'r "School of Dramatic Art" ac yn actres fawr a'm henw mewn goleuadau llachar uwchben drws theatr yn Llundain, rwy'n addo dwblu'ch lwans chi, o leiaf. |
| (1, 0) 277 | Os bydda i'n cael deg punt yr wythnos, ac y mae llawer actres yn cael tipyn yn fwy na hynny, fe gewch chi bunt yr wythnos. |
| (1, 0) 278 | Meddyliwch beth fydd hynny yn ei olygu i chi yn lle ceisio fy mherswadio i aros yn y pentre hwn dan wab modryb a phriodi gwidman sydd wedi reteirio ar arian ei wraig gyntaf. |
| (Walter) Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi. | |
| (Walter) Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi. | |
| (1, 0) 280 | Dim un tamaid. |
| (Walter) Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio. | |
| (Walter) Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane. | |
| (1, 0) 284 | Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl. |
| (Walter) Nage, efallai. | |
| (Walter) Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced... | |
| (1, 0) 288 | Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall. |
| (Walter) Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad. | |
| (Walter) Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad. | |
| (1, 0) 290 | Y peth sy'n fy ngwneud yn ynfyd yw bod Dcmetrius bach yn gwneud i modryb garu drosto. |
| (1, 0) 291 | Buasech yn disgwyl bod gwidman fel efe, wedi cael profiad, yn gallu gwneud ei garu ei hunan. |
| (Walter) Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo. | |
| (Walter) Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo. | |
| (1, 0) 293 | Rydw i wedi rhoi digon o gyfle iddo. |
| (1, 0) 294 | Rwyf am siawns i ddweud wrtho ble mae e'n sefyll i orffen y peth am byth. |
| (1, 0) 295 | Ond wnaiff e ddim. |
| (1, 0) 296 | Mae'n rhaid cael Modryb Jane fel rhyw fath o "chaperone" bob amser. |
| (1, 0) 297 | Os mynd am dro yn ei gar rhaid mynd yn dri. |
| (1, 0) 298 | Os mynd i'r sinema, ni'n tri. |
| (1, 0) 299 | Rwyf wedi cael digon ar ei garu ac am gyfle i roi stop arno am byth. |
| (Walter) Ust, gwrando. | |
| (1, 0) 304 | Dim ond Modryb Jane. |
| (1, 0) 305 | Na, mae Demetrius yna hefyd. |
| (1, 0) 306 | Dwedwch wrthyf i, rydw i wedi meddwl gofyn i chwi sawl gwaith, a fu rhywbeth rhwng Modryb Jane a'r Ianci cyn iddo fynd i'r America. |
| (Walter) Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna. | |
| (Walter) Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna. | |
| (1, 0) 308 | Beth alwaf i arno? |
| (1, 0) 309 | Mae Carnolyn R. Rees yn ormod o lond pen, a rywsut nid yw Rees Chicago, yn swnio'n reit. |
| (1, 0) 310 | Ond, dwedwch, a fu rhywbeth rhyngddynt? |
| (Walter) Roeddent yn dipyn o gyfeillion. | |
| (Walter) Roeddent yn dipyn o gyfeillion. | |
| (1, 0) 312 | Wel, os yw e wedi dod yn ôl yma i'w hymofyn, mae'n rhaid i mi edrych i mewn i'w "gredentials." |
| (1, 0) 313 | Mae Modryb Jane yn llawer rhy neis i briodi pob un sydd wedi gwneud arian yn America. |
| (Walter) Gwylia di dy gamre. | |
| (Walter) Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America. | |
| (1, 0) 317 | A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw? |
| (Walter) Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd. | |
| (Walter) Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd. | |
| (1, 0) 319 | Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma? |
| (Walter) Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen. | |
| (Walter) Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog. | |
| (1, 0) 322 | Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e? |
| (Walter) Beth wn i? | |
| (Mrs. Morgan) Mae Mr. Jones wedi galw i ddweud ei fod yn meddwl mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol pythefnos i ddydd Iau ac y mae am wybod a hoffit fynd gydag e. | |
| (1, 0) 335 | A fydd Modryb Jane yn dod hefyd? |
| (Demetrius) Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy. | |
| (Demetrius) Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy. | |
| (1, 0) 337 | A ydych chi am fynd, modryb? |
| (Jane) Fe-hoffwn i fynd i'r Eisteddfod unwaith─chefais i ddim cyfle erioed o'r blaen. | |
| (Mrs. Morgan) Rwyf am i chi gyfarfod â'r "visitor" enwog sydd gyda ni yma─bachgen o'r lle wedi gwneud arian yn America, Mr. Carnolyn Rees. | |
| (1, 0) 350 | Mr. Carnolyn R. Rees, Modryb─rhaid i chi beidio ag anghofio'r "R"; John D. |
| (1, 0) 351 | Rockfeller, nid John Rockfeller. |
| (Walter) Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn. | |
| (Mrs. Morgan) Roeddwn yn gyfeillgar iawn ag e cyn iddo fynd i America. | |
| (1, 0) 360 | Wrth ei glywed yn siarad gellwch feddwl ei fod yn adnabod gangsters Chicago i gyd. |
| (Demetrius) "Dear me," mae'n rhaid i mi ddod i'w adnabod. | |
| (1, 0) 368 | Fu e ddim yn hir, beth bynnag. |
| (1, 0) 369 | Dyma fe'n dod. |
| (Mrs. Morgan) Rwy'n falch nad aethoch chi cyn iddo ddod, Mr. Jones. | |
| (Rees) Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi. | |
| (1, 0) 380 | Ydych chi'n bwriadu gwneud ail ffortiwn y ffordd hyn eto? |
| (1, 0) 381 | Os ydych, yr wyf am fod yn bartner. |