| (Hlin) Y RHAN GYNTAF | |
| (Porthor) Myneich o wlad y Brythoniaid a gurodd yn awr ar ein porth. | |
| (1, 0) 84 | Yr Arglwydd a fo gyda chwi. |
| (Paulinus ac Illtud) A chyda'th ysbryd dithau. | |
| (Y Cwmni Oll) |Pax vobiscum|. | |
| (1, 0) 87 | Frodyr a phellenigion, mawr yw eich croeso; |
| (1, 0) 88 | Daethoch o wlad nad yw ddieithr nac anenwog |
| (1, 0) 89 | Yng nghronig saint a merthyron. Chwithau, yn wir, |
| (1, 0) 90 | Ar awr o orfoledd y trawsoch; tadau y Ffydd yng Ngâl |
| (1, 0) 91 | Sydd yma i'ch derbyn, a rhoi i chwi ran o'u gwynfyd |
| (1, 0) 92 | A chyfran o'u gwledd. Cans heddiw codasom i'w orsedd |
| (1, 0) 93 | Esgob newydd i'r Ffrainc, tywysog i eglwys Troyes. |
| (1, 0) 94 | Deuwch, eisteddwch gan hynny rhwng f'arglwydd Lupus a minnau, |
| (1, 0) 95 | Bwytewch gyda ni ac yfwch. Ac yna, pan weloch yn dda, |
| (1, 0) 96 | Holaf eich neges a'ch helynt, ac ymddiddanwn dro. |
| (Paulinus) Fy arglwydd a'm tad, taled Duw iti'r pwyth; | |
| (Paulinus) Ond yn y peth hwn a erchaist, erfyniaf faddeuant. | |
| (1, 0) 100 | Ai dan adduned yr ydych, fy mrodyr? |
| (Paulinus) Llw a dyngasom ar sgrin yng Nghaerlleon ar Ŵysg, | |
| (Paulinus) Ar feddrod Alban ferthyr, ein seren fore. | |
| (1, 0) 103 | Bendigedig fo Duw yn ei ferthyron: |
| (1, 0) 104 | A ellir gwybod y llw? |
| (Paulinus) Llw na phrofem saig na thorri ympryd | |
| (Paulinus) Druenus gri ffyddloniaid Crist yng Nghymru. | |
| (1, 0) 109 | Llefared fy arglwydd Lupus. |
| (Lupus) Fy nhirion dad, | |
| (Lupus) A gwrando'n gyntaf mewn cariad ar y gwroniaid hyn. | |
| (1, 0) 119 | Brawdol a duwiol y dywaid esgob Troyes; |
| (1, 0) 120 | Ac ef piau'r wledd; ymgrymwn felly i'w air. |
| (1, 0) 121 | Fy mrodyr, yn enw'r Drindod fendigaid, traethwch eich neges. |
| (Paulinus) Fy arglwydd a'm tadau, | |
| (Paulinus) A duwiol ddilynwyr Sierôm o Fethlehem. | |
| (1, 0) 159 | Bendigedig fo Duw yn ei feudwyaid a'i saint. |
| (Y Cwmni Oll) {ar siant} | |
| (Paulinus) Hwnnw, Pelagius y Brython, a beryglodd undod cred. | |
| (1, 0) 171 | Adwaenwn ef, Paulinus, |
| (1, 0) 172 | Meistr y gloyw ymadrodd. |
| (1, 0) 173 | Na thybiwch, fy mrodyr, i'r enaid crwca erioed |
| (1, 0) 174 | Lithio'r ffyddloniaid. Gwŷr mawr, |
| (1, 0) 175 | Heuliau'n pelydru grym, a greodd yr heresïau; |
| (1, 0) 176 | Rhyfeddwn ddwyfoldeb athrylith, a gweddïwn dros yr enaid. |
| (Paulinus) Gweddiwch hefyd, fy arglwydd, dros gyfyngder fy ngwlad. | |
| (Pawb) Amen. | |
| (1, 0) 227 | O Paulinus, |
| (1, 0) 228 | Dduwiol weinidog y ffydd a ffyddlon wlatgarwr, |
| (1, 0) 229 | Llosgai'n calonnau ynom tra lleferaist. |
| (1, 0) 230 | Nid ofer y teithiasoch, fy mrodyr, yma. |
| (1, 0) 231 | A lanwodd y newynog â phethau da, |
| (1, 0) 232 | Cennad ei wlad a'i eglwys ni ad yn waglaw. |
| (1, 0) 233 | Teulu yw gwledydd y ffydd, |
| (1, 0) 234 | Dinas a gydgysylltiwyd ynddi ei hun, |
| (1, 0) 235 | Ac er eich mwyn, fy nghyfeillion, dywedaf yn awr, |
| (1, 0) 236 | Heddwch a fyddo i chwi, |
| (1, 0) 237 | Ac er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, ceisiaf i chwi ddaioni. |
| (1, 0) 238 | Ond y mae yma'r awron |
| (1, 0) 239 | Yn gwrando'ch llith |
| (1, 0) 240 | Un na chrwydrodd ei galon |
| (1, 0) 241 | Erioed o'ch plith: |
| (1, 0) 242 | Padrig, garcharor Iwerddon, |
| (1, 0) 243 | Rho groeso i'th gyd-Frython. |