| (Cynulleidfa) Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O! Arglwydd | |
| (Gwraig 3) Be' ddeudwch chi, Mr Rowlands? | |
| (1, 2) 63 | Mae hi'n chwith meddwl. |
| (1, 2) 64 | Ydi. |
| (1, 2) 65 | Yn chwith meddwl. |
| (Gwraig 3) Mor ddifyr fydda' hi. | |
| (1, 2) 69 | 'R Hendra, Foty. |
| (1, 2) 70 | Hendy Mawr. |
| (1, 2) 71 | Creigle Ucha'. |
| (1, 2) 72 | Hogia i gyd. |
| (1, 2) 73 | Cofio? |
| (Gwraig 3) Yr hen gôr ers talwm? | |
| (Gwraig 3) Fel ddoe. | |
| (1, 2) 77 | Y gangell yn orlawn. |
| (Gwraig 2) Côr o ddeg ar hugain. | |
| (Gwraig 3) A tada wrth yr organ. | |
| (1, 2) 81 | A'r hen ganon yn ei morio hi. |
| (Gwraig 2) Tenor da oedd o. | |
| (Gwraig 3) Chwith ar ei ôl o. | |
| (1, 2) 84 | Dynion da oedd rheini. |
| (1, 2) 85 | Dynion da. |
| (Gwraig 3) Difyr fydda hi, on'd e? | |
| (Gwraig 2) Yr hen garola' rheini. | |
| (1, 2) 91 | Cofio'r hen Ddafydd Owen yn dyrnu'r sêt efo'i ddwrn i gadw amser. |
| (1, 2) 93 | "Odlau tyner engyl/O'r ffurfafen glir." |
| (1, 2) 94 | Be' ddoth o'i ferch o, 'dwch? |
| (Gwraig 2) Mi briododd efo'r boi RAF hwnnw. | |
| (Gwraig 2) Mi briododd efo'r boi RAF hwnnw. | |
| (1, 2) 96 | Duw. |
| (1, 2) 97 | Do? |
| (Gwraig 2) Byw yn Gloucester. | |
| (Gwraig 2) Mae'i gwreiddia hi yn Lloegr erbyn hyn, on'd ydi? | |
| (1, 2) 113 | Chwith meddwl. |
| (1, 2) 114 | Chwith meddwl. |
| (Gwraig 3) Ydi. | |
| (Gwraig 3) Difyr. | |
| (1, 2) 119 | Ddon nhw byth yn ôl. |
| (Gwraig 1) Ddim tra mae hwn yma. | |
| (Gwraig 1) Digrì Cambridge neu beidio. | |
| (1, 2) 122 | Mewn coleg mae'i le o. |
| (Gwraig 2) Pobol y wlad ydan ni. | |
| (Gwraig 2) Pobol y wlad ydan ni. | |
| (1, 2) 124 | Pobol y pridd... |
| (1, 2) 126 | Be' sy'n digwydd inni 'dwch? |
| (Gwraig 3) Wn i ddim be sy'n digwydd inni wir. | |
| (Gwraig 1) Eisio nôl papur i'r gŵr. | |
| (1, 2) 132 | Mwy na thebyg. |
| (Gwraig 1) Ga'i ddwad efo chi? | |
| (Gwraig 1) Ga'i ddwad efo chi? | |
| (1, 2) 134 | Ydy'ch traed chi'n lân? |
| (Gwraig 1) Be' 'dach chi'n feddwl? | |
| (1, 2) 137 | Lecio fo? |
| (Gwraig 1) Chi pia fo. | |
| (Gwraig 2) Newydd sbon? | |
| (1, 2) 142 | Newydd sbon ddydd Iau. |
| (1, 2) 143 | Mi 'neith imi tra bydda' i. |
| (Gwraig 3) Hen bryd i'r gŵr 'cw brynu'n newydd hefyd. | |
| (Gwraig 3) Hen bryd i'r gŵr 'cw brynu'n newydd hefyd. | |
| (1, 2) 145 | Mi es i Lerpwl efo fo ddoe i edrach am y ferch a'r gŵr. |
| (1, 2) 146 | Mynd fel ruban. |
| (1, 2) 147 | Car gora' ges i 'rioed. |
| (Gwraig 2) Sut mae'r babi? | |
| (Gwraig 2) Sut mae'r babi? | |
| (1, 2) 149 | Siort ora'. |
| (1, 2) 150 | Wel. |
| (1, 2) 151 | Be' am ei throi hi? |
| (1, 2) 152 | Dwad? |
| (Gwraig 1) {Yn bryfoclyd.} | |
| (Gwraig 2) Mr Rowlands! | |
| (1, 2) 161 | Mm? |
| (Gwraig 2) Be' mae nhw am ei galw hi? | |
| (Gwraig 2) Be' mae nhw am ei galw hi? | |
| (1, 2) 163 | Pwy? |
| (Gwraig 2) Yr hogan bach? | |
| (Gwraig 2) Yr hogan bach? | |
| (1, 2) 165 | O. |
| (1, 2) 166 | Mandy. |