| (Isaac) A shwt ych-chi heddy, Nathanial? | |
| (Isaac) Odd-a i fod yn barod amsar cino, hefyd; peth od na fysa'r Ficar wedi galw. | |
| (1, 0) 101 | ym ymddangos wrth y drws. |
| (1, 0) 102 | Ydi'n umbrela i'n barod, Isaac? |
| (Isaac) 'Rwy'n 'i gwpla fa nawr, Mr. Jones. | |
| (Isaac) Dewch miwn. | |
| (1, 0) 108 | A─, shwd ych-chi heddy, Mr. Morgan? |
| (1, 0) 109 | Shwd ma'r lecshwn yn dod ymlân? |
| (Nathaniel) Yn dda iawn, diolch i chi, yn dda iawn, yn wir. | |
| (Nathaniel) Yn dda iawn, diolch i chi, yn dda iawn, yn wir. | |
| (1, 0) 111 | 'Rwy'n disgwyl gweld |close fight| rhyngoch-chi a Mr. Bifan. |
| (1, 0) 112 | 'Rych chi'ch dau wedi cyd-gystadlu'n barod fel arweinwyr core, yn ddau Ryddfrydwr mor selog, ac hefyd yn Ymneilltuwyr i'r carn─|fight| yn iawn fydd hi, 'rwy'n siwr. |
| (Isaac) Dyna beth wy inna'n wêd hefyd, Mr. Jones; y |fight| ora fuws yn Llanybryn eriod. | |
| (Isaac) Shwt ma'r |Bazaar| yn dod mlân? | |
| (1, 0) 115 | Or'r gore, diolch i chi. |
| (1, 0) 116 | Dim ond wythnos sydd gyda ni nawr, a felny, 'rwy'n mynd ag ychydig o'r posters yma oddi amgylch. |
| (1, 0) 117 | Welsoch chi un o'n |posters| mawr ni? |
| (Isaac) Dim ond o bell, Mr. Jones. | |
| (Isaac) Os dim un gita chi i spario, Mr. Jones? | |
| (1, 0) 122 | 'Rych-chi'n garedig neilltuol, Isaac. |
| (1, 0) 123 | Fel y gwyddoch-chi, fydda-i byth yn aflonyddu dim ar y cyfeillion ymneilltuol, ond gan ych bod chi cystal a gofyn, fe gewch un gyda'r pleser mwya. |
| (Isaac) Pitwch a sôn, Mr. Jones, pitwch a sôn; a diolch yn fawr i chitha. | |
| (Isaac) |Bazaar| ardderchog fydd hwn, Mr. Jones. | |
| (1, 0) 130 | Y mae yr Arglwyddes yn cymryd diddordeb mawr yn ein gwaith ni yma; fe gyfrannodd ugen punt. |
| (1, 0) 131 | 'Rwy'n bwriadu cyhoeddi enwau y cyfranwyr yn y |Gazette| yr wythnos nesa. |
| (Isaac) Itha |right| hefyd: ond fe fydd 'na un enw'n isha, ddylsa fod ar y rhestar. | |
| (Isaac) Itha |right| hefyd: ond fe fydd 'na un enw'n isha, ddylsa fod ar y rhestar. | |
| (1, 0) 133 | O─enw pwy? |
| (Isaac) Nathanial Morgan, |Esq|. | |
| (Isaac) Pam na ofynnwch-chi iddo fe gyfrannu rwpath? | |
| (1, 0) 137 | Fel y dwedes-i, fydda-i nemor byth yn mynd at y gwahanol enwade i ofyn am arian, er mod-i wastad yn barod i dderbyn unrhyw gyfraniade. |
| (1, 0) 138 | Gaf-fi osod ych enw chi lawr am bum punt Mr. Morgan? |
| (Nathaniel) {Mewn braw.} | |
| (Nathaniel) Na chewch yn wir! | |
| (1, 0) 142 | Dwy neu dair gini, ynte? |
| (Nathaniel) Ona 'lla'n wir, na 'lla'n wir! | |
| (1, 0) 148 | Ie? |
| (Isaac) {Dipyn yn gyfrinachol.} | |
| (Isaac) Fysa buwch o rhyw les i chi? | |
| (1, 0) 151 | Beth ddwedsoch-chi? |
| (Isaac) Fysa buwch o ryw ddefnydd i chi? | |
| (Isaac) Fysa buwch o ryw ddefnydd i chi? | |
| (1, 0) 153 | Bobol annwl─buwch! |
| (Isaac) Ia, buwch. | |
| (Isaac) Ia, buwch. | |
| (1, 0) 155 | Beth yn y byd wnaen-ni â buwch? |
| (Isaac) O ma 'na wmradd o betha y gallach-chi neud â buwch, Mr. Jones. | |
| (Isaac) O ma 'na wmradd o betha y gallach-chi neud â buwch, Mr. Jones. | |
| (1, 0) 157 | Wel, ffordd ynte? |
| (Isaac) Beth tsa-chi yn 'i rafflo-hi yn y |Bazaar|? | |
| (1, 0) 160 | Dyna awgrym penigamp! |
| (Isaac) Allwch-chi ddim doti buwch lawr yn y cyfraniata, falla, ond tsa chi ddim ond hysbysu yn y |Gazette| fod 'na fuwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd, idd 'i rafflo yn y |Bazaa|r, tocynna, wech chinog─na, beth wy'n sôn, tocynna, swllt yr un─fe fysa hynny'n ddicon gwell na phum punt i chi. | |
| (Isaac) Allwch-chi ddim doti buwch lawr yn y cyfraniata, falla, ond tsa chi ddim ond hysbysu yn y |Gazette| fod 'na fuwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd, idd 'i rafflo yn y |Bazaa|r, tocynna, wech chinog─na, beth wy'n sôn, tocynna, swllt yr un─fe fysa hynny'n ddicon gwell na phum punt i chi. | |
| (1, 0) 162 | Ie'n well na phum punt─bydde o lawer! |
| (1, 0) 163 | Ond bid siwr, mae'n dibynnu ar Mr. Morgan: ydi e'n fodlon rhoi buwch? |
| (Isaac) 'Dos dim raid i chi ofni, Mr. Jones. | |
| (Nathaniel) Wel─am wn-i {yn fwy pendanl}─otw, 'rwy'n folon roi buwch. | |
| (1, 0) 169 | Diolch i chi o galon, Mr. Morgan, am ych haelfrydedd. |
| (Isaac) A falla byddwch chi cystlad a chyhoeddi 'r un pryd, Mr. Jones, fod y cratur yn cal 'i rhoi gan Nathanial Morgan, |Esq.|, un o ymgeiswyr lecshwn y |Rural District Council|? | |
| (1, 0) 172 | Ha, ha; wel o'r gore, 'dos wahaniath yn y byd gen-i, a 'rwy'n sicr y bydd y plwyfolion yn teimlo'n gynnes tuag at Mr. Morgan pan clywan-nhw'r newydd da. |
| (1, 0) 174 | Gresyn na fyse ni wedi meddwl am hyn cyn argraffu'r |posters|. |
| (Isaac) Ma'n rhaid i chi gal |handbills|, Mr. Jones,; a'u dosbarthu nhw ym mhobman. | |
| (1, 0) 179 | Rhaid argraffu y tocynne ar unwaith. |
| (Isaac) A ma'r un man i chi hysbysu ar y tocynna a'r |handbills| mai rhodd Nathanial Morgan yw y fuwch. | |
| (Isaac) A ma'r un man i chi hysbysu ar y tocynna a'r |handbills| mai rhodd Nathanial Morgan yw y fuwch. | |
| (1, 0) 181 | Fe fydd yn ddigon hawdd gwneud hynny. |
| (Isaac) Hannar can punt, yn wir, fe newch gan-punt o heni yn ddidraffarth; nid yn unig y plwyf, fe fydd yr oll shir yn y |Bazaar|. | |
| (Isaac) Hannar can punt, yn wir, fe newch gan-punt o heni yn ddidraffarth; nid yn unig y plwyf, fe fydd yr oll shir yn y |Bazaar|. | |
| (1, 0) 183 | 'Rwy'n sicr y bydd y fuwch yn atyniad cryf, a 'rwy'n dymuno eto i ddatgan fy niolchgarwch i chi, Mr. Morgan. |
| (Nathaniel) {Yn anghysurus.} | |
| (1, 0) 187 | Rhaid i fi fynd nawr; p'nawn da, a diolch yn fawr i chi. |
| (Isaac a Nathaniel) P'nawn-da. | |
| (1, 0) 190 | O, Isaac, faint sydd arna-i am wella'r umbrella? |
| (Isaac) {Yn haelfrydig iawn.} | |
| (1, 0) 194 | Diolch yn fawr, Isaac. |
| (1, 0) 195 | P'nawn-da. |