| (Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, | |
| (0, 11) 952 | Chwerddaist am fy mhen ar hyd dy oes, a bernaist air Duw yn oferedd; bellach, yn dy awr olaf, a ddaw amgen lleferydd o'th enau di? |
| (Pobun) 'Rwy'n credu, yn credu. | |
| (Pobun) 'Rwy'n credu, yn credu. | |
| (0, 11) 954 | Truan o leferydd! |
| (Pobun) O, trugarhaed Duw! | |
| (Pobun) Rwy'n credu, 'rwy'n credu. | |
| (0, 11) 959 | Darn go druan o Ffydd yw hynny. |
| (0, 11) 960 | Ni chyfyd hynny iti bont i groesi drosodd. |
| (0, 11) 961 | Oni wyddost ti am beth gwell? |
| (Pobun) [Credaf yn amynedd Duw, od edifarhao neb mewn pryd; ond bum i mewn pechod yn rhy hir fel nad oes i mi yma drugaredd.] | |
| (Pobun) [Credaf yn amynedd Duw, od edifarhao neb mewn pryd; ond bum i mewn pechod yn rhy hir fel nad oes i mi yma drugaredd.] | |
| (0, 11) 963 | [{Gan gymryd cam yn nes ato.} |
| (0, 11) 964 | A drochwyd di mor llwyr mewn chwant, a'th suddo cyn ddyfned mewn nwyd, fel na ddaw dros dy wefus mo'r peth a ryddhai d'enaid yn dragywydd?] |
| (Pobun) Credaf— | |
| (Pobun) Credaf— | |
| (0, 11) 966 | A gredi di yn Iesu Grist, a ddaeth oddi wrth y Tad, yn ddyn cyffelyb i ninnau, a aned o wraig farwol, a thrwy loes merthyrdod a roes ei fywyd trosot ti, ac a gyfododd o farw fel y'th gymodid ti â Duw? |
| (Pobun) Credaf! | |
| (Pobun) Ond gwelwch, dyma fy ngweithredoedd i: y mae fy mhechodau yn un mynydd mor drwm yn gorwedd arnaf fel na all Duw roi gras i mi, gan mai efô yw'r perffaith gyfiawn. | |
| (0, 11) 971 | Ai Cristion amheus felly ydwyt ti, ac onid adwaenost Drugaredd Dduw? |
| (Pobun) Ofnadwy yw cosb Duw! | |
| (Pobun) Ofnadwy yw cosb Duw! | |
| (0, 11) 973 | Fe faddau Duw'n ddifesur! |
| (Pobun) Tarawodd Pharao, tarawodd Sodom a Gomorra, tarawodd, tarawodd! | |
| (Pobun) Tarawodd Pharao, tarawodd Sodom a Gomorra, tarawodd, tarawodd! | |
| (0, 11) 975 | Na, aberthodd Ei unig fab i boen y byd o orsedd y goleuni, megis y genid Ef fel dyn, ac nad ai neb mwy'n golledig, dim un, nid y gwaethaf, na, [ond cael ohono fywyd tragwyddol. |
| (0, 11) 976 | "Er mwyn Pechadur y deuthum i, nid rhaid i'r iach wrth feddyg"; daeth y geiriau o'r genau na allai ddywedyd celwydd.] |
| (0, 11) 977 | Os credi di ynteu yn y bywyd hwn, yna maddeuir i ti dy bechodau, a dofir llid Duw. |
| (Pobun) O, y mae deiriau'n dyner; yr wyf fel pe'm ail-enid. | |
| (Pobun) Credaf, cyhyd ag yr anadlaf ar y ddaear, y byddaf gadwedig drwy Grist. | |
| (0, 11) 980 | Daeth yr awr. |
| (0, 11) 981 | Bellach, dos i'th olchi'n lân oddi wrth dy bechodau. |
| (Pobun) [Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?] | |
| (Pobun) [Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?] | |
| (0, 11) 984 | [Mae cymorth da yn disgwyl amdanat. |
| (0, 11) 985 | Drwy ei wasanaeth ef bydd d'enaid yn lân. |
| (0, 11) 986 | Dyred yn ôl mewn gwisg wen, yna ti ei draw yn fy llaw i, ac i'th ganlyn di, bydd hefyd i'th weithredoedd rym a nerth.] |
| (Pobun) [{Ar ei liniau.} | |
| (Gwas 1) Y mae'r amser yn mynd, y mae'r wawr yn torri eisoes. | |
| (0, 13) 1014 | Pobun, Duw gyda thi! |
| (0, 13) 1015 | A phan orchmynnaf di, yn awr ac yma, i ddwylaw dy Waredwr, felly boed dy gyfrif heb wall. |
| (0, 13) 1017 | Weithian, bydd di lawen dy fryd; bellach cryfhaodd dy weithredoedd, rhydd ydynt o'u holl gŵyn, a cherddant rhagddynt â chamau sicr. |
| (Gweithredoedd Da) Pobun, wele fi, dy gyfeilles; bendithiaf di yn fy meddwl; rhyddheaist fi o'm gofid, ac yn awr, canlynaf di lle'r elych. | |
| (Pobun) [O, fy ngweithredoedd, wrth glywed eich llais, ni allwn nad wylwn innau o lawenydd.] | |
| (0, 13) 1020 | [Ni wyli ac ni ofidi fyth mwy; na, bydd ddedwydd a llawen dy fryd, canys y mae Duw o'i orsedd yn edrych yn fodlon arnat.] |
| (Pobun) [Am hynny ni cheisiaf i nac oedi nacaros.] | |
| (Diawl) Feallai y bydd raid i mi aros yn hir—bydded! nid wy'n ofni dim amdano,] eiddof i ydyw yn groen ac yn flew, cyn sicred ag y bu neb erioed. | |
| (0, 13) 1036 | [Saf yna!] |
| (Diawl) [{Heb glywed.} | |
| (Diawl) Rhaid mynd y ffordd yma.] | |
| (0, 13) 1039 | [Nid yma!] |
| (Diawl) [Yn sicr, neges gennyf yma.] | |
| (Diawl) [Yn sicr, neges gennyf yma.] | |
| (0, 13) 1041 | ['Does yma ddim lle i'th debyg di.] |
| (Diawl) [Benyw gwerylgar! | |
| (0, 13) 1046 | Nid oes yma ffordd! |
| (Diawl) Rhaid i mi ddisgwyl gerllaw'r ddôr wrth fy swydd, er mwyn mynd ag un a ddaw allan y ffordd yma i'm canlyn ar hyd ffordd arbennig. | |
| (Diawl) Rhaid i mi ddisgwyl gerllaw'r ddôr wrth fy swydd, er mwyn mynd ag un a ddaw allan y ffordd yma i'm canlyn ar hyd ffordd arbennig. | |
| (0, 13) 1048 | Nid ymddiddanaf â thi. |
| (Diawl) Na mi â thithau, af y ffordd acw. | |
| (Diawl) Bydd yma ffordd ar unwaith! | |
| (0, 13) 1062 | A fynni di setlo'r peth â'th ddyrnau a thorri ar draws ein gweddi? |
| (0, 13) 1063 | Gwêl pwy sydd yn dyfod yn gyfnerth inni! |
| (Diawl) Ydyw'r cyfeillion hyn hefyd yn y chwarae, heb wybod yn well na segura a rhythu [yn hwyr y nos ac yn gynnar y bore, tra bo pobl eraill, yn sur ddigon, yn edrych at eu gorchwylion?] | |
| (Diawl) A hynny a hawl a chyfiawnder o'm plaid i? | |
| (0, 13) 1078 | Nid oes lawer o'th blaid di, ac yr wyt eisoes wedi colli 'r chwarae. |
| (0, 13) 1079 | Bwriodd Duw i'r glorian ei aberth ei hun a'i angau loes, a thrwy hynny dilewyd dyledion Pobun dros byth. |
| (Diawl) Ers pa bryd? | |
| (Diawl) [Os bydd un wedi rhoi ei fywyd a'i weithredoedd i ni yn unig, o fwriad ac amcan, faen ar faen ac o ddydd i nos, a dry peth cyson felly ar un amrantiad yn newydd?] | |
| (0, 13) 1085 | [Try, drwy ddwfn edifeirwch, sydd fel tân yn puro'r enaid oll.] |
| (Diawl) [Hai! chwedl gwrâch a rhagrith noeth! | |
| (Diawl) Dygwch gymaint â gair a roddai i chwi un hawl arno ger bron barn! | |
| (0, 13) 1093 | Gerbron y farn y mae ef yn ei wynebu, ni saif dy hawliau di ddim—[gorffwysant ar ymddangosiad a thwyll, ar y fan yma a'r awr hon a'r byd hwn, y maent oll yn rhwym mewn amser, wedi eu cau oddi mewn i'w derfynau..] |
| (0, 13) 1096 | Pan glywer y clychau hyn yn canu, bydd tragwyddoldeb wedi dechrau. |
| (Diawl) {gan wasgu ei glustiau.} | |
| (Gweithredoedd Da) Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben. | |
| (0, 14) 1127 | Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus. |
| (Pobun) {Gan gau ei lygaid.} | |
| (Pobun) Trugarha wrthyf yn dy holl-allu, Arglwydd! | |
| (0, 14) 1134 | Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di. |
| (Gweithredoedd Da) A deuaf innau gyda thi, Pobun. | |
| (Pobun) Gan iti fy mhrynu'n rhydd, cadw eto f'enaid fel nas coller ac fel yr esgynno atat Ti yn y dydd diweddaf gyda theulu'r gwaredigion.] | |
| (0, 14) 1142 | Weithion, fe orffennodd ei ddynol daith. |
| (0, 14) 1143 | Saif yntau gerbron ei Farnwr yn llwm a noeth a'i weithredoedd yn unig gydag ef, a hwythau'n gyfnerth iddo ac yn eiriol drosto. |
| (0, 14) 1144 | Bendithiant ef; tybiaf mai lleisiau'r angylion a ddaw i'm clyw, a hwy yn galw ar yr enaid tlawd i blith eu nefol raddau. |