| (Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. | |
| (Sioni) Mi leicie'r hen "foy" orwedd fan hynny, mi wn. | |
| (1, 0) 13 | Heb gynnu'r canwylle wyt ti, Sioni? |
| (1, 0) 14 | Mae'n well i ti neud brys, mae'n amser dachre'r festri. |
| (1, 0) 15 | Pendrymu fel arfer, â'th feddwl yn y yr hen fynwent. |
| (1, 0) 16 | D'wed am faint ma'r angladd 'fori, a chofia 'ngalw i mewn amser. |
| (Sioni) Am ddeg, syr; mi ofala eich galw mewn amser. | |
| (Sioni) Druan o'r hen Fari. | |
| (1, 0) 21 | Yr wyf wedi clywed digon o dy fyfyrdodau di, Sioni, ar einioes ac angeu erbyn hyn. |
| (1, 0) 22 | Yr un hen stori ar dy dafod, a'r un hen wep ar dy wyneb. |
| (1, 0) 23 | Cer, nawr, adre at Pegi, mae'r Festri yn dechreu crynhoi. |
| (1, 0) 26 | Mi wela fod y Festri yn llawn ag eithrio Siaci'r Felin. |
| (1, 0) 27 | Mi ddaw Siaci heb fod yn hir. |
| (1, 0) 28 | Mae hi dipyn yn dywyll i drafaelu drwy Allt y Cadno. |
| (1, 0) 29 | Mae'n well i fi ddarllen cofnodion y Festri ddiwedda, ac yna mi awn ymlaen â'r fusnes. |
| (1, 0) 31 | ~ |
| (1, 0) 32 | "Cofnodion Festri Plwyf Llansilio, a gadwyd nos Lun, Rhagfyr yr ail, 1842. |
| (1, 0) 33 | Yn bresennol: Y Parch. Sinett Jenkins yn y gadair, Mr. Lloyd Williams, John Jones, Dafydd Ifans, Daniel Lewis, Siaci'r Felin, a Dafi'r Teiliwr. |
| (1, 0) 34 | Yn gyntaf pasiwyd fod y biliau canlynol i'w talu:─ |
| (1, 0) 35 | I John Richards y Preintar am Gomon Prayer: 2s 0d |
| (1, 0) 36 | I Pegi'r Clochydd am olchi'r wisg wen: 1s 0d |
| (1, 0) 37 | I Sion y Gô am allwedd newydd - 0s 6d |
| (1, 0) 38 | I Twm Sâr am goffin Sian Pwllybroga: - 2s 0d |
| (1, 0) 39 | I William 'Ralltfowr am gadw Jane Owen am gwarter, ac am bâr o glocs i Jane: 15s 6d |
| (1, 0) 40 | I Wil y Crydd fel help at gwiro'i ddillad: 0s 3d |
| (1, 0) 41 | I Sian Pantywhiaid am olchi crys Jac yr Hatter: 0s 4d |
| (1, 0) 42 | I wraig Twm bach tra'r oedd Twm yn y jâl: 2s 6d |
| (1, 0) 43 | I Leisa Dafi'r Wper am dorri cerrig: 0s 8½ |
| (1, 0) 44 | I'r Cwnstebliaid am dendo'r Sessiwn: 7s 6d |
| (1, 0) 45 | Y Cyfanswm yn: £1 15s 3½d" |
| (John) Dyna fel ma'r arian yn mynd, coste, coste, o hyd. | |
| (Scweier) Cerwch mlân, Jenkins. | |
| (1, 0) 49 | "Penderfynwyd rhoi to newydd ar yr Eglwys o lechau Carnarfon, ac fod Mr. |
| (1, 0) 50 | Jenkins i gâl yr hen rai am y drwbwl o'u cywain i ffwrdd. |
| (1, 0) 51 | Penderfynwyd nad yw y plwy' yn mynd i gadw Beca'r Wyau yn rhagor, am ei bod wedi ennill 'i phlwy' yn Llanaber. |
| (1, 0) 52 | Penderfynwyd fod John Jones a Dafydd Ifans i surveyo y ffordd o Maeslan i'r Felinganol, a'u bod i ddod â'r cownt i'r Festri heno. |
| (1, 0) 53 | Penderfynwyd fod Nansi Jac Potcher i ddod o flaen y Festri heno." |
| (Scweier) Very good, very good. | |
| (Scweier) Well i ti, Dafi, siarad, mi fydd John ding-dong, ding-dong drw'r nos yn gweyd 'i stori, a ma ladi yn disgwyl fi catre i cinio. | |
| (1, 0) 57 | Eitha reit, Mr. Williams. |
| (1, 0) 58 | Dewch Dafydd Ifans â'ch report am y ffordd. |
| (Dafydd) Wel, gyfeillion, i fod yn fyr, rhaid gweyd y gwir, mae'r ffordd o Maeslan i'r Felinganol mewn cyflwr ofnadw. | |
| (Scweier) Os o'nhw'n mynd i'r Plâs, mi ro'i y cipar, a'r fferets, a'r tarriers ar 'u hol nhw, a mi 'na i |short work| o'r scamps. | |
| (1, 0) 81 | You must understand, Mr. Williams, that these country people live very close to nature and its mysteries, which are closely allied to the supernatural. |
| (1, 0) 82 | Remember the words of our famous English poet: |
| (1, 0) 83 | ~ |
| (1, 0) 84 | "There are more things in heaven and earth, Horatio, |
| (1, 0) 85 | Than are dreamt of in your philosophy." |
| (Scweier) Jolly rot, I say. | |
| (Scweier) You are paid to knock this nonsense out of them, and see that you do it. | |
| (1, 0) 88 | Rhaid mynd ymlaen â'r fusnes ar ol y digression yna. |
| (1, 0) 89 | Rwy'n credu fod Nansi Jac Potcher wrth y drws; mae'n well ei chael i mewn yn awr. |
| (1, 0) 90 | Nansi, dere i mewn. |
| (1, 0) 92 | Wel, Nansi, dyma ni wedi dy alw di o flaen y Festri, er mwyn setlo y peth gore i neud â thi a'r plant tra bo Jac yn jâl. |
| (1, 0) 93 | Ac er mwyn i'r Festri i gael gwybod dy amgylchiadau, dwed faint o blant sydd gyda thi. |
| (Nansi) O, syr, mae gyda fi lond y tŷ o blant. | |
| (Nansi) Dyma John Thomas Henry, mae e'n naw; dyma Evan Jenkin Thomas, mae e'n wyth; a Mary Jane, yn saith; a Sarah Ellen, yn whech; a dyma'r un bach 'ma, Lloyd Williams—{yn troi at y SCWEIER gan wenu a rhoi cwtch)—mae e' wedi câl ych enw chi, syr, a dyma'r babi yn y nghôl i, mae e'n wyth mis. | |
| (1, 0) 96 | Dyna hi, llon'd tŷ o blant, a'r tad yn y jâl am botchan. |
| (Nansi) 'Dyw Jac ddim yn botcher, syr, nag yw, wirione fach annwl. | |
| (Nansi) {Yn crio.} | |
| (1, 0) 103 | 'Nawr, Nansi, rhaid i ti fod yn dawel, ac edrych ar bethau fel y maent. |
| (1, 0) 104 | Y mae Jac wedi torri'r gyfreth drwy botchan, ac y mae'r gyfreth wedi cymeryd gafael arno a'i roi yn y jâl. |
| (Nansi) Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i. | |
| (Scweier) A fi'n mynd. | |
| (1, 0) 136 | Dear me, Mr. Williams, rhaid i chi basio heibio i Dafi. |
| (1, 0) 137 | Mae e'n darllen yr hen bapyre 'ma am y Siartiaid, ac yn drysu ei ben gyda'r athrawiaethau newy' 'ma. |
| (1, 0) 138 | Come, come, Mr. Williams, it is beneath your dignity to take notice of such words, especially coming from an ordinary tailor. |
| (1, 0) 139 | Remember your high descent, and the noble traditions of your family. |
| (1, 0) 140 | The patrician blood of the Lloyd Williams family is surely proof against these things. |
| (1, 0) 141 | Come, Mr. Williams, sit down. |
| (Scweier) Na, na, 'ma fi'n mynd. | |
| (Scweier) {Yn gadael 'yr ystafell.} | |
| (1, 0) 144 | 'Rwyt ti, Dafi, wedi rhoi dy droed yndi o'r diwedd. |
| (1, 0) 145 | Beth na i os na ddaw y Scweier i'r Eglwys, a beth ddaw o'r casgliad amser y Nadolig a'r Pasg? |
| (1, 0) 146 | Mi wela i amser gofidus o mlaen i, i dreio gneud heddwch rhyngot ti, Dafi, a'r Scweier a'r ladi. |
| (1, 0) 147 | Ond ar ol y gofid a'r trwbwl i gyd rhaid mynd ymlaen â'r fusnes. |
| (1, 0) 148 | Beth i ni'n mynd i neud â Nansi a'r plant? |
| (Dafydd) Wel, gyfeillion, mi greda i mai y peth gore i neud gyda Nansi a'r plant ydi hyn. | |
| (Scweier) Dere, Twm, rhaid i fi alw y justices at i gily' i neud cwnstebli. | |
| (1, 0) 179 | Wel, gyfeillion, Festri ryfedd gawsom ni heno. |
| (1, 0) 180 | Gobeithio y gwnewch i gyd dreio cadw heddwch yn y plwy, a mi ddylet ti, Dafi, i gofio fod gwarogaeth i'w dalu i waedoliaeth a chyfoeth. |
| (1, 0) 181 | Y mae graddau mewn cymdeithas i fod ac wedi bod erioed. |
| (1, 0) 182 | "Y gweision, ufuddhewch i'ch meistriaid," medd yr Hen Air, a rheol dda i'w chadw yw hi hefyd. |
| (1, 0) 183 | Rhaid cadw pobol dlawd yn eu lle, neu mi â'r byd yn bendramwnwgl. |
| (1, 0) 184 | Gobeithio erbyn y Festri nesa y bydd pethau wedi tawelu, ac y bydd heddwch yn teyrnasu fel yr afon, ac y cawn ninnau gwrdd gyda'n gilydd fel cyfeillion. |