| (Blank) Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu, | |
| (Mephistopheles) Ymddiddan gyda'r diawl ei hun mor ddynol! | |
| (0, 3) 158 | Astudiais, och! Ffilosoffi, |
| (0, 3) 159 | A chyfraith, do, a Meddyginiaeth, |
| (0, 3) 160 | A Diwinyddiaeth—gwae fyfi!— |
| (0, 3) 161 | Drwy lafur mawr a garw driniaeth. |
| (0, 3) 162 | A dyma fi, 'r ynfytyn plaen, |
| (0, 3) 163 | Cyn ddoethed bob tipyn ag oeddwn o'r blaen! |
| (0, 3) 164 | Fe'm gelwir yn Athro a Doethur, mae'n wir, |
| (0, 3) 165 | A minnau ers deng mlynedd hir |
| (0, 3) 166 | Yn tynnu 'nisgyblion ar hyd ac ar draws |
| (0, 3) 167 | Gerfydd eu trwyn, heb fod ronyn haws, |
| (0, 3) 168 | I weld nad oes dim y gallwn ei wybod!— |
| (0, 3) 169 | Mae hynny agos a llosgi 'nghydwybod. |
| (0, 3) 170 | 'Rwyf lawn cyn ddoethed â'r crach ysgolorion, |
| (0, 3) 171 | Athrawon, Meistriaid, Offeiriaid, Llenorion; |
| (0, 3) 172 | 'Does wendid nac ameu a bair im ffaelu, |
| (0, 3) 173 | Ac nid wyf yn ofni na diawl na'i deulu. |
| (0, 3) 174 | Collais drwy hynny bob rhyw sirioldeb; |
| (0, 3) 175 | Am wybod dim a fyddai fuddioldeb, |
| (0, 3) 176 | Neu beth i'w ddysgu, ni waeth heb ffugio, |
| (0, 3) 177 | Er gwella dynion na'u diwygio; |
| (0, 3) 178 | At hynny, 'does imi nac aur na chlud, |
| (0, 3) 179 | Na pharch na diddanwch yn y byd; |
| (0, 3) 180 | Ni ddaliai gi ddim yn hwy mo'r driniaeth, |
| (0, 3) 181 | O'r herwydd, ymroddais at Ddewiniaeth, |
| (0, 3) 182 | Rhag na bo ambell bwnc i'w drafod |
| (0, 3) 183 | Na ddeuai'n glir drwy bwyll a thafod, |
| (0, 3) 184 | Fel na bo rhaid, drwy chwys a phendroni, |
| (0, 3) 185 | Im draethu'r ddysg na wn i moni, |
| (0, 3) 186 | Ac fel y gwypwyf beth yw'r byd |
| (0, 3) 187 | A'r hyn a gynnwys oll i gyd, |
| (0, 3) 188 | A gweld ei had a'i rym i'w eigion |
| (0, 3) 189 | Yn lle rhyw ddelio mewn geiriau gweigion! |
| (0, 3) 190 | ~ |
| (0, 3) 191 | O loergan leuad, a weli di, |
| (0, 3) 192 | Am yr olaf waith, fy llafur i? |
| (0, 3) 193 | Dydi, a welais i mor dlos |
| (0, 3) 194 | Uwchben fy nesg aml hanner nos; |
| (0, 3) 195 | O blith papurau a llyfrau lu, |
| (0, 3) 196 | Gyfeilles brudd, y'th wyliwn fry! |
| (0, 3) 197 | Och! na chawn fynd i gopa'r bryn |
| (0, 3) 198 | Ynghanol dy oleuni gwyn; |
| (0, 3) 199 | Crwydro gydag ysbrydion lu |
| (0, 3) 200 | Drwy ogofeydd y creigiau fry, |
| (0, 3) 201 | Hofran yn dy hanner goleu |
| (0, 3) 202 | I'w canlyn hwy uwchben y dolau; |
| (0, 3) 203 | Poen meddwl wedi'i lwyr anghofio, |
| (0, 3) 204 | A mi'n dy wlith yn nwyfus nofio! |
| (0, 3) 205 | Gwae! yma'r wy'n y carchar cau, |
| (0, 3) 206 | Felltigaid, dywyll bared ffau, |
| (0, 3) 207 | Lle rhaid i wawl y nefoedd wiw |
| (0, 3) 208 | Ryw dorri'n llwyd trwy wydryn lliw, |
| (0, 3) 209 | A fforchi yn y llyfrdy, fo |
| (0, 3) 210 | A gny pryfetach, tan ei lwch; |
| (0, 3) 211 | A'i bared yntau, hyd y to, |
| (0, 3) 212 | A phapur myglyd trosto'n drwch; |
| (0, 3) 213 | Gwydrau ac estyll ym mhob cwrr, |
| (0, 3) 214 | Ac offer lu ar draws a hyd, |
| (0, 3) 215 | Hynafol ddodrefn, ddidrefn dwrr— |
| (0, 3) 216 | Dy fyd, y peth a elwi'n fyd! |
| (0, 3) 217 | A fynni dithau holi pam |
| (0, 3) 218 | Y rhydd dy galon ynot lam? |
| (0, 3) 219 | Paham y daw rhyw ofid mud |
| (0, 3) 220 | I darfu gwerth dy yrfa i gyd? |
| (0, 3) 221 | Yn lle bod gyda Natur fyw, |
| (0, 3) 222 | I lonni dyn, a luniai Duw, |
| (0, 3) 223 | Bod yma yn y mwg a'r staen, |
| (0, 3) 224 | Rhwng ysgerbydau ac esgyrn braen! |
| (0, 3) 225 | Ffo! ymaith dos i'r wlad sy draw |
| (0, 3) 226 | A'r llyfr, sy lawn o bethau cudd, |
| (0, 3) 227 | Gwaith Nostradamus[1] tan ei law, |
| (0, 3) 228 | I'th arwain, onid digon fydd? |
| (0, 3) 229 | Pan ddysger di gan Natur hithau, |
| (0, 3) 230 | Ti adnabyddi hynt y bydoedd, |
| (0, 3) 231 | A daw yr enaid rym i tithau. |
| (0, 3) 232 | Megys y sieryd yr ysbrydoedd; |
| (0, 3) 233 | Ofer, tra byddo pŵl deimladau, |
| (0, 3) 234 | I'r Arwydd roddi Datguddiadau— |
| (0, 3) 235 | Ysbrydion, sydd o'm hamgylch i, |
| (0, 3) 236 | O'm clywoch, doed eich ateb chwi! |
| (0, 3) 238 | Ha! pa ryw wynfyd sydd yr ennyd hon |
| (0, 3) 239 | Ar unwaith trwy bob synnwyr yn ehedeg? |
| (0, 3) 240 | Mae pur lawenydd bywyd ieuanc llon |
| (0, 3) 241 | Drwy bob gwythïen fawr a bach yn rhedeg! |
| (0, 3) 242 | Ai Duw oedd ef, a wnaeth y Daflen hon, |
| (0, 3) 243 | Sydd yn tawelu ynof bob blinderau, |
| (0, 3) 244 | Gan lenwi'r druan galon â mwynderau, |
| (0, 3) 245 | Ac â rhyw ddirgel egni, ger fy mron, |
| (0, 3) 246 | Sy'n agor nerthoedd Natur i'w dyfnderau? |
| (0, 3) 247 | Ai duw wyf innau? Mwy, ysgafned wyf! |
| (0, 3) 248 | Mi welaf Natur yma yn ei nwyf |
| (0, 3) 249 | Yn gorwedd ger bron f'enaid i yn noeth, |
| (0, 3) 250 | A gwn yn awr holl ystyr geiriau'r Doeth: |
| (0, 3) 251 | "Nid ydyw byd yr ysbryd tan ei glo, |
| (0, 3) 252 | Dy deimlad ti, a'th galon farw, y sydd; |
| (0, 3) 253 | Fyfyriwr, dos yn llawen yn dy dro, |
| (0, 3) 254 | A golch dy farwol fron yng ngwawl y dydd!" |
| (0, 3) 256 | Mae'r cyfan drwy ei gilydd megys gwe, |
| (0, 3) 257 | A'r naill drwy'r llall yn bod a llenwi ei le; |
| (0, 3) 258 | Egnïon nef, yn uwch ac is, esgynnant, |
| (0, 3) 259 | A'r cwpan aur, i'w gilydd yr estynnant! |
| (0, 3) 260 | O'r nef a thros y ddaear y disgynnant, |
| (0, 3) 261 | Gan hidlo bendith o'u hadanedd, |
| (0, 3) 262 | A'r cwbl i gyd trwy'r cyfan yn gynghanedd! |
| (0, 3) 263 | Pa chwarae! Eto, dim ond chwarae yw! |
| (0, 3) 264 | Ddi derfyn Natur, sut y'th ddaliaf di? |
| (0, 3) 265 | Dy fronnau, ble? Dy ffrwd sy fythol fyw, |
| (0, 3) 266 | Y crog y nef a'r ddaear wrthi hi, |
| (0, 3) 267 | Y cyrch i'w chyrraedd bob rhyw fynwes wyw, |
| (0, 3) 268 | A lleibio'i llif—ai ofer gwanc i mi? |
| (0, 3) 270 | Y mae i'r Arwydd yma amgen rhin! |
| (0, 3) 271 | Ysbryd y Ddaear, 'r wyt yn agoshau, |
| (0, 3) 272 | Mae f'egni ynof eisoes yn cryfhau, |
| (0, 3) 273 | Mae ias i'm ysu, megys newydd win; |
| (0, 3) 274 | Mae arnaf awydd yn y byd anturio, |
| (0, 3) 275 | A phrofi bydol arial a dolurio, |
| (0, 3) 276 | Yn erbyn yr ystormydd ymgyndynnu, |
| (0, 3) 277 | A bod, pan dorro'r llong, heb unwaith grynu! |
| (0, 3) 278 | Tywylla uwch fy mhen— |
| (0, 3) 279 | Fe gudd y lloer ei lliw— |
| (0, 3) 280 | Gwelwa goleuni'r lamp! |
| (0, 3) 281 | Diffydd!—gwing rhyw belydr coch |
| (0, 3) 282 | O gylch fy mhen;—a syrth |
| (0, 3) 283 | Rhyw ias or neni lawr |
| (0, 3) 284 | A gafael ynof! |
| (0, 3) 285 | Mi a'i gwn, O, ysbryd taer, gerllaw'r wyt ti! |
| (0, 3) 286 | Amlyga di dy hun! |
| (0, 3) 287 | Ha! fel yr ymgynhyrfa 'nghalon i! |
| (0, 3) 288 | A newydd iasau'n ysu, |
| (0, 3) 289 | Y mae fy holl synhwyrau'n ymddyrysu! |
| (0, 3) 290 | Y mae fy nghalon iti'n llwyr yn plygu, |
| (0, 3) 291 | Pe costiai 'mywyd, dyred i'th amlygu! |
| (Yr Ysbryd) Pwy a'm geilw? | |
| (0, 3) 296 | Erchyll yw dy ddrych! |
| (Yr Ysbryd) Amdanaf taer ofynnaist, | |
| (Yr Ysbryd) Ac weithian— | |
| (0, 3) 300 | Gwae! Ni allaf fod lle bych! |
| (Yr Ysbryd) Am olwg arnaf, daered oedd dy alw, | |
| (Yr Ysbryd) Rhyw ofnus bryf yn gwingo yn y llaid I | |
| (0, 3) 313 | Y fflamgi! pam y ciliwn rhagot tu? |
| (0, 3) 314 | Myfi yw, a'th gydradd dithau, Faust wyf i! |