| (Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? | |
| (Mali) Mi wnai lei ti. | |
| (1, 0) 226 | O'r gore, nain—ond 'rhoswch chi yn y lle rydech chi. |
| (1, 0) 227 | Sut rydech chi heno, Miss Vaughan? |
| (1, 0) 228 | Mi fum i acw yn yr Hafod hefo'ch tad drwy'r ddechreunos. |
| (Agnes) Rydw i'n reit dda, |thank you|. | |
| (1, 0) 234 | Adda... ag Efa! |
| (Robert) Yr argian fawr! | |
| (Agnes) |Brace of pheasants!| | |
| (1, 0) 239 | Llonydd i mi gael gair i fewn, neno'r tad. |
| (1, 0) 240 | Nid yn aml y bydd y Sgellog Fawr yn gwledda ar fraster y wlad, aie? |
| (1, 0) 241 | Wel, er mwyn i chi glywed y stori i gyd—mi cês nhw fel y cafodd y Sgweier i dir—i cymryd nhw. |
| (1, 0) 242 | Yr oeddwn i'n tanio mhibell wrth glawdd y winllan, ac wrth oleu'r fatsian, mi welwn y pâr ifanc ar y clawdd, a chyn y basa hyd yn oed y nhad yn medru deud "carreg a thwll" mi sylwis fod y ddau yn y mhoced i. |
| (1, 0) 243 | Rhaid i chitha gael côt fel hon, nhad; welsoch chi 'rioed gymaint o hwyl gaech chi hyd y caeau na: mi dalith mam am y |game licence| hefo pres y menyn. |
| (Robert) Sut ar wyneb daear y daethon nhw i'r clawdd, tybed? | |
| (Agnes) Rhaid cadw'r gydwybod yn lân beth bynnag. | |
| (1, 0) 249 | Twt, twt,—cymrwch yr hyn y mae'r duwiau yn i anfon i chi heb holi gormod. |
| (1, 0) 250 | Mi wnân ginio fory. |
| (Robert) Hy! cinio wir! | |
| (Agnes) Rydw i'n gobeithio'n fawr nag ydech chi ddim yn mynd yn |agitator|, Mr. Williams? | |
| (1, 0) 260 | |Agitator|? |
| (1, 0) 261 | Ydw,—os ca i fy nghyfle, mi leiciwn i daro un ergid neu ddwy dros y werin yma.... |
| (1, 0) 262 | Rhaid i chi f'esgusodi i, Miss Vaughan, mi fydda i'n i cael nhw fel hyn weithia. |
| (Mali) Pwy sydd yna? | |
| (Robert) Clywad ogla'r ddau ffowlyn mae o, mam. | |
| (1, 0) 270 | Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors. |
| (Mali) Mae yna rywbeth yn dwad y tu allan yna. | |
| (1, 0) 274 | Mynd i'ch gwely ydi gore i chi, nain bach. |
| (Agnes) Wel dowch ynte, Mr. Williams. | |
| (Plisman) Nos da, deulu,—roedd yn ddrwg genni'ch trwblo. | |
| (1, 0) 319 | Rhoswch funud. |
| (1, 0) 320 | Lle'r oeddech chi'n deud ichi adael y ddau ffesant, Roberts? |
| (Plisman) {Yn troi'n ol yn sydyn.} | |
| (Plisman) Gadael beth, deudsoch chi? | |
| (1, 0) 323 | Wel, y ddau ffesant, siwr—y—y—hynny yw, y gêm. |
| (1, 0) 324 | Roedd yno ddau, on'd oedd? |
| (Plisman) Pwy ddeudodd wrthych chi mai dau ffesant oedden nhw? | |
| (1, 0) 328 | Meddwl ddarum i ych bod chi'n deud fod yno ddau. |
| (McLagan) Ti gwbod rwbath am fo, Emrys Williams? | |
| (Plisman) Ym mhle, mor hy a gofyn? | |
| (1, 0) 335 | Dim o'ch busnes chi, Roberts. |
| (1, 0) 336 | Ymddygwch fel gŵr bonheddig, neu mi tafla i chi allan. |
| (1, 0) 337 | Peidiwch a thorsythu o mlaen i— |
| (1, 0) 339 | —Pah! Cwrw a gwêr! |
| (1, 0) 340 | Ddyn glân, 'rydech chi'n feddal fel pwdin! |
| (McLagan) {Yn symud i'r goleu.} | |
| (1, 0) 353 | Gwna, yn neno'r tad, os medrwch chi sgrifennu. |
| (1, 0) 354 | Mi welis ddau ddyn yn sefyll fel dau lechgi—un yn las drosto fel pry baw, lwmp hyll o ddyn tew ffoglyd, ac un arall wrth i ochor o hefo locsyn coch. |
| (1, 0) 355 | Mi feddylis i ar y cynta mai dau fwgan brain wedi'u codi gan ddyn dall oedd yno—ond mi sylweddolis yn y diwedd mai plisman a chipar oedden nhw. |
| (McLagan) Ti treio bod yn |funny dog|, Mr. Emrys Williams. | |
| (McLagan) Mi câl gweld sut lliw gwyneb ti yn y |court|, Mr. |Poacher|. | |
| (1, 0) 381 | Wel, rhag i chi orweithio'r ddau chwarter pen yna sy gynnoch chi ddim pellach, mi ddeuda wrthoch chi mewn ychydig eiriau sut y bu hi. |
| (1, 0) 382 | Gweld y ddau dderyn yma ar ochor y clawdd ddarum i wrth ola mhibell, ag mae hawl gan bawb i'r hyn welan nhw ar y ffordd fawr, debig gen i? |
| (Robert) Oes, debig iawn, wir,—neu mae petha wedi mynd yn od ofnatsan. | |
| (Elin) Ann! | |
| (1, 0) 403 | Beth sy arnoch chi, Ann? |
| (Plisman) Lle ar glawdd pella'r Coetmor roedd y ffesants, meddwch chi? | |
| (Agnes) Wel, nos da. | |
| (1, 0) 420 | Wel, dydi hyn ddim byd—mwy na dŵr ar gefn chwiaden. |
| (1, 0) 421 | Fedrwch chi ddim mynd adre'ch hun. |