| (Jane) Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia. | |
| (1, 0) 17 | Mae'r breuddwyd ges i neithiwr wedi 'ngneud í'n reit anesmwyth. |
| (Jane) {Yn awdurdodol.} | |
| (1, 0) 21 | Da ti, Jane, paid a 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd. |
| (Jane) 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn. | |
| (Jane) Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na. | |
| (1, 0) 24 | Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd: fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo." |
| (1, 0) 25 | Ac anodd iawn i rai fel dy dad a thitha gydymdeimlo'n iawn â phobol wanllyd. |
| (1, 0) 26 | Dyna dy dad─ |
| (Jane) Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo. | |
| (Jane) Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo. | |
| (1, 0) 28 | Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i. |
| (1, 0) 29 | Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny. |
| (Jane) O ïe, ewch ymlaen─rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth |stiff| yn 'y natur i. | |
| (Jane) Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun. | |
| (1, 0) 32 | Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi. |
| (1, 0) 33 | Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach. |
| (Jane) Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith. | |
| (Jane) Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach. | |
| (1, 0) 36 | Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun. |
| (Jane) Wel, mi gadawn hi ar hynyna. | |
| (Jane) Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi? | |
| (1, 0) 39 | Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion. |
| (Jane) Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o. | |
| (Jane) Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o. | |
| (1, 0) 41 | Mi freuddwydis neithiwr fod Dic, dy frawd, wedi dod adre a bod golwg torcalonnus o wael a llwm arno fo. |
| (1, 0) 42 | Roedd o mor blaen o flaen 'y ngolwg i ag rwyt ti, ac roedd o'n edrach fel un yn dihoeni─ïa, roedd golwg un yn marw arno fo. |
| (1, 0) 43 | Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn. |
| (1, 0) 45 | 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane. |
| (Jane) 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn. | |
| (Jane) 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn. | |
| (1, 0) 47 | Gwn, 'ngeneth i─rwyt ti 'run farn a dy dad. |
| (1, 0) 48 | Dyma dros bum mlynedd wedi mynd heibio er pan safodd dy dad ar garreg yr aelwyd 'ma─ anghofia i byth mo'i eiriau: mi warniodd fi nad oeddwn i enwi Dic yn i glyw o hynny allan; a wnes i byth, ond ma' 'nghalon i ar dorri i gael siarad amdano fo hefo dy dad, ond fod ofn gneud hynny arna i. |
| (Jane) Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr. | |
| (Jane) Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr. | |
| (1, 0) 50 | Dyna'r noson─yr un noson pan yr aeth o ar 'i draed ar y gadair i osod almanac i fyny uwchben y lle tân 'ma, i guddio llun Dic bach rhag i neb gael gweld y llun, ond ŵyr dy dad ddim pa mor amal rydw i'n codi cwr yr hen almanac hefo'r procar i sbio ar 'y machgen. |
| (1, 0) 51 | Dic bach benfelyn ydi o i mi er 'i holl ddrwg. |
| (Jane) {Yn frochus.} | |
| (Jane) Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth. | |
| (1, 0) 58 | "A anghofia mam ei phlentyn sugno?" |
| (1, 0) 60 | Beth bynnag ddeydi di a dy dad, Dic f'unig fachgen ydi o i mi, a dyna fydd o byth. |
| (1, 0) 61 | O'r tad! sgwn i ymhle mae o'r noson rewog 'ma. |
| (1, 0) 62 | Dic, Dic! pam rwyt ti wedi 'nghadw i am bum mlynedd heb yr un cipolwg arnat ti ac heb yr un gair o dy helynt? |
| (Jane) Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid. | |
| (Tad) Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan, | |
| (1, 0) 68 | Mae hi'n galed ar bob crwydryn digartref ' ar noson fel heno. |
| (Tad) {Yn dal i ymdwymo.} | |
| (Tad) Ie. | |
| (1, 0) 78 | Pwy ydi'r pregethwr fory, William? |
| (Tad) Ezra Davis, Llanllios. | |
| (Tad) Leiciech chi ddarllen heno, Elin? | |
| (1, 0) 91 | Na, mae'n well gen i beidio heno. |
| (Tad) Pam? | |
| (Tad) Ydych chi ddim yn dda heno? | |
| (1, 0) 94 | Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma. |
| (Tad) Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen? | |
| (Tad) Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen? | |
| (1, 0) 96 | Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc. |
| (Tad) O'r gore. | |
| (Jane) {Â at y drws.} | |
| (1, 0) 101 | Paid a'i folltio fo 'rwan, ngeneth i. |
| (Tad) Pam? | |
| (Tad) "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon." | |
| (1, 0) 112 | 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo. |
| (Tad) Ddylai dim gael torri ar y darllen. | |
| (Tad) Ddylai dim gael torri ar y darllen. | |
| (1, 0) 114 | Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan. |
| (Tad) Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory. | |
| (1, 0) 123 | Pwy sydd 'na, Jane? |
| (1, 0) 124 | Dic annwyl, ai ti sydd yna, dywed? |
| (1, 0) 125 | Tyrd at y tân, 'machgen bach i, i dwymo dy ddwylo oerion. |
| (1, 0) 126 | Mae 'meddwl i wedi bod hefo ti drwy gydol nosweithia'r barrug 'ma. |
| (Tad) {Yn dreng.} | |
| (Tad) Elin, steddwch i lawr, a pheidiwch a chyffroi'ch hunan. | |
| (1, 0) 129 | Wiliam, Wiliam! sut y medra i beidio, a Dic bach wedi dwad adre ar ol blynyddoedd o fod í ffwrdd. |
| (1, 0) 130 | "Fy mab hwn oedd farw ac a aeth yn fyw drachefn, efe a gollesid ac a gaed." |
| (Tad) {Yn chwerw.} | |
| (Tad) Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni? | |
| (1, 0) 134 | O, Wiliam! mi lladdwch o â'ch geiriau brathog! |
| (Dic) {Yn neshau'n wylaidd at y bwrdd ac estyn ei law i'w dad.} | |
| (Tad) Na wna. | |
| (1, 0) 139 | Wiliam! |
| (1, 0) 140 | Dic ydi o! yr unig fab sy gynno ni! |
| (Tad) Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ol pan y gadawodd i gartref mewn gwarth. | |
| (Tad) Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely. | |
| (1, 0) 144 | Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd. |
| (1, 0) 145 | Fe gymeri damaid, yn nei di, 'machgen i? |
| (Dic) Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane. | |
| (Dic) Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane. | |
| (1, 0) 147 | 'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha? |
| (Dic) Wel wir, dydw i ddim yn cofio'r funud 'ma, ond fedra i fyta dim rwan beth bynnag. | |
| (Jane) {A drwy ddrws y grisiau gyda'r gannwyll.} | |
| (1, 0) 151 | Tyrd at y tân, 'machgen i. |
| (1, 0) 153 | Gwarchod pawb! mae dy ddwylo di fel y clai; da ti, twyma nhw'n dda. |
| (1, 0) 154 | Cymer gwpanaid o dê, Dic bach, i 'mhlesio i. |