| (Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para. | |
| (Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para. | |
| (1, 0) 6 | Wrth gwrs na fedr o ddim para. |
| (1, 0) 7 | Fedrwn ni ddim para, ti na fi. |
| (1, 0) 8 | Dynion ydyn-ni. |
| (1, 0) 9 | Mae cysgod y bedd droson-ni cyn inni golli cysgod y groth. |
| (Branwen) Ffwlbri, frawd bach. | |
| (Branwen) Ffwlbri, frawd bach. | |
| (1, 0) 11 | Sut hynny? |
| (Branwen) Cysgod y groth! | |
| (1, 0) 17 | A diolch am hynny. |
| (1, 0) 18 | Rydw i'n mwynhau 'mywyd. |
| (1, 0) 19 | Mi fwynhaf fy angau ond iddo beidio â bod mewn gwely. |
| (1, 0) 20 | Mae gwell gwaith na hynny ar wely, on'd oes? |
| (Branwen) Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg. | |
| (Branwen) Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg. | |
| (1, 0) 22 | Rydw i wedi lladd dynion. |
| (1, 0) 23 | Mae'n bleser. |
| (1, 0) 24 | Ias! |
| (Branwen) Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb. | |
| (Branwen) Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb. | |
| (1, 0) 26 | Un oer a chaled wyt ti, Branwen. |
| (1, 0) 27 | Mae dy garu di fel croesi cleddau gyda gelyn. |
| (Branwen) Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi. | |
| (Branwen) Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi. | |
| (1, 0) 29 | Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon. |
| (Branwen) Craig wedi'i hollti. | |
| (Branwen) Craig wedi'i hollti. | |
| (1, 0) 31 | Ei hollti?... |
| (1, 0) 32 | Gan be? |
| (Branwen) Paid â gofyn. | |
| (1, 0) 37 | Tyn y gair yna'n ôl. |
| (Branwen) Rwyt ti'n brifo. | |
| (1, 0) 41 | Tyn y gair yna'n ôl. |
| (Branwen) Be ddweda i? | |
| (Branwen) Be ddweda i? | |
| (1, 0) 43 | Gan ein cariad ni. |
| (Branwen) Gan ein cariad ni. | |
| (Branwen) Gan ein cariad ni. | |
| (1, 0) 45 | Mi allwn i dy ladd di. |
| (Branwen) Dianc fyddai hynny. | |
| (Branwen) Dianc fyddai hynny. | |
| (1, 0) 47 | Dianc rhagof i? |
| (Branwen) Wn i ddim. | |
| (1, 0) 52 | Does dim rhaid dewis. |
| (Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para. | |
| (Branwen) Mi wyddost na fedr hyn ddim para. | |
| (1, 0) 54 | Ferch fach, ein cariad ni ydy'n bywyd ni. |
| (1, 0) 55 | Mi ddwedais, fe bery tra bydd para i ti, tra bydd para i mi. |
| (Branwen) Heb feddwl am farw? | |
| (Branwen) Heb feddwl am farw? | |
| (1, 0) 57 | Rwyt ti yn llygad dy le. |
| (1, 0) 58 | Nid marw ydy caru, ond byw, byw, byw. |
| (Branwen) Fy nghariad i, paid â gwrthod 'y neall i. | |
| (Branwen) Cyn hir bydd yn rhaid i ti a minnau wneud hynny. | |
| (1, 0) 63 | Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu. |
| (Branwen) Ti ddwedodd mai'n cariad ni ydy'n bywyd ni. | |
| (1, 0) 67 | Ie, angau o fywyd. |
| (1, 0) 68 | Rydw i'n ei wrthod o. |
| (1, 0) 69 | Mewn gwaed oer, yn ei wrthod o'n bendant, am byth. |
| (Branwen) Hanner brawd wyt ti; nid brawd. | |
| (1, 0) 72 | Hanner brawd, ond priod cyfan. |
| (1, 0) 73 | Fi piau ti. |
| (1, 0) 74 | Fi piau ti gorff ac enaid. |
| (Branwen) Na. | |
| (Branwen) Ond rydw i wedi rhoi nghalon i ti. | |
| (1, 0) 78 | Rhaid imi wrth hynny a rhagor. |
| (1, 0) 79 | Mi wyddost nad edrychais i ddim erioed ar na gwas na merch, ond ti. |
| (1, 0) 80 | Gwae i'r neb a ddêl rhyngon ni. |
| (Branwen) Mae dy eiriau fel y gwin. | |
| (Branwen) Mae dy eiriau fel y gwin. | |
| (1, 0) 82 | Geiriau sobrwydd a gwirionedd. |
| (Branwen) Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd? | |
| (Branwen) Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd? | |
| (1, 0) 84 | Brân? |
| (Branwen) Y brenin. | |
| (Branwen) Y brenin. | |
| (1, 0) 86 | Wyt ti am imi ddweud wrtho? |
| (Branwen) Go brin. | |
| (Branwen) Rhaid imi dy gadw di yma tra bydda i yma. | |
| (1, 0) 89 | Yma yr wyt ti. |
| (1, 0) 90 | Yma y byddi di. |
| (1, 0) 91 | Gyda mi. |
| (Branwen) O na bai eto ryfel. | |
| (Branwen) O na bai eto ryfel. | |
| (1, 0) 93 | Pam wyt ti am ryfel? |
| (Branwen) Ti ydy'r penteulu a'r gorau sy gennyn ni. | |
| (Branwen) Ond pan mae hi'n heddwch rwyt ti'n boen i'r brenin. | |
| (1, 0) 98 | Fi ydy dy frenin di, nid Brân. |
| (Branwen) Ti yw fy mhlentyn i. | |
| (Branwen) Dyna'r pam rwyt ti'n frenin arna i, y ngwas mawr i. | |
| (1, 0) 101 | A Brân? |
| (Branwen) Brawd. | |
| (Branwen) Brawd cyfan. | |
| (1, 0) 104 | Ond? |
| (Branwen) Ond brenin. | |
| (Branwen) Mae ganddo gariad arall. | |
| (1, 0) 107 | Nid ei chwaer? |
| (1, 0) 108 | Nid ei wraig? |
| (Branwen) Ei deyrnas. | |
| (Branwen) Ei deyrnas. | |
| (1, 0) 110 | Oes ganddi hi hawliau? |
| (Branwen) Arno fo. | |
| (Branwen) A gwae hi os na na bydd hi'n ddigon hardd ei gwedd i gostio gwlad. | |
| (1, 0) 117 | Paid â bod mor chwerw. |
| (1, 0) 118 | All hynny ddim digwydd i ti. |
| (Branwen) Rwyt ti yma yn y llys ddwy flynedd heb ddysgu dim. | |
| (Branwen) Dyna ydw innau iti. | |
| (1, 0) 124 | Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol. |
| (Branwen) Fel plentyn gyda thegan. | |
| (Branwen) Fel plentyn gyda thegan. | |
| (1, 0) 126 | Nid tegan wyt ti i mi. |
| (Branwen) Profiad? | |
| (Branwen) Profiad? | |
| (1, 0) 128 | Tynged... |
| (1, 0) 129 | Terfyn y daith. |
| (Branwen) Dwyt ti ddim yn frenin. | |
| (Branwen) Dwyt ti ddim yn frenin. | |
| (1, 0) 131 | Ac felly? |
| (Branwen) Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i. | |
| (Branwen) Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i. | |
| (1, 0) 133 | Mi ofynna i heddiw. |
| (1, 0) 134 | Cytuno? |
| (1, 0) 135 | Rydyn ni'n un cnawd eisoes ym mhob ystyr a modd. |
| (Branwen) Act wleidyddol ydy priodi. | |
| (1, 0) 140 | Ond fedri di ddim disgyn i hynny. |
| (1, 0) 141 | Rwyt ti wedi troi oddi wrtho. |
| (1, 0) 142 | I'n gwely ni. |
| (Branwen) I hynny y'm magwyd i. | |
| (Branwen) Yr hyn ddrysodd y cwbl oedd i ti ddod i'r llys yn llanc. | |
| (1, 0) 147 | Ydy'n ddrwg gen ti? |
| (Branwen) Ydy. | |
| (Branwen) {Mae hi'n trechu ei thagu.} | |
| (1, 0) 151 | Pam sôn am f'adael? |
| (1, 0) 152 | Nid iâr yn gori allan wyt ti. |
| (Branwen) Bore heddiw mi welais longau'n hwylio tuag yma, llongau brenhinol. | |
| (Branwen) Welaist ti? | |
| (1, 0) 155 | Mi wyddost imi fynd i hela. |
| (Branwen) Erbyn hyn maen nhw wedi glanio. | |
| (Branwen) Erbyn hyn maen nhw wedi glanio. | |
| (1, 0) 157 | O'r gogledd? |
| (Branwen) O Iwerddon. | |
| (Branwen) O Iwerddon. | |
| (1, 0) 159 | Matholwch? |
| (1, 0) 160 | Mi fûm i'n gwerthu llond llong o gaethion iddo fo y llynedd. |
| (1, 0) 161 | Mae o'n hoff o arian. |
| (1, 0) 162 | Canol oed. |
| (1, 0) 163 | Mi wnâi daid iawn iti. |
| (Branwen) Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau. | |
| (Branwen) Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau. | |
| (1, 0) 165 | Beth! |
| (1, 0) 166 | Myn deryn! |
| (1, 0) 167 | Wyt ti eisoes yn gweld dy orsedd? |
| (Branwen) Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti. | |
| (Branwen) Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti. | |
| (1, 0) 169 | I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd. |
| (Branwen) Pwy ŵyr? | |
| (Branwen) Pwy ŵyr? | |
| (1, 0) 171 | Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled. |
| (Branwen) A pha les fydd hynny? | |
| (Branwen) A pha les fydd hynny? | |
| (1, 0) 173 | Branwen, rydw i'n dy garu di'n enbyd, enbyd. |
| (1, 0) 174 | Rwyt tithau'n paratoi i 'mradychu i. |
| (Branwen) Rydw i'n edrych ar yr hyn sydd o'n blaen ni. | |
| (1, 0) 178 | Rydw i'n barod i'w wynebu, yn barod gyda holl greulondeb 'y ngwaed. |
| (Branwen) O'r gore, mi heria i di. | |
| (Branwen) O'r gore, mi heria i di. | |
| (1, 0) 180 | Sut? |
| (Branwen) Os dod yma mae Matholwch i ofyn amdana i'n wraig tyrd gyda mi i'r cyngor a dweud wrthyn nhw mai dy ordderch di, fy hanner-brawd, ydw i; mai ti fu gyda mi yn y gwely yma drwy'r nos neithiwr, ac nad oes gan neb arall hawl arna i. | |
| (1, 0) 183 | Mi wyddost na fedra i ddim. |
| (Branwen) Pam? | |
| (Branwen) Pam? | |
| (1, 0) 185 | Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle. |
| (Branwen) Fedra innau ddim chwaith. | |
| (Branwen) Fedra innau ddim chwaith. | |
| (1, 0) 187 | A pham? |
| (Branwen) Nid am ddim y medra i ymfalchïo ynddo. | |
| (Branwen) Ond heblaw hynny, brad fyddai gwrthod. | |
| (1, 0) 200 | Mae'n haws gen'ti 'mradychu i. |
| (Branwen) Efnisien, paid â ffraeo. | |
| (Branwen) Mae'n well gen i dorri na datod. | |
| (1, 0) 206 | Gwrando, 'ngeneth i. |
| (1, 0) 207 | Rwyt ti'n dannod i mi nad ydw i ddim yn frenin nac yn fab i frenin, ac felly does gen i ddim rhan yng nghynllun dy fywyd di. |
| (1, 0) 208 | Fod yn rhaid i ti rodio dy rych, eistedd ar orsedd gwlad a dysgu anghofio... |
| (1, 0) 209 | Alla i ddim anghofio. |
| (1, 0) 210 | Alla i ddim ffarwelio a maddau. |
| (1, 0) 211 | Nid damwain dros dro yn 'y mywyd i wyt ti. |
| (1, 0) 212 | Ond gwenwyn i'm lladd i; gwenwyn sy'n fy llosgi i'n fyw. |
| (1, 0) 213 | Paid ti â meddwl y daw amser i bylu'r boen. |
| (1, 0) 214 | Mi all cariad o'i dwyllo droi'n gas. |
| (1, 0) 215 | Rwyt ti'n sôn am roi etifedd i orsedd Iwerddon. |
| (1, 0) 216 | Rhoi Matholwch rhwng dy gluniau di ar f'ôl i. |
| (1, 0) 217 | Os digwydd hynny myn y coblyn ulw, cymer di ofal na ddaw ffrwyth dy groth di fyth i'm hafflau i,─neu fe'i bwria i o wysg ei ben i'r gynnau dân. |