| (1, 0) 20 | Hst! |
| (Meurig) Bob tro y do' i adre, dim ond yr un sŵn o hyd! | |
| (Meurig) {Mae MEURIG yn cerdded at yr offeryn ac yn rhoi iaw arno.} | |
| (1, 0) 24 | Paid! |
| (Meurig) 'Rwy' wedi blino. | |
| (Meurig) 'Rwy' wedi blino. | |
| (1, 0) 26 | Ble'r wyt ti wedi bod? |
| (Meurig) Yn y labordy. | |
| (Meurig) Ble arall! | |
| (1, 0) 29 | Rwyt ti'n hwyrach nag erioed... |
| (1, 0) 30 | Ac yn awr, os gweli di fod yn dda, efallai y caf wrando ar y record. |
| (1, 0) 31 | Mae hi'n wych. |
| (Meurig) 'Rwyf heb fwyta ers hanner dydd. | |
| (1, 0) 35 | Rhaid i ti gymryd pethau'n fwy hamddenol. |
| (Meurig) {Erys} | |
| (Meurig) Yn yr un man y byddwn i. | |
| (1, 0) 40 | Os yw hyn'na'n wir, 'wela' i fawr iawn o synnwyr dy fod ti'n lladd dy hunan yn y labordy. |
| (1, 0) 41 | Mi fyddet yn fwy cysurus o lawer gartre. |
| (1, 0) 43 | A minnau. |
| (Meurig) Ond mae'r arbrofion yn galw! | |
| (Meurig) Ond mae'r arbrofion yn galw! | |
| (1, 0) 45 | Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na? |
| (Meurig) Yn aruthrol bwysig. | |
| (1, 0) 48 | 'R wy'n ceisio dyfalu weithiau, Meurig, pam y priodaist ti o gwbl. |
| (Meurig) {Yn mynd ati.} | |
| (Meurig) Ydyw pethau cynddrwg â hyn'na? | |
| (1, 0) 51 | Nid fel hyn oedd hi 'r blynyddoedd cyntaf. |
| (1, 0) 52 | Yn yr amser hwnnw fe roddet sylw i mi, yn ogystal ag i'r labordy. |
| (Meurig) Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl. | |
| (Meurig) Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl. | |
| (1, 0) 54 | Paid â gofidio cymaint. |
| (1, 0) 55 | Mae'r Awdurdodau 'n siwr o roi dy hen swydd yn ôl i ti. |
| (1, 0) 56 | Yr wyt ti'n rhy athrylithgar iddyn' nhw dy anwybyddu di o hyd. |
| (Meurig) Tybed? | |
| (Meurig) Mae'r peth yn ynfyd. | |
| (1, 0) 62 | Yr wyt ti'n rhy ddiamynedd. |
| (1, 0) 63 | Anghofia'r helynt. |
| (1, 0) 64 | Anghofia bopeth... ond bod gen ti wraig. |
| (1, 0) 66 | 'Rwy' wedi bod yn unig trwy'r dydd. |
| (Meurig) Mae gen ti dy ddiddordebau. | |
| (Meurig) Mae gen ti dy ddiddordebau. | |
| (1, 0) 68 | Efallai. |
| (1, 0) 70 | Sut wyt ti'n teimlo'n nawr? |
| (Meurig) Yn well. | |
| (Meurig) Mae problemau newydd yn codi, ac mae'n rhaid mynd ar ôl y rheiny. | |
| (1, 0) 78 | Dyna ti o hyd. |
| (1, 0) 79 | Yn rhy uchelgeisiol! |
| (1, 0) 80 | Fe all uchelgais ladd dyn gydag amser. |
| (1, 0) 82 | 'Rwy' i'n dy gael di'n ddigon, fel ag yr wyt ti. |
| (Meurig) Diolch. | |
| (Meurig) Ond mae rhyw ysfa yn fy ngorfodi i i weithio ymlaen, a churo'r lleill. | |
| (1, 0) 87 | Ac ennill beth? |
| (Meurig) Yr hen glod. | |
| (Meurig) Mi fyddi dithau ar dy ennill pan fydda' i ar fy nhraed unwaith eto. | |
| (1, 0) 92 | Tybed? |
| (1, 0) 93 | Nid wyf i'n chwennych clod... |
| (1, 0) 94 | Dim ond dy gwmni. |
| (Meurig) Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant. | |
| (Meurig) Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant. | |
| (1, 0) 96 | Yfory yw hi o hyd. |
| (1, 0) 98 | Gwell i mi fynd i'r gegin. |
| (Meurig) 'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn. | |
| (Meurig) 'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn. | |
| (1, 0) 100 | Lol! |
| (1, 0) 101 | A thra bydda' i'n paratoi'r swper 'rwyf am glywed y miwsig unwaith eto. |
| (1, 0) 102 | Mi fydd Josef draw cyn hir yn gofyn fy marn i am y record. |
| (Meurig) {Ei lais yn caledu.} | |
| (Meurig) 'Ddaw e' ddim draw heno? | |
| (1, 0) 105 | Mae e'n siwr o ddod. |
| (1, 0) 106 | Fe wyddost yn burion fel mae e'n hoffi dod draw am sgwrs bob nos cyn mynd i'r gwely? |
| (Meurig) Mae e'n ddigon o farn! | |
| (Meurig) Mae e'n ddigon o farn! | |
| (1, 0) 108 | Rwy'n teimlo trueni drosto. |
| (1, 0) 110 | Mi fyddi di'n gwrtais os daw e'? |
| (Meurig) Mae dyn yn blino ar drafod yr un hen bethau o hyd. | |
| (1, 0) 113 | Yr wyf i'n hoffi'r dyn. |
| (Meurig) Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny! | |
| (Meurig) Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny! | |
| (1, 0) 115 | Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar? |
| (Meurig) Mae dynion yn siarad. | |
| (Meurig) Tref fach yw hon. | |
| (1, 0) 118 | Gad iddyn' nhw siarad! |
| (1, 0) 119 | Beth yw'r ots? |
| (1, 0) 120 | Yr wyt ti'n deall yn iawn y berthynas sydd rhyngof i a Josef, a dim ond hynny sy'n cyfrif. |
| (Meurig) Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed. | |
| (Meurig) Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed. | |
| (1, 0) 122 | Naddo. |
| (1, 0) 123 | Mae nhw'n perthyn i'm byd i, ac yn anffodus mae hwnnw allan o'th gyrraedd di. |
| (Meurig) Am dy fod ti'n dymuno hynny. | |
| (Meurig) Am dy fod ti'n dymuno hynny. | |
| (1, 0) 125 | Nage. |
| (1, 0) 126 | Nid arnaf i mae'r bai. |
| (1, 0) 127 | 'Rwy' wedi ceisio deall dy ddiddordebau di, ond wedi methu. |
| (1, 0) 128 | Oes syndod yn hynny? |
| (1, 0) 129 | Ches i mo 'mreintio â'th allu di. |
| (1, 0) 130 | Ond beth amdanat ti? |
| (1, 0) 131 | Yr ŷm ni'n dau wedi bod yn briod wyth mlynedd... wyth mlynedd i heddi'. |
| (Meurig) Efa! | |
| (Meurig) Y labordy 'na. | |
| (1, 0) 137 | Dyna oedd dy esgus di y llynedd hefyd. |
| (1, 0) 138 | Ond paid â hidio. |
| (1, 0) 139 | Fe ges un anrheg i'm hatgoffa i o'r diwrnod braf hwnnw, wyth mlynedd yn ôl. |
| (Meurig) Beth? | |
| (Meurig) Beth? | |
| (1, 0) 141 | Y record. |
| (Meurig) Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas! | |
| (Meurig) Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas! | |
| (1, 0) 143 | Anrheg i ni'n dau. |
| (Meurig) Fe ŵyr yn burion nad wyf i'n hoffi miwsig! | |
| (Meurig) Pwy ddywedodd wrtho mai heddi' oedd y dydd? | |
| (1, 0) 147 | Efallai mai fi. |
| (1, 0) 148 | 'Wn i ddim. |
| (1, 0) 149 | Rhaid dy fod ti neu fi wedi cyfeirio at y dyddiad rywbryd neu'i gilydd yn ei gwmni. |
| (Meurig) Nid y fi. | |
| (Meurig) Nid y fi. | |
| (1, 0) 151 | Beth yw'r ots pwy? |
| (Meurig) Yr wyt ti'n dweud popeth wrth Josef. | |
| (Meurig) Yn cyfathrachu â rhyw grachach o estron sebonllyd. | |
| (1, 0) 155 | 'Dyw hyn'na ddim yn wir! |
| (Meurig) Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'? | |
| (Meurig) Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'? | |
| (1, 0) 157 | Nag wyf. |
| (1, 0) 158 | Dim ond dy ddisgrifiad rhagfarnllyd di! |
| (1, 0) 160 | Ble mae'r gwyddonydd wedi dianc heno? |
| (1, 0) 161 | Ti sydd wedi bod yn pregethu gogoniant rhesymeg ar hyd dy oes! |
| (1, 0) 162 | Yn awr yn condemnio dyn, a hynny dim ond achos dy anallu di i ffrwyno teimladau ynfyd. |
| (Meurig) Nage! | |
| (1, 0) 165 | Ond dyna hyfryd i feddwl fod gen ti deimladau o gwbl. |
| (1, 0) 166 | Oes posibl fod yna galon wedi'r cyfan yn curo o dan darian blwm y gwyddonydd niwclar? |
| (1, 0) 167 | Fe gredais hynny wyth mlynedd yn ôl. |
| (Meurig) Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion. | |
| (Meurig) Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion. | |
| (1, 0) 169 | Yr unig fyd o werth. |
| (1, 0) 170 | Byd sydd ymhell iawn o'th fyd di,... a'th fydoedd. |
| (1, 0) 172 | A luchiwyd byd bach newydd i fyny i'r gwagle heddiw? |
| (1, 0) 173 | Naddo? |
| (1, 0) 174 | Wel, wel. |
| (1, 0) 175 | Beth ych chi wedi bod yn ei wneud yn y labordy heddi'? |
| (1, 0) 176 | Yn ceisio dod o hyd i ffordd newydd, fwy effeithiol o ddifetha'r byd hwn? |
| (1, 0) 177 | Hynny efallai? |
| (Meurig) Mae Josef yn ddiweddar. | |
| (Meurig) Mae Josef yn ddiweddar. | |
| (1, 0) 179 | Fe ddaw 'nawr. |
| (1, 0) 180 | Paid â dweud dy fod ti'n awyddus i'w weld e'? |
| (Meurig) Ydwyf. | |
| (Meurig) A hynny ers misoedd bellach. | |
| (1, 0) 185 | A hynny am nad ydym yn siarad yr un iaith. |
| (1, 0) 186 | Yr wyt ti'n byw ym myd gwyddoniaeth a dinistr, a minnau ym myd celfyddyd,—y byd creadigol. |
| (Meurig) Ond heb lwyddo i greu dim. | |
| (Meurig) Pe bai gennyt blentyn efallai na chawn glywed y siarad hwn. | |
| (1, 0) 189 | Meurig! |
| (Meurig) Wel? | |
| (Meurig) Ac yr oedd yn rhaid i Josef Lobbock ddianc o'i wlad ei hun, a dod yma i freuddwydio. | |
| (1, 0) 196 | Dianc i chwilio am ryddid! |
| (Meurig) Stori ramantus... i ferch anwadal. | |
| (Meurig) Mi ddylai Josef fod wedi dal ei dir. | |
| (1, 0) 199 | A chael ei ladd! |
| (1, 0) 200 | Fe wyddost mai carchar neu farwolaeth sy'n aros Josef os aiff e 'nôl! |
| (Meurig) Efallai nad efe yw'r unig un sydd am ddianc. | |
| (1, 0) 209 | Beth... beth wyt ti'n feddwl? |
| (Meurig) Bûm yn gweithio'n hwyrach nag arfer heno. | |
| (Meurig) Am fod fy ngwaith yn y labordy wedi gorffen. | |
| (1, 0) 213 | Yr wyt ti wedi colli dy swydd! |
| (Meurig) Pam wyt ti'n dweud hyn'na? | |
| (Meurig) Ateb! | |
| (1, 0) 217 | Dim... |
| (1, 0) 218 | Dim ond dy fod ti'n grwgnach weithiau, dy fod ti'n cael cam. |
| (Meurig) Ac mae hynny'n wir. | |
| (Meurig) Ac mae hynny'n wir. | |
| (1, 0) 220 | Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr? |
| (Meurig) 'Rwyf wedi ymddeol. | |
| (Meurig) 'Rwyf wedi ymddeol. | |
| (1, 0) 222 | I ble'r ei di? |
| (Meurig) 'Rwyf heb benderfynu'n iawn. | |
| (Meurig) 'Rwyf heb benderfynu'n iawn. | |
| (1, 0) 224 | A 'nawr 'rwy' i'n cael gwybod! |
| (1, 0) 226 | Yr wy' i'n hapus 'ma. |
| (Meurig) Yn chwarae gyda'th deganau! | |
| (Meurig) Yn chwarae gyda'th deganau! | |
| (1, 0) 228 | Bod gyda'n gilydd. |
| (Meurig) Na. | |
| (Meurig) Cydwybod efallai? | |
| (1, 0) 288 | Beth am dy swper, Meurig? |
| (1, 0) 290 | Newydd ddod adre mae e'. |
| (1, 0) 291 | Efallai yr hoffech chithau rywbeth 'i fwyta? |
| (Josef) Dim, diolch yn fawr. | |
| (Josef) Ond nes ymlaen... cwpanaid o goffi... E? | |
| (1, 0) 294 | Cewch siwr. |
| (Josef) {Try at MEURIG.} | |
| (Josef) Peidiwch â dweud fy mod i wedi gwneud camsyniad? | |
| (1, 0) 333 | Naddo. |
| (1, 0) 334 | Diolch... am yr anrheg. |
| (Josef) {Try at MEURIG } | |
| (1, 0) 345 | Mae e'n bechod mawr. |
| (Josef) {Yn gwenu ac yn troi at MEURIG.} | |
| (Meurig) Beth wyt ti'n ddweud, Efa? | |
| (1, 0) 352 | Mae gen i ben tost. |
| (Meurig) Fe wellith hwn ben tost. | |
| (1, 0) 362 | Gadewch iddo chwarae. |
| (Josef) Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando. | |
| (Josef) Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando. | |
| (1, 0) 364 | Oeddwn, rywle yn fy isymwybod. |
| (Josef) {Yn gwenu.} | |
| (Josef) Fe fu yna adeg pan oeddech chi'n arfer gwrando â'ch holl feddwl. | |
| (1, 0) 367 | Y pen tost 'ma. |
| (Josef) Ydyw e'n ddrwg? | |
| (Josef) Ydyw e'n ddrwg? | |
| (1, 0) 369 | Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd. |
| (Josef) Effaith y siom? | |
| (Josef) Mae gwragedd yn disgwyl cael blodau i ddathlu dydd priodas. | |
| (1, 0) 373 | 'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith. |
| (Josef) 'Falle y carech chi i mi fynd. | |
| (Josef) Mi ddof draw nos yfory. | |
| (1, 0) 376 | Efallai na fydd yfory. |
| (Josef) {Edrych arni'n syn.} | |
| (1, 0) 380 | Dim ond gofid. |
| (1, 0) 381 | Hyd yn hyn 'rwyf wedi llwyddo i gadw 'ngofiadau o dan ddisgyblaeth,—diolch i chi a ddaeth â diddordebau newydd, pwysig i mi. |
| (1, 0) 382 | Ond heno 'wnaiff y rheiny ddim mo'r tro. |
| (Josef) Oes rhywbeth y galla" i ei wneud? | |
| (Josef) Oes rhywbeth y galla" i ei wneud? | |
| (1, 0) 384 | Dim, Josef. |
| (1, 0) 386 | Pa faint o amser ych chi wedi bod yn byw yn y pentre' 'ma erbyn hyn? |
| (Josef) Blwyddyn... na, deng mis. | |
| (Josef) Rwy' wedi colli cyfri'. | |
| (1, 0) 389 | A minnau. |
| (1, 0) 390 | Gallwn feddwl fy mod i wedi 'ch 'nabod chi erioed. |
| (1, 0) 391 | Pam tybed? |
| (Josef) Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol. | |
| (Josef) Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol. | |
| (1, 0) 393 | Ond eto i gyd fe wn i ond ychydig iawn amdanoch chi. |
| (1, 0) 394 | Dim byd am 'ch hanes chi. |
| (Josef) 'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim. | |
| (Josef) 'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim. | |
| (1, 0) 396 | Nid dyna farn y byd. |
| (1, 0) 397 | Mae'r byd... yr Awdurdodau wedi ein cofrestru ni i gyd erbyn hyn, gyda llwyddiant ein dyfodol yn dibynnu ar burdeb ein gorffennol. |
| (1, 0) 398 | 'Does dim lle i neb sydd wedi pechu yn erbyn y Wladwriaeth. |
| (1, 0) 399 | Rwy'n gwybod. |
| (1, 0) 400 | Mae Meurig wedi gorfod dioddef am iddo siarad gormod. |
| (1, 0) 401 | Dim ond unwaith. |
| (1, 0) 402 | Ond yr oedd yn ddigon.—Ond beth am 'ch hanes chi? |
| (1, 0) 404 | Yr ych chi'n gweld fel mae pethau wedi newid yn y tŷ hwn, a hynny mewn byr amser? |
| (Josef) Mae hawl gyda chi i'm holi i. | |
| (Josef) Mae hawl gyda chi i'm holi i. | |
| (1, 0) 406 | Croesholi! |
| (1, 0) 407 | Dyna fesur y ffordd yr ŷm ni wedi dod o'ch byd chi. |
| (1, 0) 408 | Yr ŷm ni yn y byd sydd o'n cwmpas ni 'nawr, y byd lle mae pawb yn drwgdybio 'i gilydd. |
| (Josef) {Erys foment.} | |
| (Josef) Mae pethau'n wahanol yma. | |
| (1, 0) 417 | 'Wn i ddim. |
| (1, 0) 418 | Mae'r labordy yma, a hwnnw yw duw mawr y gymdogaeth, yn rhoi gwaith ac yn addo'n dda. |
| (Josef) Sylwais i ddim. | |
| (Josef) Rwyf wedi treulio yr holl oriau diddan yn yr ystafell hon. | |
| (1, 0) 421 | Bywyd unig. |
| (Josef) Pan ddes i 'ma flwyddyn yn ôl, dyna pryd yr oeddwn yn ddyn unig. | |
| (Josef) Fy nghyfeillion yn Llundain wedi methu a'm cysuro ar ôl i mi golli fy ngwlad. | |
| (1, 0) 424 | Mi fyddai hynny'n ormod i'w ddisgwyl. |
| (Josef) {Ym dawel.} | |
| (Josef) Efallai ryw ddiwrnod y caf y fraint o dalu peth o'r ddyled yn ôl. | |
| (1, 0) 428 | Ond fi sydd yn 'ch dyled chi! |
| (1, 0) 429 | 'Roeddwn innau'n unig. |
| (1, 0) 430 | Chi agorodd fy llygaid i beth o ogoniant y byd 'ma. |
| (1, 0) 431 | I'r celfyddydau. |
| (1, 0) 432 | Cyn cwrdd â chi yr oeddwn yn ddall i bopeth o werth. |
| (Josef) Yr oedd y gallu i ddeall ynoch chi'n barod. | |
| (1, 0) 437 | Trist yw meddwl y daw'r dyddiau hyn i ben. |
| (1, 0) 439 | Mae Meurig yn symud. |
| (1, 0) 440 | Mae e' wedi gorffen â'i waith yn y labordy. |
| (Josef) Beth! | |
| (Josef) 'Chlywais i ddim mohonoch chi'n sôn am hyn o'r blaen. | |
| (1, 0) 443 | 'Wyddwn innau ddim tan heno. |
| (Josef) 'D... 'does dim o'i le? | |
| (Josef) 'D... 'does dim o'i le? | |
| (1, 0) 445 | Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn. |
| (Josef) Mae rhywbeth arall? | |
| (Josef) Mae rhywbeth arall? | |
| (1, 0) 447 | Oes. |
| (1, 0) 449 | Nid yw Meurig yn gallu deall... y gall dyn a merch fod yn... gyfeillion diniwed. |
| (Josef) Ni'n dau? | |
| (Josef) Ai dyna'r rheswm mae e'n mynd odd'ma? | |
| (1, 0) 453 | Beth arall? |
| (Josef) Mae hyn yn sydyn iawn. | |
| (Josef) Mae'n rhaid fod y peth ar i feddwl e' ers llawer dydd. | |
| (1, 0) 457 | Dyma'r tro cyntaf iddo ddweud yn blaen. |
| (1, 0) 458 | Nid yw ef erioed wedi bod yn rhy hoff o'm ffrindiau i. |
| (1, 0) 459 | Mae e'n ystyried pob math o artist yn ffŵl sentimental. |
| (1, 0) 460 | 'Roedd hynny'n peri difyrrwch i mi ar y dechrau, ond fe aeth chwerthin yn fwy anodd gydag amser. |
| (Josef) I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud? | |
| (Josef) I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud? | |
| (1, 0) 462 | Nid dau. |
| (1, 0) 463 | Dim ond Meurig. |
| (1, 0) 464 | Mae e' wedi penderfynu ei bod hi'n bryd i ni'n dau ymwahanu. |
| (1, 0) 465 | Onid yw'r peth yn anhygoel! |
| (1, 0) 466 | Gwallgofrwydd! |
| (Josef) O'm hachos i? | |
| (1, 0) 469 | Nage. |
| (1, 0) 470 | Mae Meurig yn credu mai chi yw ei elyn... ond ei elyn pennaf yw ef ei hun. |
| (Josef) {Yn oedi.} | |
| (Josef) Pam wy' i wedi cael croeso gyda chi i ddod i'r tŷ 'ma 'n ystod y misoedd diwetha'? | |
| (1, 0) 473 | Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau. |
| (Josef) Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig? | |
| (Josef) Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig? | |
| (1, 0) 475 | Maent y tu hwnt i'm hamgyffred. |
| (Josef) Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod? | |
| (Josef) Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod? | |
| (1, 0) 477 | Nagwyf! |
| (1, 0) 478 | Heb gydymdeimlad â Meurig fel gwyddonydd wyf i... nid fel dyn. |
| (1, 0) 480 | A fuoch chi, Josef, erioed mewn cariad? |
| (Josef) {Wedi oedi.} | |
| (Josef) Rwyf mewn cariad o hyd. | |
| (1, 0) 483 | Ble mae hi? |
| (1, 0) 484 | Dyma'r tro cyntaf i mi 'ch clywed chi'n sôn amdani! |
| (Josef) Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno. | |
| (Josef) Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno. | |
| (1, 0) 486 | Heno? |
| (Josef) {Yn oedi.} | |
| (Josef) Rwyf wedi bod yn ymladd yn i erbyn e' ers misoedd, ond heno mae'n rhaid i mi siarad. | |
| (1, 0) 494 | Na! |
| (Josef) Ni fwriedais ddweud fy nghyfrinach wrth neb fyth. | |
| (Josef) Rwyf am i chithau ddod i ffwrdd gyda fi. | |
| (1, 0) 499 | Peidiwch! |
| (Josef) Mae'n bryd i ni gyd wynebu'r ffeithiau! | |
| (Josef) Mae Meurig wedi cydnabod hynny heno. | |
| (1, 0) 503 | Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo. |
| (Josef) Nid oes 'ch angen chi ar Meurig! | |
| (Josef) Wn i ddim ar y ddaear sut y llwyddais i'm hatal fy hun rhag ymyrryd. | |
| (1, 0) 508 | Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen! |
| (Josef) 'Doedd gen i mo'r hawl. | |
| (Josef) 'Doedd gen i mo'r hawl. | |
| (1, 0) 510 | Rhaid fy mod i'n ddall... |
| (1, 0) 511 | Ond fe welodd Meurig trwy'r cyfan! |
| (Josef) Naddo! | |
| (Josef) 'Roeddech chi a Meurig yn ymbellhau oddiwrth 'ch gilydd ymhell cyn i mi ddod i'r pentref. | |
| (1, 0) 514 | Mawr fy nghywilydd i! |
| (Josef) Beth amdano fe? | |
| (Josef) Beth amdano fe? | |
| (1, 0) 516 | Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw. |
| (Josef) Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr! | |
| (Josef) Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr! | |
| (1, 0) 518 | Beth amdanoch chi, Josef? |
| (1, 0) 519 | Fe luniasoch fyd newydd ar fy nghyfer i... y byd perffaith... ond yr ych chi 'ch hunan wedi colli ffydd yn y byd hwnnw heno. |
| (1, 0) 520 | Fy chwennych i yr ych chi! |
| (Josef) I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd. | |
| (Josef) I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd. | |
| (1, 0) 522 | Mae 'ch cynllun yn rhy syml. |
| (Josef) Dyna ei ogoniant. | |
| (Josef) Dyna ei ogoniant. | |
| (1, 0) 524 | Nage. |
| (1, 0) 525 | 'Roedd anawsterau yn 'ch gwlad. |
| (1, 0) 526 | Fe ddihangsoch. |
| (1, 0) 527 | Mae gen innau anawsterau yn fy nghartref. |
| (1, 0) 528 | Yr ych chi'n cynghori dianc eto! |
| (Josef) Efa! | |
| (Josef) Nid oes ystyr i fywyd, os nad i chwilio am nefoedd fach yn rhywle. | |
| (1, 0) 532 | Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd. |
| (Josef) Felly, yr ych chi'n gwrthod? | |
| (Josef) Felly, yr ych chi'n gwrthod? | |
| (1, 0) 534 | Mae'n rhaid i fi. |
| (1, 0) 535 | Petawn i'n dianc gyda chi, mi fyddai'r misoedd diwetha' 'ma'n ddiystyr. |
| (1, 0) 536 | Ni fyddent ond llwybr i lwfrdra, a fyddai mor ddinistriol â'r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn labordy Meurig. |
| (1, 0) 537 | Mae'n cyfeillgarwch ni'n dau yn golygu llawer mwy na hynny. |
| (Josef) {Yn dawel.} | |
| (Josef) Fe gawn ffarwelio heno. | |
| (1, 0) 544 | Nid ffarwelio! |
| (Josef) Cyn daw'r chwerw. | |
| (1, 0) 548 | Ie. |
| (1, 0) 549 | Nid wyf am golli'r breuddwyd hwn. |
| (Meurig) {Edrych arnynt am foment.} | |
| (Meurig) Byd braf! | |
| (1, 0) 559 | M... mae brys ar Josef. |
| (Meurig) Amhosibl! | |
| (Meurig) Dim ond pan ffodd allan o'i wlad... ac o berygl! | |
| (1, 0) 563 | Paid, Meurig! |
| (Meurig) Oes gen i ddim hawl i'm barn? | |
| (Josef) Mae'r aelwyd 'ma'n barod i'ch croesawu chi bob amser. | |
| (1, 0) 574 | Yr wyt ti allan mor amal. |
| (Meurig) Duw Mawr! | |
| (Meurig) Mae gen ti a'r crachach hwn y wyneb i gyfathrachu â'ch gilydd, ac yna fwrw'r bai arna' i. | |
| (1, 0) 577 | Nid hynny, Meurig. |
| (Meurig) Mi ddyweda' i pam! | |
| (1, 0) 592 | Gad lonydd i bethau 'nawr, Meurig! |
| (1, 0) 593 | Ddaw dim daioni o'r siarad anweddaidd hyn. |
| (Meurig) {Yn ei hanwybyddu.} | |
| (Meurig) Ac fe roist dithau bob anogaeth iddo. | |
| (1, 0) 608 | Naddo, Meurig... |
| (1, 0) 609 | M... mae Josef yn mynd odd'ma. |
| (Meurig) Fe ddaw 'nôl. | |
| (Meurig) Llwybr Josef? | |
| (1, 0) 627 | 'Rwy'n aros fan hyn. |
| (Meurig) A pham? | |
| (Josef) Nage, Meurig. | |
| (1, 0) 645 | O... pam ddaru i chi adael? |
| (Josef) Fe fyddwch chi yn gallu deall... | |
| (Josef) Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad? | |
| (1, 0) 652 | Yna i ble'r ewch chi, Josef? |
| (Josef) {Erys foment.} | |
| (Josef) Adre. | |
| (1, 0) 655 | O nage! |
| (1, 0) 657 | Dwed wrtho, Meurig. |
| (1, 0) 658 | Fe gaiff garchar neu'i ladd os aiff e' adre! |
| (Josef) Dim ond i'r corff mae carchar, Efa. | |
| (Josef) Dim ond i'r corff mae carchar, Efa. | |
| (1, 0) 660 | Meurig! Dwed wrtho am aros! |
| (Meurig) Ei ddyletswydd yw dychwelyd adre. | |
| (Meurig) Gad iddo wneud un tro da yn ei fywyd! | |
| (1, 0) 663 | Meurig! |
| (Josef) Diolch. | |
| (Josef) {Â allan.} | |
| (1, 0) 668 | Josef! |
| (Meurig) {Ei lais wedi tyneru.} | |
| (1, 0) 675 | Yn eitha' siŵr. |
| (Meurig) Ond yr wyt ti 'n 'i garu e'. | |
| (Meurig) Mewn diwydiant! | |
| (1, 0) 691 | Cei. |
| (Meurig) Dere gyda mi! | |
| (Meurig) Dechrau o'r newydd. | |
| (1, 0) 694 | Na, Meurig. |
| (Meurig) Josef! | |
| (Meurig) Josef! | |
| (1, 0) 696 | Nid Josef. |
| (1, 0) 697 | Ti! |
| (1, 0) 698 | Hanner awr yn ôl 'ro'wn yn dy gasâu di fel gwyddonydd. |
| (1, 0) 699 | Ar ôl dy siarad di gynnau fach, 'rwy'n dy gasâu di fel dyn! |
| (Meurig) Nid oedd Josef yn haeddu gwell! | |
| (Meurig) Nid oedd Josef yn haeddu gwell! | |
| (1, 0) 701 | Dyna'n union pam yr wy'n dy gasâu di! |
| (1, 0) 702 | 'Rwyt ti heb newid dim. |
| (1, 0) 703 | Cer! |