| (Y Ddewines Gyntaf) Pa bryd y down ni eto'n tair | |
| (Y Tair) Trown uwchben drwy darth a gwyll. | |
| (1, 2) 27 | Pwy yw hwn sydd yn ei waed? |
| (1, 2) 28 | A barnu wrth ei lun, gallai ef roi gwybod i ni beth fu tro olaf y frwydr. |
| (Malcolm) Y Rhingyll ydyw, a fu fel milwr da, yn ymladd rhag fy nghaethiwo i. | |
| (Y Rhingyll) Ac ni roes iddo nawdd na'i adael ychwaith, cyn ei agor o geg i geudod, a dodi ei ben ar frig ein muriau ni. | |
| (1, 2) 36 | O, gâr dewr a gwrda teilwng! |
| (Y Rhingyll) Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle bo'r haul yn dechrau tywynnu, felly, o'r fan lle'r oedd cysur fel pe'n dyfod, dyna anghysur yn ymchŵyddo eto. | |
| (Y Rhingyll) Dal di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder ac arfau dewrder i'r cnafon hyn ymddiried yn eu sodlau nad dyma'r Arglwydd o Norwy, o weld y cyfle, yn dechrau rhuthr newydd ag arfau gloywon a rhagor o ddynion. | |
| (1, 2) 39 | Oni pharodd hynny ddigalonni'n Capteiniaid Macbeth a Banguo? |
| (Y Rhingyll) Do, fel y bydd adar to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew. | |
| (Y Rhingyll) Felly, yr oeddynt yn dwbl ddyblu eu hergydion ar y gelyn; naill ai bod eu bryd ar ymdrochi mewn gwaed, neu ynteu beri cofio Golgotha arall—ni fedraf adrodd—'rwy'n gwanhau a'm clwyfau'n llefain am gynhorthwy. | |
| (1, 2) 43 | Cystal y gwedd d'eiriau arnat ag y gwedd dy glwyfau; y mae anrhydedd yn y naill a'r lleill. |
| (1, 2) 44 | Ewch, cyrcher meddyg ato. |
| (1, 2) 46 | Pwy yw hwnacw? |
| (Malcolm) Teilwng Bendefig Ross. | |
| (Ross) Duw a'th gadwo, Frenin! | |
| (1, 2) 52 | O ba le y daethost, deilwng bendefig? |
| (Ross) O Ffiff, Arglwydd, lle y mae banerau Norwy yn herio'r wybren ac yn gwyntyllio'n pobl yn oerion. | |
| (Ross) Dechreuodd Brenin Norwy gyda hylltod o wŷr, a'r bradwr anffyddlonaf hwnnw, pendefig Cawdor, yn gefn iddo, ar ymgyrch ffyrnig, hyd nes mynd Macbeth i'w wynebu'n gyfartal ag yntau, gan ddofi ei ysbryd gwyllt, ac o'r diwedd, syrthiodd y fuddugoliaeth i ni. | |
| (1, 2) 55 | Llawenydd mawr! |
| (Ross) Felly bellach y mae Brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau, ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin. | |
| (Ross) Felly bellach y mae Brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau, ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin. | |
| (1, 2) 57 | Ni chaiff Pendefig Cawdor fyth mwy ein twyllo am ein lles, ewch ac erchwch ei ladd rhag blaen, ac â'r teitl a ddygai ef gynt, cyferchwch Macbeth. |
| (Ross) Gofalaf am hynny. | |
| (Ross) Gofalaf am hynny. | |
| (1, 2) 59 | Y peth a gollodd ef, fe'i henillodd Macbeth urddasol. |