| (Tom) Hen bethau di-ddim. | |
| (Ann) Os wnewch chi fy esgusodi i am eiliad. | |
| (1, 0) 267 | Wrth gwrs, Mrs James, popeth yn iawn. |
| (1, 0) 269 | Nawr Mr Edwards, beth yn hollol sy'n bod? |
| (Tom) Rwy'n sâl. | |
| (1, 0) 272 | Ie, rwy'n deall hynny ond allwch chi fod ychydig bach mwy manwl? |
| (Tom) Wel, ma'n nhrwyn i yn rhedeg fel tap ac ma' mhen i bron â hollti'n ddau. | |
| (Tom) Hefyd, ma' ngwddwg i'n crafu... | |
| (1, 0) 275 | Dywedwch 'A'. |
| (Tom) Aaaaa! | |
| (Tom) Aaaaa! | |
| (1, 0) 277 | Rhywbeth arall? |
| (Tom) Mae gen i boen fan hyn... | |
| (Tom) Fyddai byth yn cael poen mor bell lawr â hynna. | |
| (1, 0) 290 | Rhywbeth arall? |
| (Tom) Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon? | |
| (Tom) Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon? | |
| (1, 0) 292 | Wel, Mr Edwards, dw i ddim yn credu fod eisiau i chi boeni'n ormodol. |
| (1, 0) 293 | O'r hyn dech chi'n ei ddweud, mae'n edrych yn o debyg eich bod chi wedi cael dôs go iawn o annwyd ─ dyna'r cyfan. |
| (Tom) Rwy'n gwybod mai annwyd yw e' ─ does dim angen bod yn ddoctor i wybod hynny. | |
| (Tom) Y cwestiwn yw, beth dech chi'n mynd i wneud ynglŷn â'r peth? | |
| (1, 0) 296 | Wel, mi faswn i yn eich cynghori i aros yn y gwely... |
| (Tom) Aros yn fy ngwely! | |
| (Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd ddydd Sadwrn. | |
| (1, 0) 299 | Dydd Sadwrn? |
| (Tom) I weld y gêm rygbi ryngwladol. | |
| (Tom) I weld y gêm rygbi ryngwladol. | |
| (1, 0) 301 | O! |
| (1, 0) 302 | Wel, fydden i ddim yn eich cynghori... |
| (Tom) Mae mab Gerallt Lloyd, Pencwm, yn chwarae. | |
| (Tom) Ei gap cyntaf dros ei wlad. | |
| (1, 0) 305 | Neis iawn rwy'n siŵr, ond... |
| (Tom) Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn. | |
| (Tom) Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn. | |
| (1, 0) 307 | Do, rwy'n siŵr, ond... |
| (Tom) Un o'r seddi gorau ar y maes. | |
| (Tom) Dim byd ond y gorau i'w ffrind Tom. | |
| (1, 0) 310 | Wel Mr Edwards, os ydych chi'n dewis anwybyddu fy nghyngor... |
| (Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd yno. | |
| (Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd yno. | |
| (1, 0) 312 | Eich penderfyniad chi yw e' wrth gwrs. |
| (1, 0) 313 | Fedra i byth eich rhwystro chi rhag mynd. |
| (Tom) Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te? | |
| (Tom) Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te? | |
| (1, 0) 315 | I pa bwrpas? |
| (Tom) Dyw hi ddim yn fodlon i mi fynd chwaith. | |
| (Tom) Ieuan Pencwm yn ennill ei gap cyntaf ─ ac mae pawb eisiau i mi aros yn y gwely drwy'r dydd! | |
| (1, 0) 318 | Dyna fyddai orau. |
| (Tom) Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely... | |
| (Tom) Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely... | |
| (1, 0) 320 | Fel y dywedais i eisoes Mr Edwards, dim fy lle i yw eich rhywstro rhag mynd... |
| (Tom) Diolch yn fawr, Doctor. | |
| (Tom) Diolch yn fawr, Doctor. | |
| (1, 0) 322 | Ond ar y llaw arall, rhaid i mi gynghori eich merch fod e'n beth peryglus iawn i'w wneud o ystyried eich cyflwr a'ch oedran. |
| (Tom) Beth? | |
| (Tom) Ond Doctor...? | |
| (1, 0) 325 | Rhaid i chi aros yn eich gwely yn amyneddgar a rhoi'r cyfle i natur wneud ei waith. |
| (Tom) Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig? | |
| (Tom) Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig? | |
| (1, 0) 327 | Does dim byd y galla i ei wneud. |
| (Tom) Dyw hyn ddim digon da. | |
| (Tom) Rwy wedi talu fy National Insurance ar hyd y blynyddoedd. | |
| (1, 0) 330 | Ond does... |
| (Tom) Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin. | |
| (Tom) Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin. | |
| (1, 0) 332 | Dim o gwbwl. |
| (1, 0) 333 | Y gwir amdani yw nad oes yna ddim byd ar gael i wella annwyd ar hyn o bryd. |
| (Tom) Mae rhaid fod yna rhywbeth? | |
| (Tom) {Mae Tom yn pesychu'n drwm.} | |
| (1, 0) 336 | Diar mi, Mr Edwards, mae'r peswch yna yn un cas. |
| (1, 0) 337 | Gwell i chi gymryd un o rhain. |
| (Tom) Ydyn nhw'n gwella annwyd? | |
| (1, 0) 340 | Na, ond mi fyddan nhw'n help i wella'r peswch 'na. |
| (1, 0) 341 | Cymerwch un. |
| (Tom) {Yn gwneud hynny.} | |
| (Tom) {Dangos tin o bils i'r Doctor.} | |
| (1, 0) 347 | Dech chi erioed yn defnyddio rhain? |
| (Tom) Wel... | |
| (Tom) Ydw. | |
| (1, 0) 350 | Wyddwn i ddim eu bod nhw'n dal i wneud nhw. |
| (Tom) Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn. | |
| (Tom) Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn. | |
| (1, 0) 352 | Hen bethau sur sy'n gwneud mwy o ddrwg nag o les. |
| (Tom) Dech chi'n meddwl? | |
| (Tom) Dech chi'n meddwl? | |
| (1, 0) 354 | Yn bendant i chi. |
| (1, 0) 355 | Y bin sbwriel ─ dyna'r peth gorau i wneud â rheina. |
| (Tom) Ond... | |
| (1, 0) 359 | Nawr, gadewch i ni weld beth arall sydd yma. |
| (1, 0) 361 | Mae hwnna'n stwff reit dda... |
| (1, 0) 362 | A hwnna... |
| (1, 0) 363 | Ddylech chi ddim defnyddio hwnna... |
| (1, 0) 364 | A dyw hwn fawr o werth... |
| (1, 0) 365 | Na hwnna chwaith... |
| (1, 0) 367 | A wn i ddim beth yw hon. |
| (Tom) {Ceisio atal y Doctor rhag ei thaflu i'r bin, ond yn methu.} | |
| (1, 0) 371 | Dyna ni, Mr Edwards. |
| (1, 0) 372 | Dyna gael gwared â'r rheina. |
| (Tom) Ond Doctor... | |
| (Tom) Ond Doctor... | |
| (1, 0) 374 | Gormod o ddim nid yw'n dda, yntê? |
| (1, 0) 376 | Nawr, peidiwch â chymryd mwy o foddion nag sydd rhaid. |
| (1, 0) 377 | Mae hynny'n bwysig. |
| (1, 0) 378 | Hefyd, mae'n bwysig iawn cadw'n gynnes. |
| (Tom) Dim ond cadw'n gynnes? | |
| (Tom) Dim ond cadw'n gynnes? | |
| (1, 0) 380 | Cadw'n gynnes yn y gwely, Mr Edwards. |
| (1, 0) 381 | Mi ddo' i'ch gweld ddechrau'r wythnos nesaf. |
| (1, 0) 382 | Rwy'n siŵr y byddwch yn well erbyn hynny. |
| (Tom) Ond beth am Ann? | |
| (Tom) Ond beth am Ann? | |
| (1, 0) 384 | Rydech chi'n ffodus iawn fod eich merch yma i ofalu ar eich hôl. |
| (1, 0) 385 | Cofiwch hynny Mr Edwards. |
| (1, 0) 386 | Os bydd unrhyw newid, dim ond galwad ffôn sydd angen. |
| (Tom) Ond Doctor, wyddoch chi faint yw gwerth tocyn i gêm rygbi rhyngwladol? | |
| (Tom) Byddai rhai bobol yn fodlon rhoi ffortiwn fach am gael un. | |
| (1, 0) 389 | Efallai wir, ond mae iechyd yn beth amhrisiadwy. |
| (1, 0) 390 | Cofiwch hynny hefyd, Mr Edwards. |
| (1, 0) 391 | Dydd da. |