| (Harmonia) Yli! | |
| (Nicias) A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"! | |
| (0, 1) 150 | Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill. |
| (Nicias) Sut wyddoch chi? | |
| (Nicias) Sut wyddoch chi? | |
| (0, 1) 152 | Ro'n i'n digwydd sefyll ar y gornel yn y fan acw, a'ch clywed chi. |
| (0, 1) 153 | Rhywun wedi sathru'ch corn yn amlwg. |
| (Nicias) Merched, w'chi. | |
| (Nicias) Mi ydw i wedi dweud erioed, dydyn nhw ddim 'run fath â ni ddynion. | |
| (0, 1) 158 | Nac ydyn, mae'n debyg! |
| (Nicias) A dydy heddiw ddim wedi bod yn ddiwrnod lwcus imi o gwbwl. | |
| (Nicias) Ac yn ail, mi ydw i newydd glywed fod y wraig yn mynd i ddal y dorth ymhell. | |
| (0, 1) 162 | Yn beth? |
| (Nicias) Wedi llyncu pry. | |
| (Nicias) {Gwna ystum i ddisgrifio beichiogrwydd} | |
| (0, 1) 168 | O, rwy'n gweld. |
| (0, 1) 169 | Llongyfarchion. |
| (Nicias) Llongyfarchion? | |
| (Nicias) Cario'r bag yna? | |
| (0, 1) 186 | Welais i erioed wlad mor dlos â hon. |
| (0, 1) 187 | Mwynder môr a mynydd. |
| (0, 1) 188 | Mae hi wedi fy swyno'n llwyr. |
| (0, 1) 189 | Rhaid dy fod yn ei charu hi â'th holl galon. |
| (Nicias) Beth? | |
| (Nicias) Cil-dwrn, fel tae.... | |
| (0, 1) 198 | Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas? |
| (Nicias) Athen? | |
| (Nicias) Be ydach chi'n i ddweud? | |
| (0, 1) 205 | Sothach! |
| (Nicias) Tybed? | |
| (Nicias) Rydach chi'n arbenigwr ar win, yn amlwg? | |
| (0, 1) 210 | Felly maen nhw'n dweud. |
| (0, 1) 211 | Beth ydy d'enw di? |
| (Nicias) Nicias, Syr. | |
| (Nicias) Ond Nic mae pawb sy'n fy nabod i'n fy ngalw i. | |
| (0, 1) 214 | Rwy'n gweld. |
| (0, 1) 216 | Rwy'n bryderus iawn ynghylch Athen, Nicias. |
| (Nicias) O? | |
| (Nicias) O? | |
| (0, 1) 218 | Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath. |
| (Nicias) Cytuno'n llwyr. | |
| (Nicias) Effaith y rhyfel felltith yma, w'chi. | |
| (0, 1) 224 | Ia siwr. |
| (0, 1) 225 | Ond nid at y sefyllfa economaidd yn unig roeddwn i'n cyfeirio. |
| (0, 1) 226 | Beth am y gymdeithas a'i diwylliant enaid y genedl, os mynni di? |
| (Nicias) Dydw i ddim wedi meddwl rhyw lawer am betha felly, Syr. | |
| (Nicias) Yn reit hoff o ddrama hefyd, ond iddi beidio â bod yn rhy anodd. | |
| (0, 1) 231 | Felly! |
| (0, 1) 232 | Diddorol. |
| (0, 1) 233 | Mae'n dda gen'i glywed hynna. |
| (Nicias) Beth amdani, Syr? | |
| (Nicias) Ga' i gario'ch bag chi? | |
| (0, 1) 236 | O'r gora. |
| (0, 1) 237 | Mae o'n drwm, cofia. |
| (0, 1) 238 | Cymer ofal ohono. |
| (Nicias) Peidiwch â phoeni. | |
| (Côr) Er gwaetha gwae y rhyfel. | |
| (0, 1) 273 | Wedi blino? |
| (Nicias) Go lew. | |
| (Nicias) Mi hoffwn i gael sbelan fach am funud os medrwch chi sbario'r amser. | |
| (0, 1) 276 | Wrth gwrs. |
| (0, 1) 277 | Does dim brys. |
| (0, 1) 278 | Cyfle imi gael gweld dipyn ar y sgwâr. |
| (0, 1) 279 | Mi ddo i'n ôl yn y man. |
| (Pobl Ifainc) Gormes! | |
| (Pobl Ifainc) Gwarth! | |
| (0, 1) 291 | Beth oedd y cyffro yna? |
| (0, 1) 292 | Pwy oedd y dynion? |
| (0, 1) 293 | Wyddost ti? |
| (Nicias) Plismyn am wn i. | |
| (Nicias) Plismyn am wn i. | |
| (0, 1) 295 | A'r carcharor? |
| (Nicias) Lleidar reit siwr. | |
| (Nicias) Mae nhw'n tyrru i fan'no ar bob Gŵyl Ddrama, w'chi. | |
| (0, 1) 299 | Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro? |
| (Nicias) Dim byd gwell i' wneud, w'chi. | |
| (Nicias) Torri eu gwalltia hir a'u criba nhw! | |
| (0, 1) 305 | Tybed? |
| (0, 1) 306 | Wn i ddim beth i' feddwl. |
| (0, 1) 308 | Mae'n lecsiwn yma rwy'n deall. |
| (Nicias) Ydy, wrth gwrs! | |
| (Nicias) Wedi cael llond bol a deud y gwir. | |
| (0, 1) 313 | Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi. |
| (Nicias) Dydw i ddim yn deall, Syr. | |
| (Nicias) Dydw i ddim yn deall, Syr. | |
| (0, 1) 315 | Hida befo... |
| (0, 1) 316 | Yn ôl a glywais i mi fydd areithio yma gyda hyn. |
| (0, 1) 317 | Cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn dwad i'r Sgwâr yma i siarad. |
| (Nicias) Y ddau yn addo'r byd reit siwr. | |
| (Nicias) Llefarydd y Democratiaid brwd — plaid y Chwith. | |
| (0, 1) 347 | Felly! |
| (0, 1) 348 | Be fydd ganddo fo i ddweud sgwn i? |
| (Cadmos) Atheniaid a chymrodyr! | |
| (Nicias) Dyn o anianawd nionyn. | |
| (0, 1) 373 | O? |
| (Cleon) Gyfeillion mi wn i am y pryderon sy'n llethu'ch ysbryd. | |
| (Nicias) Pwt barddonllyd rwan! | |
| (0, 1) 393 | Sut wyddost ti? |
| (Nicias) Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd. | |
| (Cleon) Am gynhesrwydd cariad mam! | |
| (0, 1) 414 | Denwr dagrau da! |
| (Nicias) Ia. | |
| (Nicias) Ceidwadwr rhonc. | |
| (0, 1) 461 | Rwy'n gweld. |
| (0, 1) 462 | Diddorol. |
| (Côr A) Rhydd i bob dyn ei farn, | |
| (Côr B) Plaid elw glwth; Plaid busnes calon-galed. | |
| (0, 1) 516 | Wel, beth wyt ti'n i feddwl? |
| (Nicias) Yn y niwl. | |
| (Nicias) Dyna'u hanes nhw erioed. | |
| (0, 1) 522 | Ond beth sydd i ddwad o Athen? |
| (Nicias) O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut. | |
| (Nicias) O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut. | |
| (0, 1) 524 | Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol? |
| (Llais) Dalier sylw. | |
| (Côr B) Fod Deddf uwchlaw Cyfiawnder. | |
| (0, 1) 557 | Aros funud. |
| (Nicias) Reit, Syr. | |
| (Nicias) Reit, Syr. | |
| (0, 1) 560 | Esgudowch fi, gyfeillion. |
| (0, 1) 561 | Ymwelydd ydw i ar wyliau yn Athen... |
| (0, 1) 563 | Ga'i ofyn eich barn, os gwelwch yn dda?... |
| (0, 1) 564 | Y peth yma a'r peth arall...? |
| (0, 1) 565 | Y sefyllfa'n gyffredinol yn Athen ac yn y blaen...? |
| (0, 1) 566 | Eich barn ynonest...? |
| (Un o'r Grŵp) {Prin godi ei ben} | |
| (Un o'r Grŵp) Be? | |
| (0, 1) 569 | Dyfodol Athen?... |
| (0, 1) 570 | Beth am Socrates? |
| (Dyn 1) {Taflu ei gardiau i lawr} | |
| (Dyn 2) Reit, twrn pwy ydy hi? | |
| (0, 1) 590 | Hanner munud, rhen wraig. |
| (0, 1) 591 | Ga 'i air, os gwelwch yn dda? |
| (Hen Wraig) {Mae braidd yn fyddar} Be ddwedsoch chi? | |
| (0, 1) 594 | Beth ydych chi'n 'i feddwl o'r sefyllfa bresennol? |
| (Hen Wraig) Pwy ydach chi, deudwch? | |
| (Hen Wraig) Dyn y Llywodraeth? | |
| (0, 1) 597 | Dim o gwbwl — |
| (Hen Wraig) {Mae'n amlwg nad yw'n deall, ac â ymlaen i fwmial ei chŵyn.} | |
| (Hen Wraig) Ac eto'n hanner llwgu. | |
| (0, 1) 605 | Tewch â dweud —! |
| (Hen Wraig) Ac yn fferru gyda'r nos heb dewyn o dân. | |
| (Hen Wraig) Mi ddylen ni gael ein trin fel pobol nid fel sbwriel wedi cael ei daflu ar y domen. | |
| (0, 1) 610 | Cytuno'n llwyr... |
| (0, 1) 611 | Beth ydy'ch barn chi am Socrates? |
| (Hen Wraig) {Nid yw wedi deall eto} | |
| (Hen Wraig) Be? | |
| (0, 1) 614 | Socrates — mae o yn y Ddalfa. |
| (Hen Wraig) {Pesychu} | |
| (Hen Wraig) Digon gwir! | |
| (0, 1) 629 | Eich pardwn, Syr. |
| (Dyn Busnes) Ia? | |
| (Dyn Busnes) Ia? | |
| (0, 1) 631 | Cwestiwn ne ddau, os gwelwch yn dda. |
| (Dyn Busnes) Wel, rwy' i braidd yn brysur ond — | |
| (Dyn Busnes) Wel, rwy' i braidd yn brysur ond — | |
| (0, 1) 633 | Wna i mo'ch cadw chi'n hir. |
| (0, 1) 634 | Rwy'i yma ar ymweliad, ac yn awyddus i gasglu hynny o wybodaeth ag sy bosib am Athen. |
| (Dyn Busnes) Sut fedra i eich helpu? | |
| (Dyn Busnes) Sut fedra i eich helpu? | |
| (0, 1) 636 | Beth yw eich barn am y sefyllfa'n gyffredinol? |
| (Dyn Busnes) Dydy petha ddim mor ddrwg. | |
| (Dyn Busnes) Ond dyna ydy bywyd onide? | |
| (0, 1) 642 | Mae Socrates yn y Ddalfa. |
| (Dyn Busnes) Felly ro'n i'n clywed. | |
| (0, 1) 652 | Maddeuwch i mi, ga' i ofyn sut mae hi ar y gweithwyr yn Athen y dyddia yma? |
| (Gweithiwr 1) Yn y lle cynta, rydych chi'n ddiolchgar os medrwch chi sgoi mynd i'r rhyfel. | |
| (Gweithiwr 2) Mae'n anodd drybeilig, wyddoch chi. | |
| (0, 1) 656 | Rydych chi'n lwcus, yn amlwg? |
| (Gweithiwr 1) Rydan ni'n iawn, ydan, diolch yn fawr! | |
| (Gweithiwr 2) Pawb drosto'i hun, 'te Jac! | |
| (0, 1) 659 | Mae Socrates yn y Carchar. |
| (Gweithiwr 1) O? Blydi ffŵl, pwy bynnag ydi o. | |
| (Gweithiwr 1) Mi fydd dyn biau'r drol yn tantro eto! | |
| (0, 1) 666 | Maddeuwch i mi, os gwelwch yn dda. |
| (Merch) Ia, cariad? | |
| (0, 1) 669 | Ga i ofyn eich barn am y sefyllfa yn Athen? |
| (Merch) Dim yn llewyrchus iawn ar hyn o bryd, cariad. | |
| (Merch) Rhywbeth arall fedra 'i wneud ichi cariad? | |
| (0, 1) 676 | Na, dim, diolch yn fawr ichi. |
| (Merch) Croeso, cariad. | |
| (Merch) Hanner munud cariad. | |
| (0, 1) 682 | Ia? |
| (Merch) {Cyfrinachol} | |
| (Merch) Da boch, cariad. | |
| (0, 1) 691 | Ga' i air bach, os gwelwch yn dda? |
| (0, 1) 692 | Beth ydy barn yr ifanc? |
| (Llanc) Mae mynegi barn onest yn Athen yn beryglus, heddiw. | |
| (Llanc) Mae rhai ohonon ni yn y carchar yn barod. | |
| (0, 1) 697 | Atheniaid! |
| (Côr) Na, na Ddieithryn, ofer gofyn dim i ni | |
| (0, 1) 728 | Na, siomedig braidd... |
| (0, 1) 729 | Dwed i mi, beth wyt ti'n 'i feddwl o'r sefyllfa yn Athen? |
| (Nicias) Fi? | |
| (Nicias) Wel... | |
| (0, 1) 732 | Ond rwy i wedi gofyn y cwestiwn yna i ti o'r blaen, on'do. |
| (0, 1) 733 | A siomedig oedd d'ateb dithau hefyd, os wy'n cofio. |
| (Nicias) Mater o farn ydy hynny, 'te? | |
| (Nicias) Mater o farn ydy hynny, 'te? | |
| (0, 1) 735 | Fy marn i ydy mai tipyn o wag wyt tl. |
| (0, 1) 736 | Tipyn o walch. |
| (0, 1) 737 | Does yna fawr o ddim yn dy boeni os cei di lond dy fol o fwyd, a digon o win, ac amrywiol bleserau dy wely. |
| (Nicias) Dwy' i ddim yn honni mod i'n wahanol i'r mwyafrif o ddynion, w'chi... | |
| (Nicias) Mi ydw i'n cydymdeimlo. | |
| (0, 1) 744 | Tyrd yma am funud. |
| (0, 1) 746 | Pwy wyt ti'n 'i feddwl ydw i? |
| (Nicias) Dim syniad yn y byd. | |
| (Nicias) Dim syniad yn y byd. | |
| (0, 1) 748 | Celwydd! |
| (Nicias) Be —? | |
| (Nicias) Be —? | |
| (0, 1) 750 | Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna. |
| (Nicias) Fi? Tawn i byth o'r fan yma! | |
| (Nicias) Fi? Tawn i byth o'r fan yma! | |
| (0, 1) 752 | Nicias! |
| (Nicias) Wel, dim ond rhyw led-godi congol y caead. | |
| (Nicias) Wnes i mo'i agor o fel 'tae. | |
| (0, 1) 755 | Wnawn ni ddim hollti blew yn 'i gylch. |
| (0, 1) 756 | Wel, pwy wyt ti'n 'i feddwl rydw i? |
| (Nicias) {Ar ôl dyfalu ychydig.} | |
| (Nicias) Mi ydw i'n meddwl, te... | |
| (0, 1) 759 | Ia? |
| (Nicias) Mi ydw i'n meddwl mai trafaeliwr ydach chi. | |
| (Nicias) Iawn, Syr? | |
| (0, 1) 764 | Dim yn hollol. |
| (0, 1) 765 | Ond mae yna rywfaint o gysylltiad. |
| (Nicias) Does gen i ddim syniad, w'chi. | |
| (Nicias) Does gen i ddim syniad, w'chi. | |
| (0, 1) 767 | Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti. |
| (Nicias) Ydw... | |
| (0, 1) 771 | Na, nid hynny chwaith. |
| (0, 1) 772 | Ond mae yna gysylltiad eto... |
| (0, 1) 774 | Rwyt ti wedi tyngu yn f'enw i lawer tro. |
| (0, 1) 775 | A'i sibrwd yn awchus-ddiolchgar wrth agor potel o win... |
| (0, 1) 776 | Edrych ar honna sydd yn dy boced. |
| (Nicias) {Yn tynnu potel allan o'i boced} | |
| (Nicias) Hon? | |
| (0, 1) 779 | Be ydy'r enw sydd arni? |
| (Nicias) {Darllen} | |
| (Nicias) Duw y Gwin a- a- | |
| (0, 1) 786 | A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias. |
| (0, 1) 790 | Does dim angen y sioe ymgreinio yna. |
| (0, 1) 791 | Fe ddylet wybod mai fi yw'r lleiaf deddfol o'r duwiau. |
| (0, 1) 792 | Y mwyaf eangfrydig. |
| (0, 1) 793 | A'r parotaf i ddeall amrywiol wendidau'r natur-ddynol. |
| (Nicias) Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod... | |
| (Nicias) Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod... | |
| (0, 1) 795 | Gad inni ddeall ein gilydd. |
| (0, 1) 796 | Dwyt ti ddim i sôn am hyn wrth neb. |
| (0, 1) 797 | Mi gadwn ni'r gyfrinach i ni'n dau. |
| (0, 1) 798 | Gwas a meistr fyddwn ni o hyd. |
| (0, 1) 799 | Ydy hynna'n glir? |
| (Nicias) Yn berffaith glir, Syr. | |
| (Nicias) Peidiwch â phryderu. | |
| (0, 1) 802 | O'r gorau... |
| (0, 1) 803 | Eto i gyd, fel y dwedais i o'r blaen, mae gen i achos pryder. |
| (Nicias) |Chi| o bawb, Syr? | |
| (Nicias) |Chi| o bawb, Syr? | |
| (0, 1) 805 | Ia. |
| (0, 1) 806 | Fel y gwyddost ti cymeriad digon cellweirus ydw i, ac yn draddodiadol siriol. |
| (0, 1) 807 | Serch hynny, mae yna un peth yn fy mhoeni. |
| (Nicias) Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn? | |
| (Nicias) Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn? | |
| (0, 1) 809 | Tynged Athen, Nicias. |
| (Nicias) O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna. | |
| (Nicias) O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna. | |
| (0, 1) 811 | Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya. |
| (Nicias) O? Pwy felly? | |
| (0, 1) 815 | Sytha! |
| (0, 1) 817 | Mae dy ymddygiad di'n nodweddiadol o Athen. |
| (0, 1) 818 | Llipa, difater a di-asgwrn cefn. |
| (0, 1) 819 | Dyna'r peryg mwya, nid y Sbartiaid. |
| (0, 1) 820 | Ond mae'r difrawder yna fel afiechyd drwy'r Ddinas... |
| (0, 1) 821 | Yr unig lygedyn o obaith a welais i oedd protest yr ifainc. |
| (Nicias) Tybed, d'wch? | |
| (Nicias) Stwrllyd ac anghyfrifol — | |
| (0, 1) 824 | Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di? |
| (Nicias) Dim o gwbwl. | |
| (Nicias) Y ffaith ydi, mae'r busnes politicaidd yma ymhell uwch fy mhen i. | |
| (0, 1) 827 | Esgus da am beidio â gwneud dim! |
| (Nicias) Wel, os ydy'r sefyllfa'n eich poeni chi gymaint â hynny, Syr — maddeuwch imi am ofyn — fedrwch chi mo'i newid hi? | |
| (Nicias) Hynny ydi, gan eich bod chi, wel, yr hyn ydach chi. | |
| (0, 1) 830 | Yn anffodus, fedra i ddim ymyrryd yn uniongyrchol, Nicias. |
| (0, 1) 831 | Rhyw dduw bach digon od ydw i. |
| (0, 1) 832 | A mae yna derfyn pendant ar f'awdurdod a'm dylanwad. |
| (Nicias) Mae'r rhagolygon yn bur bethma felly? | |
| (Nicias) Andros o broblem ddwedwn i. | |
| (0, 1) 835 | Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i. |
| (Nicias) Pa ffordd ydy honno, Syr? | |
| (Nicias) Pa ffordd ydy honno, Syr? | |
| (0, 1) 837 | Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus. |
| (Nicias) O? Ga'i ofyn ble? | |
| (Nicias) {Saib ennyd.} | |
| (0, 1) 840 | I Hades. |
| (Nicias) Hades? | |
| (Nicias) Arswyd y byd, be wnewch chi yn y fan honno? | |
| (0, 1) 843 | Fedra i ddim datguddio'r cynllun ar hyn o bryd. |
| (0, 1) 844 | Ond dyna'r unig obaith, hyd y gwelaf, i achub Athen. |
| (0, 1) 845 | Ddoi di efo fi, Nicias? |
| (Nicias) Fi? | |
| (Nicias) Fi? | |
| (0, 1) 847 | I gario hwnna. |
| (Nicias) Hynny ydy — | |
| (0, 1) 851 | Rwy'n credu bod modd trefnu hynny. |
| (0, 1) 852 | Ystumio'r rheolau ryw chydig... |
| (0, 1) 853 | Wel, ddoi di? |
| (Nicias) Gofyn go fawr, Syr. | |
| (Nicias) Rhaid imi gael amser i feddwl. | |
| (0, 1) 856 | Wrth gwrs, rwy'n deall... |
| (0, 1) 857 | Edrych yma, rwy 'i am d'adael di am ychydig. |
| (0, 1) 858 | Rhaid imi roi dillad gweddus i ymweld â Hades. |
| (0, 1) 859 | Hwyrach y byddi di wedi penderfynu erbyn y dof yn ôl. |
| (Nicias) Wel, mi dria i 'ngora. | |
| (Nicias) Wel, mi dria i 'ngora. | |
| (0, 1) 861 | Da iawn... |
| (0, 1) 862 | Fydda i ddim yn hir. |
| (Nicias) {Eistedd yn araf} | |
| (0, 2) 992 | Cael tipyn o hwyl? |
| (0, 2) 994 | Wel, Nicias, dyma fi wedi dwad yn f'ôl. |
| (0, 2) 995 | Wyt ti wedi penderfynu? |
| (Nicias) Do, syr. | |
| (Nicias) Mae'n bur ddrwg gen i. | |
| (0, 2) 1004 | Mae'n bur ddrwg gen innau hefyd, Nicias. |
| (0, 2) 1005 | Wyt ti'n siwr nad oes arnat ti ddim ofn? |
| (0, 2) 1006 | Mi allaf dy sicrhau di — |
| (Nicias) Ofn? Fi? | |
| (Nicias) Rhyngoch chi a fi a'r wal, Syr, onibai am Iris — | |
| (0, 2) 1011 | Iris? |
| (Nicias) Y wraig. | |
| (Nicias) Y wraig. | |
| (0, 2) 1013 | O! |
| (Nicias) Onibai amdani hi, mi fuaswn efo chi fel saeth. | |
| (Nicias) Mi wyddoch fel mae'r merched yma. | |
| (0, 2) 1022 | Hon ydy hi? |
| (Nicias) Iris! | |
| (Iris) Dim symudiad i chwilio am waith i ennill cyflog i fwydo dy blant di. | |
| (0, 2) 1029 | Esgusodwch fi, rwy' i wedi cynnig gwaith i'ch gŵr. |
| (0, 2) 1030 | Ond chwarae teg iddo, mae ei ofal o gymaint amdanoch chi. |
| (0, 2) 1031 | Ac mor awyddus i osgoi pryder ichi — |
| (Iris) Pryder i mi? | |
| (Iris) Sut felly? | |
| (0, 2) 1034 | Wel roeddwn i am ei gyflogi fel gwas imi ar fy siwrna. |
| (0, 2) 1035 | Ond wrth gwrs os ydych chi'n gwrthwynebu — |
| (Iris) Mae'n dda gen i glywed, Syr! | |
| (Nicias) Does yna ddim sicrwydd y bydda i'n dwad yn ôl. | |
| (0, 2) 1045 | O, oes, rwy'n gwarantu hynny. |
| (0, 2) 1046 | Yn berffaith ddiogel. |
| (Iris) Dyna fo felly! | |
| (Iris) Dydd da ichi, Syr. | |
| (0, 2) 1054 | Mae gen ti wraig dda yn honna, Nicias. |
| (0, 2) 1055 | Rwy'n siwr dy fod yn falch iddi dy berswadio i ddod efo fi!... |
| (0, 2) 1056 | Barod? |
| (0, 2) 1057 | Gora po gynta inni gychwyn... |
| (0, 2) 1058 | Tyrd ar f'ôl i. |
| (0, 2) 1059 | A chymer ofal o'r cas yna. |
| (Nicias) {Saif yn flinedig.} | |
| (Nicias) Llawer o ffordd eto, Syr? | |
| (0, 2) 1068 | Dim llathen, Nicias. |
| (0, 2) 1069 | Rydan ni wedi cyrraedd. |
| (0, 2) 1071 | Weli di? |
| (0, 2) 1072 | Hon ydy'r Afon Stycs. |
| (Nicias) Wela i mo'r ochor draw iddi. | |
| (0, 2) 1080 | Fe'i gweli hi, toc. |
| (Nicias) Sut felly? | |
| (Nicias) Sut felly? | |
| (0, 2) 1082 | Ar ôl inni ei chroesi hi. |
| (Nicias) Dwy' i ddim yn deall. | |
| (Nicias) Dwy' i ddim yn deall. | |
| (0, 2) 1084 | Twt, twt, paid â dweud nad wyt ti'n gwybod am chwedloniaeth dy genedl dy hun! |
| (0, 2) 1085 | Hon ydy'r Afon Stycs — reit? |
| (Nicias) Reit. | |
| (Nicias) Reit. | |
| (0, 2) 1087 | Ac y mae Hades yr ochr arall, reit? |
| (Nicias) Reit. | |
| (Nicias) Reit. | |
| (0, 2) 1089 | Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit? |
| (Nicias) Reit. | |
| (Nicias) Reit. | |
| (0, 2) 1091 | Ond cyn y medrwn ni wneud hynny — |
| (Nicias) Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch. | |
| (Nicias) Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch. | |
| (0, 2) 1093 | Rwyt ti yn gwybod felly! |
| (Nicias) Ydw, ydw. | |
| (Nicias) A fedra i ddim nofio. | |
| (0, 2) 1098 | Gad ti hynna i mi. |
| (0, 2) 1099 | Rwy'n credu y medra i berswadio'r hen gyfaill i gau ei lygaid am y tro. |
| (0, 2) 1100 | Ei gael o yma fydd y broblem fwya. |
| (0, 2) 1102 | Mae o'n bur gysact ynglŷn â'r amser. |
| (0, 2) 1103 | A mae hi wedi mynd braidd yn hwyr. |
| (0, 2) 1104 | Yr unig ffordd fydd gwneud galwad arbennig. |
| (0, 2) 1105 | Fydd yna ddim tymer rhy dda arno fo am inni wneud. |
| (0, 2) 1106 | Ond rhaid inni wynebu hynny... |
| (0, 2) 1107 | Wyt ti'n chwibannwr go lew? |
| (Nicias) Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr! | |
| (Nicias) Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr! | |
| (0, 2) 1109 | Wel chwibanna rwan er mwyn Athen. |
| (0, 2) 1110 | Un hir a dwy fer... rwan! |
| (Nicias) Reit. | |
| (Nicias) {Mae'n chwibannu'n ôl y cyfarwyddyd.} | |
| (0, 2) 1113 | Eto! |
| (0, 2) 1115 | Unwaith eto. |
| (0, 2) 1116 | Yn gryfach os medri di. |
| (0, 2) 1117 | Yn uwch! |
| (Charon) {Draw} | |
| (Charon) Be ydach chi'n 'i feddwl ydw i — ci defaid? | |
| (0, 2) 1122 | Dyma fo'n dwad. |
| (Charon) {A'i dymer yn fyr} | |
| (Charon) Ydach chi ddim yn sylweddoli bod gen i f'oriau gwaith? | |
| (0, 2) 1128 | Amgylchiadau arbennig, Charon. |
| (Charon) {Ei adnabod.} | |
| (Charon) Mae'n ddrwg gen' i, doeddwn i ddim wedi'ch nabod. | |
| (0, 2) 1133 | Popeth yn iawn. |
| (0, 2) 1134 | Prysur? |
| (Charon) Arhoswch am funud, i mi gael gwneud hwn yn saff. | |
| (Charon) Rhwng yr helfa ar y ffyrdd a'r rhyfel, mi ydw i'n methu'n lân â dwad i ben. | |
| (0, 2) 1141 | Felly wir! |
| (Charon) Amgylchiadau arbennig ddwedsoch chi? | |
| (Charon) Amgylchiadau arbennig ddwedsoch chi? | |
| (0, 2) 1143 | Argyfwng Charon. |
| (0, 2) 1144 | Creisis. |
| (0, 2) 1145 | Mae Athen yn mynd â'i phen iddi. |
| (Charon) O? Ia wel, dyna fo. | |
| (Charon) Pwy ydy hwn? | |
| (0, 2) 1150 | Nicias. |
| (0, 2) 1151 | Mae o yn yr argyfwng efo fi. |
| (0, 2) 1152 | Cymorth fel tae. |
| (Charon) Felly! | |
| (Charon) Mae hynna'n amlwg, ne fasach chi ddim wedi galw arna i. | |
| (0, 2) 1158 | Cywir. |
| (Charon) Yn ail, mae hwn yn yr argyfwng efo chi? | |
| (Charon) Yn ail, mae hwn yn yr argyfwng efo chi? | |
| (0, 2) 1160 | Cywir. |
| (Charon) Ac os nad ydw i'n camsynied, rydach chi am i mi fynd ag ynta drosodd hefyd? | |
| (Charon) Ac os nad ydw i'n camsynied, rydach chi am i mi fynd ag ynta drosodd hefyd? | |
| (0, 2) 1162 | Cywir. |
| (Charon) Anghywir! | |
| (Charon) Anghywir! | |
| (0, 2) 1164 | Beth? |
| (Charon) Mae'n ddrwg gen i. | |
| (Charon) Mae'n ddrwg gen i. | |
| (0, 2) 1166 | Tybed? |
| (Charon) Amhosib, Syr. | |
| (Charon) Fedra i mo'u hystumio nhw. | |
| (0, 2) 1170 | Aros funud. |
| (Charon) Na, maddeuwch imi am ddweud ond ddylech chi ddim gofyn imi. | |
| (Nicias) Be ydach chi'n 'i feddwl? | |
| (0, 2) 1184 | Na, mae hynny'n amhosib. |
| (Charon) Pam? | |
| (Charon) Pam? | |
| (0, 2) 1186 | Am ei fod o'n dwad yn ôl. |
| (Charon) O, dowch, Syr, mae hynna'n mynd dros ben llestri! | |
| (Charon) Tynnu 'nghoes i rydach chi rwan! | |
| (0, 2) 1190 | Rwy' i o ddifri calon. |
| (0, 2) 1191 | Mae'n rhaid inni'n dau fynd drosodd, Charon. |
| (Charon) {Tynnu ei gap a chrafu ei ben.} | |
| (Charon) Does yna ddim yn y Rheolau am hynny, oes yna? | |
| (0, 2) 1199 | Dim o gwbwl. |
| (0, 2) 1200 | Rwyt ti wedi 'i gweld hi, Charon! |
| (Charon) Reit, dyna hynna wedi 'i setlo... | |
| (Charon) Iawn? | |
| (0, 2) 1224 | lawn. |
| (Charon) Tawn i yn eich lle chi, Syr, mi fyddwn i'n agor yr ymbarel yna. | |
| (0, 2) 1230 | Syniad da. |
| (0, 2) 1231 | Diolch iti, Charon. |
| (Charon) Reit, i ffwrdd â ni! | |
| (Charon) Reit, i ffwrdd â ni! | |
| (0, 2) 1235 | Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon! |
| (Charon) Tarth Stycs, w'chi. | |
| (Charon) Ydach chi'n iawn, Syr? | |
| (0, 2) 1248 | Ydw, diolch. |
| (Nicias) Mae'n oer drybeilig. | |
| (Charon) Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi! | |
| (0, 2) 1253 | Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu. |
| (Charon) Ydy, rydach chi'n iawn... | |
| (Charon) {Mae Dionysos yn ufuddhau ac yn camu ar y lan.} | |
| (0, 2) 1373 | Diolch iti, Charon... |
| (0, 2) 1374 | Gair bach yn dy glust. |
| (Charon) Ia, wel, os ydach chi'n dweud, Syr. | |
| (Charon) Ond fydd yna ddim bai arna i, cofiwch! | |
| (0, 2) 1381 | Na fydd siwr. |
| (Charon) Reit... | |
| (Charon) O, gyda llaw — | |
| (0, 2) 1384 | Ia? |
| (Charon) Dim ond eich atgoffa chi. | |
| (Charon) Dim ond eich atgoffa chi. | |
| (0, 2) 1386 | O beth? |
| (Charon) Chewch chi ddim symud cam o'r fan yna heb ganiatâd Cerberws. | |
| (Charon) Chewch chi ddim symud cam o'r fan yna heb ganiatâd Cerberws. | |
| (0, 2) 1388 | Doeddwn i ddim wedi anghofio, Charon. |
| (Charon) O'r gora. | |
| (Charon) {Mae'n gafael yn y polyn a gwthio'r cwch ymlaen.} | |
| (0, 2) 1401 | Hwyl iti, Charon. |
| (0, 2) 1402 | A diolch! |
| (Charon) {Mynd.} | |
| (Charon) {Mae cwch Charon yn mynd o'r golwg.} | |
| (0, 2) 1406 | Wel, dyma ni. |
| (0, 2) 1407 | Ydy'r cas yna'n ddiogel? |
| (Nicias) Ydy... | |
| (Nicias) Syr? | |
| (0, 2) 1411 | Ia? |
| (Nicias) Roedd o'n sôn am Cerberws. | |
| (Nicias) Roedd o'n sôn am Cerberws. | |
| (0, 2) 1413 | Ceidwad Porth Hades. |
| (0, 2) 1414 | Rhaid inni ei ddisgwyl yma. |
| (0, 2) 1415 | Fydd o ddim yn hir. |
| (0, 2) 1416 | Ond cystal inni eistedd nes y daw o. |
| (0, 2) 1418 | Ofn? |
| (Nicias) Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i. | |
| (Nicias) Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i. | |
| (0, 2) 1420 | Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell. |
| (Nicias) Ond rydach chi'n wahanol i mi! | |
| (Nicias) Ond rydach chi'n wahanol i mi! | |
| (0, 2) 1422 | Wn i ddim faint o sylw a rydd o i hynny! |
| (0, 2) 1423 | Tyrd â'r cas yna i mi. |
| (Nicias) I mi? | |
| (Nicias) I'w yfed? | |
| (0, 2) 1428 | Mi wnaiff les iti. |
| (0, 2) 1429 | Rhoi tipyn o ddewrder inni'n dau. |
| (0, 2) 1430 | Eistedd. |
| (0, 2) 1433 | Be sy'n bod? |
| (0, 2) 1434 | Y gwin gorau yn y byd, mi alla i dy sicrhau di o hynny. |
| (Nicias) {Yn agor ei botel} | |
| (Nicias) Ond nid bob dydd mae dyn yn cael profiad fel hyn. | |
| (0, 2) 1438 | Beth wyt ti'n 'i feddwl? |
| (Nicias) Yfed potel o win efo, wel un fel chi. | |
| (Nicias) Ac yn Hades o bob man. | |
| (0, 2) 1441 | Porth Hades ydy hwn, Nicias. |
| (0, 2) 1442 | Mae Hades 'i hun draw i'r cyfeiriad yna. |
| (0, 2) 1444 | A chyn y byddwn ni'n cyrraedd Pencadlys Plwton — |
| (Nicias) Pwy? | |
| (0, 2) 1447 | Plwton, pennaeth Hades. |
| (Nicias) O ia, wrth gwrs, Plwton, ia. | |
| (Nicias) O ia, wrth gwrs, Plwton, ia. | |
| (0, 2) 1449 | Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws. |
| (Nicias) Tartarws? | |
| (Nicias) Tartarws? | |
| (0, 2) 1451 | Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto. |
| (Nicias) O'r gora. | |
| (Nicias) Blas mwy arno fo! | |
| (0, 2) 1456 | Ond paid â chymryd mwy. |
| (0, 2) 1457 | Mae yna gic fel mul ynddo fo... |
| (0, 2) 1458 | Teimlo'n well? |
| (Nicias) Ydw, dipyn bach. | |
| (Nicias) Ydy o mor ddychrynllyd ag y maen nhw'n 'i ddweud? | |
| (0, 2) 1462 | Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed? |
| (Nicias) Ei fod o'n anferth o fawr. | |
| (Nicias) A mwclis o nadrodd gwenwynig am 'i wddw. | |
| (0, 2) 1468 | Wn i ddim beth am dri phen, na chynffon draig a'r nadrodd. |
| (0, 2) 1469 | Ond llais fel taran yn sicr. |
| (0, 2) 1470 | A llygaid yn melltennu tân. |
| (Nicias) Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini? | |
| (Nicias) Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini? | |
| (0, 2) 1472 | Do. |
| (Nicias) Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru? | |
| (Nicias) Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru? | |
| (0, 2) 1474 | Ydy. |
| (0, 2) 1475 | Gwaeth os rhywbeth. |
| (Nicias) Arswyd y byd! | |
| (Nicias) Arswyd y byd! | |
| (0, 2) 1477 | Ond rwy'n credu y medrwn ni ddelio ag o. |
| (0, 2) 1478 | Dim ond inni gadw'n pennau. |
| (0, 2) 1479 | Na, paid ag yfed dim mwy. |
| (0, 2) 1480 | A chofia, pan ddaw o, paid ti â dweud dim nes bydd rhaid iti. |
| (0, 2) 1481 | Wyt ti'n deall? |
| (Nicias) Ydw. | |
| (Nicias) Rwy'n gobeithio y ca' i fynd odd'ma rywdro, Syr? | |
| (0, 2) 1494 | Mi gei di fynd. |
| (0, 2) 1495 | Rwy'n addo hynny iti. |
| (0, 2) 1496 | O leia, mi wnaf fy ngorau i sicrhau hynny. |
| (Nicias) Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser. | |
| (Nicias) Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser. | |
| (0, 2) 1498 | Siawns na fydd o'n ymddangos yn wahanol iti bryd hynny, wyddost ti... |
| (0, 2) 1499 | Ust! |
| (Nicias) Yr arswyd! | |
| (Nicias) Yr arswyd! | |
| (0, 2) 1502 | Gofal rwan. |
| (0, 2) 1503 | A chofia beth ddwedais i — dim gair nes bydd rhaid iti! |
| (Cerberws) Wel, beth ydy peth fel hyn? | |
| (Cerberws) Wel, beth ydy peth fel hyn? | |
| (0, 2) 1509 | Cyfarchion, Cerberws. |
| (Cerberws) {Ei adnabod.} | |
| (Cerberws) Rhyfedd iawn dy weld di yma! | |
| (0, 2) 1513 | Ymweliad arbennig. |
| (Cerberws) Felly? | |
| (Cerberws) Trio'i dal hi ymhobman ar unwaith. | |
| (0, 2) 1521 | Diferyn o win i oeri dipyn? |
| (Cerberws) Fi? | |
| (0, 2) 1531 | Gwan fel dŵr. |
| (Cerberws) {Cymer ddracht.} | |
| (Cerberws) O, ymweliad arbennig, ddwedaist ti? | |
| (0, 2) 1536 | Ia. |
| (Cerberws) Rhaid cael y ffurflen briodol felly. | |
| (Cerberws) Rwan, enw? | |
| (0, 2) 1543 | Ond rwyt ti'n 'i wybod yn barod! |
| (Cerberws) Nid dyna'r pwynt. | |
| (Cerberws) A rhaid i titha, yr un mor ffurfiol, roi'r ateb. | |
| (0, 2) 1547 | Ond pam? |
| (Cerberws) Nid fy lle i ydy gofyn pam. | |
| (0, 2) 1552 | Dionysos. |
| (Cerberws) "Occupation and/or Profession." | |
| (Cerberws) Be rown ni fel galwedigaeth? | |
| (0, 2) 1555 | O, wel, Aelod o'r Sefydliad Nefol, am wn i. |
| (Cerberws) {Sgrifennu.} | |
| (Cerberws) Un o'r mân-dduwiau, i fod yn fanwl, fel tae. | |
| (0, 2) 1566 | O, rwy'n gweld. |
| (Cerberws) "Reason for and motive or purpose of visit"? | |
| (Cerberws) "Reason for and motive or purpose of visit"? | |
| (0, 2) 1568 | Ymweld â Phlwton. |
| (Cerberws) "Nature of business or matter to be discussed"? | |
| (Cerberws) "Nature of business or matter to be discussed"? | |
| (0, 2) 1570 | Achub Athen. |
| (Cerberws) Beth! | |
| (Cerberws) Chlywais i erioed y fath beth! | |
| (0, 2) 1574 | Dyna'r ateb i'r cwestiwn. |
| (0, 2) 1575 | Rho fo i lawr. |
| (Cerberws) "Approximate duration of visit"? | |
| (0, 2) 1578 | Amhenodol. |
| (Cerberws) Thâl hynny ddim. | |
| (Cerberws) Wel? | |
| (0, 2) 1583 | Cyfnod gweddol fyr, ynte. |
| (Cerberws) {Cadw'r ffurflen.} | |
| (0, 2) 1590 | Ia, mi ddylwn i egluro, Cerberws — |
| (Cerberws) Hanner munud! | |
| (Cerberws) Beth ydy peth fel hyn? | |
| (0, 2) 1594 | Os goddefi imi egluro — |
| (Cerberws) Rwy'n synnu atat ti, Dionysos. | |
| (Cerberws) Dyna be ydy hyn! | |
| (0, 2) 1598 | Ond fel dywedais i eisoes, mae yna amgylchiadau arbennig. |
| (Cerberws) Nid i mi. | |
| (Cerberws) Yn ôl "Regulation 7 Sub-Section 2B" mae hwn yn "Prohibited Immigrant". | |
| (0, 2) 1604 | Mi fydda i'n warantydd drosto fo. |
| (Cerberws) Amhosib! | |
| (Cerberws) Amhosib! | |
| (0, 2) 1606 | Dim os ystumi di rywfaint bach ar y Gyfraith. |
| (Cerberws) Ystumio'r Gyfraith? | |
| (Cerberws) Dim un copa gwalltog! | |
| (0, 2) 1625 | Dim un? |
| (Cerberws) Dim un. | |
| (Cerberws) Record go dda, 'te? | |
| (0, 2) 1628 | Ond roeddwn i'n meddwl —! |
| (Cerberws) O mi wn i be rwyt ti'n mynd i ddweud. | |
| (Cerberws) Y canwr-pop gwallt hir hwnnw, beth bynnag oedd ei enw fo. | |
| (0, 2) 1636 | Orffiws. |
| (Cerberws) la, rhywbeth felly. | |
| (Cerberws) Meddwl am ddim ond am ferchaid a chyffuriau, a sothach o'r fath. | |
| (0, 2) 1641 | Tybed? |
| (Cerberws) Dim amheuaeth! | |
| (Cerberws) Cymowta ar ôl y ferch honno, dyna iti be. | |
| (0, 2) 1645 | Ewridice. |
| (Cerberws) Beth? | |
| (Cerberws) Beth? | |
| (0, 2) 1647 | Ewridice — dyna oedd ei henw hi. |
| (Cerberws) Ia, mae o'i lawr gen i yn rhywle. | |
| (Cerberws) Ple roeddwn i hefyd? | |
| (0, 2) 1659 | Pecyn brechdanau. |
| (Cerberws) O ia, brechdanau. | |
| (Cerberws) Hynny ydy, heb ymddangos... {mae Cerberws yn ymladd yn erbyn cwsg}... heb ymddangos yn be-ydach-chi'n-'i-alw... be-ydach-chi'n-'i-alw...! | |
| (0, 2) 1670 | Anghwrtais. |
| (Cerberws) Dyna fo'r gair... | |
| (Cerberws) Finna, wedyn yn dechra teimlo... dechra teimlo'n gysglyd... hynny ydy... ia... cysglyd... cysglyd... c... y... s... g... l... y... d...! | |
| (0, 2) 1688 | Dyna ni, rwy'n credu, Nicias! |
| (Nicias) Ia... Fedra i ddim peidio ag amau, Syr. | |
| (0, 2) 1691 | Amau? |
| (Nicias) Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu! | |
| (Nicias) Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu! | |
| (0, 2) 1693 | Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus! |
| (Nicias) Oes yna beryg iddo fo ddeffro? | |
| (Nicias) Oes yna beryg iddo fo ddeffro? | |
| (0, 2) 1695 | Dim os byddwn ni'n ofalus. |
| (0, 2) 1696 | Tyrd ar flaenau dy draed rwan... |
| (0, 2) 1697 | Mae gennym siwrna go faith o'n blaenau eto. |
| (0, 2) 1698 | Oofia am y cas, beth bynnag. |
| (Nicias) Reit. | |
| (Nicias) Reit. | |
| (0, 2) 1701 | Y ffordd yma. |
| (0, 2) 1702 | Ac ar boen dy fywyd paid â cholli golwg arna i. |
| (Nicias) Dim peryg o hynny, Syr! | |
| (Nicias) Dim peryg o hynny, Syr! | |
| (0, 2) 1704 | Ymlaen â ni felly. |
| (0, 3) 1710 | Wedi blino? |
| (Nicias) Fawr lai. | |
| (Nicias) Fawr lai. | |
| (0, 3) 1712 | Gorffwys yma am ychydig. |
| (0, 3) 1713 | Nicias |
| (0, 3) 1715 | Dyna welliant! |
| (0, 3) 1716 | Oes yna lawer o ffordd eto? |
| (0, 3) 1717 | Na, dim llawer... |
| (0, 3) 1719 | Nicias, pan welais i di gyntaf yn Athen, mi ofynnais iti beth a wyddet amdanaf. |
| (Nicias) Do. | |
| (Nicias) Do. | |
| (0, 3) 1721 | Ond os wy'n cofio, d'oedd d'ateb ddim yn rhyw foddhaol iawn. |
| (Nicias) {Erbyn hyn mae wedi sicrhau'r ffeithiau.} | |
| (Nicias) Hefyd mi ydach chi'n ffafriol i heddwch a gwareiddiad! | |
| (0, 3) 1729 | Rwyt ti wedi gwneud dy waith-cartre yn amlwg! |
| (0, 3) 1730 | Dos ymlaen. |
| (Nicias) O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd. | |
| (Nicias) O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd. | |
| (0, 3) 1732 | At hynna roedd arna i eisio dwad. |
| (0, 3) 1733 | Mi wyddost fod yna ddwy brif ffurf i'r Ddrama, Nicias, sef Comedi a Thrasiedi. |
| (0, 3) 1734 | Gan amlaf, Masg y Gomedi a roddir imi. |
| (0, 3) 1735 | Ac fe'm portreadir — nid heb achos, rwy'n cyfaddef — fel un pur ddoniol, gwamal a chellweirus. |
| (Nicias) Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr! | |
| (Nicias) Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr! | |
| (0, 3) 1737 | Mae'n dda gen' i glywed! |
| (0, 3) 1738 | Y ffaith yw fod yna ochr arall i'm natur. |
| (0, 3) 1739 | Mi wn i beth yw hoen nwydwyllt ac asbri ysgafala bywyd. |
| (0, 3) 1740 | Mi wn i hefyd beth yw ei greulondeb, ei ing, a'i dristwch.... |
| (0, 3) 1741 | Mae'r amser wedi dwad imi wisgo Masg Trasiedi — dros dro, beth bynnag. |
| (Nicias) Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi. | |
| (Nicias) Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi. | |
| (0, 3) 1743 | Rwyt ti'n cofio imi sôn am bwll Tartarws. |
| (0, 3) 1744 | Wel rhaid inni fynd heibio'i ymyl o rwan. |
| (Nicias) Mi ydw i wedi clywed llawer o sôn amdano fo, droeon. | |
| (Nicias) Ond does yna neb yn gwybod yn iawn be ydy o, w'chi. | |
| (0, 3) 1747 | Dydy Tartarws yn ddim ond adlewyrchiad o hanfod pob ing a galar a thristwch dynolryw yn ei thrueni eitha, Nicias. |
| (0, 3) 1748 | Mi welwn beth ohono gyda hyn. |
| (0, 3) 1749 | Fe glywaist Cerberws yn sôn mewn cyswllt hanner-digri am effaith cyffuriau. |
| (0, 3) 1750 | Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf: |
| (Nicias) Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi! | |
| (Nicias) Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi! | |
| (0, 3) 1754 | Aros, dwyt ti ddim wedi gweld y cyfan eto.... |
| (0, 3) 1755 | Dyma iti felltith sydd mor hen â'r ddynoliaeth ei hun: |
| (Côr) Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw, | |
| (Nicias) Ond mae'r lle yma'n llethu f'ysbryd i. | |
| (0, 3) 1815 | Pwll anobaith ydy Tartarws fel roeddwn i'n dweud wrthyt ti. |
| (0, 3) 1816 | A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon. |
| (Nicias) 'Does arna i ddim eisio gweld mwy. | |
| (Nicias) Ne mi fydda i'n colli pob ffydd yn y natur-ddynol. | |
| (0, 3) 1820 | O, mae gobaith o hyd, Nicias. |
| (Nicias) Ydach chi'n credu hynny o ddifri? | |
| (Nicias) Ydach chi'n credu hynny o ddifri? | |
| (0, 3) 1822 | Ydw, debyg iawn. |
| (0, 3) 1823 | Onide, beth ydy diben ein hymweliad ni yma â Hades? |
| (Nicias) Trio achub Athen medda chi. | |
| (Nicias) Trio achub Athen medda chi. | |
| (0, 3) 1825 | Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw. |
| (Nicias) Ydy, wrth gwrs.... | |
| (Nicias) Maddeuwch imi am ddweud hyn, ond dydach chi ddim wedi egluro'n iawn imi, w'chi. | |
| (0, 3) 1828 | Egluro beth? |
| (Nicias) Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man? | |
| (Nicias) Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man? | |
| (0, 3) 1830 | Mi gei di'r eglurhad cyn bo hir. |
| (0, 3) 1831 | Wrth gwrs, 'does dim sicrwydd. |
| (Nicias) Sicrwydd? | |
| (Nicias) Sicrwydd? | |
| (0, 3) 1833 | Y bydd y cynllun yn gweithio. |
| (Nicias) O!... Maddeuwch i mi eto, ond oni ddylai un fel chi wybod yn bendant ymlaen llaw? | |
| (Nicias) Fedrwch chi ddim darllen y dyfodol? | |
| (0, 3) 1836 | Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori? |
| (Nicias) Do. | |
| (Nicias) Duw bach o'r trydydd dosbarth, medda fo. | |
| (0, 3) 1839 | Ia, wel, 'roedd o'n berffaith iawn. |
| (0, 3) 1840 | Duw bach cymharol ddi-nod ydw i. |
| (0, 3) 1841 | Ac fel y dywedais wrthyt o'r blaen, mae terfyn pendant ar fy ngallu. |
| (0, 3) 1842 | Na, Nicias, wn i ddim fydd fy nghynllun i'n llwyddo ai peidio. |
| (0, 3) 1843 | Ond mi gawn weld gyda hyn. |
| (0, 3) 1844 | Fyddwn ni ddim yn hir, rwan, yn cyrraedd Pencadlys Plwton... |
| (0, 3) 1845 | Tyrd! |
| (Nicias) {Codi ar ei draed.} | |
| (Nicias) Ga i ofyn un peth arall? | |
| (0, 3) 1848 | Wel! |
| (Nicias) Plwton — sut un ydy o? | |
| (Nicias) Plwton — sut un ydy o? | |
| (0, 3) 1850 | Mi gei di weld hynny, hefyd, drosot dy hun. |
| (0, 3) 1851 | A hynny cyn bo hir... |
| (0, 3) 1852 | Rhaid inni fynd.... |
| (0, 3) 1853 | Dilyn fi, a chymer ofal. |
| (Plwton) {i'r ffôn} | |
| (Plwton) Cyfarchion, Dionysos, a chroeso i Hades. | |
| (0, 3) 1896 | Diolch iti, Plwton. |
| (Plwton) Ymweliad go annisgwyl! | |
| (Plwton) Ymweliad go annisgwyl! | |
| (0, 3) 1898 | Ac amcan arbennig. |
| (Plwton) {Cyfeirio at Nicias.} | |
| (Plwton) Rwy'n gobeithio dy fod ti'n sylweddoli difrifoldeb cam fel hyn? | |
| (0, 3) 1902 | Yn llwyr. |
| (0, 3) 1903 | Fe gei'r eglurhad yn y man. |
| (Plwton) Popeth yn iawn. | |
| (Plwton) Rhaid imi ddweud hynna'n blwmp ac yn blaen. | |
| (0, 3) 1907 | Rwy'n syrthio ar fy mai, Plwton. |
| (0, 3) 1908 | Ond teimlo roeddwn i y byddai hynny'n cymhlethu pethau'n ormodol a dianghenraid. |
| (Plwton) Wel, mi gawn weld. | |
| (Plwton) Rhaid cael eu cytundeb a'u cydweithrediad nhw, beth bynnag yw dy gynllun. | |
| (0, 3) 1912 | Purion. |
| (Plwton) Gynghorwyr, rwy i wedi eich galw yma i'ch cyflwyno i Dionysos. | |
| (Côr) I drafod cais mor hynod! | |
| (0, 3) 1941 | Plwton a Chynghorwyr Hades. |
| (0, 3) 1942 | Diolch am eich derbyniad cwrtais, a'ch parodrwydd i wrando cais a fydd, rwŷn siwr, yn swnio'n haerllug neu yn wallgo ichi. |
| (0, 3) 1943 | Neu efallai'n gyfuniad o'r ddau! |
| (0, 3) 1944 | Gwyddoch, erbyn hyn mae'n debyg, imi — a'm cydymaith — ddwad yma'n syth o Athen. |
| (0, 3) 1945 | A sefyllfa'r hen Ddinas honno a barodd imi ymgymryd â'r fath siwrna anturus. |
| (0, 3) 1946 | Wna i mo'ch blino chi â'r manylion: digon yw dweud bod Athen mewn cyflwr pur ddifrifol. |
| (0, 3) 1947 | Dinas wedi'i rhwygo ydy hi. |
| (0, 3) 1948 | Mae ei harweinwyr yn styfnig benben. |
| (0, 3) 1949 | Rhai o'i dynion gorau yn y carchar. |
| (0, 3) 1950 | Delfrydau'r ifainc yn cael eu dirmygu. |
| (0, 3) 1951 | Y gymdeithas yn faterol a chystadleuol — farus. |
| (0, 3) 1952 | A'r bobol yn ymbalfalu mewn penbleth a difaterwch. |
| (0, 3) 1953 | Y gelyn oddi mewn sy'n bygwth fwya, nid y Sbartiaid oddi allan. |
| (0, 3) 1954 | Mewn gair, mae hi'n draed-moch yno. |
| (0, 3) 1955 | Ac oni wneir rhywbeth yn bur sydyn, mi fydd hi ar ben ar yr hen Ddinas annwyl. |
| (0, 3) 1956 | ~ |
| (0, 3) 1957 | Daw hyn â fi at gnewyllyn fy neges. |
| (0, 3) 1958 | Fel y gwyddoch mae cewri Athen yn y dyddiau gynt yma, yn Hades, mewn teilwng Stâd o Anrhydedd. |
| (0, 3) 1959 | Fy nghynllun, yn syml, ydy hyn: gwneud apêl i'r cyfryw arwyr fynd yn ôl i Athen, i adfer asgwrn-cefn a hunan-barch y genedl. |
| (0, 3) 1960 | Dyna'r unig obaith, bellach, hyd y gwelaf i. |
| (0, 3) 1961 | A dyna'n fyr, y cyfan sy gennyf i ddweud wrthych chi. |
| (0, 3) 1962 | Diolch eto am eich gwrandawiad astud. |
| (Plwton) Wel, fe glywsoch gais Dionysos. | |
| (Plwton) Dyna'r cyfan a allwn ni ei wneud. | |
| (0, 3) 2009 | Rwy'n cytuno'n llwyr. |
| (0, 3) 2010 | Diolch yn fawr am dy gydweithrediad. |
| (Plwton) Wn i ddim beth fydd ateb yr arwyr. | |
| (Plwton) Gobeithio dy fod yn deall hynny? | |
| (0, 3) 2014 | Rwy'n deall yn berffaith. |
| (Plwton) O'r gorau. | |
| (0, 3) 2090 | Pa ddiben? |
| (0, 3) 2091 | Hyd yn oed yn Hades, rhaid gweithredu'n ddemocrataidd. |
| (0, 3) 2092 | Rhaid derbyn eu penderfyniad. |
| (0, 3) 2093 | "Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi eu hun!" |
| (0, 3) 2094 | Mae hynna'n hollol wir, wrth gwrs. |
| (0, 3) 2095 | I fod yn onest, roeddwn i'n ei sylweddoli cyn cychwyn yma, ond fy mod i'n ofni. |
| (Plwton) Ofni? | |
| (Plwton) Ofni? | |
| (0, 3) 2097 | Na fyddai Athen ddim yn fodlon — neu ddim yn abl i'w wynebu. |
| (Plwton) {Nodio at Nicias.} | |
| (Plwton) Be sy'n mynd i ddigwydd i'r truan yna? | |
| (0, 3) 2100 | Fy mwriad oedd iddo fo fynd â'r cewri yn ôl i Athen — petaen nhw wedi cytuno. |
| (Plwton) Ond rwan? | |
| (Plwton) Ond rwan? | |
| (0, 3) 2102 | Rhaid iddo fo fynd yn ôl ei hun. |
| (0, 3) 2103 | 'Alla i ddim mynd efo fo. |
| (0, 3) 2104 | Dyletswydd bwysig arall. |
| (Plwton) Hanner munud, mi wyddost fod hynna'n amhosibl, Dionysos. | |
| (Plwton) Ond fedra i ddim caniatâu i feidrolyn fel hwn fynd yn ôl i Fyd y Byw. | |
| (0, 3) 2108 | Beth petawn i'n dweud na fyddai'n cofio dim oll o'i ymweliad â Hades? |
| (Plwton) Sut fedri di sicrhau hynny? | |
| (Plwton) Sut fedri di sicrhau hynny? | |
| (0, 3) 2110 | Rwy' i wedi cymryd yr hyfdra i ystumio un arall o'r mân-reolau. |
| (Plwton) Beth? | |
| (Plwton) P'run? | |
| (0, 3) 2113 | Mi ydw i wedi rhoi diferyn o ddŵr Afon Lethe yn y botel win sy ganddo yn ei boced. |
| (0, 3) 2114 | Un dracht, fel y gwyddost, a mi fydd y cyfan yn angof iddo fo. |
| (0, 3) 2115 | Yn ebargofiant llwyr. |
| (Plwton) Dionysos, rwyt ti'n gastiog i'w ryfeddu! | |
| (Plwton) Ond mi fyddi di'n ei hebrwng rhan o'r ffordd? | |
| (0, 3) 2119 | Byddaf, wrth gwrs. |
| (0, 3) 2120 | Rhaid iddo osgoi Cerberws ar bob cyfri! |
| (Plwton) Ond beth am y Stycs? | |
| (Plwton) Ond beth am y Stycs? | |
| (0, 3) 2122 | Popeth yn iawn, rwy'n credu. |
| (0, 3) 2123 | Mi wnes i drefniant amodol efo Charon ar y ffordd yma. |
| (Plwton) Dim ond amodol? | |
| (Nicias) Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl! | |
| (0, 3) 2145 | Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad. |
| (Nicias) {Gobeithiol} | |
| (Nicias) Inni fynd yn ôl? | |
| (0, 3) 2148 | I ti fynd yn ôl. |
| (0, 3) 2149 | Fydda i ddim yn dwad efot ti. |
| (Nicias) Be? | |
| (Nicias) Pam? | |
| (0, 3) 2152 | Fedra i ddim egluro pam. |
| (0, 3) 2153 | Dyletswydd bwysig arall. |
| (0, 3) 2154 | Fydda i ddim angen dy gymorth di i honno. |
| (Nicias) Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn! | |
| (Nicias) Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn! | |
| (0, 3) 2156 | Nid dy fai di oedd hynny. |
| (0, 3) 2157 | 'Roedd y parodrwydd a'r bwriad yna. |
| (Nicias) Fel rydach chi'n gwybod bellach, Syr, rhyw greadur digon twp ydw i. | |
| (Nicias) Ond mi ydw i'n rhyw ama, rhyngon ni'n dau, nad ydy o ddim wedi llwyddo fel y dymunech chi. | |
| (0, 3) 2161 | Rwyt ti'n iawn, Nicias. |
| (0, 3) 2162 | Ond fel y dywedais wrthyt fwy nag unwaith, doedd yna ddim sicrwydd y byddai'r cynllun yn llwyddo. |
| (0, 3) 2163 | Ac y mae hyd yn oed un fel fi yn gorfod sylweddoli ffolineb cymhlethu cymhellion yn ddianghenraid. |
| (Nicias) {Nid yw'n deall.} | |
| (Nicias) Esgusodwch fi — llond ceg braidd — | |
| (0, 3) 2166 | Beth wy'n 'i feddwl ydy fod y Gwirionedd weithiau o flaen ein trwynau. |
| (0, 3) 2167 | Yn rhy agos inni 'i weld. |
| (Nicias) O? Mae yna un gwirionedd o flaen fy nhrwyn i rwan. | |
| (Nicias) A minna yn 'i weld yn blaen. | |
| (0, 3) 2170 | A hwnnw? |
| (Nicias) Mod i'n gorfod mynd yn ôl fy hun. | |
| (Nicias) A'r Stycs! | |
| (0, 3) 2178 | Nicias, mi addewais iti y byddet yn mynd yn ôl at Iris dy wraig yn ddiogel a dianaf. |
| (0, 3) 2179 | Ac os gwrandewi ar fy nghyngor, fe lwyddi. |
| (0, 3) 2180 | Ond rhaid bod yn ofalus tu hwnt... |
| (0, 3) 2181 | Tyrd, mi egluraf y cynllun wrthyt wrth inni fynd... |
| (0, 3) 2182 | Gyda llaw, mi gei gadw'r cas mawr yma... |
| (0, 3) 2183 | Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di. |
| (Nicias) Diolch yn fawr, Syr. | |
| (Nicias) Diolch yn fawr, Syr. | |
| (0, 3) 2186 | Ond rwy i am iti addo peidio ag yfed ohoni nes byddi wedi croesi'r Stycs. |
| (0, 3) 2187 | Wyt ti'n addo? |
| (Nicias) Ar fy llw! | |
| (Nicias) At Iris. | |
| (0, 3) 2191 | Gorau po gynta inni gychwyn felly... |
| (0, 3) 2192 | Tyrd. |
| (0, 4) 2199 | Seibiant, Nicias. |
| (0, 4) 2200 | Eistedd yma am funud. |
| (Nicias) Beth am Cerberws? | |
| (Nicias) Ydan ni'n weddol agos i'w diriogaeth o rwan? | |
| (0, 4) 2204 | Rydyn ni yn ei "diriogaeth" o fel rwyt ti'n dweud. |
| (0, 4) 2205 | Dyna pam mae'n rhaid inni benderfynu ar dacteg. |
| (Nicias) Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi? | |
| (Nicias) Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi? | |
| (0, 4) 2207 | Gwell peidio â meddwl am hynny. |
| (0, 4) 2208 | Rhaid inni ganolbwyntio rwan ar sut i'w sgoi o eto. |
| (0, 4) 2209 | Rydan ni'n siwr o'i gyfarfod o. |
| (0, 4) 2210 | Felly gwranda'n astud. |
| (0, 4) 2211 | Pan glywn ni o'n dwad, dos di o'r golwg y tu ôl i hwnna. |
| (0, 4) 2213 | Wedyn mi geisia i ddal ei sylw am ychydig mewn sgwrs. |
| (0, 4) 2214 | Dyna dy gyfle di i sleifio i'r cyfeiriad acw ar flaena dy draed. |
| (0, 4) 2215 | Rhaid iti fod yn ddistaw fel llygoden. |
| (0, 4) 2216 | Mae o'n llygadog fel barcut fel y gwyddost ti. |
| (0, 4) 2217 | Os gwêl o di, gwadna hi am dy hoedl at y Stycs. |
| (Nicias) Ond beth am Charon? | |
| (Nicias) Ond beth am Charon? | |
| (0, 4) 2219 | Popeth wedi'i drefnu. |
| (0, 4) 2220 | Weli di mono fo o gwbwl. |
| (0, 4) 2221 | Ond mi fydd cwch wedi cael ei adael yn barod iti yno. |
| (0, 4) 2222 | Neidia iddo fo, a fedr Cerberws wneud dim oll iti. |
| (Nicias) Wedyn? | |
| (Nicias) Wedyn? | |
| (0, 4) 2224 | Wedyn, pwnia'r cwch dros y Stycs i'r ochor arall, i'th fyd a'th ddimensiwn di dy hun. |
| (0, 4) 2225 | Popeth yn glir? |
| (Nicias) Ydy. | |
| (Nicias) Mi wna i unrhyw beth i gael mynd yn ôl i'r hen Athen annwyl efo'i holl ffaeledda! | |
| (0, 4) 2228 | Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch! |
| (Nicias) Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr. | |
| (Nicias) Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr. | |
| (0, 4) 2230 | Does yna run creadur dibwys, Nicias. |
| (0, 4) 2231 | Mae dyfodol Athen yn nwylo miloedd o'th debyg — y mwyafrif cib-ddall mud, difater. |
| (Nicias) {Yn awyddus i newid testun sy'n ddiflas iddo.} | |
| (Nicias) Rhaid ein bod ni yma ers hydoedd bellach. | |
| (0, 4) 2236 | Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias. |
| (Nicias) Sut felly? | |
| (Nicias) Dydw i ddim yn deall —! | |
| (0, 4) 2239 | Yn nhermau tragwyddoldeb beth yw modfedd, neu funud, neu filltir neu ganrif? |
| (0, 4) 2240 | Dydyn nhw ddim yn bod. |
| (Nicias) Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─ | |
| (Nicias) Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─ | |
| (0, 4) 2242 | All dy reswm di wneud dim oll ond mesur a phwyso a chymharu, Nicias. |
| (0, 4) 2243 | Mae hynny'n angenrheidiol, wrth gwrs, o fewn terfynau bodolaeth faterol. |
| (0, 4) 2244 | Ond paid â meddwl y gall rheswm egluro popeth. |
| (0, 4) 2245 | Does yna ddim rheswm, fel y cyfryw, i dosturi na hunan-aberth na dyhead anniwall enaid dyn am brydferthwch a chelfyddyd. |
| (Nicias) {Mae ar goll ers meitin.} | |
| (Nicias) Peth mawr i' ddweud, rwy'n gwybod, ond mae o'n wir. | |
| (0, 4) 2249 | O? Ar ba achlysur? |
| (Nicias) Rydach chi yn y gwely yn nistawrwydd y bore bach. | |
| (Nicias) A rwan — gyda pharch, Syr — wrth sôn am Amser ac ati, fedra i feddwl am ddim ond am groeso cynnes bronnau Iris, a chryndod parod ei llwynau. | |
| (0, 4) 2257 | Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau! |
| (Nicias) Cerberws! | |
| (0, 4) 2261 | Brysia — y tu ôl i hwnna. |
| (0, 4) 2262 | Gwylia fi'n fanwl, a phan roi'r arwydd iti, hegla hi ar flaena dy draed. |
| (0, 4) 2263 | A phaid â cymryd dy wynt, bron, nes y doi di at y Stycs. |
| (Nicias) Reit, Syr. | |
| (Nicias) {Mae'n troi i fynd} | |
| (0, 4) 2266 | O, a Nicias? |
| (Nicias) Ia? | |
| (Nicias) Ia? | |
| (0, 4) 2268 | Pob lwc iti... a diolch. |
| (0, 4) 2269 | Dos, brysia! |
| (0, 4) 2273 | Hoi Cerberws! |
| (0, 4) 2274 | Hanner munud os gweli'n dda. |
| (Cerberws) {Edrych ar ei oriawr.} | |
| (Cerberws) Dim amser i ddal pen rheswm na malu awyr. | |
| (0, 4) 2279 | Wna i ddim dy gadw di'n hir. |
| (0, 4) 2280 | Ond mae arna i eisio dy help di os oes modd. |
| (0, 4) 2281 | Mater pwysig tu hwnt. |
| (Cerberws) Edrych yma Dionysos, rwyt ti wedi achosi digon o drafferth a helbul imi'n barod. | |
| (Cerberws) Mi leciwn i gael gafael arno fo! | |
| (0, 4) 2285 | Hwnnw oedd gen' i dan sylw. |
| (0, 4) 2286 | Welaist ti o yn rhywle? |
| (Cerberws) Dim golwg, y bwbach beiddgar! | |
| (Cerberws) Mi fydd yn difaru hyd at ei flewyn olaf! | |
| (0, 4) 2292 | Mi ydw i'n meddwl mai anelu at y Stycs mae o, y munud yma! |
| (Cerberws) Dim o gwbwl. | |
| (Cerberws) O oes! | |
| (0, 4) 2298 | O? |
| (Cerberws) Y lle mwya annhebygol inni fynd i chwilio amdano fo. | |
| (Cerberws) Y lle mwya annhebygol inni fynd i chwilio amdano fo. | |
| (0, 4) 2300 | A hwnnw? |
| (Cerberws) Yn ymyl Tartarws. | |
| (Cerberws) Ddoi di efo fi? | |
| (0, 4) 2304 | Â chroeso... |
| (0, 4) 2305 | Gad inni fynd. |
| (0, 4) 2306 | Mae gen i bob cyd-ymdeimlad â thi, Cerberws. |
| (0, 4) 2307 | Mae'r creadur yna'n beryg bywyd. |