| (Mrs Lloyd) 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach. | |
| (Mrs Lloyd) Ti fuost yn hir iawn. | |
| (1, 0) 4 | Do, 'mam. |
| (1, 0) 5 | Cwrddais â'r hen Athro, a 'doedd dim posib cael ei wared. |
| (1, 0) 6 | Bum am dro hir yn y car gydag 'e. |
| (Mrs Lloyd) 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn. | |
| (Mrs Lloyd) 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn. | |
| (1, 0) 8 | Oedd. |
| (1, 0) 10 | '|Roedd| e'n anfodlon 'mod i allan pan alwodd e' neithiwr. |
| (1, 0) 11 | 'Rwy'n mynd i'r Ginio gydag e' heno. |
| (1, 0) 12 | Mae e'n un sŵn am i mi gwrdd â'i gyfaill, y nofelydd. |
| (Mrs Lloyd) Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd. | |
| (Mrs Lloyd) Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd. | |
| (1, 0) 14 | A phrynais i ddim ffrwythau i chi wedi'r cyfan. |
| (1, 0) 15 | Dwedodd yr Athro y daw e â rhai i chi heno. |
| (Mrs Lloyd) Mae e'n garedig iawn. | |
| (Mrs Lloyd) Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets. | |
| (1, 0) 20 | Yr Athro roddodd 'nhw i fi. |
| (1, 0) 21 | Llanwodd y câs yma, chwarae teg iddo. |
| (Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna. | |
| (Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna. | |
| (1, 0) 23 | Mae e'n gwybod am Jane. |
| (1, 0) 24 | 'Does ryfedd ei fod yn cymryd trugaredd arnaf i. |
| (1, 0) 26 | Edrychwch beth a brynais i, Mam. |
| (1, 0) 27 | On'd yw'r ffrog fach yma'n bert? |
| (1, 0) 28 | Digwyddais ei gweld yn siop Morgan. |
| (1, 0) 29 | Mae yn fy nharo i'r dim. |
| (Mrs Lloyd) Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser. | |
| (Mrs Lloyd) Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser. | |
| (1, 0) 31 | A mae eisiau ffrogiau arnaf yn druenus. |
| (1, 0) 32 | 'Does gen i ddim byd i'w wisgo. |
| (Mrs Lloyd) Dilys, Dilys! | |
| (Mrs Lloyd) Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te? | |
| (1, 0) 35 | Dim ond crugiau o bethau hen-ffasiwn wedi crynhoi er pan wyf yn y Coleg. |
| (1, 0) 37 | Rwy'n leicio hon, ond fod eisiau ei chwtogi dipyn. |
| (Mrs Lloyd) Ydi Jane wedi ei gweld? | |
| (1, 0) 40 | Nag yw, eto. |
| (1, 0) 41 | Pa wahaniaeth am Jane os y'ch chi'n fodlon i mi ei chael? |
| (1, 0) 42 | Gellid meddwl mai hi yw'r fam a chwithau'n neb... a 'dyw Jane yn cymryd dim diddordeb mewn dillad newydd. |
| (1, 0) 43 | Efallai y byddaf innau'r un fath â hi yn ddeugain oed, ond 'rwy'n meddwl wir y dylwn gael pethau pert yn un-ar-hugain. |
| (Mrs Lloyd) O'r gorau, o'r gorau. | |
| (Mrs Lloyd) Mae hi wedi oeri a... | |
| (1, 0) 50 | O dyna fwstwr. |
| (1, 0) 51 | Edrychwch beth y'ch chi'n wneud, wnewch chi'; sarnu'r glo ar y carped. |
| (1, 0) 52 | A ble mae'ch capan chi, eto? |
| (1, 0) 53 | Beth ddwedais i'r bore 'ma? |
| (Letitia) Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd. | |
| (Letitia) Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd. | |
| (1, 0) 55 | 'Chlywais i erioed y fath ddwli! |
| (1, 0) 56 | Ewch i'w 'nôl ar unwaith. |
| (Mrs Lloyd) Gad iddi, Dilys. | |
| (Mrs Lloyd) Gad iddi, Dilys. | |
| (1, 0) 58 | Na wna, wir. |
| (1, 0) 59 | Cerwch Letitia. |
| (Letitia) Dyma fe yn fy mhoced {yn ei dynnu allan} os yw'n rhaid i mi ei wisgo. | |
| (Letitia) Dyma fe yn fy mhoced {yn ei dynnu allan} os yw'n rhaid i mi ei wisgo. | |
| (1, 0) 61 | Yr arswyd! |
| (1, 0) 62 | Dyma drefen ar gapan. |
| (1, 0) 63 | Gaf i ei osod i chi? |
| (1, 0) 64 | Does gennych chi ddim clem. |
| (1, 0) 66 | Dyna chi 'nawr. |
| (1, 0) 67 | Wyddys yn y byd pwy ddaw yma. |
| (1, 0) 68 | Glanhaewch y carped cyn mynd at y tân. |
| (Mrs Lloyd) Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory. | |
| (Mrs Lloyd) Mae hi'n dy leicio di. | |
| (1, 0) 71 | Ydi, 'rhen feuden, am fy mod mor debyg iddi hi—yn helpo! |
| (1, 0) 72 | Mae hi'n leicio gwledd penblwydd yn iawn, ond leiciodd hi ddim rhoi dim i mi erioed. |
| (1, 0) 74 | "Dilys fach, 'rown i wedi |meddwl| prynu" |
| (1, 0) 76 | o, pob math o ffrogiau i mi, ond, druan â fi! |
| (1, 0) 77 | Byddwn wedi fy ngwisgo fel Efa o ran ei meddyliau hi. |
| (Mrs Lloyd) 'Nawr, 'nawr, Dilys! | |
| (Mrs Lloyd) 'Nawr, 'nawr, Dilys! | |
| (1, 0) 79 | Mae'n eitha gwir. |
| (1, 0) 80 | Feddyliodd hi erioed am agor ei phwrs, er cymaint sydd ynddo. |
| (1, 0) 82 | Byddwch ddistaw, Letitia. |
| (1, 0) 83 | 'Rown i ddim yn siarad â chi. |
| (Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys. | |
| (Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys. | |
| (1, 0) 86 | Dyna rywun wedi dod. |
| (1, 0) 87 | Cer'wch Letitia, ond dewch chi â gwybod pwy sydd yna cyn dweud 'mod i i mewn, cofiwch. |
| (Letitia) Gwnaf, Miss Dilys. | |
| (1, 0) 92 | Pwy sydd yna, wn i! |
| (1, 0) 93 | Mi âf i i'r llofft os mai rhywun i'ch gweld chi, 'mam, sydd yna. |
| (Mrs Lloyd) Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro. | |
| (Tabitha) O, dyma hi! | |
| (1, 0) 106 | Modryb Tabitha! |
| (1, 0) 107 | Dewch ymlaen. |
| (Mrs Lloyd) Dyma syndod! | |
| (Letitia) {Yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 116 | Rhag c'wilydd i chi—yn siarad â phobol dierth—a—ac ymddwyn fel yna; ond 'does dim dysgu arnoch chi. |
| (1, 0) 117 | Rhaid iddi gael mynd oddiyma, mam. |
| (Mrs Lloyd) Na, sonia Jane ddim am ei gollwng. | |
| (Mrs Lloyd) Na, sonia Jane ddim am ei gollwng. | |
| (1, 0) 119 | Glywsoch chi, Modryb Tabitha? |
| (1, 0) 120 | Jane yw'r feistres yma, nid mam. |
| (1, 0) 121 | Peidiwch anghofio hynny... |
| (1, 0) 122 | Gaf i fynd â'ch hat a'ch cot? |
| (Tabitha) Cewch, wir. | |
| (Tabitha) Dod i'ch gweld chi wnes i'n bennaf. | |
| (1, 0) 133 | Da iawn, Modryb Tabitha. |
| (1, 0) 134 | Pryd ddaethoch chi 'nôl? |
| (Tabitha) Dydd Mercher, a chlywais eich bod chi wedi gorffen yn y Coleg, ac 'rwy'n cofio bod eich penblwydd yfory, {yn chwareus} ac 'rwyf am (LETITIA'n codi oddi wrth ei gwaith, i wrando'n ben-agored} 'rwyf am roi cyngor neu ddau i chi ar ddechrau'ch gyrfa. | |
| (Letitia) 'Rown i'n meddwl... | |
| (1, 0) 138 | Cer'wch i'r gegin ar unwaith, groten. |
| (Letitia) O'r gorau, Miss Dilys, ond chi ddwedodd mai... | |
| (Tabitha) Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte? | |
| (1, 0) 149 | Mi wn i nad oes dim yn well nag arian, beth bynnag, ond oes dim posib â'i gael yn y tŷ 'ma. |
| (1, 0) 150 | Jane sy'n cadw'r pwrs. |
| (Mrs Lloyd) 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw. | |
| (Mrs Lloyd) 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw. | |
| (1, 0) 152 | Ond oedd dim diolch i Jane. |
| (1, 0) 153 | Cael arian i brynu ffrwythau a phethau i chi, 'mam, wnes i, ond gan fod yr Athro wedi dweud y byddai ef yn dod â rheini, heno, prynais y ffrog fach yma. |
| (1, 0) 154 | Saith a chwech gostiodd hi. |
| (Tabitha) O, yr Athro, ai e? | |
| (Mrs Lloyd) Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn. | |
| (1, 0) 161 | 'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian. |
| (Tabitha) Fe gewch chithau ddigon ond i chi roi'ch meddwl ar hynny. | |
| (Mrs Lloyd) Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim. | |
| (1, 0) 177 | Siaredwch drosoch eich hunan, 'mam. |
| (1, 0) 178 | Rwyf i wedi gweld eisiau digon o bethau. |
| (Tabitha) Rhaid i chi beidio sylwi ar eich mam â'i "gofal Rhagluniaeth." | |
| (Tabitha) Dyna fydd saffa i chi. | |
| (1, 0) 182 | 'Rwy'n ofni nad wyf i wedi fy stofi i weithio, Modryb Tabitha, er fod Jane yn un sŵn am i mi wneud. |
| (1, 0) 183 | Ddof i byth yn gyfoethog, os na briodaf arian, 'rwy'n siŵr. |
| (Tabitha) Gofalwch wneud hynny, 'te. | |
| (Tabitha) Gofalwch wneud hynny, 'te. | |
| (1, 0) 185 | Gallaf addo na phriodaf ddyn tlawd, beth bynnag. |
| (1, 0) 186 | Dyma Jane yn dod. |
| (Tabitha) Helo, Jane, sut y'ch chi? | |
| (Tabitha) Rhaid iddi beidio â bod yn hen ferch fel chi a minnau. | |
| (1, 0) 192 | Dim peryg, diolch. |
| (Jane) Na, mae gan Dilys ddigon o feddwl am briodi, a phriodi arian, heb i chi ei chymell, Modryb. | |
| (Jane) Byddai'n foethyn iddi feddwl am rywbeth arall, 'rwy'n tybio—meddwl am ennill, er enghraifft. | |
| (1, 0) 195 | Dyna hi, Modryb Tabitha. |
| (1, 0) 196 | Ddoe y deuthum adre, a does dim taw ar Jane am i mi fynd i ennill. |
| (Jane) Mae'n rhyfedd bod eisiau sôn am hynny, wedi i ti gael yr holl ysgol a choleg. | |
| (Mrs Lloyd) Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni. | |
| (1, 0) 201 | Mae Jane wedi ennill digon hyd yn hyn. |
| (1, 0) 202 | Pam mae eisiau i bethau newid? |
| (Tabitha) 'Does dim o'r ddawn at weithio gan bawb, Jane. | |
| (Jane) Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny. | |
| (1, 0) 212 | 'Does dim eisiau i chi ddannod mai chi sy'n ein cynnal. |
| (1, 0) 213 | Mae'n gywilydd i chi. |
| (Jane) 'Ddanodais i erioed. | |
| (Jane) Teipio llythyr y mae hi 'nawr, ond fe gaiff fynd at y te yn union. | |
| (1, 0) 231 | Dyna reswm dros gadw'r fath forwyn, ynte, Modryb? |
| (1, 0) 232 | Beth bynnag a all hi wneud, all hi ddim gneud tê. |
| (1, 0) 233 | Fe gewch ei gweld yn tendio wrth y ford. |
| (Jane) Fe gei di weithio tê, os yw'n well gennyt, Dilys. | |
| (Jane) Chaiff Letitia ddim bod yn destun gwawd i ti. | |
| (1, 0) 236 | Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia. |
| (Mrs Lloyd) Tewch, wir, ferched. | |
| (Jane) Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi! | |
| (1, 0) 248 | 'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn. |
| (Mrs Lloyd) Na, na, Dilys fach. | |
| (Mrs Lloyd) Paid â siarad fel yna. | |
| (1, 0) 251 | Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc. |
| (Tabitha) Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys. | |
| (Tabitha) A phwy yw Oswald? | |
| (1, 0) 257 | Peidiwch gwrando ar 'mam. |
| (1, 0) 258 | 'Dyw Oswald yn ddim ond ffrind, a chaiff e ddim dod yn ddim mwy, chwaith. |
| (1, 0) 259 | Mae e'n dlotach na fi, os yw hynny'n bosibl. |
| (Mrs Lloyd) 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah. | |
| (Tabitha) Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys. | |
| (1, 0) 269 | 'Rwyf yn ddigon hoffo'r Athro... ond... 'rwy'n ei weld yn rhy hen. |
| (Tabitha) Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen. | |
| (Tabitha) Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen. | |
| (1, 0) 271 | Wel, yr Athro gaiff e fod ynteu. |
| (1, 0) 272 | 'Rwy'n gwybod y gallwn ei dwyllo ef i briodi pryd y mynnwyf. |
| (Tabitha) {Yn eiddigeddus.} | |
| (Tabitha) Does dim fel bod yn ifanc. | |
| (1, 0) 276 | Fe gawn i bopeth gan yr Athro, onibai fod Jane yn anfodlon. |
| (Tabitha) Jane, wir! | |
| (Tabitha) Beth yw ei busnes hi? | |
| (1, 0) 279 | Yr oedd e' am roi watsh aur i mi, y llynedd, pan ddeuthum i'm hoed, ond gwrthododd Jane ganiatau iddo. |
| (1, 0) 280 | Mynnodd hi roi un i mi, edrychwch, un arian—wrth gwrs. |
| (Tabitha) Mae Jane yn afresymol. | |
| (Tabitha) Mae Jane yn afresymol. | |
| (1, 0) 282 | Ydi. |
| (1, 0) 283 | Mae am fod yn feistres ar bawb. |
| (1, 0) 284 | 'Chaf i byth ŵr os y caiff hi ei ffordd. |
| (Mrs Lloyd) Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro. | |
| (Tabitha) {Chwerthin a mynd at y ffrwythau eto}. | |
| (1, 0) 290 | Mae e'n mynd â fi yn y car i'r ginio fawr yn y Oueen's heno. |
| (Tabitha) Dyna i chi, wir! | |
| (Tabitha) Chwaraewch eich cardiau'n iawn, heno, ac yna fydd dim eisiau i chi ddioddef tafod Jane yn hir. | |
| (1, 0) 293 | Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd, |
| (Mrs Lloyd) Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig? | |
| (Mrs Lloyd) Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig? | |
| (1, 0) 295 | Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn. |
| (Mrs Lloyd) Ydi wir. | |
| (Tabitha) Bum yn meddwl ei phrynu i chi. | |
| (1, 0) 301 | Do fe, wir? |
| (Tabitha) Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn. | |
| (Mrs Lloyd) Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach. | |
| (1, 0) 305 | O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl. |
| (Tabitha) 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd. | |
| (1, 0) 323 | Dyma'r ffrog, Modryb 'Tabitha, ond nid wyf yn ei leicio o gwbl. |
| (Jane) Gwisg un arall 'te, Dilys. | |
| (Jane) Dewch 'nawr, wir, neu bydd y te yn... | |
| (1, 0) 327 | Te, te! |
| (1, 0) 328 | Pa wahaniaeth am y te? |
| (1, 0) 329 | Beth alla i wisgo heno? |
| (Jane) Ti ŵyr orau Dilys. | |
| (Jane) Ti ŵyr orau Dilys. | |
| (1, 0) 331 | Ond 'does gen i ddim—dim byd newydd. |
| (1, 0) 332 | O Jane, rhowch fenthyg eich ffrog newydd i mi, heno, wir—os gwelwch yn dda, Jane. |
| (Jane) Na wna, wir. | |
| (Jane) Nid wyf i wedi cael un ffrog ginio ers blynyddau, a thithau wedi cael un bob blwyddyn oddiar 'rwyt yn y Coleg. | |
| (1, 0) 336 | Mae gen i reswm neilltuol dros bod ar fy ngorau, heno. |
| (Tabitha) A 'does dim chwant arnoch chi i fynd o gwbl, Jane. | |
| (Jane) Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd! | |
| (1, 0) 351 | A pheth arall, ddywedais i ddim wrthych chi, Modryb, ond dywedodd yr Athro y byddai John Gray yn dod i'r Ginio heno. |
| (1, 0) 352 | 'Rwyf am edrych... |
| (Tabitha) Beth, John Gray y nofelydd? | |
| (Tabitha) Beth, John Gray y nofelydd? | |
| (1, 0) 354 | Ie, mae yr Athro yn gyfaill mawr iddo, ac y mae am i mi ei gyfarfod. |
| (Jane) "John Gray" wir! | |
| (Jane) Bydd John Gray yn sylwi dim ar dy ffrog, gelli fentro. | |
| (1, 0) 357 | Dyna sut y mae Jane yn fy ngwawdio bob amser. |
| (Tabitha) Peidiwch bod fel yna, Jane. | |
| (Jane) Chi â'ch John Gray! | |
| (1, 0) 362 | Mae Jane yn bychanu pawb. |
| (Tabitha) Rhag cywilydd i chi, Jane, dyn sydd â'i enw ar wefusau pawb. | |
| (Jane) Wel dewch at eich te. | |
| (1, 0) 373 | Ond a gaf i fenthyg eich ffrog, Jane? |
| (Jane) {Gyda gwawd.} | |
| (Jane) Wel... gan ei bod hi mor bwysig i ti... cei. | |
| (1, 0) 376 | O diolch yn fawr, Jane annwyl. |
| (1, 0) 377 | Mi'ch cofia i chi am hyn eto. |
| (Tabitha) Dyna rywbeth 'nawr, Jane. | |
| (Jane) Mae popeth yn barod, ond mae'n rhaid i mi wneud tipyn bach o fusnes cyn te. | |
| (1, 0) 383 | O'r gorau, Jane. |
| (1, 0) 384 | Cymrwch bwyll, Modryb Tabitha. |
| (1, 0) 385 | Dall mam ddim mynd mor gyflym. |
| (Letitia) Chi ganodd y gloch, Miss Lloyd? | |
| (1, 0) 450 | Yes, this is Miss Lloyd speaking. |
| (Letitia) {Yn tynnu'r receiver oddi-wrthi.} | |
| (1, 0) 458 | Dewch â hwnna i fi. |
| (Letitia) {Wrth DILYS.} | |
| (Letitia) I will tell her... yes. | |
| (1, 0) 464 | Dewch ag e i fi, y groten haerllug! |
| (Letitia) Caewch 'ceg. | |
| (1, 0) 471 | Yr hen un wirion â chi! |
| (1, 0) 472 | Mi gewch chi fynd oddi yma ar unwaith. |
| (1, 0) 473 | Chewch chi ddim aros yma ar unrhyw gyfrif. |
| (Tabitha) Be sy'n bod? | |
| (Tabitha) Be mae Letitia'n wneud i chi? | |
| (1, 0) 481 | Beth y'ch chi'n feddwl? |
| (1, 0) 482 | Fe dynnodd y ffôn oddi wrthyf, a mynnodd siarad ei hunan, ar fy ngwaetha'—y groten ddiwardd; ond 'chaiff hi ddim aros yma—'chaiff hi ddim, tae beth ddywed Jane. |
| (1, 0) 483 | Fe gaiff fynd.... |
| (Letitia) 'Rwy'n golygu mynd. | |
| (Letitia) {Yn ei daflu ati.} | |
| (1, 0) 488 | O, shwd beth erioed! |
| (Tabitha) Yr hen sgampen fach! | |
| (1, 0) 494 | Beth y'ch chi'n feddwl bod, yn enw dyn, os nad morwyn? |
| (1, 0) 495 | Oes priodas i fod? |
| (Letitia) Oes, oes. | |
| (Letitia) Sut oech chi'n gwybod? | |
| (1, 0) 499 | A phwy yw'r gwr lwcus? |
| (Letitia) Yr Athro wrth gwrs. | |
| (Letitia) Yr Athro wrth gwrs. | |
| (1, 0) 501 | Beth! |
| (Tabitha) Celwydd golau! | |
| (Jane) Be sy'n bod, dwedwch? | |
| (1, 0) 515 | Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i. |
| (Tabitha) Mae colled wyllt ar Letitia. | |
| (Tabitha) Mae colled wyllt ar Letitia. | |
| (1, 0) 517 | Mae'n rhaid iddi gael mynd ar unwaith. |
| (Tabitha) Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro. | |
| (Tabitha) Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro. | |
| (1, 0) 519 | A John Gray, cofiwch, Modryb Tabitha. |
| (Jane) Beth sy'n bod, Letitia? | |
| (Letitia) Ysgrifennydd John Gray fydda i. | |
| (1, 0) 537 | Be' ddwedsoch chi? |
| (Tabitha) Hawyr bach! | |
| (Jane) Fe oedd yn darllen fy ngwaith, ac yn fy nghymell ymlaen. | |
| (1, 0) 555 | Beth am 'mam a finnau, wedi i chi briodi? |
| (Jane) Bydd arian y llyfr newydd i chi 'mam. | |
| (Mrs Lloyd) Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau." | |
| (1, 0) 567 | Mi âf i i'r drws, Letitia... |
| (1, 0) 568 | Oswald sydd yna. |
| (1, 0) 569 | Bydd cystal i mi fynd gydag ef i'r Ginio... {wrth y drws} a'r hen ffrog yna mae e'n leicio. |
| (1, 0) 570 | Gellwch chi, Jane, wisgo'ch ffrog newydd wedi'r cyfan. |