| (Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd. | |
| (Huw) O chdi sydd yna Dic Betsi? | |
| (1, 1) 334 | Ia, Clocsiwr, fi sydd yma. |
| (1, 1) 335 | Ple mae Catrin? |
| (Huw) Newydd fynd allan. | |
| (Huw) Be sydd arnat ti eisio? | |
| (1, 1) 338 | O dim byd neilltuol. |
| (1, 1) 339 | Digwydd pasio dyna'r cwbwl. |
| (1, 1) 340 | Wyt ti'n brysur? |
| (Huw) Rhy brysur o lawer i ddal pen rheswm efo chdi a dy siort. | |
| (Huw) {Huw yn codi a mynd i eistedd wrth y lân.} | |
| (1, 1) 343 | Dim llawer o hwyl arnat ti, Clocsiwr? |
| (Huw) Nag oes, tra byddi di o gwmpas. | |
| (Huw) Nag oes, tra byddi di o gwmpas. | |
| (1, 1) 345 | Duwcs annwyl, paid â cholli dy limpyn, rhen frawd. |
| (1, 1) 346 | Rhaid i ni drio bod yn gymdogol wyddost ti, ne chawn ni byth drefn ar yr hen fyd yma. |
| (Huw) Hy! | |
| (Huw) Hy! | |
| (1, 1) 348 | Be? |
| (Huw) Hy! medda fi. | |
| (Huw) Hy! medda fi. | |
| (1, 1) 350 | O... |
| (1, 1) 351 | Dwad wrtha i Clocsiwr, fuo rhen Enoc yma heddiw? |
| (Huw) Naddo. | |
| (Huw) Pam? | |
| (1, 1) 354 | Wel doedd o ddim yn y tŷ pan oeddwn i'n pasio rwan. |
| (1, 1) 355 | Meddwl ei fod o wedi galw yma am funud. |
| (1, 1) 356 | Wedi mynd am dro i'r pentre mae o, reit siwr. |
| (1, 1) 357 | Fydd o'n dwad yma yn o amal rwan? |
| (Huw) Bydd, debyg iawn. | |
| (Huw) Mi fydd yma'n amlach cyn bo hir hefyd. | |
| (1, 1) 361 | Beth wyt ti'n feddwl? |
| (Huw) Hidia di befo. | |
| (Huw) Mi gei di weld yn ddigon buan co! | |
| (1, 1) 364 | Be ydy'r diddordeb sydyn yma yn yr hen ŵr, sgwn i? |
| (Huw) Sydyn by-be? | |
| (Huw) "Nymbar wan" ydy hi efo chdi bob amser. | |
| (1, 1) 371 | Na, rwyt ti'n gwneud camgymeriad, rhen frawd. |
| (1, 1) 372 | Ond fydda i byth yn gwneud sioe o bob cymwynas fel llawer un. |
| (Huw) Wnest ti rioed gymwynas os yr oedd hynny'n golygu gwario dima. | |
| (Huw) Mi ydw i'n dy nabod ti'n reit dda, co! | |
| (1, 1) 375 | Wyt ti wir! |
| (1, 1) 376 | Mae'n amser i ti gael agoriad llygaid, Clocsiwr. |
| (1, 1) 377 | Wyddost ti pam yr ydw i eisio gweld Uncle Enoc? |
| (Huw) Dydy o ddim o bwys gen i... wel, pam? | |
| (Huw) Dydy o ddim o bwys gen i... wel, pam? | |
| (1, 1) 379 | I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi. |
| (Huw) Be! | |
| (Huw) Sut y medri di edrach ar ei ôl os gwni? | |
| (1, 1) 385 | Wel, pam? |
| (1, 1) 386 | Digon o fwyd, Clocsiwr. |
| (Huw) Ha! | |
| (Huw) Ha! | |
| (1, 1) 388 | A phob chware teg. |
| (Huw) Digon o fwyd wir! | |
| (Huw) Rwyt ti'n byw ar wellt dy wely fel y mae hi. | |
| (1, 1) 391 | Paid â cholli dy limpyn, Clocsiwr. |
| (1, 1) 392 | Eistedd i lawr. |
| (1, 1) 393 | Dim eisio mynd yn gâs, duwcs annwyl! |
| (Huw) Pwy sy'n colli ei limpyn? | |
| (Huw) Pwy sy'n colli ei limpyn? | |
| (1, 1) 395 | Mae golwg felly arnat ti beth bynnag. |
| (Huw) Ond yr hen ŵr yn mynd atat ti—! | |
| (Huw) Ond yr hen ŵr yn mynd atat ti—! | |
| (1, 1) 397 | Ie debyg iawn. |
| (1, 1) 398 | Mi fydd wrth ei fodd. |
| (1, 1) 399 | Rhen greadur, does ganddo fo fawr i fynd ar ei ora. |
| (Huw) Dyna ydy dy obaith di beth bynnag, y llabwst calon-galed. | |
| (Huw) Dyna ydy dy obaith di beth bynnag, y llabwst calon-galed. | |
| (1, 1) 401 | Diar annwyl, dim o'r fath beth, Clocsiwr. |
| (Huw) O fedri di ddim fy nhwyllo i, Dic Betsi. | |
| (Huw) Ond waeth i ti fynd i chwibanu ddim─yma mae o'n dwad. | |
| (1, 1) 405 | Yma? |
| (Huw) Ia, yma. | |
| (Huw) Yn tosturio ei weld o'n byw yn yr hen dŷ yna ar ei ben ei hun. | |
| (1, 1) 409 | Mae'n anodd gen i goelio hyna. |
| (Huw) Ydy, debyg iawn. | |
| (Huw) Does yna ddim tosturi yn dy natur di. | |
| (1, 1) 412 | Wyt ti wedi gofyn iddo fo? |
| (Huw) Naddo eto. | |
| (Enoc) Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad. | |
| (1, 1) 429 | Helo dewyrth. |
| (Enoc) O chdi sydd yna aie! | |
| (Enoc) Be ydy'r mater arnat ti yn llygadrythu, y? | |
| (1, 1) 454 | Wel, eich gweld chi wedi teneuo, dewyrth, a... |
| (Enoc) Ers faint wyt ti'n poeni am fy iechyd i? | |
| (Enoc) Ers faint wyt ti'n poeni am fy iechyd i? | |
| (1, 1) 456 | Wel does arna i ddim eisio'ch gweld chi'n mynd yn wael, dewyrth. |
| (1, 1) 457 | Ac os oes yna rywbeth fedra i wneud— |
| (Enoc) Ond dyna'r gwir i ti, mae fy iechyd i'n ddifrifol. | |
| (1, 1) 466 | Mae yna lawer o gwyno o gwmpas rwan. |
| (Enoc) Oes, ond wyddost ti pam? | |
| (Enoc) Oes, ond wyddost ti pam? | |
| (1, 1) 468 | Wel na, dydw i ddim yn meddwl. |
| (Enoc) Am fod bwyd wedi colli ei nerth—dyna i ti pam. | |
| (Enoc) Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna? | |
| (1, 1) 473 | Digon gwir, rhen ŵr, digon gwir. |
| (Enoc) Gwir bob gair i ti. | |
| (Enoc) Rydw i'n mynd i fyw i'r "Sailor's Rest". | |
| (1, 1) 492 | Y? |
| (1, 1) 493 | Be ydy hwnnw, rhen ŵr? |