| (Jane) Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia. | |
| (Jane) Pwy sydd yna? | |
| (1, 0) 121 | Jane! |
| (Elin) {Yn codi yn egwan ar ei thraed a'i llais yn grynedig.} | |
| (1, 0) 136 | 'Nhad, newch chi ysgwyd llaw hefo fi? |
| (Tad) {Yn tynnu ei spectol yn bwyllog a'i gwthio i'r câs.} | |
| (Elin) Fe gymeri damaid, yn nei di, 'machgen i? | |
| (1, 0) 146 | Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane. |
| (Elin) 'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha? | |
| (Elin) 'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha? | |
| (1, 0) 148 | Wel wir, dydw i ddim yn cofio'r funud 'ma, ond fedra i fyta dim rwan beth bynnag. |
| (Jane) Dyma fi'n mynd ynteu. | |
| (Elin) Cymer gwpanaid o dê, Dic bach, i 'mhlesio i. | |
| (1, 0) 155 | Na, wir, mam, fedra i ddim, ond mi leiciwn gael gorfadd ar y soffa 'ma o flaen y tân, os ydi 'nhad yn fodlon: mi rydw i wedi blino. |
| (1, 0) 156 | Mi â i ffwrdd ben bore fory ond i mi gael gorffwys heno. |